Canllawiau

Dod o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Defnyddiwch yr offeryn hwn i’ch helpu i ddod o hyd i feddalwedd sy’n bodloni’ch anghenion ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae angen i chi ddod o hyd i feddalwedd sy’n gwneud y canlynol:

  • creu cofnodion digidol
  • anfon diweddariad chwarterol i CThEF
  • cyflwyno eich Ffurflen Dreth

Os nad ydych wedi gwneud eisoes, darllenwch yr arweiniad ynghylch dewis y feddalwedd cywir ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, gofynnir rhai cwestiynau i chi er mwyn creu rhestr bersonol o opsiynau meddalwedd.

Bydd angen i chi wybod y canlynol:

  • yr incwm cymhwysol sydd ei angen arnoch er mwyn adrodd gyda diweddariadau chwarterol — dyma eich trosiant o hunangyflogaeth ac incwm cymhwysol o’r flwyddyn dreth flaenorol (trosiant yw’r cyfanswm cyn i chi didynnu unrhyw dreuliau)
  • unrhyw ffynhonnell arall o incwm y mae angen i chi ei ddatgan yn eich Ffurflen Dreth
  • a ydych am greu cofnodion digidol newydd neu gysylltu â chofnodion presennol
  • eich cyfnod cyfrifyddu (blwyddyn dreth safonol, cyfnodau diweddaru calendr neu’r naill na’r llall)

Dysgwch ynghylch defnyddio cyfnodau diweddaru safonol a chyfnodau diweddaru calendr.

Os ydych yn asiant, byddwch yn gweld rhestr o’r holl feddalwedd sy’n cydweddu, a gallwch eu hidlo i’ch helpu i ddod o hyd i’r ateb cywir i’ch cleientiaid.

Dod o hyd i feddalwedd nawr

Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddod o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd sydd heb ei rhestru, neu os nad yw’ch meddalwedd yn gweithio gyda’ch ffynhonnell incwm ar hyn o bryd, gofynnwch i’ch darparwr meddalwedd dewisol ynghylch ei gynlluniau. Dros amser, bydd mwy o opsiynau meddalwedd ar gael.

Os oes gennych prif asiant neu asiant ategol (fel cyfrifydd neu lyfrifwr), gofynnwch iddynt ynghylch eich dewis o feddalwedd er mwyn sicrhau y gallant eich cefnogi.

Wedi i chi ddod o hyd i feddalwedd a’i ddewis, bydd angen i chi wneud y canlynol:

cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes)

Chwilio nawr (yn agor tudalen Saesneg)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2025

Argraffu'r dudalen hon