Canllawiau

Sut i wneud cwyn i Gofrestrfa Tir EF

Rydym yn gwerthfawrogi cwynion ac yn defnyddio’r wybodaeth ynddynt i’n helpu i wella’n gwasanaethau. Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le neu os ydych yn anfodlon â’n gwasanaethau, dywedwch wrthym. Rydym yn croesawu’r cyfle i unioni pethau lle bynnag y gallwn.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sut i gwyno

Llenwch y ffurflen gwyno ar-lein (insert link) neu os yw’n well gennych, gallwch ein ffonio a bydd un o’n harbenigwyr o’r tîm Cymorth i Gwsmeriaid yn hapus i helpu.

Trwy ffurflen ar-lein

Wrth lenwi’r ffurflen gwyno ar-lein, rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch i’n helpu i ymchwilio i’ch cwyn. Er enghraifft:

  • rhif teitl  

  • cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo

  • unrhyw gyfeirnod gan Gofrestrfa Tir EF  

  • unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth sy’n ymwneud â’ch cwyn

*Sylwer: Nid ydym yn derbyn ffeiliau sip na ffeiliau sy’n fwy na 50MB.

Dros y ffôn

Lle bynnag bo modd, bydd ein harbenigwyr cymorth i gwsmeriaid yn ceisio datrys eich pryderon dros y ffôn ond os bydd angen inni ymchwilio ymhellach ichi, byddwn yn trosglwyddo’ch cwyn i’r tîm Cwynion Cwsmeriaid.

Mae ein llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4.30pm.

Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411

Yr hyn fydd yn digwydd nesaf

Byddwn bob amser yn ceisio delio â’ch cwyn yn gyflym, ond os yw’n amlwg y bydd angen ymchwilio’n fanwl i’r mater, byddwn yn dweud wrthych ac yn cysylltu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd.

Sut byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth gyswllt a roddwch inni i ddiweddaru ac ymateb i’ch cwyn. Efallai byddwn yn ei defnyddio hefyd i ofyn am ragor o wybodaeth i’n helpu i ddatrys eich cwyn.

Bydd eich gwybodaeth gyswllt, eich cwyn a’r holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r gŵyn yn cael eu storio yn ein system cofnodion cwynion cwsmeriaid am 7 mlynedd.

Gallwch ddysgu rhagor yn ein siarter gwybodaeth bersonol.

I gael gwybodaeth am sut y byddwn yn ymdrin â’ch cwyn, darllenwch ein gweithdrefn gwyno.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Mawrth 2026 show all updates
  1. Added translation

  2. Added in clarification of file sizes and types we accept.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon