Canllawiau

Sut i gyfrifo’ch cyfraddau o Doll Alcohol os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach

Y ffigurau sydd eu hangen arnoch, a sut i’w defnyddio i gyfrifo’ch cyfraddau tollau gostyngedig.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi wirio’r canlynol:

  • a ydych yn gymwys i gael Rhyddhad i Gynhyrchydd Bach (SPR)
  • pob un cynnyrch y gallwch dalu llai o doll arno
  • sut i gyfrifo’ch cynhyrchiad blynyddol o alcohol

Gallwch wirio a ydych chi, fel cynhyrchydd bach, yn gymwys i dalu llai o Doll Alcohol.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

I gyfrifo’ch cyfraddau tollau, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Cyfrifwch eich cynhyrchiad blynyddol o alcohol pur, mewn hectolitrau, ar gyfer eich holl gynhyrchion.

  2. Gwiriwch ba gategorïau a thablau chwilio sy’n berthnasol i’ch cynhyrchion.

  3. Dilynwch y camau i gyfrifo’ch swm gostyngedig ar gyfer pob categori o gynnyrch.

  4. Tynnwch y swm gostyngedig o’r gyfradd lawn o Doll Alcohol er mwyn cyfrifo’ch cyfradd i gynhyrchydd bach ar gyfer pob categori.

Eich ffigur blynyddol o ran cynhyrchiad alcohol

Dyma gyfanswm yr alcohol pur, mewn hectolitrau, ar gyfer yr holl gynhyrchion rydych:

  • wedi’u cynhyrchu ar eich safle yn ystod y flwyddyn gynhyrchu flaenorol
  • wedi’u hamcangyfrif y byddwch yn eu cynhyrchu ar eich safle yn ystod y flwyddyn gynhyrchu bresennol, os ydych chi’n fusnes newydd

Categorïau cynhyrchion a thablau chwilio

Mae gostyngiadau gwahanol ar gael i chi, fel cynhyrchydd bach, yn dibynnu ar y canlynol:

  • y math o gynnyrch rydych yn ei wneud
  • a yw’ch cynnyrch yn cael ei werthu o’r gasgen
  • sawl hectolitr o alcohol pur rydych yn ei gynhyrchu’n flynyddol

Bydd angen i chi ddefnyddio’r ffigurau yn y tablau chwilio (sydd ar gael yn yr arweiniad hwn) er mwyn cyfrifo’ch toll ostyngedig.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach (SPR) i gyfrifo cyfraddau SPR am flynyddoedd cyn 1 Chwefror 2026.

Mae’ch cymhwystra ar gyfer band gostyngiad yn dibynnu ar gyfanswm yr hyn rydych yn ei gynhyrchu, a hynny ar draws eich holl gynhyrchion. Mae’n rhaid i swm yr hyn rydych wedi’i gynhyrchu fod rhwng pwynt isaf a phwynt uchaf y band.

Tablau chwilio o 1 Chwefror 2026 ymlaen

Cynhyrchion alcoholaidd (oni bai am wirodydd) sydd ag ABV o dan 3.5% (nad ydynt yn dod o’r gasgen)

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 9.96 0.00
2 o 5 i 50 2.53 49.80
3 o 50 i 100 1.52 163.74
4 o 100 i 200 0.51 239.71
5 o 200 i 600 0.00 290.35
6 o 600 i 1,000 0.00 290.35
7 o 1,000 i 4,500 -0.08 290.35

Cynhyrchion alcoholaidd o’r gasgen (oni bai am wirodydd) sydd ag ABV o dan 3.5%

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 8.58 0.00
2 o 5 i 50 2.18 42.90
3 o 50 i 100 1.31 141.06
4 o 100 i 200 0.44 206.50
5 o 200 i 600 0.00 250.12
6 o 600 i 1,000 0.00 250.12
7 o 1,000 i 4,500 -0.07 250.12

Gwirodydd sydd ag ABV o dan 3.5% (nid yw’n dod o’r gasgen)

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 6.58 0.00
2 o 5 i 50 2.53 32.92
3 o 50 i 100 1.52 146.86
4 o 100 i 200 0.51 222.82
5 o 200 i 600 0.00 273.47
6 o 600 i 1,000 0.00 273.47
7 o 1,000 i 4,500 -0.08 273.47

Gwirodydd o’r gasgen sydd ag ABV o dan 3.5%

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 5.67 0.00
2 o 5 i 50 2.18 28.36
3 o 50 i 100 1.31 126.51
4 o 100 i 200 0.44 191.95
5 o 200 i 600 0.00 235.58
6 o 600 i 1,000 0.00 235.58
7 o 1,000 i 4,500 -0.07 235.58

Cwrw sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5% (nad yw’n dod o’r gasgen)

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 20.67 0.00
2 o 5 i 112.5 11.48 103.34
3 o 112.5 i 225 10.33 1,337.72
4 o 225 i 450 5.74 2,500.33
5 o 450 i 900 3.44 3,792.12
6 o 900 i 1,350 0.00 5,342.27
7 o 1,350 i 4,500 -1.70 5,342.27

Cwrw o’r gasgen sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5%

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 17.80 0.00
2 o 5 i 112.5 9.89 89.02
3 o 112.5 i 225 8.90 1,152.29
4 o 225 i 450 4.95 2,153.74
5 o 450 i 900 2.97 3,266.46
6 o 900 i 1,350 0.00 4,601.73
7 o 1,350 i 4,500 -1.46 4,601.73

Seidr llonydd sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5%, a seidr pefriog sydd ag ABV rhwng 3.5% a 5.5% (nad ydynt yn dod o’r gasgen)

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 10.39 0.00
2 o 5 i 50 2.64 51.95
3 o 50 i 100 1.59 170.87
4 o 100 i 200 0.53 250.15
5 o 200 i 600 0.00 303.00
6 o 600 i 1,000 0.00 303.00
7 o 1,000 i 4,500 -0.09 303.00

Seidr llonydd o’r gasgen sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5%, seidr pefriog o’r gasgen sydd ag ABV rhwng 3.5% a 5.5%

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 8.95 0.00
2 o 5 i 50 2.28 44.75
3 o 50 i 100 1.37 147.19
4 o 100 i 200 0.46 215.48
5 o 200 i 600 0.00 261.01
6 o 600 i 1,000 0.00 261.01
7 o 1,000 i 4,500 -0.07 261.01

Gwin a chynhyrchion eplesedig eraill sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5% a seidr pefriog sydd ag ABV dros 5.5% (nad ydynt yn dod o’r gasgen)

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 26.61 0.00
2 o 5 i 50 2.71 133.05
3 o 50 i 100 2.71 254.84
4 o 100 i 200 1.35 390.16
5 o 200 i 600 0.00 525.48
6 o 600 i 1,000 0.00 525.48
7 o 1,000 i 4,500 -0.15 525.48

Gwin o’r gasgen a chynhyrchion eplesedig eraill sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5% a seidr pefriog o’r gasgen sydd ag ABV dros 5.5%

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 19.45 0.00
2 o 5 i 50 1.98 97.25
3 o 50 i 100 1.98 186.27
4 o 100 i 200 0.99 285.18
5 o 200 i 600 0.00 384.09
6 o 600 i 1,000 0.00 384.09
7 o 1,000 i 4,500 -0.11 384.09

Gwirodydd sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5% (nad ydynt yn dod o’r gasgen)

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 21.65 0.00
2 o 5 i 50 2.71 108.26
3 o 50 i 100 2.71 230.04
4 o 100 i 200 1.35 365.36
5 o 200 i 600 0.00 500.68
6 o 600 i 1,000 0.00 500.68
7 o 1,000 i 4,500 -0.14 500.68

Gwirodydd o’r gasgen sydd ag ABV o 3.5% i lai na 8.5%

Band Trothwyon y band mewn hectolitrau Gostyngiad ffiniol mewn £ (punnoedd) Gostyngiad cronnus mewn £ (punnoedd)
1 o 0 i 5 15.83 0.00
2 o 5 i 50 1.98 79.13
3 o 50 i 100 1.98 168.15
4 o 100 i 200 0.99 267.05
5 o 200 i 600 0.00 365.96
6 o 600 i 1,000 0.00 365.96
7 o 1,000 i 4,500 -0.10 365.96

Sut i gyfrifo’ch toll ostyngedig

  1. Cyfrifwch gyfanswm eich cynhyrchiad blynyddol o alcohol mewn hectolitrau.

  2. Dewch o hyd i’r tabl chwilio ar gyfer categori eich cynnyrch.

  3. Penderfynwch ba fand gostyngiad sy’n berthnasol, yn seiliedig ar swm yr hyn rydych wedi’i gynhyrchu.

  4. Tynnwch bwynt isaf trothwy y band o swm yr hyn rydych wedi’i gynhyrchu.

  5. Lluoswch y ffigur hwnnw â gostyngiad ffiniol y band.

  6. Adiwch y ffigur hwnnw a gostyngiad cronnus y band.

  7. Rhannwch y ffigur hwnnw â swm yr hyn rydych wedi’i gynhyrchu.

Y ffigur hwn fydd eich toll ostyngedig, mewn £ (punnoedd), fesul litr o alcohol pur. Dyma’r swm a fydd yn cael ei dynnu o’r gyfradd lawn o Doll Alcohol ar gyfer y cynnyrch hwn.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r gyfradd SPR o’r adeg pan oeddech wedi cynhyrchu’r cynnyrch, yn hytrach na’r gyfradd sydd mewn grym pan fydd y cynnyrch yn pasio’r pwynt codi toll. Mae hyn yn dal i fod yn wir hyd yn oed os yw’r cynnyrch yn pasio’r pwynt tollau mewn blwyddyn gynhyrchu wahanol i’r un pan gafodd ei gynhyrchu.

Er enghraifft, caiff cynnyrch Cwmni A ei gynhyrchu ar 15 Ionawr a bydd y gyfradd SPR ar gyfer y flwyddyn honno (sef £10.00) yn berthnasol. Mae’n pasio’r pwynt tollau ar 7 Chwefror, yn ystod y flwyddyn gynhyrchu nesaf, pan fydd cyfradd SPR Cwmni A wedi cynyddu i £15.00. Y gyfradd SPR y bydd Cwmni A yn ei thalu wrth y pwynt tollau ar gyfer y cynnyrch yw’r gyfradd a oedd yn berthnasol ar 15 Ionawr (£10.00).

Sut i gyfrifo’ch cyfradd is o Doll Alcohol

Tynnwch swm eich toll ostyngedig o’r gyfradd lawn o Doll Alcohol. 

Mae cyfraddau gwahanol o Doll Alcohol ar gyfer:

Enghraifft o sut i gyfrifo gostyngiad a chyfradd Doll Alcohol

Rhwng 1 Chwefror hyd at a chan gynnwys 31 Ionawr, gwnaethoch gynhyrchu 105 hectolitr o alcohol pur, a hynny ar draws eich holl gynhyrchion.

Un o’r cynhyrchion rydych yn ei gynhyrchu yw cwrw o’r gasgen ag ABV o 3.4%.

Mae’n rhaid i chi gyfeirio at y tabl chwilio ar gyfer ‘cynhyrchion alcoholaidd (oni bai am wirodydd) sydd ag ABV sy’n llai na 3.5%’.

Gan fod swm blynyddol yr hyn rydych wedi’i gynhyrchu yn 105 hectolitr, mae hyn yn golygu eich bod yn dod o dan fand gostyngiad 4. 

Pwynt isaf trothwy band 4 yw 100 hectolitr.

Eich gostyngiad ffiniol yw 44 ceiniog. Eich gostyngiad cronnus yw £206.50.

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Tynnwch bwynt isaf y trothwy o swm yr hyn rydych wedi’i gynhyrchu .

    105 – 100 = 5

  2. Lluoswch eich ateb â’r gostyngiad ffiniol.

    5 × 44 ceiniog = £2.20

  3. Adiwch eich ateb a’r gostyngiad cronnus.

    £2.20 + 206.50 = 208.70

  4. Rhannwch eich ateb â swm yr hyn rydych wedi’i gynhyrchu.

    208.70 ÷ 105 = 1.99 (wedi’i dalgrynnu i fyny i’r geiniog agosaf)

Eich gostyngiad ar y gyfradd safonol yw £1.99 ar gyfer pob litr o alcohol pur.

Y gyfradd lawn o Doll Alcohol yw £8.58 ar gyfer pob litr o alcohol pur sydd yn eich cwrw o’r gasgen gydag ABV o 3.4%.

Eich cyfradd i gynhyrchydd bach ar gyfer y cynnyrch hwn yw £8.58 – £1.99 = £6.59 ar gyfer pob litr o alcohol pur.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Chwefror 2026 show all updates
  1. Alcohol Duty rates have been updated from 1 February 2026.

  2. Lookup tables for alcoholic products from 1 February 2025 have been updated. A link to an Alcohol Duty rates calculator has been added.

  3. Information has been added to the steps to work out your duty discount section, to confirm you must apply the Small Producer Relief (SPR) rate from the time the product has been produced and not when the product passes the duty point.

  4. Added translation

Argraffu'r dudalen hon