Canllawiau

Gwirio a yw llythyr rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys

Gwiriwch restr o lythyrau diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw llythyr rydych wedi’i gael yn sgam.

Os nad yw’ch llythyr wedi’i restru yma, gallwch wneud y canlynol:

Llythyr CA2490 — Cymhwystra ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Bydd CThEF yn anfon llythyr atoch os ydym o’r farn bod Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) ar goll gennych.

Rydym am eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o Bensiwn y Wladwriaeth, felly rydym yn gofyn i chi wirio a oeddech yn gymwys i gael HRP rhwng 1978 a 2010. Mae’n bosibl eich bod wedi bod yn gymwys os cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed.

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch wirio a ydych yn gymwys i hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref sydd ar goll, a sut i wneud hynny.

Llythyr CA4361 — cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy’r post os ydym o’r farn eich bod wedi talu gormod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth ynglŷn â’ch cyflogaeth yn y gorffennol.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ba flynyddoedd treth y bydd angen i ni gael gwybod amdanyn nhw a byddwn yn cynnwys manylion y cyflogwyr sydd gennym ar ein cofnodion.

Bydd y llythyr yn gofyn i chi ateb drwy wneud un o’r canlynol:

  • llenwi’r ffurflen ar-lein
  • llenwi a phostio’r ffurflen bapur sydd wedi’i hatodi i’r llythyr

Byddwn wedyn yn adolygu’r manylion rydych chi’n eu darparu ac yn cadarnhau os oes ad-daliad yn ddyledus i chi.

Llythyr IDMS99 — swm yn hwyr

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i roi gwybod i chi fod ein cofnodion yn dangos bod taliad yn hwyr.

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • sut i dalu
  • yr hyn a fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu, neu os na fyddwch yn ein ffonio cyn pen 28 diwrnod o gael y llythyr hwn

Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr hwn.

Llythyr IDMS99P — Asesiad Syml

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy’r post i roi gwybod bod gennych daliad sy’n hwyr ar eich bil treth Asesiad Syml.

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi:

  • sut i dalu
  • os na allwch dalu’n llawn ar hyn o bryd, i ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar 0300 200 1900
  • yr hyn a fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu, neu os na fyddwch yn ein ffonio cyn pen 28 diwrnod o gael y llythyr hwn

Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr.

Llythyr OCA300 — ad-daliad o ddidyniadau Benthyciad Myfyriwr

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i roi gwybod i chi fod ad-daliad o ddidyniadau Benthyciad Myfyriwr yn ddyledus.

Byddwn yn cynnwys manylion ynghylch pam mae’r ad-daliad yn ddyledus a’r cyflogwr y gwnaethoch weithio iddo ar y pryd.

Byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol er mwyn i ni allu gwneud ad-daliad yn gynt.

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gadarnhau bod y cysylltiad hwn yn ddilys.

Llythyr VPCF1 — penderfyniad i ganslo’ch cofrestriad TAW

Fel rhan o drefniadau diogelwch CThEF ynghylch cofrestru ar gyfer TAW, rydym yn gwirio cofrestriadau i brofi bod y bwriad i fasnachu yn ddilys.

Os ydym o’r farn nad ydych yn gymwys i gael eich cofrestru ar gyfer TAW, efallai y byddwch yn cael llythyr gennym i’ch hysbysu o’n bwriad i’ch datgofrestru.

Os byddwch yn anfon gwybodaeth atom i ddangos eich bod yn gymwys i gofrestru cyn pen 30 diwrnod, byddwch yn parhau i fod wedi’ch cofrestru. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu rheoli’ch cofnodion TAW gyda CThEF.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth a dogfennau i’w darparu. Os na fydd y rhain yn cael eu hanfon cyn pen 30 diwrnod, bydd CThEF yn datgofrestru’r busnes rhag TAW.

Os ydych yn cael ceisiadau pellach i anfon gwybodaeth at gyfeiriad e-bost sydd ddim yn gorffen â ‘hmrc.gov.uk’, ni fydd y ceisiadau hyn yn ddilys a dylech roi gwybod i CThEF.

Gallwch ffonio’r llinell gymorth ymholiadau TAW os oes angen cymorth pellach arnoch, neu os nad ydych yn siŵr a yw’r llythyr yn ddilys.

Efallai eich bod ynghlwm wrth arbed treth

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i’ch rhybuddio y gallech fod ynghlwm wrth arbed treth.

Byddwch yn cael llythyr:

  • os yw’n systemau’n dangos y gallech fod yn defnyddio, neu wedi defnyddio, trefniadau cyflogaeth a oedd yn ynghlwm wrth arbed treth
  • pan fydd CThEF yn cyhoeddi gwybodaeth am drefniadau arbed treth, ac am y bobl sy’n ymwneud â chyflenwi â marchnata’r trefniadau hyn

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi:

  • sut i wirio a allai’ch trefniadau cyflogaeth fod ynghlwm wrth arbed treth
  • beth yw’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio trefniadau arbed treth
  • am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu

Rydym am eich gwneud yn ymwybodol o’n pryderon cyn gynted â phosibl, fel na fyddwch yn cronni bil treth mawr.

Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr hwn.

Dysgwch ragor ynghylch ymgyrch CThEF, Peidiwch â Chael Eich Dal Wrthi (yn agor tudalen Saesneg).

Ad-dalu eich Taliad Tanwydd Gaeaf — newid mewn codau treth

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch o 21 Mawrth 2026 hyd at a chan gynnwys 17 Ebrill 2026.

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch ynghylch newid yn eich cod treth, i adennill eich Taliad Tanwydd Gaeaf os yw’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch gael Taliad Tanwydd Gaeaf neu Daliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026
  • mae ein cofnodion yn dangos bod disgwyl i gyfanswm eich incwm fod yn fwy na £35,000
  • nid ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar hyn o bryd

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • bod eich cod treth TWE wedi’i ddiweddaru
  • bydd yr ad-daliadau’n cael eu casglu’n awtomatig drwy’r newid yn y cod treth

Darllenwch ragor ynghylch sut y bydd ad-daliadau’n cael eu casglu drwy godau treth (yn agor tudalen Saesneg).

Hunanasesiad — hawlio ad-daliad

Efallai y cewch lythyr oddi wrth CThEF yn gofyn i chi gysylltu â ni ynghylch eich hawliad am ad-daliad.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi anfon rhagor o wybodaeth atom er mwyn dilysu’ch hawliad.

Mae’n rhaid i chi ymateb i’r llythyr er mwyn i ni allu gwneud unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus i chi cyn gynted â phosibl.

Os ydych yn cael ceisiadau pellach i anfon gwybodaeth at gyfeiriad e-bost sydd ddim yn gorffen â ‘hmrc.gov.uk’, ni fydd y ceisiadau hyn yn ddilys a dylech roi gwybod i CThEF.

Gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen cymorth pellach arnoch, neu os nad ydych yn siŵr a yw’r llythyr yn ddilys.

Adolygiad ar gyfer meini prawf a hawliad am ad-daliad Hunanasesiad

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i esbonio ein bod yn adolygu hawliad am ad-daliad Hunanasesiad sydd wedi’i gysylltu â’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR).

Byddwch yn cael llythyr gennym os credwn nad ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Bydd y llythyr yn gofyn i chi wneud y canlynol:

  • os ydych yn anghytuno, bydd angen i chi gysylltu â CThEF gan ddefnyddio’r rhif ffôn ar y llythyr cyn pen 30 diwrnod
  • esbonio pam yr ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer Hunanasesiad
  • rhoi tystiolaeth os gofynnwyd

Os nad ydych yn cysylltu â CThEF cyn pen 30 diwrnod, ni fyddwn yn gwneud y canlynol:

  • prosesu’ch Ffurflen Dreth
  • rhoi ad-daliad o dreth incwm i chi
  • anfon hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y dyfodol atoch

Cwsmeriaid Treth Enillion Cyfalaf a Threth Dir y Tollau Stamp

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chwsmeriaid sydd â dyledion, neu Ffurflenni Treth heb eu cyflwyno, er mwyn:

  • gwneud cais am daliad
  • gwneud cais am Ffurflenni Treth hwyr
  • diweddaru eu cyfeiriad personol neu gyfeiriad busnes

Gall CThEF hefyd eich atgoffa bod y dyddiadau cau ar gyfer talu neu gyflwyno Ffurflenni Treth yn agosáu.

Bydd y negeseuon testun yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • eich cyfeirio at wefan GOV.UK
  • gofyn i chi gysylltu â CThEF dros y ffôn ar 0300 200 3844

Ni fydd y negeseuon yn cynnwys nac yn gofyn am wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol.

Llythyrau eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wneud y canlynol:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mawrth 2026 show all updates
  1. Information about ‘Repaying your Winter Fuel Payment — change of tax code’ has been added.

  2. Information about 'Capital Gains Tax and Stamp Duty Land Tax customers' has been added.

  3. Information about 'Making Tax Digital for Income Tax — customer awareness letter' has been added. Information about 'High Income Child Benefit Charge — check if you need to pay' and 'Home as office expenses — check you’ve claimed correctly' have been removed.

  4. Information about 'Self Assessment repayment claim and criteria review' has been added.

  5. Information about ‘Home as office expenses — check you’ve claimed correctly’ has been added.

  6. The ‘Check if a QR code on a letter or leaflet from HMRC is genuine’ section has been removed because a new page for them is now available.

  7. Added translation.

  8. Information about 'High Income Child Benefit Charge — check if you need to pay' has been added.

  9. Information about letter IDMS99 — amount overdue has been added.

  10. The ‘Check if a QR code on a letter or leaflet from HMRC is genuine’ section has been updated with 3 new letters.

  11. The 'Check if a QR code on a letter or leaflet from HMRC is genuine' section has been updated with 8 new letters.

  12. Information about Corporation Tax — check you’ve paid the right amount has been added.

  13. The 'Check if a QR code on a letter or leaflet from HMRC is genuine' section has been updated with 6 new letters.

  14. Information about Letter PTA05MM — payment of your Class 3 National Insurance contributions has been added.

  15. The 'Check if a QR code on a letter or leaflet from HMRC is genuine' section has been updated with 11 new letters.

  16. Information about unauthorised access of HMRC online accounts has been added.

  17. Guidance about possible involvement in tax avoidance has been updated.

  18. Information about income earned from online marketplace sales has been added.

  19. Information about VAT on private school fees — registration reminder for UK private schools has been added.

  20. Information about QR codes on letters, leaflets and envelopes has been added to confirm where the QR codes appear and which pages the codes will direct you to.

  21. Information about Small business — behaviours and attitudes following an HMRC enquiry has been updated.

  22. Information about Self Assessment — overpayment of Class 2 National Insurance contributions has been added.

  23. The 'Letter VPCF1 — decision to cancel your VAT registration' and 'Self Assessment — claiming a repayment' sections have been updated to tell you what to look for if you receive requests for further information.

  24. Information about letter CA4361 — National Insurance contributions has been added.

  25. Information about letter CH297B — Child Benefit full-time non-advanced education notification has been added.

  26. Information about letter IDMS99P — Simple Assessment has been updated. Information about Individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been removed.

  27. Information about letter IDMS99P — Simple Assessment has been added.

  28. Information about research into small business’ behaviours and attitudes following an HMRC enquiry has been added.

  29. Information about individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been added.

  30. Information about possible involvement in tax avoidance schemes has been added.

  31. Added translation

  32. Information about establishment status for VAT has been updated.

  33. Information about establishment status for VAT and letter CA2490 — Home Responsibilities Protection eligibility has been added. Information about child benefit take-up research and Stamp Duty Land Tax has been removed.

  34. Information about individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been added.

  35. Information about Stamp Duty Land Tax — understanding customers experiences has been added.

  36. Information on overdue deferred VAT has been removed.

  37. Information about mid-sized business services has been added.

  38. Added translation

  39. Research into Child Benefit take-up, and businesses' views of HMRC customer service, have been added.

  40. Information added on user research with businesses likely to fall within the Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD) pillar 2 rules.

  41. Information about paying overdue deferred VAT to avoid a penalty has been added.

  42. Information about National Insurance category letter M — feedback about our Generic Notification Service has been added.

  43. Information about Self Assessment repayment claims has been added.

  44. Information about letter VPCF1 — decision to cancel your VAT registration has been added.

  45. Information on experiences of pension scheme administrators has been added.

  46. Information on the Cost of Living Payment has been added.

  47. Information about letter OCA 300 — repayment of Student Loan deductions has been added.

  48. Information about overpayments of SEISS (Self-Employment Income Support Scheme) grants, research into the Coronavirus Job Retention Scheme and Income Tax refunds if you claimed the first, second or third SEISS grants have been added.

  49. Added information on research about the digitisation of Child Benefit.

  50. Research with businesses on VAT submissions section has been added.

  51. Information on Research into the impact of cash collection has been added.

  52. Added 'Independent research ― understanding business customers’ use of their online tax account' section.

  53. Added details of a letter being sent about regional information on Corporation Tax reliefs research.

  54. Added details of a letter being sent out about research with mid-size businesses

  55. Added translation

Argraffu'r dudalen hon