Rhoi gwybod am Doll Ecséis ar fiodanwyddau ac amnewidion tanwydd eraill (HO930)
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein os ydych chi’n cynhyrchu, defnyddio neu neilltuo mwy na 2,500 litr o fiodanwydd y flwyddyn.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am y biodanwydd a’r amnewidiadau tanwydd eraill rydych chi wedi’u defnyddio neu wedi’u neilltuo (yn agor tudalen Saesneg):
- fel tanwydd ar gyfer unrhyw injan, modur neu beiriannau eraill
- fel ychwanegyn neu estynnydd mewn unrhyw sylwedd a ddefnyddir fel tanwydd
- ar gyfer cynhyrchu biogyfuniad neu gymysgedd bioethanol
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi fewngofnodi i roi gwybod am y Doll Ecséis. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen:
- eich cyfeirnod unigryw a chod post eich busnes cofrestredig
- manylion eich cyfeiriad busnes a’ch cod post
- dyddiadau dechrau a dod i ben eich hawliad
Bydd angen i chi hefyd nodi’r canlynol:
- faint o fiodanwydd, yr amnewidyn tanwydd neu’r ychwanegyn tanwydd y mae angen i chi dalu toll arno
- swm y doll sydd arnoch
Cyflwyno’ch datganiad ar-lein
Cyflwyno’ch datganiad drwy’r post
I roi gwybod am Doll Ecséis drwy’r post, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
Casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.
-
Argraffu’r ffurflen a’i hanfon drwy’r post i CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).