Rhandaliad blynyddol

Gallwch dalu eich Treth Etifeddiant ar bethau a all gymryd amser i’w gwerthu mewn rhandaliadau blynyddol cyfartal dros 10 mlynedd.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod ar y ffurflen cyfrif Treth Etifeddiant IHT400 os ydych am dalu fesul rhandaliad.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar eich rhandaliadau. Defnyddiwch y gyfrifiannell er mwyn cyfrifo’r llog y bydd angen i chi ei dalu.

Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth yn llawn pan fyddwch wedi gwerthu asedion yr ymadawedig, megis ei dŷ neu ei gyfranddaliadau.

Pryd fydd yn rhaid i chi dalu

Mae’r rhandaliad cyntaf yn ddyledus ar ddiwedd y chweched mis ar ôl y farwolaeth (er enghraifft, os bu farw ar 12 Ionawr, byddai’n rhaid i chi dalu erbyn 31 Gorffennaf). Gelwir hyn y ‘dyddiad dyledus’. Wedyn, mae taliadau’n ddyledus bob blwyddyn ar y dyddiad hwnnw.

Talu’n gynnar

Gallwch dalu swm llawn y dreth a’r llog ar unrhyw adeg. Ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn am asesiad terfynol (nid oes rhaid i chi gynnwys taliad).

Yr hyn rydych yn talu llog arno

Ni fyddwch yn talu unrhyw log ar y rhandaliad cyntaf oni bai eich bod yn ei dalu’n hwyr. Ar bob rhandaliad ar ôl hynny, mae’n rhaid i chi dalu llog ar y ddau beth canlynol:

  • balans llawn y dreth sy’n ddyledus
  • y rhandaliad ei hun, o’r dyddiad y mae’n ddyledus hyd at ddyddiad y taliad (os byddwch yn ei dalu’n hwyr)

Asedion newydd o 6 Ebrill 2026

Ar gyfer unrhyw asedion newydd rydych yn eu hetifeddu o 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae rhandaliadau yn ddi-log os yw’r ased yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Amaethyddol (yn agor tudalen Saesneg), neu ar gyfer Rhyddhad Busnes (yn agor tudalen Saesneg). Os ydych chi’n talu rhandaliad yn hwyr, bydd angen i chi dalu llog o’r dyddiad y mae’n ddyledus tan y dyddiad talu.

Ni fyddwch yn talu unrhyw log ar y balans treth sy’n ddyledus.

Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol i unrhyw asedion roeddech eisoes yn talu rhandaliadau arnynt cyn 6 Ebrill 2026.

Yr hyn y gallwch ei dalu fesul rhandaliad

Gallwch dalu fesul rhandaliad am unrhyw ased sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Amaethyddol (yn agor tudalen Saesneg) neu ar gyfer Rhyddhad Busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd dalu am yr asedion canlynol fesul rhandaliad, hyd yn oed os nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad.

Tir ac adeiladau (gan gynnwys tai)

Gallwch dalu fesul rhandaliad cyn belled nad ydych chi’n gwerthu’r tir neu’r adeilad. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi’n rhentu allan y tir neu’r adeilad ac nad ydych chi’n byw yno.

Cyfranddaliadau a gwarantau sy’n rhoi rheolaeth

Gallwch dalu fesul rhandaliad os oedd y cyfranddaliadau neu’r gwarantau yn galluogi’r ymadawedig i reoli mwy na 50% o gwmni.

Cyfranddaliadau a gwarantau nas rhestrwyd

Gallwch dalu fesul rhandaliad am gyfranddaliadau neu warantau ‘nas rhestrwyd’ (rhai nad ydynt yn cael eu masnachu ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig) os ydynt yn werth mwy na £20,000 a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf (a elwir yn werth ‘nominal’ neu ‘gwerth enwol’)
  • maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf

Gallwch ddod o hyd i werth enwol cyfranddaliad, a ph’un a yw’n gyfranddaliad cyffredin, ar dystysgrif y cyfranddaliad.

Gallwch hefyd dalu fesul rhandaliad os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae o leiaf 20% o gyfanswm y Dreth Etifeddiant sydd ar yr ystâd ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu fesul rhandaliad
  • bydd talu Treth Etifeddiant arnynt mewn un cyfandaliad yn achosi anawsterau ariannol

Busnes sy’n cael ei weithredu er mwyn elw

Gallwch dalu fesul rhandaliad ar werth net busnes sy’n cael ei weithredu er mwyn elw.

Rhoddion

Gallwch dalu fesul rhandaliad os oes Treth Etifeddiant i’w thalu o hyd, a rhoddwyd y canlynol i chi:

  • unrhyw ased sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Amaethyddol neu Ryddhad Busnes
  • tir ac adeiladau
  • busnes cyfan neu ran ohono
  • cyfranddaliadau neu warantau

Os oedd y rhodd yn gyfranddaliad neu warant nas rhestrwyd, mae’n rhaid ei bod yn dal heb ei rhestru ar adeg y farwolaeth.