Canllawiau

Cael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm ar gyfer asiantau

Sut i gael mynediad at y Dangosydd Cofnodion Incwm ac ysgwyd llaw’n ddigidol os ydych chi’n asiant, er mwyn gwirio manylion cyflog a threth, hanes cyflogaeth a chodau treth eich cleientiaid.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch i gael mynediad at wasanaethau ar-lein y Dangosydd Cofnodion Incwm.

Os nad oes gennych chi gyfrif gwasanaethau asiant, bydd angen i chi greu cyfrif.

Yr hyn y mae ysgwyd llaw’n ddigidol yn eich galluogi i’w wneud

Ni allwch ddefnyddio ffurflen bresennol 64-8 neu Awdurdodi Asiant Ar-lein i gael mynediad at y Dangosydd Cofnodion Incwm.

Mae ysgwyd llaw’n ddigidol yn galluogi chi i gael mynediad at wybodaeth eich cleient yn y Dangosydd Cofnodion Incwm.

Nid yw hyn yn rhoi’r awdurdod i chi weithredu ar ran eich cleient wrth gysylltu â CThEF dros y ffôn, drwy sgwrs dros y we neu drwy’r post.

Mae dal angen i chi gael ffurflen 64-8 dilys neu Awdurdodi Asiant Ar-lein i drafod ei faterion treth â CThEF.

Cael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol

Dysgwch sut i gael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn agor tudalen Saesneg), fel y gallwch gael mynediad at wybodaeth eich cleientiaid yn y Dangosydd Cofnodion Incwm.

Bydd angen i bob un o’ch cleientiaid dderbyn eich cais i ysgwyd llaw’n ddigidol cyn y gallwch gael mynediad at eu gwybodaeth yn y Dangosydd Cofnodion Incwm.

Gall eich cleientiaid dderbyn eich cais i ysgwyd llaw’n ddigidol ar ôl mewngofnodi i’w cyfrif treth personol. Os nad oes ganddynt fanylion mewngofnodi, gallant greu’r rhain wrth ddewis y cysylltiad a anfonwch ar gyfer ysgwyd llaw’n ddigidol.

Os oes unrhyw rai o’ch cleientiaid wedi’u cau allan o’r byd digidol, rhaid creu cais am awdurdodiad (yn agor tudalen Saesneg). Rhowch i’ch cleient gysylltiad at y cais am awdurdodiad, a rhif er mwyn iddo gysylltu â CThEF. Bydd rhywun yn ei gyfeirio at y Tîm Cymorth Ychwanegol a fydd yn mynd â’ch cleient drwy’r broses dros y ffôn.

Ar ôl i chi gael eich awdurdodi

Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm.

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Mewngofnodi nawr

Bydd angen y manylion mewngofnodi y gwnaethoch eu creu ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant.

Ar ôl i chi fewngofnodi

Gallwch nawr gael mynediad at yr wybodaeth ganlynol am eich cleient yn y Dangosydd Cofnodion Incwm:

  • gwybodaeth TWE ar gyfer y flwyddyn bresennol ynghyd â’r 4 blwyddyn dreth flaenorol
  • cofnodion cyflogaeth, gan gynnwys cyfnodau mewn cyflogaeth, ei gyfeirnod TWE, a’r manylion cyflog a threth ar gyfer pob un o’i swyddi
  • ad-daliadau benthyciad myfyriwr a gesglir drwy’r gyflogres, os yw hynny’n berthnasol
  • y cod treth diweddaraf ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, gan gynnwys yr holl lwfansau a didyniadau
  • buddiannau trethadwy a ddarperir gan gyflogwr, megis car cwmni ac yswiriant meddygol, a ph’un a yw’r rhain yn rhagolygon (P11D heb ddod i law eto) neu’n rhai gwirioneddol (P11D wedi dod i law)
  • gwybodaeth am bensiwn y wladwriaeth a phensiwn preifat
  • manylion unrhyw dreth a dandalwyd a dyledion eraill, megis credydau treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a gesglir drwy god treth y cleient

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Mawrth 2026 show all updates
  1. Guidance updated to explain what the digital handshake allows you to do.

  2. The 'first published' date of the guide has been updated to 16 November 2022. The guidance was previously published on 22 April 2022 but was later unpublished until November 2022.

  3. The guidance has been updated to include information on how to get authorised using the digital handshake, what your client's will need to do to authorise you, including how to get help if your client is digitally excluded, what to do after you're authorised and what information you will be able to access in the Income Record Viewer.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon