Canllawiau

Hawlio rhyddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd drwy’r post

Hawliwch ryddhad Treth Incwm ar eich treuliau swydd drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen P87.

O’r flwyddyn dreth 6 Ebrill 2026 i 5 Ebrill 2027, ni fyddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth am weithio gartref. Gallwch dal hawlio am y 4 blynedd dreth flaenorol.

Gwirio a allwch hawlio

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn defnyddio’ch arian eich hunan am bethau y mae’n rhaid i chi eu prynu ar gyfer eich swydd
  • dim ond ar gyfer eich gwaith rydych yn defnyddio’r pethau hyn

Dylech wirio a allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer treuliau swydd.

Pryd y gallwch hawlio

Gallwch wneud hawliad os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gwneud eich hawliad cyn pen 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei chyfer
  • mae cyfanswm y treuliau rydych yn eu hawlio ar gyfer pob blwyddyn dreth yn £2,500 neu lai — os yw’r swm yn fwy na £2,500 bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • rydych wedi talu treth yn ystod unrhyw un o’r blynyddoedd rydych yn hawlio ar eu cyfer

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar dreuliau swydd os yw’ch cyflogwr, neu unrhyw berson arall, wedi ad-dalu’ch holl dreuliau sy’n gysylltiedig â’ch gwaith.

Sut i hawlio drwy’r post

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen P87 CThEF i hawlio drwy’r post. Byddwn yn gwrthod hawliadau post nad ydynt yn defnyddio’r ffurflen hon.

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.

  3. Gallwch lenwi’r ffurflen ar y sgrin ac yna’i hargraffu, neu gallwch ei hargraffu a’i llenwi.

  4. Anfonwch y ffurflen ac unrhyw dystiolaeth at CThEF. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Rhyddhad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth (P87)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Efallai na fydd yn gweithio os byddwch yn ceisio agor y ffurflen yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Cael help i gwblhau’r ffurflen

Darllenwch Nodiadau arweiniad ar gyfer ffurflen P87 (ODT, 33.8 KB) i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.

Tystiolaeth i ategu’ch hawliad

Ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol

Mae’n rhaid i chi anfon copïau o dderbynebau, neu dystiolaeth arall, sy’n dangos faint rydych wedi’i dalu am bob ffi neu danysgrifiad proffesiynol yr ydych wedi’i hawlio.

Gwisgoedd unffurf, dillad gwaith ac offer

Os ydych yn hawlio swm sefydlog y cytunwyd arno a (‘thraul gyfradd unffurf’ (yn agor tudalen Saesneg)) nid oes angen i chi anfon tystiolaeth.

Os ydych yn hawlio rhyddhad treth am yr union swm rydych wedi’i wario ar eich gwisg, dillad gwaith neu offer, mae’n rhaid i chi anfon copïau o’ch derbynebau, neu dystiolaeth arall, sy’n profi eich bod wedi talu am yr eitem.

Cerbydau rydych yn eu defnyddio ar gyfer gwaith

Mae’n rhaid i chi anfon copïau o’ch log milltiroedd, mae’n rhaid i’r rhain gynnwys:

  • y rheswm dros bob taith
  • y cod post ar gyfer man cychwyn pob taith
  • y cod post ar gyfer pwynt terfyn pob taith

Os ydych yn hawlio am fwy nag un gyflogaeth, mae’n rhaid i chi anfon copi o’ch log milltiroedd ar gyfer pob un.

Treuliau gwestai a phrydau

Mae’n rhaid i chi anfon copïau o dderbynebau sy’n cynnwys:

  • dyddiad eich arhosiad neu bryd o fwyd
  • enw’r gwesty neu’r bwyty

Gweithio gartref

Mae angen i chi anfon tystiolaeth bod yn rhaid i chi weithio gartref, megis copi o’ch contract cyflogaeth. Os nad yw wedi’i nodi yn eich contract, mae angen i chi anfon rhywbeth arall sy’n profi bod yn rhaid i chi weithio gartref.

Os byddwch yn dewis gweithio gartref, ni allwch hawlio’r draul hon.

O’r flwyddyn dreth 6 Ebrill 2026 i 5 Ebrill 2027, ni fyddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth am weithio gartref. Gallwch dal hawlio am y 4 blynedd dreth flaenorol.

Treuliau eraill

Os ydych yn hawlio unrhyw gostau eraill, mae’n rhaid i chi restru’r rhain a’r cyflogaethau y maent ar eu cyfer. Mae arnom angen copïau o dderbynebau hefyd, neu dystiolaeth arall, sy’n dangos enw’r eitem a thystiolaeth eich bod wedi talu amdani. 

Os ydych yn hawlio costau teithio fel tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus neu ffioedd parcio sy’n gysylltiedig â theithiau busnes, bydd angen i chi anfon tystiolaeth ar gyfer y rhain fel derbynebau.

Codi ffi i hawlio ar ran rhywun arall

Os ydych yn hawlio ar ran rhywun arall, gan godi tâl am wneud hynny ac eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu i chi, dysgwch sut i gael ad-daliadau Treth Incwm neu TWE (Talu Wrth Ennill) ar ran eraill (yn agor tudalen Saesneg).

Dim ond drwy ddefnyddio ffurflen P87 CThEF y byddwn yn derbyn hawliadau drwy’r post.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2026 show all updates
  1. From the tax year 6 April 2026 to 5 April 2027, you will not be able to claim tax relief for working from home. You can still claim for the 4 previous tax years.

  2. Guidance notes for form P87 and the HMRC Commissioners' direction have been updated.

  3. The HMRC Commissioners' directions has been updated.

  4. The HMRC Commissioners' Directions has been added.

  5. The guidance notes for form P87 and information about how to claim, including the evidence you will need to provide has been updated.

  6. Added translation

  7. Guidance notes for form P87 have been updated.

  8. The HMRC Commissioners Directions has been updated.

  9. The tax relief for expenses of employment P87 form has been updated to include a new version to be used on or after 26 February 2024.

  10. Added information about how and when you can claim Income Tax relief on your job expenses if you cannot claim online or by post. You can contact HMRC by phone if you’ve already claimed the same expense type in a previous year and your total expenses are £2,500 or less. You cannot claim working from home expenses by phone.

  11. Guidance notes for form P87 have been updated.

  12. Information has been added about the criteria for claiming tax relief for expenses

  13. A new form will be made available from 26 February 2024. The new nomination section will need to be completed for a repayment to be made to a third party.

  14. Added translation

Argraffu'r dudalen hon