Cosbau ar gyfer y rhai sy’n gwirfoddoli ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Newidiadau i gosbau am gyflwyno’n hwyr a chosbau am dalu’n hwyr os ydych chi’n gwirfoddoli i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os nad ydych chi’n gwirfoddoli ac mae’n rhaid i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026, mae gwybodaeth wahanol ar gyfer cosbau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Newidiadau i gosbau
Os ydych chi’n defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd cosbau newydd yn disodli’r cosbau presennol am gyflwyno’n hwyr ac am dalu’n hwyr sy’n berthnasol i’ch Ffurflen Dreth bersonol.
Ni fydd y cosbau newydd yn berthnasol i’r Ffurflenni Treth Hunanasesiad canlynol:
-
cwmni dibreswyl (a gyflwynir ar ran y cwmni)
-
ymddiriedolaeth neu ystâd (a gyflwynir gan ymddiriedolwr)
-
partneriaeth (a gyflwynir gan bartner enwebedig)
Bydd y cosbau presennol am dalu’n hwyr ac am gyflwyno’n hwyr yn dal i fod yn berthnasol i’r Ffurflenni Treth hyn.
Nid oes unrhyw newidiadau i sut mae llog am dalu’n hwyr yn gweithio.
Pryd y bydd y cosbau newydd yn berthnasol i chi
Bydd newidiadau i gosbau am gyflwyno’n hwyr a chosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol os byddwch chi’n cofrestru’n wirfoddol i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Gallwch ddysgu a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a phryd y dylech chi wneud hynny ac yna benderfynu a ydych chi am wirfoddoli cyn i chi ei ddefnyddio.
Gallwch hefyd ddarllen rhagor am gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Bydd y cosbau presennol yn dal i fod yn berthnasol i’ch blynyddoedd treth blaenorol. Er enghraifft, os ydych chi’n gwirfoddoli i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026, bydd y cosbau presennol yn berthnasol i ddyddiad cau eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026, sef 31 Ionawr 2027.
Byddwn ni’n anfon llythyr atoch i gadarnhau pryd y bydd y cosbau newydd yn berthnasol i chi, unwaith y byddwn wedi gwirio’r ddau ganlynol:
-
rydych chi wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
-
rydym wedi symud eich cofnodion i’n llwyfan TG newydd
Ar ôl i chi gytuno i’r cosbau newydd, ni allwch fynd yn ôl at y cosbau blaenorol, hyd yn oed os byddwch chi’n rhoi’r gorau i wirfoddoli.
Sut i gytuno i’r cosbau newydd
Mae angen i chi gytuno y bydd y cosbau newydd yn berthnasol i chi pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Gofynnir hyn i chi pan fyddwch yn cofrestru.
Ni fyddwch yn gallu newid eich meddwl ar ôl i chi gytuno bod y cosbau newydd yn berthnasol i chi.
Os ydych chi’n asiant awdurdodedig, gallwch gytuno i’r cosbau newydd ar ran eich cleient. Dylech drafod hyn gyda’ch cleient cyn ei gofrestru a chytuno i’r cosbau ar ei ran.
Dyddiadau cau ar gyfer talu a chyflwyno
Mae’r cosbau newydd yn berthnasol os byddwch yn colli’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich Ffurflen Dreth neu wneud eich taliadau.
Y dyddiad cau i gyflwyno eich Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth sydd arnoch yw 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Diweddariadau chwarterol
Tra byddwch yn gwirfoddoli, ni fyddwch yn cael cosbau am golli dyddiadau cau am ddiweddariadau chwarterol.
Mae angen i chi gadw cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol cyn y gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Y dyddiadau cau ar gyfer diweddariadau chwarterol yw:
-
7 Awst
-
7 Tachwedd
-
7 Chwefror
-
7 Mai
Cosbau am gyflwyno’n hwyr
Mae’r cosbau newydd am gyflwyno’n hwyr yn seiliedig ar bwyntiau.
Ar gyfer pob Ffurflen Dreth rydych chi’n ei chyflwyno’n hwyr, byddwch yn cael pwynt cosb.
Y trothwy ar gyfer pwyntiau cosb yw 2 bwynt. Os ydych chi’n cyrraedd hyn, byddwch chi’n cael:
-
cosb o £200
-
cosb o £200 bob tro y byddwch chi’n colli dyddiad cau Ffurflen Dreth arall
Os ydych chi hefyd wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae’ch pwyntiau cosb ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar wahân i’ch pwyntiau cosb ar gyfer TAW.
Cosbau am dalu’n hwyr
Mae’r cosbau newydd am dalu’n hwyr yn cael eu cyfrifo ar sail pa mor hir y mae’n ei gymryd i chi dalu’r hyn sydd arnoch.
Mae cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol i daliadau sydd heb eu talu’n llawn, erbyn y dyddiad dyledus perthnasol. Mae hyn yn cynnwys:
-
taliad mantoli ar gyfer unrhyw swm sydd heb ei dalu ar eich bil treth
-
symiau sy’n ddyledus yn dilyn diwygiad neu asesiad o’ch Ffurflen Dreth
Nid yw cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol i unrhyw daliadau ar gyfrif a allai fod angen i chi eu gwneud.
Os ydych chi’n cael cosb am dalu’n hwyr, mae swm y gosb yn dibynnu ar ba mor hir mae’n ei gymryd i dalu’r hyn sydd arnoch. Po gynted y byddwch chi’n talu’r swm sy’n hwyr, y lleiaf fydd swm y gosb.
Nid yw’r cosbau hyn yn seiliedig ar bwyntiau a byddan nhw’n berthnasol i bob taliad hwyr.
Byddwn yn codi llog am dalu’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) o’r diwrnod cyntaf y mae’ch taliad yn hwyr, hyd nes y byddwch wedi talu’n llawn.
Pryd y bydd cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol
Yn eich blwyddyn gyntaf o gosbau newydd, mae gennych 30 diwrnod o’r dyddiad talu er mwyn:
-
gwneud taliad llawn
-
cysylltu â CThEF i drefnu cynllun talu
Ar ôl 30 diwrnod, byddwn ni’n dechrau codi cosbau. Ar ôl eich blwyddyn gyntaf, mae hyn yn gostwng i 15 diwrnod.
Dim ond unwaith y byddwch chi’n cael y cyfnod o 30 diwrnod — os bydd rhaid i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ddiweddarach, byddwch chi’n dal i gael 15 diwrnod.
Mae’r tabl canlynol yn dangos sut y bydd cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol, yn dibynnu ar y flwyddyn dreth y mae’r taliad ar ei chyfer.
| Cosbau ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 | Cosbau ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 | |
|---|---|---|
| Taliad hyd at 15 diwrnod yn hwyr | Dim cosb | Dim cosb |
| Taliad 16 i 30 diwrnod yn hwyr | Dim cosb | 3% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15, neu dim cosb os mai dyma’ch blwyddyn gyntaf |
| Taliad 31 diwrnod neu fwy yn hwyr | 2% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15, a 2% o’r hyn sydd arnoch o hyd ar ddiwrnod 30 Hefyd, cyfradd flynyddol o 4% y flwyddyn ar y swm sydd heb ei dalu, a godir yn ddyddiol o ddiwrnod 31 hyd nes y bydd y dreth yn cael ei thalu, neu am hyd at 2 flynedd |
3% o’r dreth sydd arnoch ar ddiwrnod 15, a 3% o’r hyn sydd arnoch o hyd ar ddiwrnod 30 Hefyd, cyfradd flynyddol o 10% y flwyddyn ar y swm sydd heb ei dalu, a godir yn ddyddiol o ddiwrnod 31 hyd nes y bydd y dreth yn cael ei thalu, neu am hyd at 2 flynedd |
Os na allwch dalu mewn pryd
Cysylltwch â CThEF cyn gynted â phosibl os ydych yn cael trafferth i dalu eich Treth Incwm erbyn y dyddiad cau.
Gallwch osgoi cosbau drwy gysylltu â CThEF cyn gynted â phosibl i drafod a allwch drefnu cynllun talu a thalu fesul rhandaliad.
Os cytunir ar gynllun talu ac rydych chi’n gwneud y taliadau, bydd cosbau yn cael eu rhewi o’r dyddiad y byddwch chi’n cysylltu â ni.
Efallai y codir cosb arnoch os:
-
nad oes modd cytuno ar gynllun talu
-
nad ydych chi’n dilyn y cynllun y cytunwyd arno
Dileu pwyntiau cosb a chosbau
Os oes gennych 1 pwynt, byddwn yn ei ddileu’n awtomatig 24 mis ar ôl y dyddiad cau a gollwyd.
Os byddwch chi’n cyrraedd y trothwy 2 bwynt, ni fydd pwyntiau unigol yn cael eu dileu’n awtomatig. Yn lle hynny, bydd angen i chi fodloni 2 amod i ddileu’ch holl bwyntiau cosb.
I ddileu’ch holl bwyntiau cosb mae angen:
-
cyflwyno’ch 2 Ffurflen Dreth nesaf mewn pryd
-
cyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth sydd heb eu hanfon ar gyfer y 24 mis blaenorol
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF i weld y dyddiad y bydd eich pwyntiau’n cael eu dileu.
Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, fel ansolfedd, gall CThEF ganslo cosb neu bwynt cosb, neu ddileu’r holl bwyntiau cosb.
Gwneud apêl
Byddwn yn anfon llythyr atoch os byddwch yn cael un o’r canlynol:
-
cosb am dalu’n hwyr
-
pwynt cosb am gyflwyno’n hwyr
-
cosb o £200 am gyflwyno’n hwyr
Os nad ydych chi’n cytuno â’r pwynt cosb neu’r gosb, gallwch apelio. Bydd eich llythyr yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Os oes rhaid i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn y Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ddiweddarach
Ar gyfer blwyddyn dreth 2027 i 2028 ymlaen, mae gwahaniaethau i gosbau am gyflwyno’n hwyr os bydd yn rhaid i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Y rhain yw:
-
bydd cosbau am gyflwyno’n hwyr yn berthnasol os byddwch chi’n colli dyddiadau cau diweddaru chwarterol
-
bydd trothwy’ch pwyntiau cosb yn cynyddu o 2 bwynt i 4 pwynt
Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch yn gwirfoddoli ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, ond yna bod disgwyl i chi ddefnyddio’r gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 06 Ebrill 2027. O 6 Ebrill 2027 ymlaen, bydd eich trothwy pwyntiau cosb yn cynyddu i 4 pwynt a chewch bwynt cosb os byddwch chi’n anfon diweddariad chwarterol yn hwyr.
Os oes eisoes gennych bwynt cosb
Os oes eisoes gennych bwynt cosb pan fydd trothwy’ch pwyntiau yn newid o 2 i 4, bydd eich pwyntiau yn cynyddu 2 (o 1 pwynt i 3 phwynt). Mae hyn yn golygu eich bod yn dal i fod 1 pwynt i ffwrdd o’ch trothwy newydd.
Updates to this page
-
The guidance has been updated to include a link to new guidance about penalties for those required to use Making Tax Digital for Income Tax. The guidance also confirms there is no penalty for the 2024 to 2025 tax year if payment is 16 to 30 days late. It further explains how to check when penalty points will be removed. If you get a penalty, the letter you receive will explain how to appeal if you disagree.
-
Guidance has been updated to clarify how penalty points work if you stop volunteering and when late payment penalties apply.
-
Information has been updated to confirm that you must agree to the new penalties when you sign up and you will be asked in the service if you agree. Information about late submission penalties has been updated to clarify that it is a points-based system and that when you reach a penalty points threshold, you’ll get a financial penalty. Section 'How late submission penalties work' has been updated to confirm the information is for volunteers. A new section about what happens when you stop volunteering has been added. Information about payment penalties for the 2025 to 2026 tax year onwards has been added. Section 'If you cannot pay on time' has been updated to confirm that the appeals process for Making Tax Digital for Income Tax is the same as Self Assessment.
-
First published.