Canllawiau

Cyflwyno gwybodaeth am gyfnod cyfrifyddu ar gyfer Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno gwybodaeth am gyfnod cyfrifyddu i CThEF, os ydych yn asiant neu’n sefydliad.

I weithredu fel Cronfa Buddsoddwyr Wrth Gefn (RIF), bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth o fewn 6 mis i ddiwedd pob cyfnod cyfrifyddu.

Yr hyn y bydd angen i chi roi gwybod i ni amdano ynghylch y cynllun

I gwblhau adroddiad, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • manylion y cynllun, gan gynnwys Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ar gyfer Treth Gorfforaeth gweithredwr y cynllun, os oes un

  • enw busnes a chyfeiriad y gweithredwr

  • dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu

Bydd angen i chi lenwi a chadw’r templed ‘cyfranogwyr ac unedau yn y cynllun’, gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • enw’r RIF ac unrhyw is-gynlluniau

  • enwau a chyfeiriadau pob cyfranogwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun

  • nifer y dosbarthiadau ac unedau a ddelir gan bob cyfranogwr yn y cynllun ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu

  • swm yr incwm fesul uned ar gyfer pob dosbarth

Os gwnaeth y cyfranogwr adael y cynllun cyn diwedd y cyfnod cyfrifyddu, mae’n dal i fod angen i chi roi ei enw a’i gyfeiriad i ni. Dylai nifer ei unedau gael ei farcio fel 0 (sero).

Mae 2 dab yn y templed — gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r ddau ohonynt.

Lawrlwythwch Participants and units in the scheme template (MS Excel Spreadsheet, 13.2 KB) (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch uwchlwytho’r templed wedi’i lenwi pan fyddwch yn cyflwyno’r adroddiad. Ni all ffeil fod yn fwy na 10MB, ac mae’n rhaid iddi fod ar ffurf XLSX.

Os oes gennych unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer y templed ‘cyfranogwyr ac unedau yn y cynllun’, bydd angen i chi baratoi’r rhain i’w huwchlwytho. Ni all ffeiliau fod yn fwy na 10MB, ac mae’n rhaid iddynt fod ar ffurf PDF, JPEG, XSLX, DOCX neu PPTX.

Yr hyn y bydd angen i chi roi gwybod i ni amdano ynghylch y gofyniad o ran perchnogaeth

Os cafodd y gofyniad o ran perchnogaeth ei dorri yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi roi manylion y toriad hwnnw, gan gynnwys:

  • pa amod o ran perchnogaeth a gafodd ei dorri, a dyddiad y toriad hwnnw

  • a gafodd y toriad ei unioni, a’r dyddiad y digwyddodd hyn

  • dyddiad unrhyw warediad tybiannol

Bydd hefyd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw doriad i’r gofyniad o ran perchnogaeth a ddigwyddodd yn ystod cyfnodau cynharach a gafodd ei unioni yn ystod y cyfnod hwn.

Yr hyn y bydd angen i chi roi gwybod i ni amdano ynghylch y gofyniad o ran cyfyngiad

Bydd angen i chi roi gwybod i ni pa amodau o ran cyfyngiad a gafodd ei fodloni gan yr RIF, neu unrhyw is-gynlluniau, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyfrifyddu.

Os gwnaeth y gronfa, neu unrhyw is-gynllun, fodloni’r amod o ran buddsoddwr esempt, mae’n rhaid i chi gadarnhau’r canlynol:

  • bod y cyfranogwyr i gyd wedi’u hesemptio rhag treth ar enillion

  • bod y gweithredwr wedi cymryd camau i fonitro’r esemptiad hwn

Os cafodd y gofyniad o ran cyfyngiad ei dorri yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi roi manylion y toriad hwnnw, gan gynnwys:

  • pa amod o ran cyfyngiad a gafodd ei dorri, a dyddiad y toriad hwnnw

  • a gafodd y toriad ei unioni, a’r dyddiad y digwyddodd hyn

  • dyddiad unrhyw warediad tybiannol

  • enw’r is-gynllun, os cafodd yr amod o ran cyfyngiad ei dorri mewn is-gynllun

Bydd hefyd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw doriad i’r gofyniad o ran cyfyngiad a ddigwyddodd yn ystod cyfnodau cynharach a gafodd ei unioni yn ystod y cyfnod hwn.

Os yw’r RIF yn gronfa ambarél gydag unrhyw is-gynlluniau a fodlonodd yr amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU, neu a gafodd ei thrin fel petai wedi bodloni’r amod

Os gwnaeth unrhyw is-gynllun warediadau yn ystod y cyfnod hwn, neu os gwnaeth unrhyw gyfranogwyr waredu ar unrhyw uned, bydd angen i chi gadw’r templed ‘ambarél sy’n ddwys o ran eiddo yn y DU’ a’i lenwi gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • cyfanswm gwerth yr holl warediadau o asedion a wnaed gan bob is-gynllun pan fodlonodd yr amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU, neu a gafodd ei drin fel petai wedi bodloni’r amod

  • y gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr enillion a’r colledion mewn perthynas â’r gwarediadau hynny

  • nifer yr unedau a waredwyd gan bob cyfranogwr

  • gwerth yr unedau a waredwyd gan bob cyfranogwr, os yw’r wybodaeth ar gael i chi

  • y gwahaniaeth rhwng yr enillion a’r colledion mewn perthynas â’r gwarediadau hynny, os yw’r wybodaeth ar gael i chi

Mae 2 dab yn y templed. Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r ddau ohonynt.

Lawrlwythwch UK property-rich umbrella template (MS Excel Spreadsheet, 14.2 KB) (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch uwchlwytho’r templed wedi’i lenwi pan fyddwch yn cyflwyno’r adroddiad. Ni all ffeil fod yn fwy na 10MB, ac mae’n rhaid iddi fod ar ffurf XLSX.

Os oes gennych unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer y templed ‘ambarél sy’n ddwys o ran eiddo yn y DU’, bydd angen i chi baratoi’r rhain i’w huwchlwytho. Ni all ffeiliau fod yn fwy na 10MB, ac mae’n rhaid iddynt fod ar ffurf PDF, JPEG, XSLX, DOCX neu PPTX.

Os yw’r RIF yn gronfa a fodlonodd yr amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU, neu a gafodd ei thrin fel petai wedi bodloni’r amod

Os gwnaeth yr RIF unrhyw warediadau yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:

  • cyfanswm gwerth yr holl asedion a gafodd eu gwaredu a wnaed gan yr RIF pan fodlonodd yr amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU, neu a gafodd eu trin fel petai wedi bodloni’r amod

  • y gwahaniaeth rhwng cyfanswm yr enillion a’r colledion mewn perthynas â’r gwarediadau hynny

Os gwnaeth unrhyw gyfranogwyr waredu ar unrhyw uned yn yr RIF, bydd angen i chi gadw’r templed ‘RIF sy’n ddwys o ran eiddo yn y DU’ a’i lenwi gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • nifer yr unedau a waredwyd gan bob cyfranogwr

  • gwerth yr unedau a waredwyd gan bob cyfranogwr, os yw’r wybodaeth ar gael i chi

  • y gwahaniaeth rhwng yr enillion a’r colledion mewn perthynas â’r gwarediadau hynny, os yw’r wybodaeth ar gael i chi

Lawrlwythwch UK property-rich RIF template (MS Excel Spreadsheet, 11.5 KB) (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch uwchlwytho’r templed wedi’i lenwi pan fyddwch yn cyflwyno’r adroddiad. Ni all ffeil fod yn fwy na 10MB, ac mae’n rhaid iddi fod ar ffurf XLSX.

Os oes gennych unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer y templed ‘RIF sy’n ddwys o ran eiddo yn y DU’, bydd angen i chi baratoi’r rhain i’w huwchlwytho. Ni all ffeiliau fod yn fwy na 10MB, ac mae’n rhaid iddynt fod ar ffurf PDF, JPEG, XSLX, DOCX neu PPTX.

Os yw’r RIF neu’r is-gynllun yn stopio bodloni’r amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU yn ystod y cyfnod hwn

Os oedd y gronfa yn dibynnu ar yr amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU, a’r gronfa honno bellach wedi stopio bodloni’r amod hwn ac, yn lle hynny, yn bodloni’r amod o ran asedion eiddo nad ydynt yn y DU, bydd angen i chi gadarnhau’r canlynol:

  • roedd yna warediad tybiannol o dan Reoliad 15(3) y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025

  • dyddiad y gwarediad tybiannol hwnnw

Os gwnaeth yr RIF neu’r is-gynllun stopio bodloni’r amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU, ac nid yw’n bodloni unrhyw amodau eraill o ran cyfyngiad yn ystod y cyfnod dirwyn i ben, mae’n bosibl bod Rheoliad 19 y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025 yn berthnasol er mwyn trin y cynllun fel petai yn bodloni’r amod o ran bod yn ddwys o ran eiddo yn y DU o hyd.

Os yw Reoliad 19 yn berthnasol, bydd angen i chi gadarnhau’r canlynol:

  • bod y rheoliad yn berthnasol i’r RIF neu’r is-gynllun

  • dyddiad dod i ben disgwyliedig ar gyfer y cyfnod dirwyn i ben

Cyflwyno adroddiad

Mae gan y 2 bwynt bwled canlynol rym y gyfraith, ac maent yn ffurfio hysbysiad o dan Reoliad 39 y Rheoliadau (Treth) Cynlluniau Contractiol o ran Perchnogaeth ar y Cyd 2025:

Bydd angen i chi fewngofnodi, gan ddefnyddio un o’r canlynol:

  • manylion mewngofnodi — os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu

  • cyfeiriad e-bost

Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl yn nes ymlaen.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael cadarnhad pan fyddwch yn cyflwyno’ch adroddiad.

Byddwn yn anelu at brosesu hyn cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2026 show all updates
  1. The guidance has been updated to advise that accountancy period information must be submitted using the HMRC online form.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon