Canllawiau

Sut y caiff llog ei gyfrifo – Cynllun 2

Cael gwybod sut y caiff llog ei gyfrifo a’i ychwanegu os oes gennych fenthyciad myfyrwyr Cynllun 2, a chael gwybod am gyfraddau llog blaenorol.

Cyfraddau llog blynyddol

Gosodwyd y gyfradd llog ar 1 Medi gan ddefnyddio’r ffigwr Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) o’r mis Mawrth blaenorol.

Ni all y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr newid cyfraddau llog. Mae cyfraddau llog yn cael eu gosod gan Lywodraeth y DU a’u cadarnhau gan yr Adran Addysg.

Sut mae llog yn cael ei gymhwyso

Rydym yn ychwanegu llog at eich balans bob mis o’r diwrnod rydym yn gwneud eich taliad cyntaf i chi, neu i’ch prifysgol neu goleg.

Mae swm y llog a godir arnoch yn ystod eich cyfnod astudio yn gyfradd llog a bennwyd o’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) plws 3%.

Byddwn yn parhau i ychwanegu llog ar ôl i chi adael neu orffen eich cwrs ond bydd y swm llog a godir arnoch bellach yn Gyfradd Llog Amrywiol (VIR) yn seiliedig ar eich incwm blynyddol. Y VIR hwn yw’r RPI plws hyd at 3% (RPI+3%)

Byddwn yn parhau i godi llog arnoch nes bydd eich benthyciad wedi ei ad-dalu’n llawn neu wedi ei ddiddymu neu ei ganslo.

Os ydych yn gyflogedig (PAYE)

Rydym yn ychwanegu llog at eich benthyciad bob mis. Yn ystod y flwyddyn dreth, Ebrill i Fawrth, rydym yn cymhwyso’r gyfradd llog RPI yn unig. Mae hyn oherwydd nad ydym eto’n gwybod eich cyfanswm incwm blynyddol. Rydym angen gwybod eich cyfanswm incwm blynyddol i wirio a ddylid codi’r gyfradd VIR arnoch sef yr RPI plws hyd at 3%.  

Rydym yn cael eich manylion incwm gan CThEF ar ôl diwedd pob blwyddyn dreth. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wirio’r llog rydym wedi ei godi ac yn addasu eich balans os oes angen.

Os ydych yn hunangyflogedig neu’n cwblhau ffurflen dreth Hunan-asesu am reswm arall

Rydym yn defnyddio’r incwm rydych yn ei nodi ar eich ffurflen dreth Hunan-asesu i gyfrifo eich cyfradd llog. Rydym yn cael y wybodaeth hon gan CThEF ar ôl y dyddiad cau Hunan-asesu. 

Y llog ar raddfa’r RPI yn unig y byddwn yn ei godi nes byddwn yn cael y wybodaeth hon. Mae hyn oherwydd nad ydym eto’n gwybod eich cyfanswm incwm blynyddol. Rydym angen gwybod eich cyfanswm incwm blynyddol i wirio a ddylid codi’r gyfradd VIR arnoch sef yr RPI plws hyd at 3%.  

Ar ôl cael eich manylion incwm gan CThEF, byddwn yn:

  • cyfrifo eich VIR yn seiliedig ar eich cyfanswm incwm
  • diweddaru eich cyfradd llog
  • addasu eich balans os oes ei angen

Os ydych yn rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig a’ch bod yn gyflogedig yn unig, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth incwm rydym yn ei chael drwy PAYE yn hytrach.

Os ydych yn ddi-waith

Byddwn yn cymhwyso’r gyfradd llog RPI bob mis tra’r ydych yn ddi-waith.

Os ydych yn dod yn gyflogedig yn ystod y flwyddyn, byddwn yn gwirio eich cyfanswm incwm blynyddol o’r manylion a roddir i ni gan CThEF ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wirio’r llog rydym wedi ei godi ac yn addasu eich balans os oes angen.

Os nad ydym yn gwybod eich cyfanswm incwm blynyddol

Byddwn yn cymhwyso’r gyfradd llog RPI nes ein bod yn cael y wybodaeth hon.

Pan fyddwn yn cael eich manylion incwm gan CThEF, byddwn yn gwirio’r llog rydym wedi ei godi ac yn addasu eich balans os oes angen.

Os ydych yn gyflogedig dramor

Mae’r trothwyon ad-dalu yn wahanol os ydych yn byw dramor.

Byddwn yn gofyn am fanylion eich incwm blynyddol gros fel rhan o’ch asesiad tramor.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i:

  • gyfrifo eich swm ad-daliad misol
  • cyfrifo eich cyfradd llog

Bydd y gyfradd llog rydym yn ei chodi yn seiliedig ar y wybodaeth incwm rydych yn ei rhoi i ni ar gyfer eich asesiad tramor.

Bydd y gyfradd llog hon yn berthnasol dros gyfnod eich asesiad tramor. Byddwn yn ei ail-asesu pan fyddwch yn diweddaru eich manylion.

Byddwn yn codi’r gyfradd llog uchaf arnoch os na fyddwch yn cadw eich manylion cyflogaeth yn gyfredol tra’r ydych dramor.

Os byddwch yn dychwelyd i’r DU, byddwn yn cyfrifo eich llog drwy ddefnyddio proses safonol y DU, p’un a ydych yn gyflogedig, yn hunan-gyflogedig neu’n ddi-waith, o’r dyddiad y byddwch yn dychwelyd.

Sut rydym yn cyfrifo eich cyfradd llog

Ar ôl i chi adael eich cwrs, mae eich cyfradd llog yn dibynnu ar eich incwm.

Os yw eich incwm:

  • yr un fath â’r trothwy ad-dalu is, neu o dan, rydym yn codi’r RPI yn unig
  • yr un fath â’r trothwy ad-dalu uwch, neu uwchben, rydym yn codi’r RPI+3%
  • rhwng y ddau drothwy, rydym yn codi’r RPI plws hyd at 3%

I gyfrifo’r canran ychwanegol (hyd at 3%) rydym yn cyfrifo pa mor bell mae eich incwm yn eistedd rhwng y trothwyon ad-dalu is ac uwch.

Rydym wedyn yn cymhwyso’r gyfran honno i 3%.

Enghraifft

Mae eich incwm blynyddol yn £40,000.

Y trothwy ad-dalu is yw £28,400 a'r trothwy ad-dalu uwch yw £51,200

Cyfrifiad:

Cam 1. Cyfrifwch y gwahaniaeth rhwng eich incwm a'r trothwy ad-dalu is.

£40,000 (eich incwm) - £28,400 (trothwy ad-dalu is) = £11,600

Cam 2. Cyfrifwch y gwahaniaeth rhwng y ddau drothwy ad-dalu.

£51,200 (trothwy ad-dalu uwch) - £28,400 (trothwy ad-dalu is) = £22,400

Cam 3. Cyfrifwch eich Cyfradd Llog Amrywiol (VIR) drwy rannu eich ateb o gam 1 gyda'ch ateb o gam 2 a lluoswch y swm hwnnw gyda 3

£11,600 (ateb o gam 1) ÷ £22,400 (ateb o gam 2) = 0.517

0.517 x 3 (canran ychwanegol o hyd at 3%) = 1.553

Byddai eich VIR yn 1.55%

Mae hyn yn golygu mai eich cyfanswm cyfradd llog fyddai'r RPI + 1.55%

Mae’r cyfrifiad hwn yn dangos y canran ychwanegol a godir uwchben yr RPI pan mae eich incwm yn eistedd rhwng y ddau drothwy ad-dalu. Bydd eich cyfanswm cyfradd llog bob amser yn cynnwys yr RPI.

Enghreifftiau o incwm a chyfradd llog

Eich incwm blynyddol Eich cyfradd llog
£29,385 neu lai 3.2%
£35,000 4.06%
£40,000 4.72%
£45,000 5.38%
£52,885 neu fwy 6.2%

Mae’r enghreifftiau hyn wedi’u cyfrifo drwy ddefnyddio’r trothwyon ad-dalu a’r cyfraddau llog cyfredol.

Os yw eich incwm blynyddol yn disgyn rhwng yr enghreifftiau hyn, bydd eich cyfradd llog yn wahanol.

Beth yw’r Mynegai Prisiau Masnach?

Mesur o chwyddiant yw’r Mynegai Prisiau Masnach sy’n olrhain newidiadau mewn costau byw yn y DU dros amser.

Beth yw’r cyfyngiad cyfradd llog?

Yn ystod rhai cyfnodau, efallai y byddwn yn cymhwyso cyfyngiad cyfradd llog. Mae hyn er mwyn sicrhau na chodir cyfradd llog uwch arnoch na chyfraddau cymaradwy a geir ar y farchnad fasnachol.

Mae’r Adran Addysg yn gwirio cyfraddau llog marchnad cymaradwy drwy ddefnyddio’r data sy’n cael ei gyhoeddi gan Fanc Lloegr.

Os bydd y cyfraddau marchnad cymaradwy hyn yn disgyn o dan y gyfradd llog a godir ar fenthyciadau Cynllun 2, yna bydd cyfyngiad cyfradd llog yn cael ei gymhwyso. Caiff y cyfraddau llog cymaradwy eu hadolygu bob mis fel y gellir addasu’r cyfyngiad cyfradd llog os oes angen.

Nid yw’r cyfyngiad cyfradd llog yn cael ei gymhwyso ar hyn o bryd.

Cyfraddau llog blaenorol

Mae’r cyfraddau sydd yn y tabl yn berthnasol i fenthyciadau Cynllun 2 yn unig.

Pan fydd y cap cyfradd llog ar waith, caiff ei gymhwyso i bob benthyciad Cynllun 2. Nid yw’r cap cyfradd llog yn seiliedig ar eich incwm.

Pan fydd y Mynegai Prisiau Manwerthu plws hyd at 3% (RPI+3%) ar waith, mae swm y llog a ychwanegir at eich benthyciad yn seiliedig ar eich incwm.

Pan fydd cap llog ochr yn ochr â’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), mae swm y llog a ychwanegir at eich benthyciad yn seiliedig ar eich incwm. Ni fydd y llog a gymhwysir yn uwch na’r cap cyfradd llog.

Cyfraddau llog a godir yn 2024

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2024 i 31 Awest 2025 4.3% i 7.3% RPI+3%
1 Awst 2024 i 31 Awst 2024 8% Cap llog
1 Mehefin 2024 i 31 Gorffennaf 2024 7.9% Cap llog
1 Ebrill 2024 i 31 Mai 2024 7.8% Cap llog
1 Mawrth 2024 i 31 Mawrth 2024 7.7% Cap llog
1 Ionawr 2024 i 29 Chwefror 2024 7.6% Cap llog

Cyfraddau llog a godir yn 2023

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Rhagfyr 2023 i 31 Rhagfyr 2023 7.5% Cap llog
1 Medi 2023 i 30 Tachwedd 2023 7.3% Cap llog
1 Mehefin 2023 i 31 Awst 2023 7.1% Cap llog
1 Mawrth 2023 i 31 Mai 2023 6.9% Cap llog

Cyfraddau llog a godir yn 2022

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Rhagfyr 2022 i 28 Chwefror 2023 6.5% Cap llog
1 Medi 2022 i 30 Tachwedd 2022 6.3% Cap llog
1 Mawrth 2022 i 31 Awst 2022 1.5% i 4.5% RPI+3%
1 Ionawr 2022 i 28 Chwefror 2022 1.5% i 4.4% RPI hyd at y cap llog

Cyfraddau llog a godir yn 2021

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Hydref 2021 i 31 Rhagfyr 2021 1.5% i 4.1% RPI hyd at y cap llog
1 Medi 2021 i 30 Medi 2021 1.5% i 4.2% RPI hyd at y cap llog
1 Gorffennaf 2021 i 31 Awst 2021 2.6% i 5.3% RPI hyd at y cap llog

Cyfraddau llog a godir yn 2020

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2020 i 30 Mehefin 2021 2.6% i 5.6% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2019

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2019 i 31 Awst 2020 2.4% i 5.4% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2018

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2018 i 31 Awst 2019 3.3% i 6.3% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2017

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2017 i 31 Awst 2018 3.1% i 6.1% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2016

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2016 i 31 Awst 2017 1.6% i 4.6% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2015

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2015 i 31 Awst 2016 0.9% i 3.9% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2014

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2014 i 31 Awst 2015 2.5% i 5.5% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2013

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2013 i 31 Awst 2014 3.3% i 6.3% RPI+3%

Cyfraddau llog a godir yn 2012

Dyddiad Cyfradd llog Math o gyfradd llog
1 Medi 2012 i 31 Awst 2013 3.6% i 6.6% RPI+3%

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2026 show all updates
  1. More guidance had been added to explain how Plan 2 interest is calculated and applied to Plan 2 loans.

  2. Updated guidance on the interest rate cap.

  3. Plan 2 loan interest rate increased to 8%.

  4. Previous interest rates table has been updated

  5. Current interest rate and previous interest rates table have been updated

  6. Previous interest rates table has been updated

  7. Interest rate information has been updated

  8. The current interest rate cap and previous interest rates table have been updated

  9. Previous interest rates table has been updated

  10. The interest rate cap and previous interest rates table have been updated.

  11. Updates have been made to the previous interest rates table

  12. Updates have been made to the previous interest rates table

  13. Updates have been made to the current interest rate

  14. The interest rate has been updated, there is no interest rate cap currently. Previous interest rate table has also been updated.

  15. Updates have been made to the current interest rate cap and the previous interest rates table.

  16. Updates made to the current interest rate cap and previous interest rates table.

  17. Current interest rate cap updated to 4.2% 1 July 2021 to 31 August 2021 - 5.3% added to the previous interest rates table.

  18. Interest rate information updated due to cap being applied.

  19. Updated table with interest rate for 2018/19

  20. First published.

Argraffu'r dudalen hon