Canllawiau

Llenwi eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol

Sut i roi gwybod am eich incwm a hawlio rhyddhadau treth ac unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi drwy ddefnyddio Ffurflen Dreth SA100, ar gyfer 6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026.

Cyflwyno ar-lein

Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein — mae 97% o bobl yn cyflwyno ar-lein eisoes.

 Os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein:

  • mae’n haws gwneud diwygiadau, ac yn fwy diogel

  • bydd gennych 3 mis yn ychwanegol i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

  • does dim rhaid i chi ei llenwi i gyd ar yr un adeg — os dymunwch gallwch gadw’ch manylion a chwblhau’r ffurflen yn nes ymlaen

Sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth

Dewch o hyd i arweiniad i’ch helpu i ddeall ac i lenwi’r adrannau yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r nodiadau arweiniad i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth.

Sut i gwblhau eich Ffurflen Dreth (2026)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cael gafael ar dudalennau atodol

Mae’n bosibl bydd angen i chi gwblhau ffurflenni ychwanegol, a’u hanfon atom gyda’ch Ffurflen Dreth SA100. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel tudalennau atodol.

Mae tudalennau atodol os ydych yn un o’r canlynol:

Hefyd, mae tudalennau atodol os ydych eisiau cofnodi’r canlynol:

Os byddwch yn llenwi Ffurflen Dreth bapur

Bydd yn rhaid i chi bostio’ch Ffurflen Dreth bapur wedi’i llenwi i CThEF.

Os ydych yn byw yn y DU, anfonwch hi i:

Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Os ydych yn byw y tu allan i’r DU, anfonwch hi i:

Cyllid a Thollau EF / HM Revenue & Customs
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Mae’n rhaid i CThEF gael eich Ffurflen Dreth bapur erbyn y dyddiad cau.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ar bapur, anfonwch eich Ffurflen Dreth ar-lein yn lle hynny i osgoi cael cosb.

SA100 Ffurflen Dreth (2026)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2026 show all updates
  1. The SA100 tax return (2026) form and notes to support completion have been added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon