Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a’i thalu
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Mae sut rydych yn rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf yn dibynnu a wnaethoch werthu:
Cyn i chi allu rhoi gwybod am unrhyw enillion, bydd angen y canlynol arnoch:
- manylion swm yr ased pan wnaethoch ei brynu a’i werthu
- y dyddiadau pan wnaethoch gymryd perchnogaeth o’r ased a’i waredu
- unrhyw fanylion perthnasol eraill, megis costau prynu, gwerthu neu wneud gwelliannau i’r ased, ac unrhyw ryddhadau treth y mae gennych hawl iddynt
- cyfrifiadau ar gyfer pob ennill cyfalaf neu golled gyfalaf rydych yn rhoi gwybod amdanynt
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob gwerthiant eiddo neu dir yn y DU, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu. Nid oes angen i chi roi gwybod am na thalu treth ar unrhyw beth arall y mae ei werth wedi cynyddu.