Talu’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl
Dysgwch a fydd angen i chi ad-dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf neu’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn, a sut y bydd CThEF yn ei gasglu.
Os byddwch yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf (Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn (yn agor tudalen Saesneg) yw’r enw ar hyn yn yr Alban), efallai y bydd CThEF yn cymryd y taliad yn ôl yn dibynnu ar eich incwm personol.
Gwyliwch fideo trosolwg am y Taliad Tanwydd Gaeaf a’r Taliad Gwresogi Gaeaf Oedran Pensiwn.
Gwirio a fydd CThEF yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl
Os yw cyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yn:
- £35,000 neu lai — byddwch yn cadw eich taliad
- mwy na £35,000 — bydd CThEF yn cymryd eich taliad yn ôl
Os ydych yn byw mewn tŷ gyda rhywun arall sydd hefyd wedi cael taliad, byddwn yn edrych ar incwm personol pob unigolyn ar wahân. Er enghraifft, os yw’ch incwm yn £36,000 ac incwm eich partner yn £22,000, byddwn yn cymryd eich taliad yn ôl, ond bydd eich partner yn cadw ei daliad.
Defnyddiwch yr offeryn hwn ar-lein i gyfrifo cyfanswm eich incwm personol a gwirio a fyddwn yn cymryd y taliad yn ôl ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026).
I ddefnyddio’r offeryn hwn, bydd angen i chi fod â chyfanswm yr incwm rydych yn disgwyl ei gael yn y flwyddyn dreth wrth law, cyn unrhyw ddidyniadau. Enw arall ar hyn yw’r ‘swm gros’.
Dylech gynnwys unrhyw incwm personol rydych chi’n ei gael o un o’r ffynonellau canlynol:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- pensiynau cwmni a phensiynau personol
- arian rydych yn ei ennill o gyflogaeth
- llog o gynilion
- difidendau o gyfranddaliadau cwmni
- incwm o ymddiriedolaeth
- unrhyw Fudd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n drethadwy
Hefyd, bydd yn rhaid i chi gynnwys unrhyw elw net o’r canlynol:
- hunangyflogaeth
- elw net o incwm rhent (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn rhoi eiddo ar osod
Os oes gennych incwm o ffynhonnell rydych chi’n ei rhannu, er enghraifft llog o gyfrif cynilo ar y cyd, dim ond eich cyfran chi o’r incwm dylech ei gynnwys.
Sut y bydd CThEF yn adennill eich taliad drwy eich cod treth
Bydd angen i chi aros i ni gymryd y taliad yn ôl, ni allwch ei dalu yn ôl yn gynt.
Byddwn yn cymryd eich taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 drwy newid eich cod treth ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Byddwch felly yn talu mwy o dreth bob mis i ad-dalu’r taliad llawn a gawsoch ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026.
Er enghraifft, pe bai taliad yn £200, byddwch yn talu tua £17 o dreth yn ychwanegol bob mis.
Ym mis Ebrill 2026, byddwch yn cael llythyr neu hysbysiad e-bost i roi gwybod i chi ein bod wedi newid eich cod treth i gymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôl. Bydd hyn yn dangos fel tandaliad.
Unwaith i ni gadarnhau eich incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, byddwn yn gwirio a oes yn dal i fod angen i chi ad-dalu’r swm hwn.
Os nad oedd modd i ni gasglu’r swm llawn sy’n ddyledus yn ystod y flwyddyn dreth drwy’ch cod treth, byddwn yn anfon cyfrifiad treth atoch.
Os ydych yn drethdalwr yn yr Alban, bydd symiau gwanhaol yn cael eu didynnu yn seiliedig ar gyfraddau treth yr Alban (yn agor tudalen Saesneg).
Enghraifft o sut y byddwn yn cyfrifo’ch cod treth os ydych yn drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol
Cyfanswm eich incwm yw £37,710. Mae hyn yn cynnwys £25,737 o bensiwn preifat a £11,973 o’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Ym mis Rhagfyr, cawsoch Daliad Tanwydd y Gaeaf o £200.
Eich Lwfans Personol yw £12,570. Rydym wedi gostwng eich swm sy’n rhydd o dreth gan:
-
£11,973 (eich Pensiwn y Wladwriaeth)
-
1,000 (1,000 × 20% = y £200 o Daliad Tanwydd y Gaeaf y mae angen i chi ei ad-dalu)
Dyma gyfanswm eich didyniadau.
£12,570 (Lwfans Personol) – £12,973 (cyfanswm a ddidynnwyd) = –£403 o Lwfans rhydd o dreth.
Eich cod treth newydd yw K39.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu treth ychwanegol ar £399 o incwm. Byddwch yn talu tua £17 yn fwy o dreth y mis.
Enghraifft o sut y byddwn yn cyfrifo’ch cod treth os ydych yn drethdalwr ar y gyfradd uwch
Cyfanswm eich incwm yw £65,300. Mae hyn yn cynnwys £53,327 o bensiwn preifat a £11,973 o’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Ym mis Rhagfyr, cawsoch Daliad Tanwydd y Gaeaf o £200.
Eich Lwfans Personol yw £12,570. Rydym wedi gostwng eich swm sy’n rhydd o dreth gan:
-
£11,973 (eich Pensiwn y Wladwriaeth)
-
500 (500 × 40% = y £200 o Daliad Tanwydd y Gaeaf y mae angen i chi ei ad-dalu)
Dyma gyfanswm eich didyniadau.
£12,570 (Lwfans Personol) - £12,473 (cyfanswm a ddidynnwyd) = £97 o Lwfans rhydd o dreth.
Eich cod treth newydd yw 9L.
Os byddwch yn cael taliadau yn ystod blynyddoedd treth 2026 i 2027 a 2027 i 2028
Oni bai eich bod yn optio allan o gael y taliad (yn agor tudalen Saesneg), byddwn yn casglu’ch taliadau ar gyfer y 2 flwyddyn dreth drwy newid eich cod treth ar gyfer blwyddyn dreth 2027 i 2028.
Er enghraifft, os cewch chi daliad o £200 ym mhob un o’r blynyddoedd treth, byddwn yn didynnu tua £33 o dreth yn ychwanegol bob mis yn ystod blwyddyn dreth 2027 i 2028.
Os byddwch yn cael taliad ar gyfer blwyddyn dreth 2028 i 2029 neu du hwnt i’r flwyddyn honno
Byddwn yn casglu’ch taliad drwy addasu’ch cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth pan fyddwch yn cael y taliad.
Ad-dalu eich taliad os ydych mewn Hunanasesiad
Byddwch yn talu’r taliad yn ôl drwy eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad arferol, ni allwch ei dalu yn ôl yn gynt.
Bydd angen i chi gynnwys eich taliad yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer pob blwyddyn dreth o flwyddyn dreth 2025 i 2026 ymlaen.
Os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein, byddwn yn cynnwys swm eich taliad fel tâl treth yn awtomatig lle bo hynny’n bosibl. Bydd yn ymddangos ar eich Ffurflen Dreth 2025 i 2026, fel y Taliad Tanwydd Gaeaf i’w dalu yn ôl.
Dylech wirio bod eich taliad yn dangos ar eich Ffurflen Dreth ar-lein yn awtomatig, a’i gynnwys os nad yw’n dangos felly.
Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar bapur, bydd angen i chi ychwanegu’r taliad at eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026.
Byddwch wedyn yn talu’r taliad yn ôl drwy’ch bil treth Hunanasesiad yn ystod y flwyddyn dreth pan fyddwch yn cael y taliad, oni bai eich bod yn optio allan o gael y taliad.
Updates to this page
-
An example of how we’ll work out your tax code if you’re a higher rate taxpayer has been added. Information about deductions for Scottish taxpayers has also been added.
-
Welsh translation added.
-
An example of how we'll work out your tax code to collect back your Winter Fuel Payment has been added. The 'Check if HMRC will take back your Winter Payment' tool has also been updated to include the 2026 to 2027 tax year.
-
Information about when you'll get a letter or an email notification to tell you that we’ve changed your tax code to take back your Winter Fuel Payment has been added.
-
Added translation