Rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn os ydych yn dechrau swydd newydd
Cwblhewch y rhestr wirio hon os mai cyflogai ydych sydd heb P45 a’ch bod yn dechrau swydd newydd, fel y gall eich cyflogwr ddarganfod pa god treth i’w ddefnyddio yn ystod eich taliad cyntaf.
Os ydych yn gyflogwr, dysgwch sut i roi gwybod i CThEF am gyflogai newydd.
Os ydych eisoes wedi cael eich taliad cyntaf, peidiwch â defnyddio’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn (a oedd yn cael ei adnabod fel P46 yn y gorffennol). Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein sy’n gwirio’ch Treth Incwm er mwyn gwirio eich cod treth a diweddaru eich manylion os ydynt yn anghywir.
Y defnydd a wneir o’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn
Os nad oes gennych P45, neu fod angen rhagor o wybodaeth ar eich cyflogwr newydd, cwblhewch y rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn er mwyn darparu’r manylion sydd eu hangen arnynt.
Dogfen gan eich cyflogwr diweddaraf, os oedd un gennych, yw’r P45. Os wnaethoch stopio cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd, byddwch wedi cael P45 gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Os oes gennych P45, rhowch y ddogfen i’ch cyflogwr newydd. Mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gwblhau rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn hyd yn oed os ydych wedi rhoi P45 iddynt.
Bydd eich cyflogwr newydd yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn y rhestr wirio er mwyn gwneud y canlynol:
-
eich ychwanegu at system eu cyflogres
-
cyfrifo eich cod treth ar gyfer eich taliad cyntaf
-
cyfrifo’r swm o dreth i’w dynnu o’ch cyflog
-
cyfrifo swm eich didyniadau benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig — os oes gennych un
-
rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi dechrau gweithio i’r cyflogwr
Gofynnwch i’ch cyflogwr erbyn pryd y mae angen y rhestr wirio arnynt.
Pwy ddylai gwblhau’r rhestr wirio
Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi gwblhau’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn dechrau ar eich swydd gyntaf, neu’ch swydd gyntaf yn y DU
-
nid oes gennych P45 o swydd flaenorol
-
mae’ch manylion personol yn wahanol i’r rhai a ddangosir ar eich P45
-
rydych yn dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod o saib mewn cyflogaeth
-
rydych yn dechrau swydd yn dilyn bod yn hunangyflogedig
-
rydych yn gweithio i fwy nag un cyflogwr
-
mae angen rhagor o wybodaeth ar eich cyflogwr ynghylch eich benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi wybod y canlynol:
-
a ydych wedi cael swydd neu bensiwn arall er 6 Ebrill
-
dyddiad dechrau eich swydd newydd
-
y cynllun yr ydych yn rhan ohono os oes gennych fenthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig — gwiriwch pa gynllun ad-dalu yr ydych yn rhan ohono
-
p’run a ydych wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd neu Gredyd Cynhwysol er 6 Ebrill
-
rhif eich pasbort — os ydych wedi cael eich anfon i weithio yn DU dros dro
Cwblhau’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn
Dylech gasglu eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau gan na allwch gadw eich cynnydd wrth fynd i chi fynd yn eich blaen.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r rhestr wirio yn gywir, neu mae’n bosibl y byddwch yn talu gormod o dreth, neu rhy ychydig o dreth.
Dylech anfon eich rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn at eich cyflogwr newydd dros e-bost neu drwy’r post, neu ei rhoi iddynt.
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein
Os ydych yn byw ac yn gweithio yn y DU yn arferol, gallwch argraffu’r , a’i chwblhau felly.
Anfonwch e-bostio at CThEF er mwyn gofyn am fersiwn Cymraeg o’r rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn ar gyfer cyflogeion sydd wedi’i secondio i weithio yn y DU gan gyflogwr tramor.
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn addas i chi os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol — megis darllenydd sgrin. Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Guidance updated to explain 'What the starter checklist is used for', 'Who should fill it in' and 'What you'll need'. Also if you cannot use the online form, updated versions of the starter checklist PDFs have been added.
-
Clarified that you cannot save your progress when completing the online form.
-
Added translation