Canllawiau

Codi pryder

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych chi'n poeni am benderfyniadau a wnaed gan atwrnai, dirprwy neu warcheidwad ar ran yr unigolyn y maent wedi'u penodi ar eu cyfer.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Os ydych chi’n poeni am benderfyniadau sydd wedi’u gwneud gan atwrnai, dirprwy neu warcheidwad, gallwch chi gysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) amdanyn nhw. Yna gallwn ni wirio a oes gennym yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio. Rhaid i’r penderfyniadau a wneir gan atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid wastad fod er budd pennaf yr unigolyn y maent wedi’u penodi ar eu cyfer.

Penodir atwrnai gan y rhoddwr, drwy ddefnyddio atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus (LPA neu EPA). Penodir dirprwy neu warcheidwad gan y Llys, ac mae’r unigolyn y maent yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan yn cael ei adnabod fel ‘P’.

O dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 rhaid tybio bod gan unigolyn alluedd oni bai ei fod wedi’i sefydlu nad oes ganddynt alluedd. Bydd angen i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus benderfynu a oes unrhyw dystiolaeth bod y rhoddwr neu P yn brin o alluedd nawr ac ar adeg y pryderon cyn cymryd unrhyw gamau.

Llenwch y ffurflen (yn Saesneg) hon i roi gwybod i ni am eich pryderon os yw’r canlynol i gyd yn wir:

  • rydych chi wedi cynnal eich ymholiadau diogelu cychwynnol eich hun (dim ond os ydych chi’n awdurdod cyhoeddus y mae hyn yn berthnasol)
  • rydych chi’n credu nad oes gan y rhoddwr neu P y galluedd meddyliol i ddelio â’r pryderon eu hunain
  • ceir digon o dystiolaeth i warantu ymchwiliad pellach

Ein hymchwiliad

Fel arfer, gallwn ymchwilio os:

  • nad oes gan y rhoddwr neu P y galluedd meddyliol i ddelio â’r pryderon nawr ac ar yr adeg y digwyddodd y pryderon
  • yw’r pryderon yn ymwneud ag atwrnai neu ddirprwy
  • yw’r atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig (LPA neu EPA) neu orchymyn dirprwyaeth wedi’i gwneud gan y Llys Gwarchod
  • yw’r pryderon yn ymwneud â’r math o offeryn cofrestredig neu orchymyn llys. Er enghraifft, mae’r pryderon yn rhai ariannol, ac mae gan y rhoddwr LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol

Dim ond pryderon a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod y cofrestrwyd LPA neu EPA, neu ers i ddirprwy gael ei benodi gan y Llys Gwarchod, y gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio iddyn nhw. Gallwch chi wirio a oedd un yn ei lle ar y pryd drwy ofyn am gais i chwilio’r cofrestrau.

Efallai y byddwn yn gallu ymchwilio cyn cofrestru LPA os yw eich pryderon yn ymwneud â bod yr LPA yn cael ei gwneud yn anghyfreithlon.

Dechrau nawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Mawrth 2026 show all updates
  1. A Welsh version of the digital raise a concern form has been added.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon