Canllawiau

Cyflwyno cyfrifon a Ffurflenni Treth eich Cwmni os ydych wedi defnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF yn flaenorol

Dysgwch sut i gyflwyno cyfrifon a Ffurflenni Treth eich Cwmni os ydych wedi defnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF, a wnaeth gau ar 31 Mawrth 2026, yn flaenorol.

Gwnaeth y gwasanaeth ar-lein ‘Cyflwyno cyfrifon a Ffurflenni Treth eich Cwmni’ gau ar 31 Mawrth 2026.

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, dylech ddefnyddio meddalwedd fasnachol i gyflwyno cyfrifon blynyddol a Ffurflenni Treth eich Cwmni i CThEF.

Gallwch ond cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar bapur os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych esgus rhesymol
  • rydych yn cyflwyno’r ffurflen yn y Gymraeg

Gallwch gyflwyno’ch cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) mewn ffyrdd eraill.

Defnyddio meddalwedd fasnachol

Darparwyr meddalwedd fasnachol

Gall y darparwyr meddalwedd fasnachol hyn (yn agor tudalen Saesneg) gynhyrchu un neu fwy o elfennau Ffurflen Dreth y Cwmni â CThEF. Dylech ystyried pa elfennau y bydd eu hangen arnoch a sicrhau bod y feddalwedd yr ydych yn ei dewis yn eich galluogi i gyflwyno’r canlynol:

  • CT600
  • cyfrifiant Treth Gorfforaeth
  • cyfrifon eich cwmni

Meddalwedd Tŷ’r Cwmnïau

Mae angen i chi barhau i gyflwyno cyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg).

Dyma restr o ddarparwyr meddalwedd (yn agor tudalen Saesneg) sydd ar gael i reoli cyfrifon a Ffurflenni Treth eich Cwmni.

Gwneud newidiadau i Ffurflen Dreth a wrthodwyd, neu ail-gyflwyno Ffurflen Dreth

Os ydych am wneud newidiadau i Ffurflen Dreth a gyflwynwyd yn flaenorol, neu ail-gyflwyno Ffurflen Dreth a wrthodwyd, gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio meddalwedd fasnachol
  • ysgrifennu neu anfon Ffurflen Dreth ar bapur i’r swyddfa Treth Gorfforaeth
  • defnyddio asiant

Os ydych am newid neu gywiro cyfrifon eich cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau, bydd angen i chi naill ai ddefnyddio meddalwedd neu anfon cyfrifon ar bapur drwy’r post.

Dulliau eraill o gyflwyno

Gallwch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur i CThEF os oes gennych esgus rhesymol neu rydych am gyflwyno yn y Gymraeg. Fel arall, mae’n rhaid i chi gyflwyno ar-lein.

Gallwch gyflwyno cyfrifon blynyddol ar-lein gyda Thŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) neu anfon cyfrifon ar bapur drwy’r post.

I ble y dylid anfon cyfrifon ar bapur

Prif swyddfa Tŷ’r Cwmnïau 
Crown Way 
Cardiff 
CF14 3UZ 

Esemptiadau rhag cyflwyno

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am esemptiad rhag cyflwyno Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn elusen, clwb chwaraeon amatur cymunedol neu’n gwmni rheoli fflatiau a bod eich cwmni neu’ch sefydliad yn segur.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno cyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau (yn agor tudalen Saesneg) hyd yn oes os yw’ch cwmni’n segur.

Trosglwyddo busnes o gwmni (datgorffori)

Mae llawer o bobl yn dewis sefydlu cwmni i redeg eu busnes. Mae opsiynau eraill ar gael, a gallwch symud o un strwythur busnes i un arall. 

Efallai y byddwch am drosglwyddo busnes o gwmni (yn agor tudalen Saesneg) os nad oes angen i’ch busnes weithredu fel cwmni. Mae’n bwysig eich bod yn deall ystyriaethau datgorffori o ran materion cyfreithiol a materion treth. Mae gan strwythurau busnes eraill lai o gyfrifoldebau, ac efallai na fydd angen meddalwedd fasnachol arnynt i fodloni eu cyfrifoldebau o ran materion cyfreithiol a materion treth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2026 show all updates
  1. Updated with latest guidance following the closure of the ‘File your accounts and Company Tax Return’ online service on 31 March 2026.

  2. Added new section on 'Transfer a business out of a company (disincorporation)'.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon