Canllawiau

Gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu ffurflen bost CF411 i wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref Yswiriant Gwladol, neu i’w drosglwyddo oddi wrth briod neu bartner.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu’r ffurflen bost er mwyn:

  • gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
  • trosglwyddo Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref oddi wrth briod neu bartner

Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi wirio eich bod yn gymwys.

Bydd angen i chi ddarparu’r dystiolaeth ganlynol

Os ydych yn ofalwr maeth neu’n ofalwr sy’n berthynas

Bydd yn rhaid i chi anfon copi o lythyr o gadarnhad cyfredol oddi wrth yr awdurdod lleol neu’r asiantaeth faethu gyda’ch cais.

Os ydych yn gofalu am berson sy’n sâl neu’n anabl

Bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth gyda’ch cais, sy’n dangos y lwfansau neu’r budd-daliadau a dalwyd i’r unigolyn yr oeddech yn gofalu amdano yn ystod y cyfnod yr oeddech yn gofalu amdano.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos bod y lwfans neu’r budd-dal wedi’i dalu er mwyn cwmpasu o leiaf 48 wythnos ymhob blwyddyn rydych yn hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar ei chyfer.

Os dyfarnwyd Budd-dal Plant i chi ar gyfer plentyn o dan 16 oed

Os ydych chi’n credu bod Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar goll o’ch cofnod Yswiriant Gwladol pan ddyfarnwyd Budd-dal Plant i chi ar gyfer plentyn o dan 16 oed, gwnewch gais ar-lein neu drwy’r post.

 Bydd angen i chi gynnwys:

  • enwau eich holl blant
  • dyddiadau geni eich holl blant
  • manylion y rhiant arall, os ydynt yn hysbys

Gallwch hefyd gynnwys tystiolaeth sy’n ategu’ch hawliad, er enghraifft llythyr dyfarniad Budd-dal Plant neu gyfriflen banc sy’n dangos taliadau Budd-dal Plant.

Os ydych chi’n gwneud cais ar ran rhywun sydd wedi marw a ddyfarnwyd Budd-dal Plant iddo

Os ydych chi’n gwneud cais ar ran rhywun sydd wedi marw, gwnewch gais drwy’r post a chynnwys llythyr yn cadarnhau mai chi yw’r cynrychiolydd personol.

Ffyrdd o wneud cais

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu.

Byddwch yn cael cyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Os ydych yn cyflwyno llythyr o gadarnhad neu dystiolaeth ategol, bydd angen i chi uwchlwytho llun o hyn a’i anfon gyda’ch cais. Dylai’r ffeil a anfonwch fod:

  • yn 5MB neu’n llai ei faint
  • ar ffurf PDF neu JPEG

Gwneud cais nawr

Gwneud cais drwy’r post

I wneud cais drwy’r post, bydd angen y canlynol arnoch:

  • y blynyddoedd treth rydych yn gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar eu cyfer
  • y dyddiadau y gwnaethoch hawlio Budd-dal Plant
  • unrhyw ddyddiadau yr oeddech yn byw y tu allan i’r DU yn ystod y cyfnod yr ydych yn hawlio ar ei gyfer

I ddefnyddio’r ffurflen hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  2. Dechrau eich hawliad ar-lein.

  3. Argraffu’r ffurflen.

  4. Llofnodi’r datganiad.

  5. Anfon y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Gallwch hefyd ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn i’r ymgynghorydd anfon ffurflen gais atoch chi.

Cael help i gyflwyno’ch cais

Gallwch ddefnyddio’r nodiadau hyn i’ch helpu i lenwi’ch cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.

Nodiadau i'ch helpu i wneud cais am Amddiffyniad Cyfrifoldebau Cartref

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Ar ôl i chi wneud cais

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 (yn agor tudalen Saesneg) os caiff eich cais ei gymeradwyo a gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb oddi wrth CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Chwefror 2026 show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. Guidance added under the ‘After you’ve applied’ section to explain that you may be able to apply for a refund of voluntary Class 3 National Insurance contributions if your application is approved.

  3. Guidance updated with new 'If you were awarded Child Benefit for a child under 16' and 'If you’re applying on behalf of someone who has died who was awarded Child Benefit' sections.

  4. Guidance has been added on how to check when you can expect a reply from HMRC after you've submitted your application.

  5. The link to the eligibility checker tool has been moved and made more prominent.

  6. 'Before you apply' has been updated to include that you must first check if you have any gaps in your National Insurance record and if you are eligible to apply for Home Responsibilities Protection. The instruction for parents or carers to check if they can apply for National Insurance credits using form CF411A has been removed. The 'You will need' section has been updated for clarification and to include only the things that you need.

  7. The apply by post form has been updated.

  8. A Welsh version of the form has been added.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon