Canllawiau

Anfon cais am ddata at CThEF er mwyn cael gwybodaeth am ymddiriedolaeth

Gofyn i CThEF ynghylch ymddiriedolaeth rydych chi’n credu sydd ynghlwm â gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth neu reoli cwmni alltraeth.

Cyn i chi wneud cais

Mewn amgylchiadau cyfyngedig, mae’n bosibl bydd cais am ddata ymddiriedolaeth yn eich galluogi i gael gwybodaeth am ymddiriedolaeth sydd wedi’i chofrestru ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau.

Bydd CThEF ond yn rhannu gwybodaeth am ymddiriedolaeth os yw naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn dangos eich bod chi’n ymchwilio i achos o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac fe ydych yn gallu egluro’r rheswm pam bod cysylltiad posibl gan yr ymddiriedolaeth (a elwir yn fuddiant dilys)

  • bwriad eich cais yw dysgu a yw ymddiriedolaeth â chyfran reolaethol mewn cwmni alltraeth

Ni allwch wneud cais am unrhyw reswm arall.

Os oes angen i chi roi gwybod i CThEF ynghylch person neu fusnes rydych chi’n credu nad ydynt yn talu digon o dreth, neu yn cyflawni twyll treth, gallwch roi gwybod am dwyll neu arbed treth.

Er mwyn cael gwybodaeth am eich ymddiriedolaeth eich hun, fel tystiolaeth o gofrestriad neu’ch Cyfeirnod Unigryw (URN), gallwch reoli manylion eich ymddiriedolaeth.

Am wybodaeth gyffredinol am ymddiriedolaethau, gallwch ddarllen am ymddiriedolaethau a threthi.

Math o geisiadau am ddata ymddiriedolaeth

Mae 2 fath gwahanol o geisiadau am ddata ymddiriedolaeth gallwch eu hanfon at CThEF.

Cais am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant dilys

Gwneir cais am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant er mwyn gofyn am wybodaeth am ymddiriedolaeth yr ydych chi’n ymchwilio iddi am wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth.

Ar gyfer ceisiadau am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant dilys, mae’n rhaid i chi ddangos y canlynol:

  • eich bod yn ymchwilio i achos arbennig o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth 

  • bod yr wybodaeth rydych yn gofyn amdani at ddibenion helpu’ch ymchwiliad

Cais am ddata ymddiriedolaeth cwmni alltraeth

Bwriad cais am ddata ymddiriedolaeth cwmni alltraeth yw dysgu a yw ymddiriedolaeth â chyfran reolaethol mewn cwmni alltraeth.

Cwmni alltraeth yw cwmni neu endid cyfreithiol arall sydd heb ei sefydlu yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ na Liechtenstein (yn agor tudalen Saesneg).

At y diben hwn, cyfran reolaethol yw pan mae gan yr ymddiriedolaeth gofrestredig naill ai:

  • dros 50% o gyfranddaliadau yn yr endid

  • dros 50% o’r hawliau pleidleisio

  • yr hawl i benodi neu dynnu y mwyafrif o gyfarwyddwyr y bwrdd

  • yr hawl i arfer (neu’r arfer yn wirioneddol) rheolaeth neu ddylanwad sylweddol

Gwybodaeth y byddwn yn ei rhannu, a ddim yn ei rhannu

Dim ond os yw ymddiriedolaeth wedi’i chofrestru, ac wedi’i chwmpasu o dan y broses o wneud cais am ddata, y gallwch gael gwybodaeth amdani.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth am berchnogion llesiannol sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaeth gofrestredig.

Gallant fod yn unrhyw un sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaeth, er enghraifft:

  • ymddiriedolwr

  • setlwr

  • buddiolwr

Ni fyddwn yn rhannu URN yr ymddiriedolaeth, na’r dystysgrif cofrestru.

Ni fyddwn yn rhannu data ymddiriedolaeth os:

  • nad ydych yn dangos y canlynol o ran buddiant dilys:

    • eich bod yn ymchwilio i achos o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
    • bod yr wybodaeth rydych yn gofyn amdani at ddibenion helpu’ch ymchwiliad
  • nad oes gennym wybodaeth bod gan yr ymddiriedolaeth gyfran reolaethol mewn cwmni alltraeth

  • nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth i ni allu olrhain yr ymddiriedolaeth

  • nad yw’r ymddiriedolaeth wedi’i chofrestru

  • yw’r ymddiriedolaeth wedi’i hesemptio o’r broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaeth, megis y canlynol:

    • mae hi’n ymddiriedolaeth drethadwy sydd ddim yn ddatganedig a’i bod ond wedi’i chofrestru am ei bod yn agored i drethiant y DU
    • mae hi’n ymddiriedolaeth ddatganedig eithriedig (a elwir hefyd yn ymddiriedolaeth atodlen 3A) a’i bod wedi’i chofrestru dim ond oherwydd ei bod yn agored i drethiant y DU
    • mae hi’n ymddiriedolaeth y tu allan i’r DU sydd heb unrhyw ymddiriedolwyr sy’n preswylio yn y DU, a’i bod wedi’i chofrestru dim ond oherwydd bod ganddi dir neu eiddo yn y DU

Gwybodaeth yr ydym yn ei rhannu am unigolion a sefydliadau

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ganlynol am yr unigolion:

  • ei enw

  • mis a blwyddyn ei eni

  • ei wlad breswyl

  • ei genedligrwydd

  • ei rôl yn yr ymddiriedolaeth

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ganlynol am y sefydliad:

  • ei enw

  • ei statws preswyl

  • ei rôl yn yr ymddiriedolaeth

Pan na fyddwn yn rhannu gwybodaeth am berchennog llesiannol

Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth am berchennog llesiannol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae ef yn iau na 18 oed

  • nid ydyw’n gallu gwneud penderfyniadau o ganlyniad i’w gyflwr meddygol

  • os ydym yn ymwybodol ac yn cytuno y bydd rhannu gwybodaeth yn gwneud unigolyn yn agored i’r canlynol:

    • twyll
    • herwgipiad
    • blacmel
    • cribddeiliaeth
    • aflonyddu
    • trais
    • bygythiad

Os na allwn rannu gwybodaeth

Os byddwn yn penderfynu peidio â rhannu gwybodaeth â chi, byddwn yn anfon llythyr neu e-bost atoch. Bydd ein llythyr neu’n e-bost yn rhoi gwybod i chi’r ffordd o ofyn i ni adolygu ein penderfyniad os ydych yn anghytuno.

Bydd gennych 30 diwrnod o gael ein llythyr neu’n e-bost i ofyn am adolygiad.

Yr hyn bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud cais am ddata ymddiriedolaeth

Byddwch angen y canlynol:

  • cyfeiriad e-bost — gallwch ddewis mewngofnodi yn lle hynny

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn

  • manylion a chyfeiriad eich sefydliad, os yw’n briodol

  • digon o wybodaeth i adnabod yr ymddiriedolaeth, er enghraifft:

    • enw’r ymddiriedolaeth
    • unrhyw Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu Gyfeirnod Unigryw (URN) perthnasol
    • manylion cyswllt pobl a sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolaeth

Ar gyfer ceisiadau am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant dilys, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • gwybodaeth i ddangos eich bod yn ymwneud ag ymchwiliad i wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth

  • adroddiad ysgrifenedig yn esbonio pam rydych yn amau bod yr ymddiriedolaeth yn ymwneud â gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth

Gallwch hefyd roi unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’ch adroddiad ysgrifenedig, er enghraifft, cyfriflenni banc, anfonebau ac e-byst. Mae’n rhaid i bob ffeil fod yn 10MB neu’n llai, ac ar ffurf un o’r canlynol: 

  • PDF
  • JPEG
  • DOCX
  • XLSX
  • PPTX
  • ODT
  • ODS
  • ODP

Anfon cais am ddata ymddiriedolaeth

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i anfon eich cais.

Drwy ddefnyddio’r ffurflen hon, rydych yn cytuno y gall yr wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni, gael ei defnyddio gan adrannau eraill yn CThEF. Ni allwn warantu y bydd eich manylion yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Er enghraifft, mae’n bosibl bydd CThEF yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei ddarparu er mwyn ymchwilio i ymddiriedolaeth sydd ddim ar y gofrestr ymddiriedolaethau.

Bydd angen i chi anfon cais ar wahân ar gyfer pob ymddiriedolaeth.

Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch, neu fewngofnodi, er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Anfon cais

Ar ôl i chi anfon eich cais

Byddwn yn:

  • anfon e-bost cadarnhau atoch gyda chyfeirnod eich cais

  • adolygu’r cais, ac ymgeisio ysgrifennu atoch o fewn 8 wythnos

Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch, byddwn yn naill ai:

  • rhoi’r wybodaeth rydych wedi gwneud cais amdani i chi yn gyfan gwbl neu’n rhannol 

  • dal yr holl wybodaeth yn ôl 

  • rhoi gwybod i chi nad oes modd delio â’ch cais

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Ebrill 2026 show all updates
  1. The guidance has been updated to clarify who and in what circumstances a trust data request can be sent to HMRC.

  2. Information about what a trust data request is and how to make a trust data request has been added.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon