Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft, rydych yn dechrau gweithio neu os yw’ch incwm yn newid. Gallai hyn effeithio ar faint o Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) rydych yn ei gael.
Os ydych yn cael mwy nag un budd-dal, bydd angen i chi roi gwybod am eich newid i bob swyddfa budd-daliadau.
Nid yw’r dudalen hon yn ymdrin â phob newid y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano. Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.
Efallai y bydd eich cais yn cael ei leihau neu ei stopio os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.
Os ydych yn cael JSA Dull Newydd, rhaid i chi roi gwybod os ydych yn:
- newid eich enw, cyfeiriad, manylion banc neu rif ffôn
- mynd yn sâl neu fynd i’r ysbyty
- dechrau neu stopio gofalu am rywun
- dechrau neu stopio addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
- dechrau swydd, gan gynnwys hunangyflogaeth
-
gwneud unrhyw waith cyflogedig, di-dâl neu wirfoddol, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau
- dechrau cael, stopio cael, neu’n cael swm gwahanol o fudd-daliadau neu bensiynau eraill
- gadael Prydain Fawr (Lloegr, yr Alban a Chymru) am unrhyw gyfnod o amser
- mynd ar wyliau, gan gynnwys gwyliau ym Mhrydain Fawr
Sut i roi gwybod
Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau trwy:
- ffonio llinell gymorth JSA
- ysgrifennu at swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith sy’n talu eich JSA - mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich JSA
Os yw eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw wedi marw, gallwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau eraill y llywodraeth ar yr un pryd gan ddefnyddio gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith
Llinell gymorth Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd
Ffôn: 0800 169 0310
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yn ogystal â Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd, mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’r ddau wasanaeth.
Os ydych wedi cael eich gordalu
Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, efallai y cewch eich gordalu. Os ydych, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl.