Anfon eich datganiad Toll Bingo ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gyflwyno’ch datganiad Toll Bingo i CThEF.
Mae’r Doll Bingo yn cael ei diddymu o 1 Ebrill 2026. Nid oes angen i chi gofrestru na chyflwyno datganiadau ar gyfer unrhyw gyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwn.
Os ydych yn agored i’r Doll Bingo ar gyfer unrhyw gyfnod sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2026, bydd dal i fod angen i chi gyflwyno datganiadau a thalu CThEF am y cyfnodau hynny. Byddwch yn gallu cyflwyno unrhyw ddatganiadau sydd heb eu cyflwyno hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2027.
Cyflwynwch eich datganiad Toll Bingo misol drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i ddiwygio Ffurflen Dreth flaenorol.
Darllenwch ‘Talu Toll Hapchwarae neu Doll Bingo’ (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i’r gwahanol ffyrdd gallwch dalu’r doll.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn i chi ddechrau
Mae’n rhaid i chi fewngofnodi er mwyn anfon eich ffurflen Datganiad Toll Bingo ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu rhai pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Cyn i chi gyflwyno’ch datganiad, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif cofrestru’r Doll Bingo
- cod post eich busnes cofrestredig
- cyfrifon a chofnodion i gyfrifo’ch elw
- eich datganiad blaenorol os hoffech hawlio colled
Cyflwyno’ch Datganiad Toll Bingo
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cysylltwch â’r Tîm Prosesu Ecséis (yn agor tudalen Saesneg) i gael ffurflen bapur i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Anfon datganiad fel asiant neu gynrychiolydd
Gall asiantau neu gynrychiolwyr personol hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Bydd angen ei god mynediad a rhif cofrestru Toll Bingo ei gleient.
Diwygio Ffurflen Dreth neu ofyn am ad-daliad
Os bu gwall a olygodd nad oeddech wedi talu digon o Doll Bingo, dylech wneud addasiad ar eich Ffurflen Dreth nesaf.
Os arweiniodd y gwall at i chi dalu gormod, gallwch ofyn am ad-daliad drwy ysgrifennu at y Tîm Prosesu Ecséis (yn agor tudalen Saesneg).
Darllenwch Hysbysiad Ecséis 212: llog statudol ac ad-daliad Treth Ecséis a or-dalwyd (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth ar sut i ofyn am ad-daliad.
Updates to this page
-
Bingo Duty has been abolished from 1 April 2026. If you’re liable for Bingo Duty for any periods starting before 1 April 2026, you still need submit returns and pay HMRC for those periods. You’ll be able to submit any outstanding returns up to and including 31 March 2027.
-
A Welsh translation of the page has been added.
-
A new section, 'Amend a return or request a repayment', has been added.
-
First published.