Hawlio ad-daliad treth os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio ac wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg (P50Z)
Sut i hawlio ad-daliad yn ystod y flwyddyn dreth bresennol os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio, wedi cyrchu’ch holl gronfa bensiwn yn hyblyg, a’i gwacáu, ac mae gennych P45 o’ch darparwr pensiwn.
Gallwch hawlio’n ôl y dreth sydd arnom i chi ar daliad pensiwn hyblyg (yn agor tudalen Saesneg) diweddar, os ydych wedi gwacáu’ch cronfa bensiwn a bod y canlynol yn berthnasol:
-
rydych wedi rhoi’r gorau i weithio ac nid ydych yn disgwyl dychwelyd i’r gwaith
-
rydych wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg, ac mae gennych P45 gan eich darparwr pensiwn
Gallwch hefyd hawlio os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych wedi ymddeol yn barhaol ac nid ydych yn cael pensiwn gan eich cyflogwr blaenorol
-
rydych wedi dychwelyd i addysg amser llawn ac nid ydych yn cael unrhyw incwm
Cyn i chi ddechrau
Arhoswch 4 wythnos ar ôl i’r dyddiad y gwnaethoch roi’r gorau i weithio, neu’r dyddiad pan ddaeth eich pensiwn i ben, cyn anfon y ffurflen hon.
Os nad ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth, nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen hon. Gallwch wirio sut i wneud hawliad o dan gytundeb trethiant dwbl (yn agor tudalen Saesneg).
Adegau pan na ddylech ddefnyddio’r ffurflen hon
Peidiwch â llenwi’r ffurflen hon os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych yn ddi-waith, ac yn disgwyl dechrau swydd newydd cyn pen 4 wythnos — rhowch ran 2 a rhan 3 o’ch P45 i’ch cyflogwr newydd, a bydd yn ad-dalu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi drwy’ch cyflog
-
nid yw’r taliad pensiwn hyblyg wedi gwacáu’ch cronfa bensiwn - defnyddiwch ffurflen P55 (yn agor tudalen Saesneg)
-
rydych wedi cael cyfandaliad salwch difrifol, neu wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg ac mae gennych incwm arall — defnyddiwch ffurflen P53Z
-
rydych wedi cael cyfandaliad unigol o bensiwn — defnyddiwch ffurflen P53 ar gyfer cymudiad pitw neu gronfeydd bychain
Peidiwch â llenwi’r ffurflen hon os ydych hefyd yn hawlio un o’r buddiannau trethadwy a restrir isod:
-
Lwfans Ceisio Gwaith
-
Budd-dal Analluogrwydd (IB) trethadwy. Sylwer – fel arfer, mae Budd-dal Analluogrwydd yn drethadwy os caiff ei dalu am fwy na 28 wythnos
-
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau
-
Lwfans Gofalwr
Arhoswch tan y flwyddyn dreth nesaf ar ôl (5 Ebrill) neu pan ddaw eich hawliad i ben. Os yw hynny’n gynt, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn anfon ad-daliad atoch.
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth:
-
peidiwch â chynnwys unrhyw incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn eich hawliad, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad
-
bydd dal angen i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif
-
dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf
-
mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach
Os oes gennych incwm Talu Wrth Ennill (TWE) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
Hawlio ar-lein
Y ffordd gyflymaf o wneud hawliad yw ar-lein. Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Llenwch y ffurflen hon ar-lein os na allwch fewngofnodi
I ddefnyddio’r ffurflen hon, bydd angen i chi:
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Argraffu’r ffurflen.
-
Llofnodi’r datganiad.
-
Anfon y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein
-
Argraffu’r ffurflen.
-
Llenwi’r ffurflen.
-
Anfon y ffurflen drwy’r post at CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Unwaith i ni gael eich hawliad wedi’i gwblhau, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.
Gall gymryd 14 diwrnod i gael ymateb. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwnnw i weld cynnydd eich hawliad.
Gallwch wirio pryd i ddisgwyl ateb gan CThEF.
Os nad oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, rhowch enw a chyfeiriad rhywun sydd ag un, er mwyn i ni allu anfon y taliad ato.
Byddwn yn anfon archeb talu atoch chi neu’ch enwebai.
Ni ellir gwneud ad-daliadau drwy gyfrwng Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr).
Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio
Bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
-
eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr – os yw hwnnw gennych
-
rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 – os nad oes gennych hyn, bydd yn rhaid i chi esbonio pam (er enghraifft, efallai eich bod wedi ymddeol neu’n un o weision y Goron yn y DU a gyflogir dramor)
Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:
-
swm y taliad pensiwn hyblyg, a swm y dreth a ddidynnir oddi arno
-
manylion unrhyw incwm rydych wedi’i gael ers i chi roi’r gorau i weithio, ac unrhyw dreth a dalwyd
-
manylion unrhyw fudd-daliadau trethadwy rydych wedi’u cael ers dechrau’r flwyddyn dreth
-
swm y cyflog a gawsoch a’r dreth a dalwyd (os oes gennych ran 2 a rhan 3 o’ch P45)
-
eich manylion talu, neu fanylion talu eich enwebai, os oes ad-daliad yn ddyledus i chi
Updates to this page
-
The section 'Before you start' has been updated to show the 4 taxable benefits when you should not use this form.
-
A link has been added to find out when you can expect to receive a reply from HMRC to a query or request you've made.
-
Clarified that you cannot save your progress when completing the online form.
-
The form P50Z has been replaced with a version to cover tax year 2024 to 2025.
-
The planned downtime for our interactive guidance that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.
-
Due to planned downtime, our interactive guidance will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.
-
Added translation
-
Added translation