Treth Enillion Cyfalaf: yr hyn yr ydych yn talu’r dreth arno, cyfraddau a lwfansau
Yr hyn rydych yn talu’r dreth arno
Rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar yr enillion pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’):
- y rhan fwyaf o eiddo personol (yn agor tudalen Saesneg) sy’n werth £6,000 neu fwy, ac eithrio eich car
- eiddo nad yw’n brif gartref i chi
- eich prif gartref, os ydych wedi ei roi ar osod neu ei ddefnyddio ar gyfer busnes, neu os yw’n fawr iawn (yn agor tudalen Saesneg)
- unrhyw gyfranddaliadau (yn agor tudalen Saesneg) nad ydynt mewn ISA na PEP
- asedion busnes (yn agor tudalen Saesneg)
Yr enw ar y rhain yw ‘asedion trethadwy’.
Os byddwch yn gwerthu crypto-asedion (megis crypto-arian neu bitcoin) neu’n eu rhoi i ffwrdd, dylech wirio a oes rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg).
Yn dibynnu ar yr ased, efallai y byddwch yn gallu gostwng unrhyw dreth rydych yn ei thalu drwy hawlio rhyddhad.
Os byddwch yn gwaredu ased rydych yn berchen arno ar y cyd â rhywun arall, mae’n rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar eich cyfran o’r enillion.
Pryd na fyddwch yn ei thalu
Dim ond ar gyfanswm eich enillion sydd dros lwfans rhydd o dreth blynyddol y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Fel arfer, ni fyddwch yn talu treth ar roddion i’ch gŵr, i’ch gwraig, i’ch partner sifil neu i elusen.
Yr hyn nad ydych yn talu’r dreth arno
Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion penodol, gan gynnwys enillion a wnewch yn sgil:
- ISAs neu PEPs
- giltiau llywodraeth y DU a Bondiau Premiwm
- enillion o fetio, y loteri neu’r pyllau pêl-droed
- buddiant a drosglwyddir (o 6 Ebrill 2026 ymlaen)
Yn lle hynny, byddwch yn talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar fuddiant a drosglwyddir rydych yn ei gael o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Pan fo rhywun yn marw
Pan fyddwch yn etifeddu ased, fel arfer telir Treth Etifeddiant gan ystâd y person sydd wedi marw. Dim ond os byddwch yn gwaredu’r ased yn nes ymlaen y bydd yn rhaid i chi gyfrifo a oes angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Asedion tramor
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf, hyd yn oed os yw’ch ased dramor.
Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn breswylydd yn y DU ond nid yw’ch cartref parhaol yn y DU.
Os ydych dramor
Mae’n rhaid i chi dalu treth ar enillion a wnewch ar eiddo a thir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) hyd yn oed os ydych yn ddibreswyl at ddibenion treth.
Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf ar asedion eraill yn y DU, er enghraifft cyfranddaliadau mewn cwmnïau yn y DU, oni bai bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn dychwelyd i’r DU cyn pen 5 mlynedd ar ôl gadael
- rydych yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni sy’n ‘ddwys o ran eiddo yn y DU’ ac rydych yn bodloni’r amodau ar gyfer gwarediad anuniongyrchol
Mae cwmni’n ddwys o ran eiddo yn y DU os yw 75% neu fwy o werth gros asedau’r cwmni yn dir yn y DU. Dysgwch ragor am werthu neu waredu eiddo a thir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydych yn gwneud gwarediad anuniongyrchol.