Canllawiau

Codi achos gwirio er mwyn newid manylion eich eiddo busnes

Rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i’r Swyddfa Brisio ynghylch manylion eich eiddo busnes drwy gyflwyno achos gwirio drwy eich cyfrif Prisio Ardrethi Busnes.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae’r Swyddfa Brisio yn dal manylion ffeithiol ynghylch eich eiddo busnes, fel arwynebedd llawr, nifer yr ystafelloedd a nifer y toiledau. Mae gwerth ardrethol eiddo yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r manylion hyn.

Gallwch godi achos gwirio er mwyn rhoi gwybod i’r Swyddfa Brisio bod y manylion ffeithiol ynglŷn â’ch eiddo angen eu newid.

Mae’n rhaid i chi ychwanegu eich eiddo at eich cyfrif Prisio Ardrethi Busnes cyn y gallwch godi achos gwirio.

Pryd i godi achos gwirio

Gallwch godi achos gwirio er mwyn rhoi gwybod am newidiadau i’ch eiddo, fel y newidiadau canlynol:

  • y cyfeiriad

  • y prif ddefnydd neu ddisgrifiad

  • rhannu’r eiddo

  • cyfuno ag eiddo arall

  • dymchweliadau

  • adnewyddiadau

Os oes angen dileu eich eiddo oddi ar y Rhestr Ardrethu o ganlyniad i waith sylweddol, fel dymchweliad, mae’n rhaid i chi godi achos gwirio er mwyn rhoi gwybod i’r Swyddfa Brisio.

Dylech hefyd godi achos gwirio er mwyn rhoi gwybod i’r Swyddfa Brisio am y canlynol:

  • ynghylch penderfyniad llys ar eiddo arall sy’n cael effaith ar eich eiddo

  • bod newid sydd y tu allan i’ch rheolaeth chi wedi digwydd yn yr ardal amgylchynol, fel gwaith ailddatblygu neu ddymchwel ar eiddo agos, neu waith aflonyddol hirdymor ar y ffyrdd

Mae ffactor allanol a gaiff effaith ar werth eich eiddo yn cael ei adnabod fel Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau (MCC). Os mai dros dro yw’r mater, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r achos gwirio tra bo’r MCC yn barhaus.

Mae angen i chi godi achos gwirio cyn y gallwch herio prisiad, hyd yn oed os yw’r manylion ffeithiol yn gywir. Er enghraifft, os yw’r Swyddfa Brisio yn gwneud newid anghywir i’ch prisiad, neu yn pennu’r dyddiad dod i rym anghywir (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer newid i’ch prisiad.

Os yw eich eiddo ar y Rhestr Ardrethu Ganolog, bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen wahanol er mwyn dechrau achos gwirio.

Mae’r Rhestr Ardrethu Ganolog (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys eiddo fel rhwydweithiau cyflenwi cyfleusterau, piblinellau traws gwlad, a rhwydweithiau telathrebu a rheilffyrdd.

Codi achos gwirio ar gyfer prisiad blaenorol

Dim ond mewn rhai achosion y gallwch godi achos gwirio ar gyfer prisiad blaenorol, fel y canlynol:

  • mae’r Swyddfa Brisio wedi cywiro eich prisiad yn ystod y 6 mis diwethaf

  • rydych eisiau herio eich prisiad 2023 yn dilyn penderfyniad llys neu dribiwnlys — mae’n rhaid i chi godi achos gwirio cyn pen 6 mis i’r penderfyniad

Sut i gyflwyno achos gwirio

  1. Mewngofnodi i’ch cyfrif Prisio Ardrethi Busnes.

  2. Dewis y rhestr o’r eiddo yn yr adran ‘Eich eiddo’.

  3. Dewis yr eiddo yr ydych am godi achos gwirio ar ei gyfer.

  4. Dewis ei brisiad cyfredol, adolygu’r manylion, ac yna dewis i ddechrau achos gwirio.

  5. Dewis eich rheswm a pharhau.

  6. Dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin er mwyn rhoi gwybod i ni yr hyn sydd angen newid.

  7. Uwchlwytho’ch tystiolaeth.

  8. Dewis math y dystiolaeth yn seiliedig ar y newidiadau yr ydych yn rhoi gwybod amdanynt.

  9. Ateb y cwestiynau ychwanegol sy’n berthnasol i’ch busnes.

  10. Adolygu eich holl ymatebion cyn cyflwyno eich cais.

Gallwch uwchlwytho ffeiliau llun, Word, Excel a PDF fel tystiolaeth. Gall y dystiolaeth gynnwys:

  • ffotograffau

  • cynlluniau llawr

  • cytundebau rhentu

  • datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol neu sylwadau nad ydych wedi eu cynnwys yn unman arall

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn rhoi gwybod am wybodaeth ffug i’r Swyddfa Brisio yn fwriadol.

Ar ôl i chi gyflwyno achos gwiriad

Bydd y Swyddfa Brisio yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth neu dystiolaeth arnom. 

Mae’n rhaid i chi ddechrau achos gwiriad newydd er mwyn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau newydd ar ôl i chi gyflwyno achos gwirio. Bydd y Swyddfa Brisio yn adolygu’r wybodaeth a roddwyd yn y ddau achos wrth ystyried eich cais.

Bydd y Swyddfa Brisio yn diweddaru manylion eich eiddo, ac yn anfon hysbysiad ysgrifenedig atoch pan fo’r achos gwirio wedi’i gwblhau. Mae’n bosibl bydd eich gwerth ardrethol yn cynyddu, yn lleihau, neu yn aros yr un peth.

Os ydych yn anghytuno â’r canlyniad, gallwch herio’r prisiad. Mae gennych hyd at 4 mis ar ôl i’r Swyddfa Brisio gwblhau eich achos gwiriad i godi her.

Cymorth ychwanegol

Gall y Swyddfa Brisio roi cymorth ychwanegol i chi os oes gennych gyflwr iechyd neu amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.

Os na allwch gyflwyno achos gwirio drwy eich cyfrif Prisio Ardrethi Busnes, anfonwch e-bost at ccaservice@voa.gov.uk neu cysylltwch â’r Swyddfa Brisio (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn ei godi â llaw.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2026 show all updates
  1. Information has been added on when you can raise a check case for a previous valuation.

  2. Instructions added for how to raise a check case.

  3. Information related to check deadline added ahead of revaluation 2026.

  4. A Welsh translation has been added.

  5. Updated information for Wales

  6. Updated for the 2023 rating list

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon