Ymddiriedolaethau a Threth Enillion Cyfalaf

Treth Enillion Cyfalaf yw treth ar yr elw (‘enillion’) pan fo rhywbeth (‘ased’) sydd wedi cynyddu mewn gwerth yn cael ei gymryd allan o ymddiriedolaeth neu’n cael ei roi i mewn i un.

Pryd mae’n bosibl y bydd Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy

Os rhoddir asedion i mewn i ymddiriedolaeth

Caiff treth ei thalu gan naill y person sy’n:

  • gwerthu’r ased i’r ymddiriedolaeth
  • trosglwyddo’r ased (y ‘setlwr’)

Os cymerir asedion allan o ymddiriedolaeth

Fel arfer, bydd yn rhaid i’r ymddiriedolwyr dalu’r dreth os ydynt yn gwerthu neu’n trosglwyddo asedion ar ran y buddiolwr.

Nid oes treth i’w thalu mewn ymddiriedolaethau gwag os yw’r asedion yn cael eu trosglwyddo i’r buddiolwr.

Weithiau, efallai y caiff ased ei drosglwyddo i rywun arall ond nid yw Treth Enillion Cyfalaf yn daladwy. Mae hyn yn digwydd pan fo rhywun yn marw ac mae ‘buddiant mewn meddiant’ yn dod i ben.

Mae buddiolwr yn cael rhywfaint o’r asedion, neu’r holl asedion, sydd mewn ymddiriedolaeth

Weithiau, daw ‘hawl absoliwt’ i fuddiolwr ymddiriedolaeth, a gall roi gwybod i’r ymddiriedolwyr beth i’w wneud â’r asedion, er enghraifft pan fyddant yn cyrraedd oedran penodol.

Yn yr achos hwn, mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf yn seiliedig ar werth marchnadol (yn agor tudalen Saesneg) yr asedion pan fo’r buddiolwr yn cael yr hawl iddynt.

Ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU

Mae’r rheolau ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf ar ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) yn gymhleth. Gallwch gael help gyda’ch treth (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfrifo cyfanswm yr enillion

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gyfrifo cyfanswm yr enillion trethadwy (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwybod a oes angen iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Costau caniataol

Gall ymddiriedolwyr ddidynnu costau er mwyn lleihau enillion – mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • cost yr eiddo (gan gynnwys unrhyw ffioedd gweinyddu)
  • ffioedd proffesiynol, er enghraifft ffioedd cyfreithiwr neu ffioedd brocer stoc
  • costau gwella eiddo neu dir er mwyn cynyddu ei werth, er enghraifft adeiladu ystafell wydr (ac eithrio costau unrhyw waith atgyweirio ond nid atgyweirio neu gynnal a chadw rheolaidd)

Rhyddhad Treth

Mae’n bosibl y bydd ymddiriedolwyr yn gallu lleihau neu ohirio swm y dreth y mae’r ymddiriedolaeth yn ei thalu os yw’r enillion yn gymwys i gael ryddhad treth.

Rhyddhad Disgrifiad
Rhyddhad Preswylfa Breifat (yn agor tudalen Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu eiddo y mae’r ymddiriedolaeth yn berchen arno. Mae’n rhaid iddo fod yn brif fan preswylio ar gyfer rhywun sy’n cael byw yno o dan reolau’r ymddiriedolaeth.
Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg) Mae ymddiriedolwyr yn talu 18% o Dreth Enillion Cyfalaf (neu 14% ar warediadau rhwng 6 Ebrill 2025 a 5 Ebrill 2026, neu 10% ar neu cyn 5 Ebrill 2025) ar elw cymhwysol os byddant yn gwerthu asedion a ddefnyddir ym musnes y buddiolwr, sydd bellach wedi dod i ben. Mae’n bosibl iddynt hefyd gael rhyddhad pan fyddant yn gwerthu cyfranddaliadau mewn cwmni lle’r oedd gan y buddiolwr o leiaf 5% o’r cyfranddaliadau a’r hawliau pleidleisio.
Rhyddhad Daliol (yn agor tudalen Saesneg) Nid yw ymddiriedolwyr yn talu unrhyw dreth os ydynt yn trosglwyddo asedion i’r buddiolwyr (neu ymddiriedolwyr eraill mewn rhai achosion). Mae’r derbynnydd yn talu treth pan fydd yn gwerthu neu’n gwaredu’r asedion, oni bai ei fod hefyd yn hawlio rhyddhad.

Lwfans rhydd o dreth

Yr unig adeg y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr dalu Treth Enillion Cyfalaf yw pan fo cyfanswm yr enillion trethadwy yn fwy na lwfans rhydd o dreth yr ymddiriedolaeth (sef y ‘swm blynyddol wedi’i esemptio’).

Ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, y lwfans rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau yw:

Os oes yna fwy nag un buddiolwr, gall y lwfans uwch fod yn berthnasol hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt sy’n agored i niwed.

Gweler lwfansau rhydd o dreth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol.

Gall y lwfans rhydd o dreth gael ei ostwng os yw setlwr yr ymddiriedolaeth wedi creu mwy nag un ymddiriedolaeth (‘setliad’) ers 6 Mehefin 1978.

Mae yna wybodaeth fwy manwl am Dreth Enillion Cyfalaf a Hunanasesiad ar gyfer ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Rhoi gwybod i CThEF am enillion

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eiddo preswyl yn y DU cyn pen 60 diwrnod i ddyddiad cwblhau gwerthiant yr eiddo. Mae’n rhaid iddynt wneud hyn gan ddefnyddio cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU.

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr roi gwybod am asedion eraill sy’n cael eu gwerthu neu eu trosglwyddo gan ddefnyddio Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

Ewch ati i lawrlwytho a llenwi Ffurflen Dreth Enillion Cyfalaf Ymddiriedolaeth ac Ystâd (SA905) (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn ymddiriedolwr ac yn anfon Ffurflen Dreth drwy’r post.

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer rhoi gwybod am golled (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o help arnoch

Mae arweiniad mwy manwl ar Dreth Enillion Cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch.