Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Newid yn eich incwm

Ni fydd yn rhaid i chi neu’ch partner dalu’r tâl treth os yw’ch incwm net wedi’i addasu unigol chi, neu incwm net wedi’i addasu unigol eich partner, o dan y trothwy am y flwyddyn dreth gyfan.

Defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i amcangyfrif y newidiadau i’ch incwm net wedi’i addasu ac i weld os byddan nhw’n effeithio ar y tâl treth.

Gallwch ddewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant, neu eu hailddechrau, ar unrhyw adeg.

Os yw’ch incwm net wedi’i addasu yn disgyn o dan y trothwy, a does dim angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF.

Rydych yn talu drwy Hunanasesiad ac nid oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth mwyach

Ffoniwch CThEF os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich incwm net wedi’i addasu
  • rhif Yswiriant Gwladol unrhyw bartner sydd wedi cael Budd-dal Plant yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • dyddiadau’r perthnasoedd gydag unrhyw bartneriaid sy’n cael Budd-dal Plant

Mae gennych blentyn newydd

Mae hawlio Budd-dal Plant yn eich helpu i fod yn gymwys i gael y canlynol:

  • credydau Yswiriant Gwladol, sy’n diogelu’ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau eraill, megis Lwfans Gwarcheidwad

Mae Budd-dal Plant yn profi eich bod chi (neu’ch partner) yn rhoi cymorth i blentyn arall. Efallai y byddwch yn talu llai o gynhaliaeth plant ar gyfer plant nad ydynt yn byw gyda chi.

Gallwch wneud hawliad newydd neu ddiogelu’ch hawl i’r uchod drwy wneud y canlynol:

Mae partner yn symud i mewn neu allan

Efallai y bydd eich sefyllfa’n newid os yw’ch incwm net wedi’i addasu dros y trothwy ac rydych yn symud i mewn â rhywun sy’n cael Budd-dal Plant, neu’n gwahanu oddi wrth rywun sy’n cael Budd-dal Plant.

Os oes gennych chi a’ch partner incwm unigol sydd dros y trothwy, yna bydd y sawl sydd â’r incwm net wedi’i addasu uchaf yn gyfrifol am dalu’r tâl.

Mae’r tâl treth yn berthnasol o’r dyddiad yr ydych yn symud i mewn gyda’ch gilydd hyd nes y dyddiad yr ydych yn gwahanu’n barhaol, neu’r dyddiad y mae’r taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben – er enghraifft, gan fod y plentyn yn rhy hen i fod yn gymwys i gael Budd-dal Plant.

Nid yw cyfnodau byr ar wahân, megis aros yn yr ysbyty neu weithio oddi cartref, yn cyfrif fel gwahanu.

Os ydych yn talu’r tâl drwy TWE, a’ch bod chi’n gwahanu oddi wrth eich partner, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF drwy wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd CThEF yn addasu eich cod treth fel nad ydych yn talu’r tâl mwyach.