Gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch
Gwnewch gais am Ddyfarniad Prisio Uwch er mwyn rhoi cadarnhad cyfreithiol i chi o’r dull cywir i’w ddefnyddio wrth brisio’ch nwyddau a gwneud datganiad mewnforio.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Bydd angen:Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r dull cywir wrth gyfrifo gwerth y nwyddau rydych yn eu mewnforio i mewn i’r DU (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch wneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch cyn i chi wneud datganiad mewnforio, a hynny er mwyn:
- gwirio eich bod wedi defnyddio’r dull prisio cywir
- cael penderfyniad a gefnogir gan y gyfraith, sy’n cadarnhau y gallwch ddefnyddio dull prisio penodol
Gallwch fewnforio nwyddau heb fod â Dyfarniad Prisio Uwch, ond bydd bod ag un yn eich helpu i dalu’r doll gywir ar eich nwyddau.
Gall prisio nwyddau fod yn gymhleth, felly mae’n bosibl yr hoffech ofyn i rywun ddelio â’r tollau ar eich rhan (yn agor tudalen Saesneg).
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn fasnachwr ac yn defnyddio’ch rhif EORI eich hun sy’n dechrau gyda ‘GB’
- rydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran masnachwr
Os hoffech i asiant weithredu ar eich rhan, bydd angen i chi ychwanegu asiant i’ch cyfrif treth busnes CThEF. Os na allwch ychwanegu asiant drwy’r dull hwn, bydd angen i chi rhoi llythyr o awdurdod i’r asiant.
Cyn i chi ddechrau
Mae angen i chi wneud cais am ddyfarniad cyn i holl weithdrefnau’r tollau gael eu cwblhau — ni ellir gwneud penderfyniadau yn ôl-weithredol.
Gall CThEF wrthod cais os yw’r canlynol yn wir:
- nid ydych yn bwriadu mewnforio’r nwyddau
- nid ydych yn gallu darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol am eich nwyddau
- rydych eisoes wedi clirio’ch nwyddau drwy Weithdrefnau Mewnforio’r Tollau
Bydd angen:
- manylion mewngofnodi (os nad oes gennych nhw, gallwch eu creu pan fyddwch yn gwneud cais)
- i chi adnabod y dull prisio gorau ar gyfer prisio’ch nwyddau, yn eich barn chi, (dysgwch am y dulliau ar gyfer cyfrifo gwerth tollau’r nwyddau a mewnforiwyd gennych (yn agor tudalen Saesneg))
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi roi dogfennau ategol i ni, sy’n berthnasol i’r nwyddau sy’n cael eu mewnforio, megis:
- anfonebau masnachol oddi wrth gyflenwyr tramor
- archebion prynu
- copïau o gofnodion mewnforio blaenorol
- dadansoddiad o gostau gweithgynhyrchwyr
- cytundebau masnachol â chyflenwyr
- unrhyw ddogfennau perthnasol eraill
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o ddogfennau ategol arnom.
Os bydd angen i chi gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n fasnachol sensitif fel rhan o’ch cais bydd yn rhaid i chi ei marcio’n gyfrinachol pan fyddwch yn gwneud cais. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddogfennau y gallech eu huwchlwytho fel rhan o’ch cais.
Gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch
Mae’n rhaid i chi gwblhau cais ar wahân ar gyfer pob math o nwyddau sydd angen penderfyniad.
Os oes gennych gyfrif treth busnes
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes er mwyn gwneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch gan ddefnyddio’r manylion mewngofnodi a ddefnyddiwyd gennych wrth greu’r cyfrif.
I wneud cais am ddyfarniad, ewch i hafan y cyfrif treth busnes, a dewis ‘Cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun’.
Os nad oes gennych gyfrif treth busnes
Gallwch wneud cais am Ddyfarniad Prisio Uwch gan ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn ateb i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law cyn pen 30 diwrnod.
Pan fydd eich cais wedi’i dderbyn byddwch yn cael penderfyniad cyn pen 90 diwrnod.
Bydd eich penderfyniad hefyd yn cynnwys y canlynol:
- dyddiad dechrau’r dyfarniad (mae’n ddilys am hyd at 3 blynedd, sy’n golygu y gallwch ddefnyddio’r dyfarniad ar gyfer unrhyw fewnforio pellach o’r nwyddau hyn yn ystod y cyfnod hwn)
- cyfeirnod unigryw sy’n dynodi’ch dyfarniad
- enw a chyfeiriad y busnes neu’r person sy’n dal y dyfarniad — dyma bwy sydd â’r hawl gyfreithiol i’w ddefnyddio (ni ellir trosglwyddo penderfyniadau)
- disgrifiad manwl o’ch nwyddau (gan gynnwys unrhyw nodau a rhifau penodol) y gellir ei ddefnyddio i ddynodi’ch nwyddau’n hawdd wrth y ffin
- esboniad o sut y cyrhaeddom ein penderfyniad
Sut i ddefnyddio’r dyfarniad
-
Rhowch wybod i’r person sy’n cwblhau’ch datganiad mewnforio fod eich nwyddau wedi cael Dyfarniad Prisio Uwch.
-
Rhowch i’r person y dull prisio tollau cywir, ynghyd â’r cyfeirnod Dyfarniad Prisio Uwch i’w ddefnyddio wrth gwblhau’r datganiad.
-
Ewch ati i ddatgan bod gennych Ddyfarniad Prisio Uwch yn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, fel y manylir yn y Cyfarwyddiadau i wneud Cais am Glirio Tollau a Datganiad CDS (yn agor tudalen Saesneg).
Apelio yn erbyn penderfyniad dyfarnu
Os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad, gallwch wneud cais am adolygiad drwy e-bost: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu reviews@hmrc.gov.uk. Bydd yr hysbysiad o benderfyniad a gewch yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am sut i wneud cais am adolygiad.
Fel arall, gallwch apelio’n uniongyrchol ar Y Gwasanaeth Tribiwnlys, sy’n annibynnol ar CThEF. Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad adolygiad gan CThEF, gallwch ddal i apelio ar y tribiwnlys.
Updates to this page
-
The email address for appealing a ruling decision has been added.
-
Information about what you need before you start to apply has been updated.
-
You can now arrange for an agent to apply on your behalf without having a Business Tax Account.
-
Added translation