Taliad Tywydd Oer

Sgipio cynnwys

Beth y mae angen i chi ei wneud

Nid oes rhaid i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys i gael Taliadau Tywydd Oer, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig.

Os oes gennych fabi neu os yw plentyn o dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi

Bydd angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych yn cael Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm a naill ai:

  • rydych wedi cael babi
  • mae plentyn o dan 5 oed wedi dod i fyw gyda chi

Os ydych chi’n cael Credyd Cynhwysol, rhowch wybod am y newid gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein. Os nad oes gennych chi gyfrif ar-lein, gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Os ydych chi’n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, rhowch wybod i’r Ganolfan Byd Gwaith.

Ni fyddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer yn awtomatig os na wnewch hyn.