Ffurflen Dreth y Cwmni CT600 (2026) Fersiwn 3
Defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno Ffurflen Dreth eich Cwmni drwy’r post os na allwch ei chyflwyno ar-lein, neu os ydych chi am ddiwygio Ffurflen Dreth rydych eisoes wedi’i chyflwyno.
Dogfennau
Manylion
Bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg) i gyflwyno cyfrifon blynyddol a Ffurflenni Treth eich Cwmni i CThEF.
Gallwch ond defnyddio’r ffurflen hon i ddiwygio Ffurflen Dreth rydych eisoes wedi’i chyflwyno neu i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar bapur os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych esgus rhesymol
- rydych yn cyflwyno’r ffurflen yn y Gymraeg
Ar ôl i chi lenwi’r Ffurflen Dreth hon, anfonwch hi i:
Gwasanaethau Treth Gorfforaeth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen WT1 (yn agor tudalen Saesneg) gyda’ch Ffurflen Dreth bapur wedi’i llenwi os na allwch gyflwyno eich Ffurflen Dreth ar-lein oherwydd problem TG gyda gwasanaethau ar-lein CThEF.
Dysgwch am y canlynol:
- llenwi Ffurflen Dreth eich Cwmni (yn agor tudalen Saesneg)
- Ffurflenni Treth Gorfforaeth sydd eu hangen arnoch — ynghyd ag arweiniad, nodiadau a thudalennau atodol cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg)
- cyflwyno cyfrifon a Ffurflenni Treth ar gyfer cwmnïau cyfyngedig preifat (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r ffurflen hon wedi’i diweddaru’n barod ar gyfer pryd y bydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, ynghyd â Llywodraeth y DU, yn penderfynu cyflwyno cyfradd ddatganoledig.
Gweler y Gyfundrefn Treth Gorfforaeth Gogledd Iwerddon: arweiniad drafft (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Peidiwch â nodi cofnodion yn unrhyw un o’r blychau ar gyfer Gogledd Iwerddon hyd nes bod cyfradd Gogledd Iwerddon wedi’i chyflwyno.
Tudalennau atodol
CT600C (2018) Fersiwn 3: rhyddhad grŵp a chonsortiwm.
CT600D (2015) Fersiwn 3: yswiriant
CT600E (2015) Fersiwn 3: Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol (CChAC) (CASCs)
CT600F (2025) Fersiwn 3: Treth Dunelledd
CT600H (2015) Fersiwn 3: breindaliadau trawsffiniol
CT600I (2019) Fersiwn 3: tâl atodol mewn perthynas â masnachau wedi’u diogelu.
CT600J (2015) Fersiwn 3: datgelu cynlluniau arbed treth
CT600K (2017) Fersiwn 3: Treth Iawndal
CT600L (2025) Fersiwn 3: Treth Gorfforaeth: ymchwil a datblygu
CT600M (2024) Fersiwn 3: Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
CT600N (2023) fersiwn 3: Treth Datblygwyr Eiddo Preswyl
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Defnyddiwch y Gyllideb yr Hydref 2024 — trosolwg o ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau (OOTLAR) (yn agor tudalen Saesneg) i gael trosolwg o’r newidiadau pennaf yn y Gyllideb sy’n effeithio ar Dreth Gorfforaeth.
Defnyddiwch ffurflen 64-8: awdurdodi’ch asiant i awdurdodi CThEF i gyfathrebu â chyfrifydd, asiant treth neu gynghorydd sy’n gweithredu ar eich rhan.
Updates to this page
-
Information about when you can use this form has been updated and English and Welsh versions of 'Company Tax Return CT600 (2026) Version 3' have been added.
-
English and Welsh versions of Corporation Tax for Company Tax Return (CT600 (2025) Version 3) have been added.
-
English and Welsh versions of Corporation Tax for Company Tax Return (CT600 (2024) Version 3) have been added.
-
English and Welsh versions of Corporation Tax: Company Tax Return (CT600 (2023) Version 3) have been added.
-
Added translation
-
Corporation Tax: research and development (CT600L (2022) version 3) has been added.
-
Corporation Tax: research and development (CT600L (2021) version 3) has been added.
-
The Corporation Tax for Company Tax Return (CT600 (2021) Version 3) has been added.
-
English and Welsh versions of the Corporation Tax for Company Tax Return (CT600 (2020) Version 3) have been updated.
-
Welsh version of Corporation Tax for Company Tax Return (CT600 (2019) Version 3) has been updated.
-
English and Welsh versions of Corporation Tax: Company Tax Return (CT600 (2019) Version 3) have been added.
-
Corporation Tax: Company Tax Return (CT600 (2018) Version 3) has been added.
-
English version of the October 2017 Company Tax Return (CT600 version 3) has been added.
-
The Company Tax Return (CT600 version 3) has been updated to incorporate the reform of Corporation Tax loss relief.
-
New version Corporation Tax: Company Tax Return (CT600 (2017) Version 3) has been added.
-
First published.