Canllawiau

Gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor (CF83)

Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am gyfnodau dramor.

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am gyfnodau dramor er mwyn llenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Cyn i chi wneud cais, dylech wirio’r rheolau ar ba gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn pen 6 mis, ni allwn brosesu eich cais. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch i wneud cais

Bydd angen y canlynol arnoch i wneud cais: 

  • eich enw llawn 

  • eich dyddiad geni 

  • eich rhif Yswiriant Gwladol — gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli

  • eich cyfeiriad yn y DU, os yw’n berthnasol

  • eich cyfeiriad dramor, os yw’n berthnasol

  • y dyddiad y gwnaethoch adael y DU 

  • manylion eich cyflogaeth cyn i chi adael y DU

  • pa mor hir y gwnaethoch fyw dramor, neu pa mor hir yr ydych yn bwriadu byw tramor, os yw’n hysbys

  • manylion eich cyflogaeth neu’ch hunangyflogaeth dramor, os yw’n berthnasol

  • manylion unrhyw fudd-dal gan y llywodraeth roeddech chi’n ei gael neu’n ei hawlio, os yw’n berthnasol

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd angen ffôn arnoch gyda chamera sy’n gweithio. Bydd hefyd angen un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig arnoch:

  • trwydded yrru cerdyn-llun yn y DU

  • pasbort y DU

  • pasbort nad yw o’r DU sydd â sglodyn biometrig

  • trwydded breswylio fiometrig (BRP) y DU

  • cerdyn preswylio biometrig (BRC) y DU

  • trwydded gweithiwr trawsffiniol y DU

Os ydych yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer sawl cyfnod, mae angen yr wybodaeth hon ar gyfer pob cyfnod.

Os ydych yn weithiwr datblygu gwirfoddol, bydd angen i chi roi gwybod i ni am eich enillion at ddibenion Yswiriant Gwladol. Dylai hyn gynnwys yr holl lwfansau ar ffurf arian a delir gan eich cyflogwr. Ni ddylai hyn gynnwys buddiannau nac unrhyw lwfansau ar ffurf arian nad ydynt yn cael eu talu gan eich cyflogwr.

Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i’r arweiniad anghywir, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol.  Os ydych o’r farn y gallai hyn fod wedi effeithio arnoch chi, gallwch roi manylion.

Gwneud cais i dalu

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os cymeradwyir eich cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am gyfnodau dramor, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a chadarnhau’r symiau a’r dyddiadau talu, neu efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth.

Dysgwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a byw dramor, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Ebrill 2026 show all updates
  1. Rates and thresholds have been updated for the tax year 2026 to 2027.

  2. Added information about changes to voluntary Class 2 National Insurance contributions for time spent abroad from 6 April 2026 following Autumn Budget 2025.

  3. The criteria for apply to pay National Insurance contributions has been updated.

  4. You can now apply to pay voluntary National Insurance contributions online. Information has been added on paying voluntary National Insurance contributions if you've lived or paid social security contributions in an EU country, Iceland, Liechtenstein, Norway, Switzerland or Turkey. Information has been added on what to do if your employer is paying your voluntary National Insurance contributions.

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon