Canllawiau

Rhoi gwybod am dwyll a llygredd i APHA

Rhoi gwybod am dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywun wedi cyflawni achos o dwyll neu lygredd mewn perthynas â diogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion, mae’n rhaid i chi roi gwybod i APHA.

Gallwch roi gwybod am y canlynol:

  • achosion o ddwyn neu gamddefnyddio asedau ac eiddo
  • ‘ymhoniad anwir’ sef dweud celwydd neu guddio gwybodaeth a ffeithiau
  • twyll sy’n ymwneud â chaffael, cytundeb, credyd neu daliad
  • twyll cyflogres a gwallau mewn lwfansau
  • camddefnydd o eiddo neu wasanaethau Defra fel cerbydau masnachol, ceir hurio, offer a chyfarpar
  • seiberdroseddu a thwyll sy’n ymwneud â hunaniaeth

Byddwn yn trin yr holl wybodaeth a roddir i ni yn gyfrinachol (yn breifat) ac yn unol â’n rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

Sut i roi gwybod

Gallwch anfon gwybodaeth yn ddienw, ond bydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i ymchwilio a rhoi adborth.

Dylech roi gwybod cyn gynted ag y byddwch yn amau rhywbeth neu’n dod yn ymwybodol o rywbeth.

Ffôn:

  • yn y DU: 03459 33 55 77
  • y tu allan i’r DU: +44 20 7238 6951

E-bost: defra.helpline@defra.gov.uk

Post:

Defra Helpline
Seacole Building
2 Marsham Street                                
London
SW1P 4DF
United Kingdom

Beth i’w gynnwys

Peidiwch â cheisio casglu rhagor o dystiolaeth ategol heb gysylltu â ni yn gyntaf. Efallai y bydd hyn yn peri risg i chi a gallai annilysu ymchwiliadau gennym neu’r heddlu.

Gallwch ofyn am fod yn ddienw, ond efallai na fyddwn yn gallu gwarantu hynny, er enghraifft mewn achos troseddol. Byddwn yn cysylltu â chi er mwyn trafod unrhyw debygolrwydd y bydd eich hunaniaeth yn cael ei datgelu.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod, dylech gynnwys:

  • eich enw llawn a’ch manylion cyswllt
  • disgrifiad o’r mater - dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl, fel arwyddocâd neu werth, enwau, dyddiadau, amseroedd, lleoliadau, manylion y contract, taliadau
  • a yw’r mater wedi cael ei godi o’r blaen
  • a oes gennych unrhyw ddogfennaeth neu dystiolaeth arall – peidiwch â’i hanfon eto, efallai y byddwn yn gofyn amdani yn y dyfodol

Sut rydym yn gwarchod chwythwyr chwiban

Efallai y byddwch yn gweithredu fel chwythwr chwiban (fel arfer fel cyflogai yn y sefydliad neu’r cwmni rydych yn rhoi gwybod amdano). Yn yr achos hwn, byddwn yn gwneud ein gorau i gadw eich hunaniaeth yn gyfrinachol rhag eich cyflogwr neu’ch rheolwyr, oni bai eich bod yn dewis fel arall.

Os ydych wedi’ch cyflogi gan Grŵp Defra, gweler y canllawiau ar chwythu’r chwiban ar y fewnrwyd staff berthnasol am ragor o wybodaeth ar fesurau diogelu. Os nad ydych yn siŵr a yw datgeliad wedi’i ddiogelu, dylech gael cyngor annibynnol.

Rhoi gwybod am dwyll i eraill

Gallwch hefyd roi gwybod i’r canlynol:

Cysylltwch â’r heddlu os ydych yn amau ​​bod trosedd wedi’i chyflawni.

Cysylltwch â CThEF os oes gennych bryderon yn ymwneud â threth, er enghraifft gwyngalchu arian ac efadu treth.

Gallwch hefyd rhoi gwybod am dwyll, gwe-rwydo a sgamiau i Action Fraud

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Mawrth 2026 show all updates
  1. Updated details on how to contact Defra through the new online contact form.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon