Canllawiau

Tanysgrifio i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau

Sut i danysgrifio neu wirio a oes gennych fynediad at y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.

Drwy danysgrifio’ch manylion cofrestru i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau, byddwch yn gallu gwneud y pethau canlynol:

  • cyflwyno datganiadau mewnforio ac allforio gan ddefnyddio meddalwedd
  • cael eich datganiadau TAW mewnforio ohiriedig neu gael eich tystysgrifau TAW mewnforio er mwyn i chi allu cwblhau eich Ffurflen TAW
  • talu Toll Dramor a TAW Mewnforio

Nid oes angen i chi danysgrifio i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau eto os ydych wedi gwneud hynny’n barod ar gyfer naill ai mewnforion neu allforion.

Sut i danysgrifio

Bydd angen arnoch y manylion mewngofnodi a ddefnyddioch ar gyfer y canlynol:

  • eich busnes neu’ch sefydliad
  • chi eich hun, os ydych yn gwneud cais fel unigolyn

Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.

Ni allwch ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) asiant ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich rhif EORI sy’n dechrau gyda ‘GB’ neu ‘XI’ — os nad oes gennych rif, gallwch wneud cais am rif EORI pan fyddwch yn tanysgrifio — bydd angen i chi fodloni’r meini prawf cymhwystra er mwyn cofrestru am rif XI
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) — dewch o hyd i’ch UTR os nad ydych yn ei wybod
  • y cyfeiriad sydd gennym yn ein cofnodion tollau ar gyfer eich busnes
  • eich rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn unigolyn neu’n unig fasnachwr)
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau’ch busnes

Bydd eich rhif EORI a’ch cyfrifon Gwasanaeth Datganiadau Tollau wedi’u cysylltu â’ch manylion mewngofnodi. Ni allwch wneud cais am fwy nag un rhif EORI gan ddefnyddio’ch cofrestriad.

Tanysgrifio nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi danysgrifio

Cewch fynediad o fewn y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • 2 awr
  • 5 diwrnod gwaith (os oes rhaid i CThEF wneud rhagor o wiriadau)

Yna, byddwch yn gallu mewngofnodi i ddefnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau canlynol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau:

Ychwanegu aelod o’r tîm

Os oes angen i chi roi mynediad at eich tanysgrifiad (ac at y gwasanaethau sydd ar gael drwy’ch tanysgrifiad) i eraill yn eich busnes, gallwch ychwanegu aelod o’r tîm at eich cyfrif treth busnes.

Byddwch yn gallu rheoli beth gall pob aelod o’ch tîm gael mynediad ato.

Help a chymorth

Oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol ynglŷn â’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau, cysylltwch â’r llinell gymorth ar gyfer mewnforion ac allforion.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Mawrth 2026 show all updates
  1. New link added under 'After you've subscribed' for 'Get customs data for import and export declarations'

  2. Added translation.

  3. Information about what you need to tell us when you subscribe to the service has been updated.

  4. Information explaining that if you do not have an EORI number, you can apply for one when you subscribe has been added.

  5. The same Customs Declaration Service subscription can be used for imports and exports.

  6. You can no longer ask to continue to use Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF). If you want to import goods you must subscribe to the Customs Declaration Service.

  7. The email address to report issues with subscribing to the Customs Declaration Service has been removed.

  8. Guidance has been updated with contact information for any general advice about the Customs Declaration Service.

  9. The email address to report issues with subscribing to the Customs Declaration Service has been updated.

  10. This page has been updated with information about how to give others people within your business access to the Customs Declaration Service.

  11. Information has been added to explain that you cannot apply for more than one EORI number using your Government Gateway account.

  12. First published.

Argraffu'r dudalen hon