Canllawiau

Gofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl i derfynu trwydded troseddwr dedfryd amhenodol er mwyn diogelu’r cyhoedd (IPP)

Canllawiau ar ofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl i derfynu trwydded troseddwr dedfryd amhenodol er mwyn diogelu’r cyhoedd (IPP).

Yn berthnasol i Ogledd Iwerddon a'r Alban

Trosolwg

Mae’r Bwrdd Parôl yn gyfrifol am ystyried a yw troseddwr IPP yn addas i derfynu ei drwydded IPP. Mae hyn hefyd yn cynnwys troseddwyr sy’n treulio dedfrydau amhenodol o Garchar er mwyn Diogelu’r Cyhoedd (DPP). 

Dim ond pan y bydd 3 blynedd wedi mynd heibio ers dyddiad eu rhyddhau gyntaf ar drwydded IPP y gellir ystyried hyn (‘y cyfnod cymhwyso’). Bydd y rhai sy’n cyflawni dedfryd DPP yn y carchar yn cael eu hystyried ar ôl 2 flynedd.

Mae’r penderfyniad hwn yn seiliedig ar y risg o niwed i’r cyhoedd. Os na chaiff y drwydded ei therfynu ar yr adeg hon, caiff ei therfynu’n awtomatig 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cymhwyso, ar yr amod nad oes unrhyw alwad yn ôl i’r carchar wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwnnw.

O 1 Medi 2022 ymlaen, mae holl benderfyniadau’r Bwrdd Parôl i derfynu trwydded troseddwr IPP neu beidio â therfynu trwydded troseddwr IPP yn ddarostyngedig i’r mecanwaith ailystyried.

Os bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu ei bod yn ddiogel dod â thrwydded troseddwr IPP i ben mae’r penderfyniad dros dro ar gyfer 21 diwrnod calendr o’r dyddiad y cyhoeddwyd y penderfyniad (cyfeirir at y cyfnod hwn fel y ‘ffenestr ailystyried’). Yn ystod y cyfnod yma gellir gwneud cais gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ailystyried y penderfyniad os ystyrir:

  • Ei fod yn cynnwys gwall cyfreithiol;
  • na ddilynwyd y broses gywir yn yr adolygiad o’r achos i derfynu’r drwydded – er enghraifft, ni ystyriwyd tystiolaeth bwysig
  • roedd y penderfyniad yn afresymol neu’n afresymegol - ni ellir cyfiawnhau’r penderfyniad ar sail y dystiolaeth o risg a ystyriwyd

Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Parôl yn ystyried achosion yn ofalus, felly bydd yn anarferol i benderfyniad newid.

Os nad yw penderfyniad parôl yn cael ei herio o fewn 21 diwrnod calendr daw’n derfynol a rhaid terfynu’r drwydded IPP. Mae hyn yn golygu na fydd y troseddwr yn destun amodau’r drwydded mwyach a bydd y ddedfryd wedi dod i ben.

Yn unol â nod y Bwrdd Parôl ar gyfer tryloywder, bydd pob penderfyniad ailystyried yn cael ei gyhoeddi ar BAILII ar derfyn yr achos perthnasol. Sylwch y bydd unrhyw wybodaeth sensitif yn cael ei golygu cyn ei chyhoeddi, ac ni fydd penderfyniadau’n cael eu cyhoeddi tan ar ôl i achos y Bwrdd Parôl ddod i ben.

Eich hawl i godi materion

Gall dioddefwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb ofyn i Dîm Ailystyried yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ystyried gwneud cais i ailystyried, os ydych chi’n credu bod problem gyda phenderfyniad parôl.

Ni fydd y Bwrdd Parôl yn gallu ailystyried achos yn unig ar y sail nad yw dioddefwr eisiau i drwydded y troseddwr gael ei therfynu.

Siarad â swyddog cyswllt dioddefwyr

Os ydych wedi cofrestru ar y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr (VCS), gall eich Swyddog Cyswllt Dioddefwyr (VLO) eich cefnogi drwy’r broses hon.

Os byddwch yn penderfynu codi materion ynghylch penderfyniad y Bwrdd Parôl gall y swyddog eich helpu i gysylltu â’r Tîm Ailystyried a bydd yn eich diweddaru. Gall eich VLO hefyd ddweud wrthych am wasanaethau cefnogol sydd ar gael.

Gofyn am grynodeb o’r penderfyniad parôl

Wrth benderfynu a ddylid cyflwyno cais i’r Tîm Ailystyried, efallai y byddai’n ddefnyddiol darllen crynodeb penderfyniad y Bwrdd Parôl mewn perthynas â’r achos perthnasol. Bydd y crynodeb yn esbonio sut y daeth y Bwrdd Parôl i’w benderfyniad, gan gynnwys ffactorau risg ac ymddygiad y troseddwr. Gallwch ofyn am grynodeb o’r penderfyniad drwy e-bostio summaries@paroleboard.gov.uk.

Dylai dioddefwyr sy’n rhan o’r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr ofyn am y crynodeb o’r penderfyniad drwy eu VLO.

Os nad ydych wedi cofrestru i’r VCS gallwch ofyn am y crynodeb o’r penderfyniad drwy e-bost: summaries@paroleboard.gov.uk.

Gall partïon sydd â diddordeb hefyd ofyn am grynodebau o benderfyniad y Bwrdd Parôl yn yr un ffordd, drwy’r cyfeiriad e-bost uchod.

Sut i ofyn am ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl

Mae gennych 21 diwrnod calendr o’r dyddiad y cyhoeddir penderfyniad y Bwrdd Parôl i gyflwyno eich cais i’r Tîm Ailystyried.

  1. Siaradwch â’ch VLO - bydd yn gallu egluro’r broses.
  2. Llenwi Ffurflen CPD1: Cais i ailystyried penderfyniad gan y Bwrdd Parôl.
  3. E-bostiwch eich ffurflen i’r Tîm Ailystyried.

Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno unrhyw gais i’w ailystyried erbyn 5pm ar Ddiwrnod 21 y ffenestr ailystyried. Os ydych am gyflwyno sylwadau, dylech wneud hynny mewn da bryd cyn y dyddiad cau hwn (dim hwyrach na 24 awr o’r blaen os yn bosib) i sicrhau y gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi ystyriaeth lawn i’r pwyntiau y byddwch chi’n eu gwneud. Ni ellir ystyried y ffurflenni a gyflwynwyd yn agos at y dyddiad cau am 5pm ar Ddiwrnod 21 yn llawn ac felly ni all ffurfio rhan o gais, os oes sail i wneud un.

Ble i anfon y ffurflen

Dylech anfon eich ffurflen drwy e-bost at y Tîm Ailystyried cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd eich VLO yn gallu e-bostio’r ffurflen drosoch.

E-bost: reconsiderationrequests@justice.gov.uk

Cyfrinachedd

Os byddwch yn penderfynu anfon cais i’r Tîm Ailystyried bydd eich manylion yn cael eu trin yn gyfrinachol. Os bydd y tîm yn penderfynu bod sail i wneud cais i ailystyried y penderfyniad, bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn enw’r Ysgrifennydd Gwladol - ni fydd y carcharor yn cael gwybod eich bod yn bersonol wedi codi materion ynglŷn â’i benderfyniad parôl.

Beth sy’n digwydd nesaf

Os yw’r Tîm Ailystyried yn credu y dylid ailystyried y byddant yn gwneud cais i’r Bwrdd Parôl o fewn y ffenestr ailystyried.

Os ydych wedi gwneud cais i’r Tîm Ailystyried, cewch wybod a ydynt wedi gwneud cais i’r Bwrdd Parôl i ailystyried yr achos ai peidio.

Os gwneir cais i ail-ystyried i’r Bwrdd Parôl

Os bydd y Tîm Ailystyried yn cyflwyno cais am ailystyried i’r Bwrdd Parôl, gohirir terfynu trwydded IPP y troseddwyr.

Bydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu:

  • A oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir ac y dylid bwrw ymlaen i derfynu’r drwydded IPP
  • A ddylid edrych ar yr achos eto, fydd yn golygu y bydd gwrandawiad papur newydd, a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud

Os bydd y Bwrdd Parôl yn canfod bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir ond ei fod yn cynnwys gwall, bydd yn nodi’r camgymeriad ac yn cadarnhau y dylid terfynu’r drwydded IPP beth bynnag.

Os edrychir ar yr achos eto:

Os bydd cais i ail-ystyried yn llwyddiannus, bydd y Bwrdd Parôl yn edrych ar yr achos eto ar bapur (yn eithriadol gall y Bwrdd Parôl benderfynu mynd ymlaen i wrandawiad llafar).

Fodd bynnag, os caiff yr achos ei ailystyried fel hyn, bydd cyfle i ddioddefwyr wneud datganiad dioddefwr arall neu i ailgyflwyno’r un gwreiddiol. Bydd eich VLO yn esbonio’r amserlen ac yn eich helpu drwy’r broses.

Gallai’r Bwrdd Parôl benderfynu:

  • Terfynu’r drwydded IPP
  • Peidio terfynu’r drwydded IPP
  • Y dylid atal goruchwyliaeth y troseddwr IPP - mae hyn yn golygu bod y drwydded yn dal mewn grym, ond ni fydd gan y troseddwr unrhyw oruchwyliaeth weithredol
  • Y dylid amrywio’r drwydded - dyma pryd y caiff amodau’r drwydded ar drwydded IPP eu newid.

Achosion lle penderfynodd y Bwrdd Parôl beidio terfynu trwydded troseddwr IPP

Pan fydd y Bwrdd Parôl yn penderfynu nad yw’n ddiogel terfynu trwydded troseddwr IPP, bydd y penderfyniad hefyd dros dro am 21 diwrnod calendr (cyfeirir at y cyfnod hwn fel y ‘ffenestr ailystyried’). Yn ystod y cyfnod yma mae modd i’r carcharor wneud cais i ailystyried y penderfyniad os ystyrir:

  • Ei fod yn cynnwys gwall cyfreithiol;
  • na chafodd y broses gywir ei dilyn yn yr adolygiad o’r achos i derfynu’r drwydded - er enghraifft, ni ystyriwyd tystiolaeth bwysig
  • roedd y penderfyniad yn afresymol neu’n afresymegol - ni ellir cyfiawnhau’r penderfyniad ar sail y dystiolaeth o risg a ystyriwyd

Pan fydd y troseddwr yn penderfynu gwneud cais, bydd y broses a ddilynir yn debyg iawn i’r uchod. Os bydd cais i ail-ystyried yn llwyddiannus, bydd y Bwrdd Parôl yn edrych ar yr achos eto ar bapur (yn eithriadol gall y Bwrdd Parôl benderfynu mynd ymlaen i wrandawiad llafar).

Os gwneir y penderfyniad eto, bydd cyfle i ddioddefwyr wneud datganiad dioddefwr arall neu ailgyflwyno’r un gwreiddiol. Bydd eich VLO yn esbonio’r amserlen ac yn eich helpu drwy’r broses. Fel y nodir uchod, gallai’r Bwrdd Parôl benderfynu: * Terfynu’r drwydded IPP * Peidio terfynu’r drwydded IPP * Y dylid atal goruchwyliaeth y troseddwr IPP - mae hyn yn golygu bod y drwydded yn dal mewn grym, ond ni fydd gan y troseddwr unrhyw oruchwyliaeth weithredol * Y dylid amrywio’r drwydded - dyma pryd y caiff amodau’r drwydded ar drwydded IPP eu newid. Cyhoeddwyd ar 22 Medi 2022

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Chwefror 2026 show all updates
  1. Revised to reflect the reduction in length of the qualifying period.

  2. Added translation

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon