Rhoi gwybod i CThEF ynghylch newid i Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn
Defnyddio’r gwasanaeth hwn i anfon hysbysiad o newid i CThEF os ydych yn asiant neu’n sefydliad.
Os oes newidiadau i’r Gronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn (RIF), mae’n bosibl y bydd angen i chi rhoi gwybod i CThEF.
Pa newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod i ni amdanynt
Mae’n rhaid i weithredwyr RIF wneud hysbysiadau sy’n angenrheidiol gan Ran 2 y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025 (SI 2025/200).
Mae’n rhaid i chi roi gwybod pan fydd y cynllun:
-
yn penderfynu gadael y gyfundrefn (gelwir hyn yn hysbysiad gadael)(rheoliad 22(1))
-
yn torri un neu fwy o’r amodau cymhwyso ac yn stopio bod yn RIF (rheoliad 21(1))
-
wedi torri amodau’r gofyniad o ran perchnogaeth ac nid yw’n disgwyl unioni’r toriad yn yr amodau cyn pen 9 mis i’r toriad hwnnw (rheoliad 16(2))
-
wedi torri amodau’r gofyniad o ran cyfyngiad ac nid yw’n disgwyl unioni’r toriad yn yr amodau cyn pen 9 mis i’r toriad hwnnw (rheoliad 18(3))
-
wedi bod yn trin y gofyniad o ran perchnogaeth fel petai wedi’i fodloni, ond nid yw’n disgwyl bodloni’r gofyniad hwn mwyach yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 mis ers y dyddiad pan ddaeth y cynllun yn RIF (rheoliad 9(3))3
-
wedi bod yn trin yr amod o ran bod â chyfoeth o eiddo yn y DU fel petai wedi’i fodloni, ond nid yw’n disgwyl bodloni’r amod hwn mwyach yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 mis ers y dyddiad pan ddaeth y cynllun yn RIF (rheoliad 13(3))
-
yn newid yr amod y mae’r RIF neu’r is-gynllun yn dibynnu arno er mwyn bodloni’r gofyniad o ran cyfyngiad (rheoliad 15(1))
-
yn gynllun ambarél sy’n sefydlu is-gynllun neu sy’n dirwyn is-gynllun presennol i ben (rheoliad 45(2))
Pryd y mae angen i chi roi gwybod i ni am newid
Mae’n rhaid i chi wneud hysbysiad o fewn y terfyn amser ar gyfer pob math o newid.
Fel arfer, mae hyn cyn pen 30 diwrnod i’r newid hwn. Mewn rhai achosion, mae hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol o’r newid.
Gallwch ddysgu pryd y mae angen i chi roi gwybod i ni am bob newid yn adran 6 o reolau treth ar gyfer Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn (RIF) — nodiadau technegol (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn cwblhau hysbysiad, bydd angen y canlynol arnoch:
-
manylion y cynllun, gan gynnwys Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth gweithredwr y cynllun (os oes un ganddo)
-
enw busnes a chyfeiriad y gweithredwr
Os yw’r cynllun yn dod i ben wrth roi hysbysiad gadael
Os yw’r cynllun yn rhoi hysbysiad gadael, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
-
y dyddiad y daeth y cynllun i ben neu’r dyddiad y bydd y cynllun yn rhoi’r gorau i fod yn RIF
-
y rheswm dros y penderfyniad am roi’r gorau i fod yn RIF
Os yw’r cynllun wedi torri amod cymhwyso ac yn rhoi’r gorau i fod yn RIF
Os yw’r cynllun wedi torri amod cymhwyso, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
-
pa amod sydd ddim yn cael ei fodloni bellach — sy’n golygu y bydd y cynllun yn rhoi’r gorau i fod yn RIF
-
y dyddiad pan nad oedd yr amod yn cael ei fodloni bellach
Ar gyfer torri’r gofyniad o ran perchnogaeth neu’r gofyniad o ran cyfyngiad, a phan fo’r cyfnod ‘unioni’ o 9 mis yn berthnasol, mae’n rhaid i chi hefyd gadarnhau’r dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol na fydd y toriad yn cael ei gywiro o fewn y cyfnod hwnnw.
Ar gyfer torri’r amod o ran buddsoddwr esempt, bydd angen i chi hefyd roi’r dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol o’r toriad.
Os na fydd y cynllun yn bodloni amod cymhwyso a gafodd ei drin fel un oedd wedi’i fodloni ar gyfer y cyfnod cychwynnol
Os oedd y cynllun wedi trin y gofyniad o ran perchnogaeth neu’r amod o ran bod â chyfoeth o eiddo yn y DU fel un oedd wedi’i fodloni yn ystod y cyfnod cychwynnol o 12 mis pan ddaeth yn RIF, ond nid yw bellach yn disgwyl bodloni’r amod yn ystod y cyfnod cychwynnol hwnnw, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
-
pa ofyniad o ran perchnogaeth neu amod o ran bod â chyfoeth o eiddo yn y DU na fydd yn cael ei fodloni
-
y dyddiad y daeth gweithredwr y cynllun yn ymwybodol na fydd yn cael ei fodloni
Os oes newid i amodau o ran cyfyngiad sydd gan y cynllun neu is-gynllun
Os oes newidiadau i’r amodau o ran cyfyngiad, ac roedd y cynllun neu is-gynllun yn dibynnu ar y rhain i fodloni’r gofyniad o ran cyfyngiad, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
-
manylion yr amodau blaenorol o ran cyfyngiad yr oedd yn dibynnu arnynt
-
y dyddiad pan nad oedd yn eu bodloni bellach neu na fydd yn eu bodloni bellach
-
yr amodau newydd o ran cyfyngiad y mae’n dibynnu arnynt
-
dyddiad y bodlonwyd neu y bydd yr amodau newydd yn cael eu bodloni
Is-gynlluniau cynllun ambarél
Os yw’r cynllun wedi sefydlu, neu’n bwriadu sefydlu is-gynllun, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
-
enw’r is-gynllun newydd
-
y dyddiad y sefydlwyd neu bydd yr is-gynllun yn cael ei sefydlu
-
pa amodau o ran cyfyngiad y mae’r is-gynllun yn eu bodloni
Os yw’r cynllun wedi dirwyn i ben, neu’n bwriadu dirwyn is-gynllun i ben, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:
-
enw’r is-gynllun
-
dyddiad y cafodd yr is-gynllun ei ddirwyn i ben neu bydd yn cael ei ddirwyn i ben
Gwneud hysbysiad o newid
Mae gan y 2 bwynt bwled canlynol rym y gyfraith, ac maent yn ffurfio hysbysiad o dan Reoliad 39 y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025:
-
o 6 Ebrill 2026, mae’n rhaid i chi wneud hysbysiad ynghylch y newidiadau a nodwyd drwy ddefnyddio’r cysylltiad ‘Dechrau nawr’ ar y dudalen hon
-
os na allwch wneud hysbysiad drwy ddefnyddio’r cysylltiad ‘Dechrau nawr’, dylech gysylltu â’r Ganolfan Cynlluniau Buddsoddi Cyfunol (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych chi’n asiant neu’n rheolwr sy’n llenwi’r ffurflen ar ran gweithredwr y cynllun, bydd angen i chi ddarparu ffurflen 64-8 neu lythyr o awdurdod, os nad ydych wedi gwneud hynny o’r blaen.
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio un o’r canlynol:
-
manylion mewngofnodi — gallwch greu’r rhain os nad ydynt hwy gennych eisoes
-
cyfeiriad e-bost
Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Byddwch yn cael cadarnhad pan fyddwch yn cyflwyno’ch hysbysiad.
Byddwn yn anelu at brosesu hyn cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Help
Gallwch anfon e-bost at cisc.sheffield@hmrc.gov.uk (dylech gynnwys ‘RIF’ yn y llinell pwnc):
-
os oes angen i chi ddiweddaru’ch manylion cyswll
-
os oes angen help i lenwi’ch hysbysiad
-
os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch RIF
Updates to this page
-
The guidance has been updated to advise that notifications must be submitted using the HMRC online form.
-
'Make a change notification' section updated to advice from 6 April 2026 you will need to make the change notification online.
-
Information on when you need to tell us about a change, what you'll need and how to make a change notification online has been added.
-
Added translation