Help gydag ailbrisio ardrethi busnes 2026
Dysgwch am ailbrisiad 2026, sut i ddod o hyd i brisiad ardrethi eich busnes, sut mae eiddo’n cael eu prisio a beth i’w wneud os ydych o’r farn bod eich prisiad yn anghywir.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae’r Swyddfa Brisio yn diweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr bob 3 blynedd. Gelwir hyn yn ailbrisiad. Mae ailbrisio yn helpu ailddosbarthu swm yr ardrethi busnes sy’n cael ei dalu ar draws sectorau a rhanbarthau.
Gwyliwch fideo i ddysgu pam mae eich ardrethi busnes o bosibl yn newid.
Pam mae fy ardrethi busnes o bosibl yn newid? (yn agor tudalen Saesneg).
Gwerth ardrethol yw ein hamcangyfrif o’r hyn y byddai’n ei gostio i rentu’ch eiddo am flwyddyn, ar ddyddiad penodol. Ar gyfer ailbrisiad 2026, y dyddiad hwnnw yw 1 Ebrill 2024. Daeth y gwerthoedd ardrethol presennol i rym ar 1 Ebrill 2026.
Nid eich gwerth ardrethol yw’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu. Mae cynghorau lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Dod o hyd i brisiad ardrethi eich busnes
Gwyliwch fideo sy’n eich helpu i ddeall prisiad ardrethi eich busnes.
Deall prisiad ardrethi eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch weld gwerth ardrethol eich eiddo drwy wneud y canlynol:
-
mewngofnodi i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes — dysgwch sut i gofrestru am gyfrif
-
defnyddio’r offeryn deall prisiad ardrethi eich busnes
Gallwch hefyd wneud y canlynol:
-
gwirio sut cafodd eich gwerth ardrethol ei gyfrifo
-
cymharu gwerth ardrethol eich eiddo ag eiddo tebyg
Sut mae eiddo’n cael eu prisio
Dysgwch sut mae’r Swyddfa Brisio yn prisio eiddo ar gyfer ardrethi busnes.
Gwyliwch fideo ar sut mae’r Swyddfa Brisio’n mesur eiddo.
Sut rydym yn mesur eiddo ar gyfer ardrethi busnes (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych o’r farn bod eich prisiad yn anghywir
Gallwch herio’ch prisiad ardrethi busnes presennol os ydych wedi gwneud y canlynol:
-
ychwanegu eich eiddo at eich cyfrif prisiad ardrethi busnes
-
codi achos gwirio i ddweud wrth y Swyddfa Brisio fod manylion eich eiddo’n anghywir
Dim ond mewn rhai achosion y gallwch godi achos gwirio ar gyfer prisiad blaenorol, fel y canlynol:
-
mae’r Swyddfa Brisio wedi cywiro eich prisiad yn ystod y 6 mis diwethaf
-
rydych eisiau herio eich prisiad 2023 yn dilyn penderfyniad llys neu dribiwnlys — mae’n rhaid i chi godi achos gwirio cyn pen 6 mis i’r penderfyniad
Gwyliwch fideo ar sut i roi gwybod i’r Swyddfa Brisio eich bod o’r farn fod manylion eich eiddo’n anghywir.
Sut i wirio os ydych o’r farn fod eich prisiad ardrethi busnes yn anghywir (yn agor tudalen Saesneg).
Penodi asiant
Gallwch reoli’ch ardrethi busnes eich hun neu benodi asiant i ddelio â’r Swyddfa Brisio ar eich rhan.
Darllenwch arweiniad ar ddewis asiant ardrethi busnes neu gwyliwch fideo.
Rhestr wirio ar gyfer dewis asiant ardrethi busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Information has been added on when you can raise a check case against a previous valuation.
-
Removing reference to the estimator tool as it has been removed.
-
Added translation