Canllawiau

Cyflwyno hysbysiad mynediad ar gyfer Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn

Defnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud hysbysiad mynediad i CThEF os ydych yn asiant neu’n sefydliad.

Mae’r Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn (RIF) yn gynllun contractiol heb ei awdurdodi yn y DU ar gyfer cynlluniau perchnogaeth ar y cyd sy’n bodloni’r amodau cymhwysol.

Mae’r RIF ar gael i fuddsoddwyr proffesiynol a sefydliadol.

Amlinellir y rheolau ynghylch yr amodau cymhwysol a’r amgylchiadau pan fydd angen i chi roi gwybod i ni yn y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025 (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy sydd â mynediad at y gyfundrefn RIF

Os ydych yn bodloni’r amodau cymhwysol (yn agor tudalen Saesneg) ar y dyddiad y bydd eich cynllun yn dechrau gweithredu fel RIF, gallwch gael mynediad at y gyfundrefn drwy wneud hysbysiad mynediad.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn cwblhau’r hysbysiad mynediad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • manylion y cynllun, gan gynnwys Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth gweithredwr y cynllun (os oes un ganddo)

  • dyddiad dechrau

  • y dyddiad y daw cyfnod cyfrifyddu i ben

  • enw busnes a chyfeiriad y gweithredwr

Os yw’r cynllun yn bodloni’r amodau cymhwysol

Er mwyn dangos bod y cynllun yn bodloni’r amodau cymhwyso, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:

  • ei fod yn gynllun perchnogaeth ar y cyd

  • ei fod yn Gronfa Buddsoddi Amgen

  • bod cymryd rhan ynddo wedi’i gyfyngu i fuddsoddwyr proffesiynol neu fuddsoddwyr mawr

  • ei fod wedi’i leoli yn y DU

  • ei fod yn bodloni gofynion o ran perchnogaeth a chyfyngiadau

Bydd yn rhaid i chi wybod y canlynol hefyd:

  • sut mae’r cynllun yn bodloni gofynion o ran perchnogaeth

  • pa amodau o ran cyfyngiadau y mae’r cynllun neu’r is-gynllun yn eu bodloni

Os yw’r cynllun yn trin amodau penodol fel petaent wedi’u bodloni

Os yw’r cynllun yn trin naill ai’r gofyniad perchnogaeth neu’r amod dwysedd eiddo yn y DU fel petai wedi’i fodloni, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:

  • pa amodau y mae’r cynllun yn eu trin fel petaent wedi’u bodloni

  • enwau unrhyw is-gynlluniau sy’n dibynnu ar yr amod dwysedd eiddo yn y DU yn cael ei drin fel petai wedi’i fodloni

  • a yw unrhyw rai o’r cynlluniau neu’r is-gynlluniau hyn:

    • wedi bod yn RIF o’r blaen
    • wedi bod yn gynllun contractiol awdurdodedig
    • wedi cyhoeddi unrhyw uned am unrhyw beth ar wahân i arian

Mae’n rhaid i chi gadarnhau bod y cynllun neu’r is-gynllun:

  • yn bwriadu ac yn rhesymol ddisgwyl i fodloni’r gofynion cyn pen 12 mis

  • wedi cymryd camau i’w bodloni, neu y bydd yn cymryd camau i wneud hynny

Mae angen i chi roi manylion ar gyfer y camau rydych wedi’u cymryd neu y byddwch yn eu cymryd.

Gwneud hysbysiad mynediad

Mae gan y 2 bwynt bwled canlynol rym y gyfraith, ac maent yn ffurfio hysbysiad o dan Reoliad 39 y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025:

Bydd angen i chi uwchlwytho ffurflen 64-8 neu lythyr o awdurdod os ydych yn asiant neu’n rheolwr sy’n llenwi’r ffurflen ar ran gweithredwr y cynllun.

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio un o’r canlynol:

  • manylion mewngofnodi — gallwch greu’r rhain os nad ydynt hwy gennych eisoes

  • cyfeiriad e-bost

Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael cadarnhad pan fyddwch yn cyflwyno’ch hysbysiad mynediad.

Byddwn yn anelu at brosesu hyn cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2026 show all updates
  1. The guidance has been updated to advise that entry notifications must be submitted using the HMRC online form.

  2. 'Make an entry notification' section updated to advice from 6 April 2026 you will need to make the entry notification online.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon