Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA)
RFCA Cymru yw’r llais galluogi ar gyfer y lluoedd arfog wrth gefn a chadetiaid yng Nghymru.
RFCA Cymru yw’r llais galluogi ar gyfer y lluoedd arfog wrth gefn a chadetiaid yng Nghymru. Mae’n cynnal yr ystad, yn darparu cefnogaeth i’r tri Gwasanaeth ac yn cysylltu’r weinyddiaeth amddiffyn â chymdeithas drwy ddarparu ‘rhwydwaith o rwydweithiau’ helaeth.
Y newyddion diweddaraf
Agor Canolfan Newydd i Gadetiaid ar y Cyd yn Ne Cymru

New Joint Cadet Centre opens in Ebbw Vale. Copyright: RFCA for Wales
Mae cadetiaid awyr a chadetiaid y fyddin yng Nglynebwy wedi symud i’w Canolfan Cadetiaid ar y Cyd newydd gwerth £900,000.
Mae hen adeilad Llu Cadetiaid y Fyddin ar Ffordd Beaufort wedi cael ei ymestyn a’i ailwampio i greu Canolfan Cadetiaid ar y Cyd newydd yn y dref ar gyfer cadetiaid y fyddin a chadetiaid awyr.
Mae’r prosiect wedi cael ei gyflawni gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru a dyma ddatblygiad diweddaraf y Rhaglen Optimeiddio Ystadau Wrth Gefn (REOP) yng Nghymru. Nod y rhaglen yw moderneiddio canolfannau cadetiaid a chreu cyfleusterau newydd ac effeithlon er budd cadetiaid heddiw.
Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Gwynedd yn cydnabod gwasanaeth rhagorol ac ymroddiad i ddyletswydd

The Lord-Lieutenant of Gwynedd Awards 2026. Copyright: RFCA for Wales
Mae cynrychiolydd y Brenin dros Wynedd wedi cydnabod ymdrechion wyth o bobl o bob rhan o’r sir.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bedwar o bobl gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Bailey Ysw CStJ FRAgS yn y seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Bangor nos Iau 5 Mawrth, 2026.
Y rhain oedd yr Uwchgapten Tracey Cooper, yr Uwchgapten William LeCras, y Lefftenant Aled Hughes, a’r Swyddog Gwarant Ail Ddosbarth (Uwch Ringyll Cwmni) Carwyn Bee, i gyd o Lu Cadetiaid Byddin Clwyd a Gwynedd.
Cydnabyddiaeth Frenhinol

The Lord-Lieutenant of South Glamorgan Awards 2026. Copyright: RFCA for Wales
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bedwar o bobl gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith.
Y pedwar oedd Lefftenant Rhys Thomas o HMS CAMBRIA; Mr Fraser Ingram o Gadetiaid Môr Caerdydd; Mrs Abigail Gibbins o Gadetiaid Môr Caerdydd ac Arweinydd Sgwadron Rhys-Thomas, Challenger 3, Adain Gymreig Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.
Yn seremoni wobrwyo yr Arglwydd Raglaw, a gynhaliwyd gan HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd ddydd Iau 19 Chwefror 2026, cyflwynwyd eu gwobr iddynt i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd.
Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol Ei Fawrhydi yn cydnabod gwasanaeth eithriadol ac ymroddiad i ddyletswydd

The Lord-Lieutenant of Mid Glamorgan stood in a group with his Lord-Lieutenant Cadets, recipients of a Certificate of Merit and guest speaker. Copyright: RFCA for Wales
Mae tri pherson wedi derbyn Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol Ei Fawrhydi, yr Athro Peter Vaughan CBE QPM CStJ.
Cyflwynwyd eu gwobr i’r tri - yr Is-swyddog Matthew Maguire, yr Is-swyddog Rhys Davies o Gorfflu Cadetiaid Môr Rhondda a’r Swyddog Peilot Max Parry o Gadetiaid Awyr Rhif 3 Adain Cymru yr Awyrlu Brenhinol i gydnabod eu gwasanaeth eithriadol a’u hymroddiad i ddyletswydd, yn seremoni wobrwyo’r Arglwydd Raglaw a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Fyddin Wrth Gefn, Pontypridd ddydd Iau, 29 Ionawr 2026.
Cafodd cyflawniadau pedwar cadet yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu hefyd yn ystod y noson wobrwyo.
Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Powys yn cydnabod wyth o bobl

The Lord-Lieutenant of Powys standing with her Lord-Lieutenant Cadets, recipients of the Certificate of Merit and other awardees. Copyright: RFCA for Wales.
Mae ymdrechion wyth o bobl o bob rhan o Bowys wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin ar gyfer y sir.
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i dri pherson gan Mrs Tia Jones i gydnabod eu gwasanaeth eithriadol a’u hymroddiad i ddyletswydd yn y seremoni yng Ngwesty’r Elephant and Castle yn y Drenewydd ddydd Iau, 15 Ionawr.
Hefyd, cydnabuwyd a dathlwyd cyflawniadau dau gadet yr Arglwydd Raglaw yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan oddeutu 60 o bobl.
Gwobrau Tystysgrifau Teilyngdod Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi

Welsh Lord-Lieutenant logo. Copyright: RFCA for Wales.
Mae’r gwobrau’n cydnabod gwasanaeth eithriadol milwyr wrth gefn a gwirfoddolwyr sy’n oedolion yn y cadetiaid ac fe’u bwriedir i ategu’r anrhydeddau a roddir gan y Brenin yn y Flwyddyn Newydd a’r Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd.
Bydd yr Arglwydd Raglawiaid yn dosbarthu’r gwobrau hyn mewn 8 seremoni ym mhob un o siroedd wedi’u cadw Cymru.
Adroddiad annibynnol yn dathlu effaith gadarnhaol y Lluoedd Cadetiaid yng Nghymru

Group of military cadets in uniform for the front cover of the 'Getting an Edge' report. Copyright: RFCA for Wales.
Mae ymchwil newydd gyffrous wedi’i chyhoeddi sy’n dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r Lluoedd Cadetiaid yn ei chael ar bobl ifanc, gwirfoddolwyr sy’n oedolion, a’r gymdeithas ehangach yng Nghymru.
Comisiynwyd yr ymchwil gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru a’i gyflawni gan yr Athro Simon Denny, yr Athro Richard Hazenberg a Dr Claire Peterson-Young o Brifysgol Northampton.
Canfu’r astudiaeth fod aelodaeth o’r Lluoedd Cadetiaid wedi arwain at fwy o symudedd cymdeithasol, gwell canlyniadau addysgol a mwy o sgiliau cyflogadwyedd.
Pencampwyr Cadetiaid

Sea cadet John Challenger was awarded a British Empire Medal (BEM) for services to young people during Covid-19. Copyright: Open Government License.
Rydym yn cefnogi dros 4,400 o gadetiaid a dros 1,200 o oedolion sy’n gwirfoddoli mewn lluoedd cadetiaid yng Nghymru. Fel pencampwyr y mudiad cadetiaid, rydym yn hyrwyddo manteision profiad y cadetiaid i fywyd pobl ifanc.
Hawlfraint: Trwydded Llywodraeth Agored
Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn gadét yn un o unedau cadetiaid Cymru? Mae John Challenger, 17 oed, yn esbonio pam ei fod yn meddwl ei bod mor bwysig helpu i gadw’r cysylltiad rhwng y 2,300 o gadetiaid môr ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Dywedodd John: “Rwy’n credu bod llawer o bobl ifanc wedi cael trafferth gydag iechyd meddwl, gan deimlo nad ydyn nhw’n gallu taro cydbwysedd rhwng gwaith ysgol, y cadetiaid a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Ond roedd y Cadetiaid Môr wedi gweithio’n galed i leihau’r anawsterau hyn i staff a chadetiaid drwy adeiladu rhwydweithiau cymorth sy’n ymestyn ledled y wlad, gyda’r nod o’n helpu ni i gyd drwy’r cyfnod heriol hwn.”
Darllenwch stori John: John Challenger yn trafod pwysigrwydd chwarae ei ran i helpu cadetiaid eraill Cafodd John Challenger, cadét môr, Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i bobl ifanc yn ystod Covid-19.
Rhagor o wybodaeth am fod yn gadét.
Hyrwyddo’r Lluoedd Arfog Wrth Gefn

Reservist Tracy Llewellyn combines being a military musician, mum and farmer. MOD Crown Copyright.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Unedau Wrth Gefn (y Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a’r Awyrlu Brenhinol) yng Nghymru i gefnogi’r gwaith recriwtio ac i hyrwyddo eu rôl yn darparu galluogrwydd Amddiffyn y DU.
Hawlfraint: Hawlfraint y Goron y Weinyddiaeth Amddiffyn
Yn ôl Tracy Llewellyn, chwaraewr trombôn ym Mand y Cymry Brenhinol, ni fyddai’n gallu dymuno cael gwell swydd ran-amser ar y cyd â gweithio ar fferm y teulu ger y Fenni.
Ymunodd Tracy â Band Llu Cadetiaid Powys pan oedd yn 13 oed ac yna aeth ymlaen i wasanaethu yn y Fyddin am 12 mlynedd fel rhan o Gorfflu Cerddoriaeth y Fyddin cyn gadael i ddechrau teulu.
Dywedodd Tracy: “I mi, mae’n golygu fy mod yn gallu gwneud y tri pheth pwysicaf yn fy mywyd, sef gweithio ar y fferm, bod yn fam, a bod yn gerddor milwrol.
Darllenwch stori lawn Tracy: Tracy Llewellyn, sy’n Filwr Wrth Gefn, yn llwyddo i gyfuno bod yn gerddor milwrol, yn fam ac yn ffermwraig.
Rhagor o wybodaeth am fod yn filwr wrth gefn.
Ymgysylltu â’r gymuned leol a chyflogwyr ar ran y weinyddiaeth amddiffyn
Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i annog cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog a chydnabyddiaeth o’r set sgiliau gwerthfawr mae aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn eu cyfrannu yn y gweithle. Mae ein perthynas barhaus â chymunedau lleol yn parhau i annog cefnogaeth ar gyfer milwyr wrth gefn, cadetiaid a’r teulu milwrol ehangach ledled Cymru.
Enillodd Alun Griffiths (Contractors) Ltd Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2020. Wedi’u sefydlu yn 1968, maen nhw’n un o’r prif gontractwyr peirianneg sifil a rheilffyrdd sy’n gweithio ledled Cymru. Yn y fideo hwn, mae Richard Bruten (Cyfarwyddwr Prosiectau Mawr a Chyn-filwr y Fyddin) ac Amanda Holmes (Cynghorydd Adnoddau Dynol a Chyn-filwr) yn siarad am y diwylliant cefnogol i’r lluoedd arfog yn Griffiths yn ogystal ag eiriolaeth barhaus y sefydliad dros gymuned y lluoedd arfog.
Darparu’r mannau gorau i weithio a hyfforddi ynddynt

HMS Cambria is the brand new £11 million state-of-the-art home to three Maritime Reserve units. MOD Crown Copyright
Rydym yn rheoli ac yn cynnal a chadw y 400 a mwy o adeiladau sy’n gartref i unedau cadetiaid a milwyr wrth gefn lleol, yn ogystal â darparu addasiadau i gartrefi cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu ac sy’n byw yng Nghymru.
Wedi’i disgrifio fel ‘trysor’ yn yr Ystad Amddiffyn, cafodd HMS Cambria ei chyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, mewn partneriaeth â’r Llynges Frenhinol ac Associated British Ports.
Mae’r prosiect hynod lwyddiannus hwn wedi galluogi HMS Cambria, unig uned y Llynges Frenhinol Wrth Gefn yng Nghymru, i ddychwelyd i’w chartref morol gwreiddiol yng Nghaerdydd, a mwynhau presenoldeb ger canolfan Lywodraethu Cymru.
Darllen y stori lawn: HMS Cambria newydd Caerdydd gwerth £11 miliwn
Cefnogi Cyn-filwyr
Rydyn ni’n codi ymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Paul Bromwell standing with a horse. Copyright: RFCA for Wales.
Rydyn ni’n hyrwyddo cronfa dalent o gyn-filwyr galluog a hyblyg fel darpar weithwyr i gyflogwyr ledled Cymru.
Tua 20 mlynedd yn ôl sefydlwyd yr elusen Valley Veterans gan gyn-filwr yn Rhyfel y Falklands, Paul Bromwell. Fe ddechreuodd yn wreiddiol fel grŵp cymorth anffurfiol i gyn-filwyr sy’n delio ag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).
Ar ôl gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cymreig yn ystod Rhyfel y Falklands 40 mlynedd yn ôl, roedd Paul yn ymwybodol iawn o effeithiau dychwelyd i fywyd sifil ar ôl gadael y Lluoedd Arfog. Roedd ef ei hun yn dioddef o PTSD o ganlyniad i’w amser yn Ne yr Iwerydd, ac ar ôl dychwelyd adref i Gwm Rhondda, roedd yn cael trafferth cael y gefnogaeth angenrheidiol.
Newyddion archif
2025
- RFCA Cymru yn croesawu 150 o westeion i’r Briff Blynyddol
- Deuddeg o sefydliadau Cymreig yn cipio’r Aur
- Dathlu cyflogwyr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) 2025
- Dathlu wrth i 17 o enillwyr Gwobr Arian ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn gael eu cyhoeddi heddiw yng Nghymru
- Deg o Ganolfannau Cadetiaid ar y Cyd newydd wrthi’n cael eu datblygu yng Nghymru
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Clwyd yn cydnabod deg o bobl
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Dyfed yn cydnabod 12 o bobl
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwent yn cydnabod 16 o bobl
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg yn cydnabod un ar ddeg o bobl
2024
- Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru yn croesawu 100 o westeion i’r Sesiwn Wybodaeth Flynyddol
- Gwobr Aur i ddeg sefydliad o Gymru
- Canolfan Newydd Cadetiaid ar y Cyd Cil-y-coed
- Dathlu cyflogwyr ERS Arian 2024
- 19 Enillydd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru
- Busnes Caerdydd yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwynedd yn cydnabod 12 o bobl
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwent yn cydnabod 14 o bobl
- Arglwydd Raglaw Clwyd Ei Fawrhydi yn cydnabod deuddeg o bobl
- Deg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed
- Cydnabyddiaeth frenhinol i wyth o bobl
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Morgannwg Ganol yn cydnabod gwasanaeth rhagorol ac ymroddiad i ddyletswydd
- Pymtheg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg
- Pedwar o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ym Mhowys
2023
- Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled ar gyfer yr Ystad Wirfoddol i’w darparu gan gontractau Ystad Adeiledig y weinyddiaeth amddiffyn
- Deg sefydliad o Gymru yn cipio Gwobrau Aur yng Nghastell Hensol
- RFCA dros Gymru yn croesawu 130 o westeion i’r Briff Blynyddol
- Diolch i gyflogwyr am gefnogi milwyr wrth gefn mewn noson wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd
- Pobl ifanc yn cael eu hanrhydeddu gan Arglwydd Raglaw Gwynedd
- Saith o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng ngorllewin Morgannwg
- Deg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Clwyd Ei Fawrhydi
- Anrhydeddu pobl ifanc gan Arglwydd Raglaw Dyfed
- Cydnabyddiaeth frenhinol i ddau berson ifanc
- Pymtheg person ifanc yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng Ngwent
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ym Morgannwg Ganol yn anrhydeddu deuddeg o bobl
- Pobl ifanc yn cael eu hanrhydeddu gan Arglwydd Raglaw Powys 2023
Rhagor o straeon newyddion gan yr RFCA
Gwybodaeth gyswllt
RFCA for Wales,
Maindy Barracks,
Cardiff,
CF14 3YE
E-bost: wa-info@rfca.mod.uk
Dilynwch ni ar:
Facebook: @rfcawales
LinkedIn: RFCAforWales
Instagram: rfca.wales
Youtube: RFCAforWales
Gwybodaeth gysylltiedig
Updates to this page
-
Update of the Lord-Lieutenant Certificates of Merit Awards article with 2027 and 2028 dates.
-
'Latest News' section updated, 'Supporting Veterans' section added.
-
Updated: Latest news section.
-
Updated: Latest news section.
-
Publication of the latest news article: Eight people recognised by His Majesty’s Lord-Lieutenant of Mid Glamorgan
-
Update of the guidance page with the latest news: "Eight people recognised by His Majesty's Lord-Lieutenant of Powys."
-
'Latest news' updated.
-
Added latest news story.
-
Updated 'Latest news'.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
'Latest News' updated.
-
Added latest news story.
-
Updated 'Archive news'.
-
Added latest news story.
-
Updated: Latest news.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added: 19 Ministry of Defence Silver ERS Award winners in Wales.
-
Added latest news story. Updated 'Contact information'.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Updated 'Latest news' Welsh translation.
-
Added 'Archive news' section and updated 'Latest news' section.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added the latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Edited image.
-
Added news story: Fifteen people recognised by His Majesty’s Lord- Lieutenant of Gwent.
-
Added latest news story.
-
Latest news section updated. Added: 'Teenagers honoured by Lord-Lieutenant of Powys: January 2023'.
-
Added latest news story.
-
'RFCA for Wales welcome 130 guests to Annual Briefing' and 'Employers thanked for supporting reservists 'to keep on marching' at a special awards evening in Cardiff' added.
-
Updated content under 'Latest news' heading.
-
Added news item: Lord-Lieutenant of Gwynedd celebrates high achievers from the Armed Forces community.
-
Added new article under 'latest news' heading.
-
Added new news story under 'Latest news' heading.
-
Added: article under 'Latest news' heading.
-
Added new article under 'Latest news' heading.
-
Added new news article under heading 'Latest news'.
-
Updated 'Latest news' heading with article: 'Lord-Lieutenant of West Glamorgan pays tribute to reserves and cadets in the county'.
-
Added new news article under heading 'Latest news'.
-
Added a new article under 'Latest News' heading.
-
Added 2 articles under 'Latest News' heading.
-
Addition of: RFCA for Wales welcome 130 guests to Annual Briefing news story.
-
Added image of Lt Cdr Ruth Fleming to latest news.
-
Added updated social links to channels and a new video under the 'Engage...' heading with full transcript.
-
First published.