Gwirio rhif TAW yn y DU

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wirio:

  • a yw rhif cofrestru TAW yn y DU yn ddilys
  • enw a chyfeiriad y busnes y mae’r rhif wedi’i gofrestru iddo

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW yn y DU, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i brofi pryd y gwnaethoch wirio rhif TAW yn y DU. Bydd angen eich rhif TAW eich hun arnoch er mwyn gwneud hyn.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi gael y Rhif TAW yr ydych eisiau ei wirio cyn i chi ddefnyddio’r gwasanaeth. Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn er mwyn gwirio a yw busnes neu sefydliad wedi’i gofrestru ar gyfer TAW drwy chwilio am ei enw.

Gallwch ddod o hyd i rifau TAW y mwyafrif o fusnesau a sefydliadau ar eu hanfonebau, eu derbyniadau, neu ar eu gwefannau.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych eisoes wedi gwneud cais i gofrestru ar gyfer TAW ac yn aros i glywed yn ôl gan CThEF. Gwiriwch pryd y dylech ddisgwyl ateb.

Dechrau nawr