Cefnogi cwsmeriaid sydd efallai'n methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain
Cyhoeddwyd 11 Rhagfyr 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Rhagair
Mae miliynau o bobl ledled Cymru a Lloegr yn elwa o ddefnyddio Atwrneiaethau. Maen nhw’n offeryn cyfreithiol gwerthfawr sy’n helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed i gadw rheolaeth dros benderfyniadau am eu lles a’u harian os nad oes ganddynt y galluedd meddyliol eu hunain.
Fodd bynnag, mae’r bobl sy’n cael eu penodi i wneud y penderfyniadau hynny’n gweld y broses o ymdrin â darparwyr gwasanaethau’n broses gymhleth yn aml iawn.
Er mwyn helpu i wneud y profiad yn esmwythach i gwsmeriaid, a’u galluogi i ddefnyddio atwrneiaethau’n effeithiol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU wedi cydweithio i adnewyddu’r canllaw hwn, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 2019. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Atwrneiaethau Arhosol a Pharhaus, Dirprwyaethau a Gwarcheidiaethau.
Bydd y canllaw hwn yn helpu cwmnïau i ddatblygu prosesau symlach pan fydd atwrneiaid, gwarcheidwaid a dirprwyon wedi’u penodi gan y llys yn cysylltu â nhw. Bydd hefyd yn helpu cwsmeriaid i fod yn fwy parod pan fyddant yn ymgysylltu â sefydliadau perthnasol.
Trwy roi esboniad eglur am bolisïau, agweddau cyfreithiol a gwybodaeth ddefnyddiol arall, ein nod yw ysgafnhau’r baich y mae atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid yn eu hwynebu yn eu cyfrifoldebau dyddiol, gan wneud trafodion mor esmwyth a di-broblem ag y bo modd.
Rydym yn falch o gydweithio i wella’r ffordd y mae ein cyd-gwsmeriaid yn cyrchu a defnyddio ein gwasanaethau.
Ruth Duffin Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr
Attricia Archer Cyfarwyddwr Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU
Cyflwyniad
Ysgrifennwyd y canllaw hwn gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) mewn partneriaeth â Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU (UKRN), Ofcom, Ofwat a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Ei fwriad yw helpu gwneuthurwyr polisïau mewn gwasanaethau ariannnol a chwmnïau cyfleustodau i ddarparu gwybodaeth syml a chyson i staff, a fydd yn gwneud y broses yn haws i gwsmeriaid.
Mae’r ddogfen hon hefyd yn rhoi trosolwg o’r ffordd y dylai Deddf Galluedd Meddyliol 2005 siapio’r dull o ymdrin â chwsmeriaid sydd ag atwrneiaeth neu ddirprwyaeth neu orchymyn llys gwarcheidiaeth.
Mae’r ddogfen i’w gweld ochr yn ochr â gwybodaeth ar wefan GOV.UK a’r canllawiau sy’n bodoli’n barod yn y sector, ac nid yw wedi’i bwriadu i gymryd lle arweiniad manylach lle mae hwnnw ar gael.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Mae swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i reoli penderfyniadau am eu hiechyd a’u cyllid. Mae’n galluogi pobl i gael help i wneud penderfyniadau neu cael rhywun i wneud penderfyniadau na allant eu gwneud eu hunain. Gall hyn fod oherwydd nad oes ganddynt alluedd meddyliol neu wedi mynd ar goll.
Daw awdurdod y Gwarcheidwad Cyhoeddus o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA). Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi sut y mae’n rhaid trin unrhyw un sy’n methu gwneud rhai o’r penderfyniadau neu’r penderfyniadau i gyd.
Ar gyfer gwarcheidiaethau, daw’r awdurdod hwn o’r Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017. I gael rhagor o wybodaeth am warcheidiaethau, ewch i dudalen 45.
Cymru a Lloegr
Mae’r arweiniad hwn yn ymdrin ag atwrneiaethau sy’n gofrestredig yng Nghymru a Lloegr yn unig a gorchmynion llys a gyhoeddir yng Nghymru a Lloegr yn unig.Mae gwahanol gyfreithiau a phrosesau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yr Alban a Gogledd Iwerddon
I gael gwybodaeth am atwrneiaethau yn Yr Alban, ewch i wefan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Yr Alban) ar www.publicguardian-scotland.gov.uk.
I gael gwybodaeth am atwrneiaethau yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan NIdirect yn www.nidirect.gov.uk/articles/managing-your-affairs-and-enduring-power-attorney.
Cipolwg byr: atwrneiaethau a gorchmynion dirprwyaeth
Atwrneiaethau arhosol
Mae atwrneiaeth arhosol yn ddogfen gyfreithiol sy’n gadael i rywun (‘y rhoddwr’) ddewis un neu fwy o bobl y gallant ymddiried ynddynt (‘atwrneiaid’) i wneud penderfyniadau ar eu rhan.
Mae atwrneiaethau a dirprwyaethau’n cael eu llywio gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (gwelwch dudalen 9 i weld rhagor am hyn).
Mae’n rhaid i roddwyr fod dros 18 oed a bod â’r galluedd meddyliol pan maen nhw’n llofnodi atwrneiaeth. Nid oes raid i roddwyr fod yn byw yng Nghymru a Lloegr, ond mae atwrneiaethau’n ymdrin ag asedau sydd wedi eu seilio yng Nghymru a Lloegr yn unig.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cofrestru 3 gwahanol fath o atwrneiaeth. Dyma nhw:
- atwrneiaethau arhosol (LPAs) ar gyfer penderfyniadau am eiddo a materion ariannol
- atwrneiaethau arhosol (LPAs) ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles
- atwrneiaethau parhaus (EPAs) – mae’r rhain yn ddogfennau hŷn sy’n ymwneud â phenderfyniadau am eiddo a materion ariannol yn unig, a disodlwyd y rhain gan LPAs yn 2007
Bydd staff mewn marchnadoedd wedi’u rheoleiddio’n ymdrin â 2 fath o atwrneiaethau – LPAs ar gyfer penderfyniadau am eiddo a materion ariannol, ac EPAs.
Nid yw LPAs ar gyfer penderfyniadau am iechyd a lles yn rhoi’r grym i atwrneiod wneud penderfyniadau ariannol. Os byddwch chi’n derbyn LPA iechyd a lles, cofiwch nad yw’n rhoi grym atwrnai i chi i reoli ariannau rhywun arall na rhedeg eu cyfrifon.
Gorchmynion dirprwyaeth
Os nad oes gan berson y galluedd meddyliol i ofyn i rywun arall reoli eu materion, gall unigolyn wneud cais i’r Llys Gwarchod (y llys) i ddod yn ddirprwy i’r person hwnnw (y cyfeirir ato fel ‘P’).
Gwneir y ceisiadau hyn pan mae P wedi colli galluedd i wneud LPA.
Os bydd y llys yn cytuno mai’r ymgeisydd yw’r person mwyaf addas i ddod yn ddirprwy i P, mae’n cyhoeddi gorchymyn dirprwyaeth. Unwaith y bydd y gorchymyn wedi’i gyhoeddi, gall y dirprwy wneud penderfyniadau penodol ar ran P.
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn goruchwylio ac yn cefnogi dirprwyon sydd wedi eu penodi gan y llys. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau eu bod yn gweithredu er budd gorau’r person y maen nhw wedi eu penodi ar eu cyfer.
Gall gorchmynion dirprwyaeth ymdrin â phenderfyniadau am:
- eiddo ac ariannau
- lles personol
Gall un gorchymyn dirprwyaeth ymdrin â phenderfyniadau am y ddau.
Galluedd meddyliol: yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) 5 egwyddor:
- Tybiwch fod galluedd meddyliol gan berson heblaw bod tystiolaeth i ddweud fel arall
- Peidiwch â thrin pobl fel rhai sy’n methu gwneud penderfyniad heblaw bod yr holl gamau ymarferol wedi’u cymryd i’w helpu nhw i wneud y penderfyniad
- Ni ddylai person gael eu trin fel rhywun sy’n methu gwneud penderfyniad am fod eu penderfyniad yn ymddangos yn annoeth i unrhyw un arall
- Gweithredwch bob amser er budd gorau rhywun sydd heb y galluedd meddyliol
- Cyn gwneud penderfyniad ar ran rhywun, ystyriwch bob amser a ddylai’r canlyniad gael ei sicrhau mewn ffordd llai cyfyngiadol
Mae’n ddefnyddiol gwybod yr egwyddorion hyn – yn enwedig os ydych yn meddwl nad yw rhywun yn eu dilyn nhw ac rydych eisiau rhoi gwybod am achos pryder. Fodd bynnag, ni fydd angen i chi gofio’r egwyddorion hyn er mwyn helpu cwsmeriaid neu rywun sy’n gweithredu ar ran cwsmer.
Ni fyddwch yn asesu galluedd cwsmer eich hun, oherwydd nid ydych yn cael digon o gysylltiad â nhw ac nid oes gennych ddigon o brofiad o alluedd meddyliol i wneud asesiad cywir. Yn syml iawn, mae angen i chi:
- wirio bod unrhyw ddogfen cyfreithiol a ddangosir i chi’n ddilys – rydym yn dweud sut wrthych yn hwyrach yn y canllaw hwn
- ddarllen dogfennau cyfreithiol cwsmer yn ofalus i weld pwy sy’n cael gwneud penderfyniadau iddynt, pryd y gall y person hwnnw weithredu ac a oes cyfyngiadau ar y ffordd y gallant weithredu
- newid cofnodion eich cwmni i ddangos pwy sy’n cefnogi eich cwsmer i wneud penderfyniadau, neu wneud penderfyniadau ar eu rhan
Gall galluedd meddyliol:
- gael ei golli’n barhaol
- gael ei golli dros dro, yna ei adennill
- fynd a dod – efallai y bydd person yn gallu gwneud penderfyniadau ar rai adegau ond nid ar adegau eraill
Mae asesiadau galluedd meddyliol yn gwneud prawf bob tro i weld a all rywun wneud penderfyniadau penodol – yn hytrach na rhai cyffredinol – ar yr adeg pan mae angen eu gwneud nhw.
Rhesymau pam nad oes gan rhywun alluedd meddyliol:
- anabledd dysgu
- anaf i’r ymennydd
- dementia
- camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
- sgil effeithiau triniaeth feddygol
Senario: galluedd meddyliol
Mae gan Roger LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol ers 2014, sy’n enwi ei wraig Angela a’i fab Mark fel atwrneiaid ar y cyd ac ar wahân.
Mae Angela yn cysylltu â’r banc i ddweud bod Alzheimer’s gan ei gŵr a’i fod wedi colli galluedd meddyliol. Mae hi eisiau cymryd rheolaeth dros ei gyfrifon banc.
Mae hi’n anfon copi ardystiedig o LPA Roger i’r banc. Mae’r ddogfen hon yn nodi bod yr atwrneiaid yn gallu rheoli arian Roger dim pan fydd wedi colli’r galluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ariannol ei hun yn unig.
Y diwrnod wedyn, mae Roger yn ffonio’r banc ac yn dweud yn hyderus ei fod yn dal i allu rheoli ei arian ei hun a’i fod eisiau cadw ei gerdyn banc ei hun.
Nid yw’r banc yn sicr beth i’w wneud. Mae asiant cwsmeriaid yn ysgrifennu at Angela i ofyn a oes unrhyw dystiolaeth i ddangos nad oes gan Roger alluedd meddyliol Bellach.
Mae Angela yn anfon llythyr diweddar at y banc gan feddyg Roger sy’n nodi nad oes gan Roger y galluedd meddyliol i wneud penderfyniad ynghylch bwrw ymlaen â gweithrediad neu beidio.
Fodd bynnag, nid yw’r llythyr yn sôn am alluedd meddyliol Roger i wneud penderfyniadau ariannol.
Am fod y banc wedi hyfforddi ei staff yn egwyddorion yr MCA, maen nhw’n gwybod bod pobl yn gallu bod â’r galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau ond nid eraill.
Nid oes tystiolaeth i ddangos nad oes gan Roger y galluedd meddyliol i reoli ei gyllid, dim ond nad oes ganddo’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniad iechyd. Felly, dylai Angela a Mark dybio bod ganddo’r galluedd i wneud y penderfyniad.
Mae’r banc yn penderfynu nad yw Angela yn gallu cymryd rheolaeth ar gyfrifon Roger ar hyn o bryd.
I gael mwy o wybodaeth am alluedd meddyliol, gwelwch god ymarfer MCA neu darllenwch y cyngor ar GOV.UK ynglŷn â sut i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.
Trin atwrneiod a dirprwyon yn ofalus
Mae gwneud penderfyniadau i rywun arall yn gyfrifoldeb difrifol. Mae nifer o atwrneiaid yn cytuno i wneud hyn heb sylweddoli’r lefel o ymrwymiad y mae’n ei gymryd.
Mae rhai atwrneiaid a dirprwyon yn ei gael yn straen neu’n anodd gwneud penderfyniadau ar ran rhywun arall. Cofiwch, efallai eu bod nhw’n ymdrin ag anwylyn sy’n colli eu galluedd meddyliol ar yr un pryd â chymryd rheolaeth dros eu cyfrifon.
Mae’n debyg y bydd yn rhaid i atwrnai neu ddirprwy ymdrin â nifer o gwmnïau a sefydliadau wrth ddechrau gwneud penderfyniadau ariannol. Os byddwch yn gofyn iddyn nhw am ddogfennau gwreiddiol, efallai y bydd yn cymryd amser i’r atwrnai neu ddirprwy eu darparu nhw.
Unwaith y byddwch wedi gwirio bod yr LPA, EPA neu orchymyn dirprwyaeth yn ddilys – rydym yn dweud wrthych sut i wneud hyn yn y canllaw hwn – byddwch yn gwybod bod gan atwrnai neu ddirprwy awdurdod i weithredu ar ran eich cwsmer.
Yna dylech drin yr atwrnai neu ddirprwy fel y byddech yn trin y cwsmer y maent yn gweithredu ar eu rhan.
Bydd o gymorth i atwrneiaid a dirprwyon os byddwch yn ysgrifennu polisïau clir ar gyfer derbyn dogfennau cyfreithiol, fel eu bod yn gwybod yn union beth rydych yn ei ddisgwyl.
Sut y mae’n rhaid i atwrneiod a dirprwyon weithredu
Mae gan atwrneiod a dirprwyon y grym i wneud penderfyniadau penodol ar ran y rhoddwr neu P, ond mae’n rhaid iddyn nhw:
- gefnogi’r rhoddwr neu P i wneud eu penderfyniadau eu hunain, lle bo modd
- wneud unrhyw benderfyniadau er budd gorau’r rhoddwr neu P
- ystyried dymuniadau a theimladau’r rhoddwr neu P, lle mae’r rhain yn hysbys
- weithio o fewn cyfyngiadau’r gorchymyn llys, y ddirprwyaeth, y cyfarwyddiadau a dewisiadau mewn LPA neu’r cyfyngiadau ac amodau mewn EPA
Wrth ymdrin ag atwrneiod a dirprwyon, efallai y byddwch yn pryderu sut maen nhw’n gwneud eu dyletswyddau.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw beth amheus ynlgŷn â rhywbeth y mae atwrnai neu ddirprwy’n ei ddweud neu’n ei wneud, gwnewch nodyn ohono a rhowch wybod amdano i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Rhoi gwybod am bryderon am atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
Cysylltwch ag OPG os oes gennych bryderon am unrhyw un sy’n gweithredu ar ran rhoddwr neu P.
Gall pryderon fod am unrhyw beth nad ydych yn teimlo eu bod er budd gorau rhoddwr neu P, megis:
- camddefnyddio arian
- penderfyniadau sydd o fudd i atwrnai neu ddirprwy yn lle rhoddwr neu P
- LPA, EPA neu orchymyn dirprwyaeth a allai fod yn ffug yn eich barn chi
- llofnod rhoddwr nad yw’n cyfateb â’ch cofnodion
- gwario anarferol o gyfrif rhoddwr neu P
- biliau nad ydynt yn cael eu talu dro ar ôl tro
- clywed rhywbeth sy’n gwneud i chi feddwl bod y rhoddwr neu P mewn perygl o niwed (gellir hefyd gweld yr adran Dweud wrth yr heddlu)
Os ydych yn pryderu sut mae atwrnai neu ddirprwy’n rheoli cyfrif eich cwsmer:
- e-bost opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk
- ffôn 0300 456 0300
I weld oriau agor y llinell gymorth, gallwch weld y dudalen Rhoi gwybod am bryder .
Y wybodaeth rydym ei hangen i ddelio gyda phryder
I ddelio â phryder yn gyflym, mae angen i ni wybod:
- enw a dyddiad geni’r person rydych yn pryderu amdanynt
- enw unrhyw un rydych yn credu eu bod o bosib yn camddefnyddio eu grym i wneud penderfyniadau
- dyddiadau unrhyw gamdriniaeth bosibl – gallai hyn ddigwydd pan gychwynnodd y trafodion anarferol neu’r methu taliadau
- manylion unrhyw dystiolaeth – cofnodion y sylwadau a wnaed, copïau o ddatganiadau banc, cofnodion cyfrif cwsmer heb ei dalu neu debyg
- • eich manylion cysylltu – byddwn yn cadw’r rhain yn gyfrinachol ond mae angen i ni wybod pwy ydych chi fel ein bod yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
Dweud wrth yr heddlu
Os ydych yn credu bod trosedd wedi’i chyflawni yn erbyn rhywun sy’n methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain, deialwch 101 a rhoi gwybod am hyn i’r heddlu ar y rhif ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys. Mae camdriniaeth economaidd yn drosedd, ac mae wedi ei diffinio yn Neddf Camdriniaeth Ddomestig 2021.
Gall bobl sy’n dioddef camdriniaeth economaidd gael cyngor a chefnogaeth gan sefydliadau fel Surviving Economic Abuse ac Hourglass.
Ffoniwch 999 bob amser os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol
Sut rydym yn ymdrin â’ch pryderon
Unwaith y byddwch wedi darparu’r wybodaeth yr ydym ei hangen, byddwn yn adolygu’r pryderon i weld a oes gennym:
- ddigon o dystiolaeth i gychwyn ymchwiliad
- yr awdurdod i edrych i mewn i’r mater
Rydym yn mynd ati’n ofalus i ystyried bob pryder ac ymateb i’r person a roddodd wybod amdano o fewn 5 diwrnod. Byddwn yn dweud wrthych ar y cam hwn os oes gennym ddigon o dystiolaeth i gychwyn ymchwiliad llawn.
Ymchwiliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud ymchwiliad llawn, ein nod yw ei gwblhau o fewn 70 diwrnod. Mae tudalen 12 yn dangos y mathau o bryderon y gallwn eu hymchwilio.
Os bydd atwrnai neu ddirprwy’n gwrthod cydweithio â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod yr ymchwiliad, neu os byddwn yn dod o hyd i dystiolaeth o gamdriniaeth ariannol neu les, efallai y byddwn yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod.
Mewn rhai achosion byddwn yn gofyn i’r llys am orchymyn sy’n rhoi cyfarwyddyd i atwrnai neu ddirprwy i ddarparu tystiolaeth o benderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud ar ran y rhoddwr neu P.
Mewn achosion eraill, efallai y byddwn yn gofyn i’r llys dynnu atwrnai neu ddirprwy allan o EPA, LPA neu orchymyn llys, fel na allant bellach weithredu ar ran y rhoddwr neu P.
Pethau na allwn eu hymchwilio
Ni allwn ymchwilio pryderon:
- a ddigwyddodd cyn y gwnaed LPA neu EPA, neu cyn cyhoeddi gorchymyn llys
- nad ydynt yn ymwneud â LPA neu EPA cofrestredig – er enghraifft, pryderon iechyd lle mae gan y rhoddwr EPA neu LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol yn unig
- am weithredoed pobl nad ydynt yn atwrneiaid neu ddirprwyon
- os oes gan y rhoddwr y gallu o hyd i ymdrin â’r pryderon ei hun
Er na allwn ymchwilio i bryderon a ddigwyddodd cyn i LPA neu EPA gael eu cofrestru, gallwn ymchwilio os oes pryderon bod un yn cael ei ddefnyddio nad yw’n ddilys.
Pan fyddwn yn derbyn pryder sydd y tu allan i’n hawdurdod cyfreithiol i ymchwilio, gallwn ei basio i asiantaeth priodol arall megis y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu.
Rhai cwestiynau cyffredin am LPAs ac EPAs
Pryd mae modd defnyddio LPA eiddo a materion ariannol?
Gall atwrnai ddefnyddio LPA eiddo a materion ariannol gynted ag y bydd wedi’i gofrestru gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, oni bai:
- bod rhoddwr yr LPA wedi ei lofnodi ar ôl 1 Ionawr 2016 gan ddefnyddoi’r ffurflen LP1F a nodi yn adran 5 (tudalen 6) nad oedden nhw eisiau i’r LPA gael ei ddefnyddio nes iddyn nhw golli galluedd meddyliol
- bod y rhoddwr wedi dweud yng nghyfarwyddiadau unrhyw fersiwn o’r LPA na allai’r atwrneiaid ond gweithredu unwaith y byddai’r rhoddwr yn colli galluedd
Gallwch weld yr LPA cofrestredig ar y gwasanaeth Gweld LPA.
Beth yw atwrneiaethau ‘arferol’ a ‘chyffredinol’?
Gall atwrneiaethau arferol a chyffredinol gael eu trefnu i edrych ar ôl materion pobl am amser cyfyngedig, er enghraifft, os ydyn nhw’n byw dramor, yn mynd i’r carchar neu’n gaeth i’r tŷ. Yr unig bryd y
gellir eu defnyddio yw pan fydd galluedd meddyliol gan y rhoddwr a’r atwrnai, felly nid yw’r dogfennau hyn yn opsiwn amgen i LPA neu EPA.
Gellir defnyddio atwrneiaethau arferol i edrych ar ôl materion penodol, felly efallai na fydd yn cynnwys arian. Dylech wirio’r ddogfen yn ofalus i gael y wybodaeth hon.
Mae atwrneiaethau cyffredinol yn ymwneud â phenderfyniadau ariannol yn unig.
Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymdrin ag atwrneiaethau arferol na chyffredinol.
Os yw rhoddwr wedi cofrestru ‘cyswllt wedi’i enwebu’ ar gyfer bilio, a oes angen iddyn nhw gael LPA neu EPA beth bynnag?
Gellir defnydddio cyswllt wedi’i enwebu cyhyd ag y bo galluedd meddyliol gan roddwr.
Os yw rhoddwr wedi colli galluedd meddyliol ac mae ganddynt LPA neu EPA cofrestredig yn ei le, mae hawl cyfreithiol gan eu hatwrneiaid yn awr i reoli eu cyllid yn lle cyswllt wedi’i enwebu.
Os yw rhoddwr wedi colli galluedd meddyliol heb roi LPA neu EPA yn ei le, mae hawl cyfreithiol gan y person sydd wedi’i enwi i reoli eu cyllid yn lle cyswllt wedi’i enwebu.
Beth am bobl wedi eu penodi gan yr Adran Waith a Phensynau (DWP)?
Gall yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) benodi rhywun (penodai) i weithredu ar ran person sy’n derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth sy’n methu rheoli eu budd-daliadau am eu bod wedi colli galluedd meddyliol, neu’n ddifrifol anabl.
Fodd bynnag, yr unig beth y gall penodai ei wneud yw rheoli taliadau budd-daliadau’r person arall, nid gweddill eu harian.
Cwestiynau cyffredin - parhad
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng LPA neu EPA, mandadau trydydd parti a rheolaeth biliau trydydd parti?
Mae mandad trydydd parti yn rhoi mynediad i drydydd parti reoli cyfrifon person. Mae rheolaeth biliau trydydd parti’n caniatáu i drydydd parti dalu biliau cyfleustodau. Mae’r ddau drefniant yma’n cael eu cefnogi gan farchnadoedd wedi’u rheoleiddio ond nid ydynt wedi eu seilio ar yr un lefel o awdurdod cyfreithiol ag LPA neu EPA ac mae’r ystod o bwerau’n gyfyngedig fel arfer.
Yn wahanol i LPAs ac EPAs, mae mandadau trydydd parti a rheolaeth biliau cyfleustodau yn ddilys dim ond tra bydd gan unigolyn alluedd meddyliol.
Nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu ymdrin â phryderon am fandadau trydydd parti neu reolaeth biliau trydydd parti.
A oes modd dileu atwrneiod o LPA ac EPA?
Oes, dan rai amgylchiadau.
Nid yw Swyddfa’r Gwracheidwad Cyhoeddus yn gallu dileu atwrneiod – mae’n rhaid i ni wneud cais i’r llys i ofyn i farnwr wneud penderfyniad.
Mae gofyniad cyfreithiol i atwrneiod weithredu mewn ffordd sy’n cefnogi dymuniadau’r rhoddwr a’u diddordebau gorau. Gallai methu gwneud hyn olygu bod achos yn cael ei gyfeirio i’r Llys Gwarchod ar gyfer penderfyniad ynglŷn ag a yw atwrneiaid neu ddirprwyon wedi gweithredu er budd gorau’r rhoddwr neu P.
Gall atwrnai LPA benderfynu a ydyn nhw eisiau rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai (yr enw ar hyn yw ‘ymwrthod’). Oni bai bod y rhoddwr wedi dweud fel arall yn eu cyfarwyddiadau, mae’n rhaid i atwrnai hefyd stopio gweithredu os ydyn nhw’n cael ysgariad oddi wrth y rhoddwr neu os ydyn nhw mewn partneriaeth sifil gyda’r rhoddwr sydd wedi’i diddymu.
Fodd bynnag, yr unig ffordd y gallant gael eu tynnu o’u rôl yw:
- gan y rhoddwr, os oes gan y rhoddwr y galluedd meddyliol
- gan y llys, os nad oes galluedd meddyliol gan y rhoddwr i dynnu’r atwrnai ei hun
Gall atwrnai EPA ymwrthod drwy lenwi ffurflen EP5. Gall y Llys Gwarchod hefyd dynnu’r atwrnai o’r EPA os bydd y sefyllfa’n gofyn am hynny.
Nid yw rhoddwr sydd ag EPA yn gallu dileu atwrnai unwaith y mae EPA wedi ei gofrestru, am fod EPAs yn dod yn gofrestredig dim ond pan fo’r rhoddwr yn colli, neu wedi colli, galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain.
Atwrneiaethau arhosol (LPAs)
Trosolwg: atwrneiaethau arhosol (LPAs)
Cyflwynwyd LPAs ym mis Hydref 2007. Gall unrhyw un dros 18 oed sydd â galluedd meddyliol wneud LPA.
Mae’n rhaid i LPA gael ei chofrestru gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) cyn y gellir ei defnyddio. Gallwch ddarganfod sut i wneud cais i gofrestru LPA ar GOV.UK.
Mae 2 fath o LPA:
- iechyd a lles
- eiddo a materion ariannol
Gall rhoddwr ddewis gwneud un math neu’r ddau
Ni fydd staff mewn marchnadoedd wedi’u rheoleiddio yn ymdrin ag Atwrneiaethau Arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles. Gwnewch yn siŵr bod yr Atwrneiaeth Arhosol y mae cwsmer neu atwrnai yn ei dangos i chi yn atwrneiaeth ar gyfer eiddo a materion.
Mae LPAs eiddo a materion ariannol yn ymwneud â phenderfyniadau am gyllid o ddydd i ddydd yn cynnwys:
- talu biliau’r cartref
- ymdrin â materion treth
- rheoli cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu a chynilo
- ymdrin â phensiynau, budd-daliadau, cyfranddaliadau, buddsoddiadau, yswiriant neu eiddo
- newid cwmni cyflenwi cyfleustodau
Gallwch weld enghreifftiau o’r fersiynau o LPA ar GOV.UK. Efallai y cewch chi fynediad hefyd i grynodeb ar-lein o’r LPA Gallwch ddarganfod mwy am hyn ar dudalen 20.
Mae LPA yn dod i ben mewn gwahanol ffyrdd, yn cynnwys:
- pan fydd rhoddwr yn penderfynu ei ddirymu, neu ei ganslo
- pan fydd rhoddwr yn marw
- pan fydd atwrnai yn colli galluedd meddyliol, ac nid oes atwrneiaid eraill neu atwrneiaid amnewid sy’n gallu gweithredu
- mae rhoddwr ac atwrnai unigol, neu atwrnai sydd wedi’i benodi ar y cyd ag atwrnai arall, yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac maen nhw’n ysgaru neu’n diddymu partneriaeth sifil, heblaw bod y rhoddwr wedi dweud fel arall yn eu cyfarwyddiadau
- mae rhoddwr neu atwrnai unigol yn mynd yn fethdalwr neu’n derbyn Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (DRO) – os ydyn nhw’n atwrnai eiddo a materion ariannol
- mae atwrnai unig yn cael ei dynnu gan y Llys Gwarchod
- mae atwrnai unigol yn marw ac nid oes unrhyw atwrneiaid amnewid wedi eu penodi i gymryd eu lle
- mae atwrnai unigol yn ymwrthod â’r LPA
- a joint attorney is unable to act and no replacement attorneys have been appointed
- mae’r llys yn canslo’r LPA
Pan hysbysir Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bod LPA wedi dod i ben, rydym yn diweddaru’r LPA papur a’r gwasanaeth Defnyddio LPA i adlewyrchu hyn.
Pan fyddwch yn darganfod bod LPA gan gwsmer
Byddwch fel afer yn darganfod bod LPA wedi’i gofrestru ar gyfer un o’ch cwsmeriaid pan mae’r cwsmer neu’r atwrnai’n cysylltu â chi.
Mae’n rhaid i’r LPA gael ei gofrestru cyn y gellir ei ddefnyddio.
Os bydd cwsmer yn dweud wrthych bod ganddynt LPA cofrestredig:
- ewch â nhw drwy wiriadau diogelwch yn y ffordd arferol
- gwnewch nodyn ar eu ffeil o enwau a manylion personol yr atwrneiod y maent wedi eu dewis
- gwiriwch a ydyn nhw’n dal i fod eisiau rheoli eu cyfrifon yn bersonol am nawr, ydyn nhw eisiau i’w hatwrneiaid reoli eu cyfrifon, neu ydyn nhw eisiau i’w hatwrneiaid helpu i reoli pethau penodol
- gofynnwch i weld yr LPA cofrestredig (gwelwch dudalen 20)
Os bydd atwrnai’n dweud wrthych bod LPA cofrestredig gan gwsmer:
- ofyn iddyn nhw ddarparu rhyw fath o dystiolaeth i ddangos pwy ydyn nhw – dilynwch eich polisi
arferol ar gyfer siarad â thrydydd parti
- esboniwch na allwch drafod neu addasu cyfrifon y cwsmer nes byddwch yn gweld yr LPA
- gofynnwch i weld yr LPA cofrestredig fel y gallwch ei wirio, a chadwch gopi
ar gyfer eich ffeiliau
- gwiriwch yr LPA i weld a yw’r cwsmer eisiau iddo gael ei ddefnyddio nawr neu ddim ond pan fyddant yn colli hygyrchedd meddyliol
- cysylltwch â’r cwsmer i ddweud wrthynt bod yr atwrnai wedi gofyn i gael cymryd rheolaeth dros eu cyfrif.
Diweddaru rheolaidd
Efallai y byddwch eisiau gofyn i’r rhoddwr ac atwrneiaid roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau yn eu manylion neu amgylchiadau personol, neu unrhyw newidiau i’r LPA.
Gallwch hefyd ofyn i weld yr LPA eto yn ddiweddarach os oes angen i chi wneud hynny.
Corfforaethau ymddiriedolaeth
Mae corfforaethau ymddiriedolaeth yn fusnesau neu’n bobl broffesiynol unigol sy’n rheoli ymddiriedolaethau ac ystadau. Yn aml iawn, banciau neu gwmnïau cyfreithiol ydynt.
Gall corfforaeth ymddiriedolaeth gael ei dewis fel atwrnai gan roddwr neu gael ei phenodi gan y Llys Gwarchod fel dirprwy.
Dilynwch eich polisïau arferol i gadarnhau manylion am sefydliad ac i siarad â thrydydd parti.
Am mai’r cwmni yn hytrach na’r person sydd wedi ei benodi’n atwrnai, efallai y gwelwch eich bod yn ymdrin â gweithwyr cyflogedig gwahanol o’r gorfforaeth ymddirieolaeth ar adegau gwahanol.

Gwirio a yw LPA yn gofrestredig
Unwaith y byddwch yn gwybod bod gan gwsmer LPA, dylech ofyn i weld tystiolaeth. Mae hyn yn caniatau ichi gadarnhau ei bod wedi’i chofrestru, adolygu manylion a chadw copi o’ch cofnodion os byddwch angen.
Y gwasanaeth ar-lein ‘Gweld atwrneiaeth arhosol’
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn lle gofyn i weld yr LPA papur gwreiddiol. Mae’r gwasanaeth ar gael ar www.gov.uk/view-lasting-power-of-attorney
Os cafodd LPA cwsmer ei gofrestru ar 1 Ionawr 2016 neu wedi hynny, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael crynodeb un dudalen o’r LPA. Mae’r crynodeb yn cynnwys y wybodaeth hon:
- a yw’n dal i fod yn ddilys a chofrestredig
- enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r rhoddwr
- enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r atwrnai
- sut mae atwrneiaid yn gwneud penderfyniadau
- cyfyngiadau ac amodau’r rhoddwr (a elwir weithiau’n gyfarwyddiadau a dewisiadau)
Gallwch lawrlwytho copi o grynodeb yr LPA fel PDF i’w gadw ar gyfer eich cofnodion.
Gallwch chi ond defnyddio Gweld LPA i agor LPAs sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’n dangos LPAs sydd wedi’u cofrestru yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon neu dramor. Hefyd, nid yw’n dangos atwrneiaethau parhaus (EPAs).
Sut mae cwsmeriaid yn rhannu’r LPA yn ddigidol?
I weld yr LPA, mae angen i chi gael ‘cod mynediad LPA’, sy’n cael ei gyflenwi gan yr atwrnai neu’r rhoddwr. Mae cod mynediad yn 13 nod o hyd ac mae’n dechrau gyda’r llythyren V.
Ewch i’r gwasanaeth Gweld LPA, rhowch gyfenw’r rhoddwr a’r
cod 13 nod. Os bydd yn dod o hyd i LPA, byddwch yn gweld enw llawn y rhoddwr a’r math o LPA. Gwiriwch fod enw llawn y rhoddwr yn cyfateb ag enw eich cwsmer. Os nad ydyw, gofynnwch i’r atwrnai wirio’r cod eto.
Gwiriwch y math o LPA, a gwiriwch ei fod yn briodol ar gyfer y penderfyniad y mae’n rhaid ei wneud. A yw’n benderfyniad am eiddo a chyllid y rhoddwr neu am eu hiechyd a’u lles? Os nad yw’n dangos y math cywir o LPA, gofynnwch i’r atwrnai roi’r cod ar gyfer y math cywir o LPA.
Mae’n rhaid i chi roi enw eich cwmni neu sefydliad. Mae hyn yn cael ei gofnodi ynghyd â’r dyddiad fel bod y rhoddwr ac unrhyw atwrneiaid eraill yn gallu gweld pryd a sut y mae’r LPA yn cael ei defnyddio.
Yna gallwch weld yr LPA a lawrlwytho crynodeb i’ch cofnodion Os bydd rhoddwr neu atwrnai’n dangos sgrinlun, lawrlwythiad neu
allbrint i chi o grynodeb LPA, ni ellir defnyddio hwn fel tystiolaeth o LPA. Mae’n rhaid iddyn nhw roi cod mynediad LPA i chi.
Pam ddylech chi ddefnyddio Gweld atwrniaeth arhosol?
Gallwch weld manylion yr LPA heb i’r atwrnai fod angen darparu’r fersiwn papur, fyddai’n rhaid iddynt ddod yn bersonol neu bostio ichi. Mae yna nifer o fanteision ichi ac i’r atwrnai drwy ei wneud fel hyn:
Mae’n arbed amser ac adnoddau
Mae’r crynodeb ar-lein yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gadarnhau bod modd defnyddio’r LPA ac i wirhau atwrnai arno. Mae hyn yn fwy effeithlon, oherwydd:
- mae’r wybodaeth hanfodol wedi ei chrynhoi ar un dudalen ar-lein, ond mae wedi’i gwasgaru drwy nifer o adrannau ar y fersiwn papur
- os byddwch chi angen copi o’r LPA ar gyfer eich cofnodion, gallwch lawrlwytho’r PDF. Gyda’r fersiwn papur, mae’n rhaid sganio tudalennau angenrheidiol yr LPA papur i mewn
- gallai LPA sydd wedi’i bostio gymryd diwrnodau i gyrraedd a chael ei ddychwelyd, a gallai adael eich cwsmer heb rywun i weithredu drostynt yn y cyfamser
- os bydd angen i atwrnai amgen ddechrau gweithredu ar ran y rhoddwr, mae’n rhaid i’r LPA papur gael ei ddychwelyd atom i gael ei addasu ac yna ei anfon yn ôl at yr atwrnai. Gyda’r crynodeb ar-lein, gallwch weld y diweddariad yn llawer cynharach
Mae’n cynnig diogelwch ychwanegol
Mae’r holl wybodaeth ar ‘Gweld LPA’ yn gywir pan fyddwch yn edrych arni, ond y cwbl y gall yr LPA papur ei ddangos yw’r wybodaeth yr oedd yn ei chynnwys pan gafodd ei chofrestru. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn hanfodol oherwydd:
- ni all LPA gael ei defnyddio oni bai bod ganddi’r statws ‘Cofrestredig’ ar y pryd.
Mae unrhyw un sy’n ei defnyddio heb ei chofrestru’n torri’r gyfraith
- efallai fod y rhoddwr wedi dileu atwrnai, ac nad yw bellach eisiau iddynt wneud penderfyniadau. Efallai nad yw’r LPA papur yn adlewyrchu’r newid hwn
- efallai fod atwrnai amnewid wedi dechrau gweithredu ar ran y rhoddwr, ac y gallai effeithio ar y ffordd y mae unrhyw atwrneiaid eraill yn gwneud penderfyniadau
- efallai fod yr atwrnai wedi newid eu henw neu gyfeiriad, y wybodaeth a ddefnyddir i wirio pwy ydyn nhw Os ydyn nhw wedi rhoi gwybod i ni’n barod, bydd Gweld LPA yn dangos y manylion newydd. Fodd bynnag ni ellir newid yr LPA papur
Ffyrdd eraill o wirio LPA
Pan fyddwch yn gofyn i weld LPA, gallwch hefyd dderbyn:
- yr LPA papur gwreiddiol
- copi ‘ardystiedig’ neu gopi ‘swyddfa’
Does dim yn y gyfraith sy’n dweud bod yn rhaid i chi weld yr LPA papur gwreiddiol.
Beth yw copi ardystiedig?
Mae’n gopi o LPA sydd wedi ei ardystio fel copi go iawn o’r LPA papur gwreiddiol. Mae gan gopïau ardystiedig yr un awdurdod cyfreithiol â dogfennau gwreiddiol.
Os oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol o hyd, gallant ardystio eu copi eu hunain o’u LPA.
Gall copïau o LPAs eiddo a materion ariannol gael eu hardystio hefyd gan gyfreithwyr, rhywun sy’n gymwysedig i wneud gweithgareddau notarïol (a elwir yn aml yn notari) neu froceriaid stoc.
Rhaid i gopi ardystiedig o LPA gael y datganiad canlynol ar bob tudalen: ‘Rwy’n ardystio bod hwn yn gopi cywir a chyflawn o dudalen gyfatebol yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol.
Mae’n rhaid i’r datganiad hwn gael ei lofnodi a’i ddyddio ar bob tudalen.
Ar dudalen olaf yr LPA mae’n rhaid iddo nodi: ‘Rwy’n ardystio bod hwn yn gopi cywir a chyflawn o’r atwrneiaeth arhosol,’ ac mae’n rhaid i’r datganiad hwn gael ei lofnodi a’i ddyddio.
Beth yw copi swyddfa?
Mae’n gopi o’r LPA a gedwir ar ffeil gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y gellir gofyn amdano os bydd rhywun yn colli neu’n dinistrio’r LPA gwreiddiol. Mae ganddo yr un awdurdod cyfreithiol â’r LPA gwreiddiol.
Mae’r copi a ddarparwn yn ddelwedd wedi’i sganio o’r gwreiddiol, gyda dyfrnod ar bob tudalen ac arno’r geiriau ‘Office Copy’.
Senario: cyfrineiriau
Mae Mohammed yn yr ysbyty ac mae ganddo Atwrneiaeth Arhosol gofrestredig ar gyfer eiddo a materion ariannol. Ei ferch Basma yw ei atwrnai ac mae hi eisiau derbyn biliau Mohammed er mwyn iddi allu eu talu nhw. Mae cyfrinair ar y cyfrif telathrebu, ond dydy Basma ddim yn gwybod beth yw’r cyfrinair a dydy Mohammed ddim yn gallu dweud wrthi am ei fod yn teimlo’n ddryslyd.
Mae’r gweithiwr yn y cwmni telathrebu’n gwirio’r Atwrneiaeth Arhosol y mae Basma yn ei darparu. Mae’n fath hŷn o Atwrneiaeth Arhosol, ac nid yw’r math hwn yn nodi a yw Basma’n gallu gwneud penderfyniadau gynted ag y bydd yr atwrneiaeth wedi’i gofrestru, neb dim ond pan fydd Mohammed wedi colli galluedd meddyliol.
Mae’r darparydd telathrebu’n gwybod y gellir defnyddio Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol gynted ag y mae wedi’i chofrestru, oni bai bod y rhoddwr yn dweud fel arall. Nid oes cyfarwyddiadau yn yr Atwrneiaeth Arhosol ynglŷn â phryd y gall Basma ddechrau gwneud penderfyniadau. Felly mae caniatâd iddi hi weithredu o’r diwrnod y cofrestrir yr Atwrneiaeth Arhosol.
Marciau a ddefnyddir ar LPAs papur cofrestredig
Ers 2007, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio nifer o wahanol farciau i ddangos bod LPAs yn gofrestredig.
Bydd gan LPA cofrestedig, neu gopi swyddfa, o leiaf un o’r canlynol bob tro:
- ‘VALIDATED-OPG’ wedi’i drydyllu ar waelod pob tudalen – gall trydyllau fod yn anodd eu gweld ar lungopi neu sgan ond bydd yn fwy amlwg ar ffurflen wreiddiol
- stamp cofrestru ar dudalen flaen yr LPA

Validated OPG and Court of Protection entered
Wrth wirio LPA papur, gwnewch yn siŵr eich bod yn gweld y ddogfen gyfan, nid yr ychydig dudalennau cyntaf yn unig. Bydd gan dudalen flaen yr LPA bob amser naill ai:
- stamp i gadarnhau’r dyddiad cofrestru
- dyddiad wedi’i ysgrifennu â llaw yn yr adran ‘At ddefnydd OPG yn unig’
Bydd y tudalennau tu mewn yn dweud wrthych beth yw cyfarwyddiadau’r rhoddwr ynglŷn â phwy sy’n gallu gwneud penderfyniadau iddynt ac a oes cyfyngiadau ar y math o benderfyniadau y gall atwrneiod eu gwneud – gwelwch dudalen 27 i ddarllen rhagor am ddewisiadau a chyfarwyddiadau.
Dymuniadau’r rhoddwr – sut y dylai atwrneiod LPA weithredu
Un atwrnai
Os bydd yr LPA yn enwi un atwrnai, mae gan y person hwnnw awdurdod i wneud penderfyniadau ar gyfer y rhoddwr heb ymgynghori ag unrhyw un arall. Rydym yn dweud bod un atwrnai’n gweithredu ‘yn unigol’ os mai nhw yw’r unig un sydd wedi’i enwi yn yr LPA.
Dylai atwrnai unigol weithio gyda’r rhoddwr beth bynnag, lle bo modd, i’w cynnwys nhw mewn penderfyniadau.
Bydd angen i chi wirio bod y rhoddwr eisiau i’r atwrnai weithredu ar unwaith, ac nid pan fyddan nhw wedi colli galluedd meddyliol yn unig (gwelwch dudalen 14 i gael gwybodaeth ynglŷn â defnyddio LPA cyn i roddwr golli galluedd meddyliol).
Mwy nag un atwrnai
Os bydd y rhoddwr eisiau i fwy nag un person wneud penderfyniadau ar eu rhan, mae nifer o ffyrdd y gellir penodi atwrneiaid.
Mae cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol, sy’n rhoi arweiniad i helpu pobl i ddeall y gyfraith, yn dweud hyn: Mae’n rhaid i gyd-atwrneiaid weithredu gyda’i gilydd bob amser. Mae’n rhaid i bob atwrnai gytuno ar benderfyniadau a llofnodi unrhyw ddogfennau perthnasol.
Mae’n bwysig darganfod gan y rhoddwr neu’r atwrneiaid sut y maen nhw’n bwriadu ymdrin â’r cyfarwyddiadau i weithredu ar y cyd, a nodi hyn yn eich cofnodion.
Ar y cyd – os bydd atwrneiaid yn cael eu penodi ar y cyd ac mae un ohonyn nhw’n marw neu eisiau rhoi’r gorau i fod yn atwrnai, ni all yr LPA gael ei ddefnyddio mwyach a bydd yn cael ei ganslo, heblaw bod y rhoddwr yn dweud fel arall yn eu cyfarwyddiadau neu y mae atwrnai amnewid wedi cael eu penodi.
Ar y cyd ac ar wahân – gall atwrneiaid ddewis gwneud penderfyniadau ar eu pennau eu hunain neu gyda’i gilydd. Nid oes angen i’r atwrneiaid ymgynghori â’i gilydd na chytuno ar benderfyniadau. Dyma’r ffordd y mae’r mwyafrif o roddwyr yn dewis penodi dau neu fwy o atwrneid.
Ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar wahân ar gyfer popeth arall – mae rhoddwr sy’n dewis yr opsiwn hwn eisiau i atwrneiaid wneud penderfyniadau penodol gyda’i gilydd.
Bydd y rhoddwr yn ysgrifennu yn yr LPA pa benderyfniadau y mae’n rhaid eu gwneud ar y cyd. Ar gyfer pob penderfyniad arall, nid oes angen i atwrneiaid ymgynghori â’i gilydd na chytuno ar benderfyniadau.
Heb ei nodi – os bydd rhoddwr wedi dewis dau neu fwy o atwrneiaid ond heb gwblhau’r adran o’r LPA ar gyfer y ffordd y dylai atwrneiaid weithredu, y safle diofyn yn y gyfraith yw bod yn rhaid i’r atwrneiaid weithredu ar y cyd.
Senario: atwrneiod ar y cyd
Mae Gary wedi ei enwi fel atwrnai ar LPA ei gefnder Stephen ar gyfer eiddo a materion ariannol
Mae Gary yn gwneud cais am ailforgais ar ran ei gefnder, gan ddweud bod Stephen eisiau adeiladu estyniad i’w gartref gydag ystafell ymolchi hygyrch.
Mae Jaswinder yn ymdrin â’r alwad ar ran y banc. Mae hi’n gofyn i weld LPA Stephen i wirio bod Gary wedi ei enwi fel atwrnai i ymdrin â phenderfyniadau am eiddo a materion ariannol.
Mae Gary yn rhoi cod mynediad LPA i Jaswinder fel ei bod hi’n gallu gweld crynodeb ar-lein o’r LPA ar y gwasanaeth. Gweld atwrneiaeth arhosol. Pan mae Jaswinder yn gweld crynodeb yr LPA, mae hi’n cadarnhau bod Gary wedi’i benodi i weithredu ar ran Stephen. Ond mae hi’n sylwi bod Gary wedi ei benodi ar y cyd gydag aelod arall o’r teulu.
Mae Jaswinder yn sylweddoli nad yw’n gallu cymryd cyfarwyddiadau gan Gary ar ei ben ei hun – mae angen iddi siarad â’r atwrnai arall am fod yn rhaid i’r ddau atwrnai gytuno i ailforgeisio eiddo Stephen.
Mae Stephen wedi nodi yn ei LPA ei fod eisiau i’w atwrneiaid weithredu ar ei ran gynted ag y bydd yr LPA wedi’i chofrestru, ac nid os bydd yn colli galluedd meddyliol yn unig.
Fodd bynnag, am fod ailforgeisio’n benderfyniad mawr, ac am fod gan Stephen alluedd meddyliol o hyd o bosib, mae Jaswinder yn penderfynu cysylltu â Stephen i sicrhau ei fod eisiau ailforgeisio.
Wedi iddi gysylltu â phawb perthnasol, mae Jaswinder yn teimloi’n hyderus ei bod hi’n gallu ymdrin â’r cais am ailforgeisio yn awr.
Atwrneiod wrth gefn
Gall rhoddwyr ddewis un neu fwy o atwrneiod wrth gefn, rhag ofn nad yw eu hatwrneiaid gwreiddiol yn gallu gweithredu am ryw reswm.
Mae dewis atwrneiaid wrth gefn yn diogelu yn erbyn canslo’r LPA os na all yr atwrneiaid gwreiddiol weithredu bellach.
Mae gan atwrneiaid wrth gefn yr un lefel o awdurdod â’r atwrneiod maent yn eu disodli.
Sut mae atwrneiod wrth gefn yn dechrau gweithredu
Gallai atwrnai wrth gefn ddechrau gweithredu ar gyfer y rhoddwr pan:
- mae atwrnai’n penderfynu stopio gweithredu
- mae atwrnai’n marw
- mae priodas neu bartneriaeth sifil rhwng y rhoddwr ac atwrnai’n dod i ben gydag ysgariad neu ddiddymu partneriaeth
- mae atwrnai’n colli galluedd meddyliol
- mae atwrnai’n mynd yn fethdalwr (dim ond i LPAs eiddo a materion ariannol y mae hyn yn berthnasol)
Bryd hynny mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn i’r LPA gael ei anfon atom ni, fel y gallwn ei addasu a dangos pa atwrneiaid sy’n gweithredu o hyn ymlaen. Os cafodd yr LPA ei chofrestru ar 1 Ionawr 2016 neu wedi hynny, byddwn hefyd yn diweddaru’r crynodeb ar-lein ar y gwasanaeth ‘Gweld atwrneiaeth arhosol’.
Os bydd atwrnai wrth gefn yn cysylltu â chi i ddweud eu bod yn gallu gweithredu ar ran y rhoddwr erbyn hyn, dylent allu profi hynny drwy ddangos yr LPA papur wedi’i addasu i chi neu drwy roi’r cod mynediad i’r LPA ichi er mwyn i chi allu gweld y crynodeb LPA ar-lein
Os yw atwrnai wrth gefn yn gweithredu ar ran y rhoddwr, bydd yr LPA papur gwreiddiol wedi ei stampio gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddangos hynny. Wrth ochr enw’r atwrnai nad yw’n yn gweithredu mwyach, rydym yn rhoi stamp “nid yw’r atwrnai yn gallu gweithredu.” Wrth ochr enw’r atwrnai wrth gefn sydd bellach yn gweithredu i’r rhoddwr, byddwn yn rhoi stamp “gall yr atwrnai wrth gefn hwn weithredu nawr.”

OPG attorney can't act and replacement attorney can now act
Yna mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sganio’r ffurflen addasedig i mewn i’n systemau, felly gall unrhyw gopïau swyddfa a grëir yn y dyfodol ddangos yr atwrneiaid cywir.
Dewisiadau a chyfarwyddiadau
Gall y rhoddwr roi arweiniad i’w hatwrneiaid ynglŷn â sut y dylent wneud penderfyniadau Rydym yn galw’r rhain yn ‘ddewisiadau a chyfarwyddiadau’.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen dewisiadau a chyfarwyddiadau’r rhoddwr rhag ofn y byddant yn ymwneud â phenderfyniadau am filiau, bancio neu ddefnydd ynni.
Mae enghraifft ar y chwith o dudalen ddewisiadau a chyfarwyddiadau o LPA. Y fersiwn hwn o’r ffurflen LPA yw’r LP1F, a gyhoeddwyd yn 2015. Ond mae gan bob un o 3 fersiwn y ffurflen LPA adrannau fel hyn, lle gall rhoddwr gofnodi eu dymuniadau ynglŷn â sut y mae eu hatwrneiaid yn gweithredu.
Cyfarwyddiadau (a elwir yn ‘gyfyngiadau’ neu ‘amodau’ mewn fersiynau cynharach o’r ffurflen LPA)
Mae unrhyw beth sydd wedi’i ysgrifennu yn yr adran ‘cyfarwyddiadau’ ar y ffurflen yn dweud wrth yr atwrneiaid beth sy’n rhaid iddynt ei wneud wrth weithredu ar ran y rhoddwr.
Mae’r cyfarwyddiadau’n rhwymo mewn cyfraith a gall atwrneiaid gael eu herio yn y Llys Gwarchod am beidio eu dilyn nhw.
Os ydych yn teimlo nad yw atwrnai’n dilyn cyfarwyddiadau mewn LPA, rhowch wybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am eich pryderon.
Enghraifft: ‘Mae’n rhaid i mi fancio gyda chwmni nid-er-elw’
Dewisiadau (a alwyd yn ‘arweiniad’ mewn fersiynau cynharach o’r ffurflen LPA)
Dewisiadau yw’r hyn y dymuna’r rhoddwr i’w hatwrnai feddwl amdano wrth wneud penderfyniadau. Nidy w atwrneiod yn gorfod dilyn dymuniadau ond dylent eu hystyried. Nidy w dymuniadau yn gyfreithiol rhwymol.
Enghraifft: ‘Byddai’n well gen i ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn fy nghartref’
Peidiwch â phryderu a yw cyfarwyddiadau mewn LPA yn ddilys ai peidio– bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penderfynu hynny yn ystod y broses o gofrestru LPA.
Os bydd rhoddwr yn gwneud cyfarwyddyd nad yw’n ddilys, neu sy’n gwrthddweud cyfarwyddiadau eraill yn yr LPA, byddwn yn gwneud cais i’r llys i’w dynnu. Yna byddwn yn stampio’r dudalen:

Enghraifft: Mae Frank Dobbs yn enwi ei blant hynaf (Martha a John) fel atwrneiod iddo. Yn ei gyfarwyddiadau mae’n ysgrifennu ‘Rwyf eisiau i’m mab ieuengaf, Frank Jr, wneud y penderfyniad ynglŷn â gwerthu fy nhŷ’
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn annilys am nad yw Frank Jr yn atwrnai. Er bod cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn dweud y dylai atwrneiaid ymgynhgori â theulu neu gyfeillion, mae’n rhaid i’r atwrneiaid wneud y penderfyniadau
Senario: Cais am LPA
Mae brawd Noah, sef Ethan, wedi cael anaf i’w ben ac nid yw bellach yn gallu edrych ar ôl ei faterion ei hun.
Llofnododd Ethan LPA ar gyfer eiddo a materion ariannol cyn ei ddamwain ac yn awr mae Noah wedi anfon yr LPA i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gael ei gofrestru. Gall y broses gofrestru gymryd hyd at 10 wythnos.
Yn y cyfamser, mae Ethan yn talu am wasanaeth telathrebu nad yw’n gallu ei ddefnyddio ac mae Noah wedi gofyn i’r darparydd telathrebu gau’r cyfrif.
Mae’r darparydd telathrebu’n dweud wrth Noah y byddent yn fodlon derbyn llythyr gan ysbyty neu feddyg teulu i gau cyfrif Ethan.
Os nad yw Noah yn gallu cael llythyr, efallai y byddai’n bosibl i’r cyfrif gael ei ohirio nes bydd yr LPA wedi’i gofrestru, gan olygu nad yw unrhyw gostau pellach yn crynhoi.
Unwaith y bydd y darparydd telathrebu’n gweld copi o’r LPA cofrestredig ac yn gweld bod Noah wedi ei benodi fel atwrnai i Ethan ar gyfer eiddo a materion ariannol, gallant gau cyfrif Ethan.
Gwirio statws LPA cofrestredig
Os nad ydych yn siŵr a yw LPA yn gofrestredig neu os ydych eisiau gwirio pwy yw’r atwrneiod, gallwch:
- ofyn i’r rhoddwr neu’r atwrnai am god mynediad LPA fel y gallwch weld crynodeb o’r LPA ar y gwasanaeth ar-lein Gweld atwrneiaeth arhosol. Dim ond gydag LPAs a gofrestrwyd ar 1 Ionawr 2016 neu wedyn y gallwch wneud hyn
- cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ofyn i ni chwilio ein cofrestr LPA. Mae hwn yn wasanaeth am ddim a byddwch yn derbyn ateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Gall y crynodeb ar-lein o’r LPA a’r chwiliad ar y gofrestr hefyd ddweud y pethau hyn wrthych:
- dyddiad cofrestru’r LPA
- enw’r rhoddwr
- dyddiad geni’r rhoddwr
- enw’r atwrneiaid
- a yw’r penderfyniadau’n ymwneud ag eiddo ac arian neu iechyd a lles
- a oes unrhyw gyfyngiadau yn yr LPA – nid ydym yn rhoi gwybod beth yw’r rhain, dim ond a ydyn nhw’n bodoli
- sut mae atwrneiaid neu ddirprwyon yn cael eu penodi i weithredu – yn unigol, ar y cyd, ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar wahân ar gyfer popeth arall, neu ar y cyd ac ar wahân
- a yw’r LPA yn gofrestredig neu a yw wedi ei ganslo
Mae ein cofrestr LPA yn cael ei diweddaru bob tro y bydd rhywun yn rhoi gwybod i ni am newid i fanylion rhoddwr neu atwrnai. Pan fydd unrhyw un yn gofyn am chwiliad o’n cofrestri, rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym.
I ofyn am chwiliad o’r cofrestri, llenwch ffurflen OPG100 – gallwch ei chwblhau’n electronig a’i e-bostio i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Atwrneiaeth barhaus (EPA)
Trosolwg: atwrneiaethau parhaus (EPAs)
Gwnaed EPAs yn bosibl gan y Ddeddf Atwrneiaeth Barhaus 1985.
Roedd y Ddeddf hon yn caniatáu i roddwr enwi un neu fwy o bobl i wneud penderfyniadau ariannol drostyn nhw rhag ofn y bydden nhw’n colli galluedd meddyliol yn y dyfodol.
Cafodd EPAs eu disodli gan atwrneiaethau arhosol (LPAs) ar 1 Hydref 2007.
Nid oes angen i EPA fod yn gofrestredig â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gall atwrneiaid ei defnyddio. Mae’n rhaid i’r rhoddwr lonfodi’r EPA ym mhresenoldeb tyst.
I gael ei defnyddio’n gyfreithiol gan yr atwrneiaid, mae’n rhaid i’r rhoddwr:
- fod wedi ei llofnodi cyn 1 Hydref 2007
- fod â’r galluedd meddyliol pan oedden nhw wedi ei llofnodi
- fod wedi cytuno bod yr atwrneiaid yn cael gweithredu drostynt
Nid ydym yn gwybod faint o roddwyr sy’n dal EPAs a lofnodwyd ganddynt cyn 1 Hydref 2007 Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dal i dderbyn oddeutu 6,000 o EPAs dilys i’w cofrestru bob blwyddyn.
Mae EPAs yn ymdrin â phenderfyniadau am eiddo ac arian yn unig. Nid yw atwrnai’n gallu gwneud penderfyniadau iechyd a lles o dan EPA.
Gall atwrneiaid sy’n defnyddio EPAs wneud penderfyniadau am y pethau hyn:
- talu biliau cartref y rhoddwr
- ymdrin â threth y rhoddwr
- rheoli cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu a chynilo
- ymdrin â phensiynau, budd-daliadau, cyfranddadliadau, buddsoddiadau, yswiriant
neu eiddo
- newid cwmni cyflenwi cyfleustodau
Mae’n rhaid i roddwr roi caniatâd i atwrneiaid ddefnyddio’r EPA sydd heb ei chofrestru. Unwaith y bydd y rhoddwr yn colli galluedd meddyliol, mae’n rhaid i’w hatwrneiaid gofrestru’r EPA gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn parhau i’w ddefnyddio.
Gall rhoddwr gael mwy nag un EPA ar yr un pryd, a dewis atwrneiaid gwahanol i reoli agweddau gwahanol o’u hariannau
Mae EPA yn dod i ben pan mae hyn yn digwydd:
- mae’r rhoddwr yn ei chanslo, neu’n ei dirymu, tra bo’r EPA heb ei chofrestru
- mae’r atwrneiaid i gyd eisiau stopio gweithredu – weithiau rydym yn galw hyn yn ‘ymwrthod’ ag atwrneiaeth
- mae’r atwrnai unigol neu’r rhoddwr yn cyhoeddi methdaliad
- mae’r rhoddwryn marw
- mae’r Llys yn dirymu’r EPA
Pan fyddwch yn canfod bod gan gwsmer EPA
Gallai cwsmer sydd gennych yn barod neu rywun sy’n trosglwyddo i’ch gwasanaeth chi gyflwyno EPA i chi
Os bydd cwsmer yn dweud wrthych bod ganddynt EPA heb ei ofrestru dylech:
- fynd â nhw drwy wiriadau diogelwch yn y ffordd arferol
- cofnodi ar eu ffeil enwau a manylion personol eu dewis atwrneiaid
- gwirio a ydyn nhw’n dal i fod eisiau rheoli eu cyfrifon yn bersonol, neu ydyn nhw eisiau i’w hatwrneiaid wneud hynny
- gofyn i weld yr EPA fel eich bod yn gallu cofnodi unrhyw gyfyngiadau y mae’r cwsmer wedi eu hysgrifennu ynddi
Os bydd atwrnai’n dweud wrthych bod EPA wedi ei chofrestru ar gyfer cwsmer, dylech:
- esbonio bod angen i chi weld yr EPA gofrestredig cyn i chi allu trafod cyfrifon y cwsmer gyda nhw
- addasu ffeil y cwsmer i ddangos eu bod wedi penodi un neu fwy o atwrneiod i wneud penderfyniadau drostynt
- ofyn iddyn nhw ddarparu rhyw fath o dystiolaeth i ddangos pwy ydyn nhw – dilynwch eich polisi arferol ar gyfer siarad â thrydydd parti
- dybio bod y cwsmer wedi colli’r galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau ariannol eu hunain
- wirio’r EPA gofrestredig pan fydd yn cyrraedd i weld sut mae eich cwsmer eisiau i’w hatwrneiaid weithredu
Senario: newidiadau i gyfrif
Mae dementia ar Joyce ac mae hi wedi symud dros dro i gartref gofal wrth iddi wella ar ôl llawdriniaeth. Mae ei merch Grace yn atwrnai sydd wedi ei henwi ar atwrneiaeth barhaus gofrestredig ei mham.
Mae Grace yn galw cwmni darparu ynni ei mham i roi gwybod iddyn nhw y bydd cartref Joyce yn wag am nifer o fisoedd. Mae Grace yn gofyn sut y gall hi ddechrau edrych ar ôl cyfrif Joyce.
Mae’r asiant yn gofyn i Grace anfon yr Atwrneiaeth Barhaus i mewn, gan ddweud wrthi y byddai’n gyflymach anfon copi wedi’i sganio ar yr e-bost ac yn darparu’r cyfeiriad e-bost. Mae anfon y ffurflen mewn e-bost yn golygu hefyd bod llai o risg y bydd yr Atwrneiaeth Barhaus wreiddiol yn mynd ar goll yn y post.
Mae’r asiant yn derbyn sgan o’r Atwrneiaeth Barhaus mewn e-bost ac yn cadarnhau bod gan Grace yr awdurdod i weithredu ar ran Joyce.
Gwirio EPA cofrestredig
Unwaith y byddwch yn gwybod bod cwsmer wedi cofrestru EPA, dylech ofyn i’w gweld.
Nid oes unrhyw beth yn y gyfraith sy’n dweud bod yn rhaid i chi weld yr EPA wreiddiol. Gallai eich dewis i dderbyn dogfennau gwreiddiol ddibynnu ar y lefel o risg sy’n gysylltiedig â gadael i atwrnai reoli cyfrif cwsmer.
Pan ofynnwch am ddogfen, gallwch dderbyn unrhyw rai o’r rhain:
- llungopi neu ddelwedd wedi’i sganio – ond efallai y bydd hi’n anoddach gwirio bod copi neu sgan yn ddilys
- y ddogfen wreiddiol
- copi ‘ardystiedig’ neu gopi ‘swyddfa’
Beth yw copi ardystiedig?
Mae’n gopi o EPA sydd wedi’i ardystio fel copi cywir o’r gwreiddiol. Mae gan gopïau ardystiedig yr un awdurdod cyfreithiol â dogfennau gwreiddiol.
Gall rhoddwr ardystio EPA heb ei chofrestru, ar yr amod eu bod yn gwneud hynny pan oedd galluedd meddyliol ganddynt o hyd. Gall copïau o EPA gael eu hardystio hefyd gan gyfreithwyr, rhywun sy’n gymwys i wneud gweithgareddau notarïol (a elwir yn ‘notari’ yn aml iawn) neu froceriaid stoc.
Mae angen i gopi ardystiedig o EPA gynnwys y gosodiad dilynol ar bob tudalen: ‘Rwy’n ardystio bod hwn yn gopi cyflawn a chywir o’r dudalen gyfatebol o’r atwrneiaeth barhaus wreiddiol.’
Mae’n rhaid i’r gosodiad hwn gael ei lofnodi a’i ddyddio ar bob tudalen.
Ar dudalen olaf yr EPA, mae’n rhaid cael y gosodiad: ‘Rwy’n ardystio bod hwn yn gopi cywir a chyflawn o’r atwrneiaeth barhaus’ ac mae’n rhaid i’r gosodiad hwn gael ei lofnodi a’i ddyddio.
Beth yw copi swyddfa?
Mae’n gopi o’r EPA a ddaliwyd ar y ffeil gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y gellir gofyn amdano os bydd rhywun yn colli neu’n dinistrio’r EPA wreiddiol. Mae ganddo yr un awdurdod cyfreithiol â’r EPA wreiddiol.
Mae’r copi a ddarparwn yn ddelwedd wedi’i sganio o’r gwreiddiol, gyda dyfrnod ar bob tudalen o’r geiriau ‘Office Cop’.
Yna rydym yn rhoi amrywiol farciau a stampiau ar gopi’r swyddfa, yn union yr un ffordd ag y byddai’r EPA wreiddiol wedi cael ei stampio a’i marcio wrth ei chofrestru.
Diweddaru rheolaidd
Efallai y byddwch eisiau gofyn i’r atwrneiaid roi gwybod ichi am unrhyw newidiadau yn eu manylion personol neu eu hamgylchiadau nhw neu’r rhoddwr, neu unrhyw newidiadau i’r EPA.
Gallwch hefyd ofyn i weld yr EPA eto yn ddiweddarach os bydd angen.
Pethau eraill i’w gwirio ar EPAs
EPAs heb eu cofrestru
Ni fydd stampiau, seliau neu sticeri swyddogol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar EPA sydd heb ei chofrestru. Gall EPAs heb eu cofrestru fod yn ddogfennau wedi eu teipio neu eu hysgrifennu â llaw.
Os byddwch yn derbyn EPA heb ei chofrestru, dylech wirio ei bod:
- wedi ei llofnodi a’i dyddio cyn 1 Hydref 2007
- wedi’i gwneud pan oedd y rhoddwr o leiaf 18 oed
- wedi’i llofnodi gan y rhoddwr a thyst nad oedd yn un o’r atwrneiod ar gyfer yr EPA
- wedi’i llofnodi gan yr atwrneiaid i gyd
Pan lofnodwyd yr EPA, roedd yn rhaid i’r atwrneiaid:
- fod yn 18 oed neu’n hŷn
- fod â galluedd meddyliol
- beidio bod yn fethdalwr, na chael eu cyhoeddi’n fethdalwr ers hynny – gwiriwch y gofrestr fethdaliad ac ansolfedd i fod yn sicr
Yna gallwch:
- gysylltu â’r rhoddwr i gadarnhau a ydyn nhw eisiau i’r atwrnai weithredu
ar eu rhan
- wirio a yw’r rhoddwr wedi cynnwys unrhyw gyfyngiadau neu amodau yn Adran B y ffurflen
Senario: newid tariffau
Deven yw’r atwrnai unigol mewn EPA gofrestredg ar gyfer ei dad Jerome.
Mae Deven yn galw’r cwmni cyflenwi ynni i drafod bil ei dad. Mae’r prisiau wedi cynyddu’n ddiweddar ac mae Jerome ar dariff drytaf y cyflenwr.
Mae Deven yn gofyn am drosglwyddo cyfrif ei dad i dariff rhatach ‘ynni gwyrdd’ er mwyn arbed arian. Ond, nid dyma’r tariff rhataf.
Mae’r asiant yn gofyn am gael gweld EPA Jerome i sicrhau bod gan Deven yr awdurdod i wneud penderfyniadau drosto. Wedi iddo dderbyn y ffurflen EPA, mae’r asiant yn addasu ffeil y cwsmer ac yn nodi, am fod yr EPA wedi’i chofrestru, nid oes gan Jerome y galluedd meddyliol erbyn hyn i wneud penderfyniadau ariannol.
Mae Jerome wedi cynnwys dewis yn ei EPA i gefnogi materion amgylcheddol lle bo modd. Er bod gan Deven ddyletswydd i gael dêl dda i’w dad, mae angen iddo hefyd weithredu mewn ffordd y mae’n credu y byddai ei dad wedi gweithredu.
Nid y tariff ynni hwn yw’r ddêl orau, ond byddai trosglwyddo iddo’ cefnogi dymuniadau Jerome a nodwyd ar y ffurflen EPA hon. Mae’r asiant yn trosglwyddo’r tariff fel y cytunwyd ac yn ychwanegu Deven fel prif bwynt cyswllt cyfrif Jerome.
Marciau a ddefnyddir ar EPAs cofrestredig
Bydd gan EPA gofrestredig o leiaf un o’r canlynol:
- VALIDATED-OPG’ wedi’i drydyllu ar waelod pob tudalen – gall trydyllau fod yn anodd eu gweld ar lungopi neu sgan ond bydd yn fwy amlwg ar ffurflen wreiddiol
- stamp cofrestru ar dudalen flaen yr EPA, gan naill ai’r Llys Gwarchod neu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

EPA validation marks
Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o EPAs cofrestredig ar GOV.UK.

Dymuniadai’r rhoddwr – sut y dylai atwrneiaid EPA weithredu
Dylai atwrnai weithio gyda’r rhoddwr, lle bo modd, i’w cynnwys nhw mewn penderfyniadau. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed ar ôl i’r EPA gael ei chofrestru. Er y gallwn dybio bod rhoddwr wedi colli galluedd i wneud penderfyniadau ariannol, dylai’r atwrnai barhau i weithio i’w cynnwys nhw mewn penderfyniadau.
Un atwrnai
Os bydd yr EPA yn enwi un atwrnai yn unig, mae gan y person hwnnw’r awdurdod i wneud penderfyniadau ar gyfer y rhoddwr heb ymgynghori ag unrhyw un arall. Rydym yn dweud bod un atwrnai yn gweithredu ‘yn unigol’ os mai nhw yw’r unig un sydd wedi’u henwi yn yr EPA.
Mwy nag un atwrnai
Os bydd y rhoddwr eisiau i fwy nag un person wneud penderfyniadau ar eu rhan, mae dwy ffordd y gellir penodi atwrneiaid, ar y cyd ac ar wahân neu ar y cyd:
Ar y cyd ac ar wahân – gall atwrneiaid ddewis gwneud penderfyniadau ar eu pennau eu hunain neu gyda’i gilydd. Nid oes angen i’r atwrneiaid ymgynghori â’i gilydd na chytuno ar benderfyniadau. Os bydd un atwrnai eisiau stopio gweithredu, gallant wneud hynny –bydd yr EPA yn parhau gyda’r atwrneiaid sy’n weddill.
Ar y cyd – mwy nag un atwrnai sy’n gorfod cytuno neu ni allant wneud y penderfyniad. Mewn rhai achosion, bydd angen i atwrneiaid sydd wedi eu penodi ar y cyd ofyn i’r Llys Gwarchod benderfynu ar fater er budd gorau’r rhoddwr
Gallai’r penderfyniadau y mae’r atwrnai neu’r atwrneiaid yn eu gwneud gynnwys:
- newidiadau i gyfrifon y rhoddwr
- penderyfniadau am gyllid megis cau cyfrifon banc neu drosglwyddo arian
- newid tariffau i gael gwell dêl
Os bydd atwrneiaid yn cael eu penodi ar y cyd ac mae un ohonyn nhw’n marw neu eisiau rhoi’r gorau i fod yn atwrnai, bydd yr EPA yn cael ei chanslo. Rydym yn gwneud hyn am nad oedd y rhoddwr wedi nodi dymuniad o gwbl i un person wneud penderfyniadau ar eu rhan Fodd bynnag, efallai bod y rhoddwr wedi nodi yng ‘nghyfyngiadau ac amodau’ yr EPA bod modd i’r EPA barhau o dan yr amgylchiadau penodol hyn.
Nid oes atwrneiaid amnewid ar EPA.
Cyfyngiadau ac amodau
Gall y rhoddwr roi canllawiau i’w hatwrneiod ar sut y dylent wneud penderfyniadau.Ar ffurflenni EPA gelwir y canllaw hwn yn ‘gyfyngiadau ac amodau’.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr EPA i weld a yw’r rhoddwr wedi ychwanegu cyfyngiadau neu amodau sy’n ymwneud â phenderfyniadau am filiau, bancio neu ddefnyddio ynni.
Mae’r cyfyngiadau’n rhwymo’n gyfreithiol a gall y Llys Gwarchod herio atwrneiaid am beidio eu dilyn nhw.
Enghraifft: ‘Dydw i ond eisiau i’m hatwrneiaid brynu cyfranddaliadau i mi mewn cwmnïau sy’n buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy’
Peidiwch â phoeni a yw’r cyfyngiadau mewn EPA gofrestredig yn ddilys – bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penderfynu hyn pan fyddwn yn cofrestru’r ffurflen.
Os bydd rhoddwr yn gwneud cyfyngiad nad yw’n ddilys, neu sy’n gwrthddweud cyfyngiadau eraill yn yr EPA, byddwn yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i’w dynnu. Yna byddwn yn stampio’r dudalen:

Enghraifft: Mae Joan Hart eisiau i’w nith Alice fod yn atwrnai i’w Hatwrneiaeth Barhaus, ond yn ei chyfyngiadau mae hi’n ysgrifennu, ‘Hoffwn i’m gŵr, Max Hart, benderfynu a ydw i’n mynd i mewn i gartref gofal, os na allaf fy mwydo neu fy ymolchi fy hun mwyach’
Nid yw’r cyfyngiad hwn yn ddilys am nad yw EPAs yn ymwneud â phenderfyniadau am iechyd a lles rhoddwr, ond dim ond am faterion ariannol.
Os byddwch chi’n meddwl bod atwrnai heb ddilyn cyfyngiadau mewn EPA, rhowch wybod am eich pryder i Swyddfa’r GwarcheidwadCyhoeddus fel y gallwn edrych i mewn i’r mater.
Gwirio statws EPA gofrestredig
Os nad ydych yn siwr a yw EPA yn gofrestredig neu rydych eisiau gwirio pwy yw’r atwrneiaid, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ofyn i ni chwilio ein cofrestr EPAs.
Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim a byddwch yn derbyn ateb o fewn 5 diwrnod gwaith. Nid ydym yn datgelu’r holl wybodaeth a ddaliwn, ond gallwn ddweud wrthych:
- a oes EPA cofrestredig
- dyddiad cofrestru’r EPA
- enw’r rhoddwr
- dyddiad geni’r rhoddwr
- enw’r atwrneiaid
- p’un a oes unrhyw gyfyngiadau yn yr EPA – nid ydym yn rhoi gwybod beth yw’r rhain, dim ond a ydyn nhw’n bodoli
- sut mae atwrneiaid yn cael eu penodi i weithredu – yn unigol, ar y cyd, neu ar y cyd ac ar wahân
- p’un a yw’r EPA yn gofestredig neu wedi’i chanslo
Mae ein cofrestr EPAs yn cael ei diweddaru bob tro y dywedir wrthym am newid i fanylion rhoddwr neu atwrnai Pan fydd unrhyw un yn gofyn am chwiliad o’n cofrestri, rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym.
I ofyn am chwiliad o’r cofrestri, llenwch ffurflen OPG100 – gallwch ei chwblhau’n electronig a’i e-bostio i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Gorchmynion dirprwyaeth
Trosolwg: gorchmynion dirprwyaeth
Mae gorchmynion dirprwyaeth yn ddogfennau cyfreithiol sy’n rhoi awdurdod i un neu fwy o bobl (o’r enw ‘dirprwyon’) wneud penderfyniadau ar ran rhywun (‘P’) sydd heb y galluedd meddyliol. Bydd y gorchymyn yn cyfeirio at yr unigolyn y mae’r dirprwy’n gweithredu ar eu rhan fel ‘P’.
Bydd barnwr yn y Llys Gwarchod yn cyhoeddi gorchymyn dirprwyaeth dim ond pan fydd tystiolaeth i ddangos nad oes gan P y galluedd meddyliol.
Gall dirprwyon weithredu dros P gynted ag y bydd y gorchymyn dirprwyaeth sydd wedi’i selio yn cael ei gyhoeddi.
Gall y gorchymyn dirprwyaeth fod yn interim neu’n derfynol a gall ymwneud ag:
- eiddo a materion – mae hyn yn ymwneud ag arian a dyma’r math mwyaf cyffredin o orchymyn dirprwyaeth
- penderfyniadau lles personol
- eiddo a materion a lles personol
Ni fydd staff mewn marchnadoedd wedi’u rheoleiddio yn ymdrin â gorchmynion dirprwyaeth lles personol. Os byddwch yn derbyn gorchymyn sy’n ymwneud â lles personol yn unig, cofiwch na all dirprwy ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ariannol i P.
Mae’r gorchymyn dirprwyaeth yn rhestru’r mathau o benderfyniadau y gall dirprwyon eu gwneud i P.
Mae’n rhaid i ddirprwyon roi gwybod i OPG bob blwyddyn i ddangos sut maen nhw wedi rheoli eiddo ac ariannau P, a pha benderfyniadau maen nhw wedi eu gwneud ar ran P.
Pwy all fod yn ddirprwy?
Mae dirprwyon fel arfer yn berthnasau sy’n oedolion neu’n ffrindiau i rywun sydd angen help i wneud penderfyniadau.
Gall unrhyw un dros 18 oed wneud cais i’r Llys Gwarchod i ddod yn ddirprwy ar gyfer person penodol, ond nid yw gwneud cais yn golygu y byddant yn cael eu dewis yn awtomatig.
Mae angen i ddarpar-ddirprwyon fodloni barnwr eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau ariannol dros rywun arall. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu, ansolfedd neu faterion ariannol eraill a allai effeithio ar ddirprwyaeth.
Telir rhai pobl i weithredu fel dirprwyon – maen nhw fel arfer yn gyfrifyddion, cyfreithwyr neu gynrychiolwyr yr awdurdod lleol.
Os nad oes unrhyw un arall ar gael neu’n briodol, gall y Llys ei hun ddewis dirprwy arbenigol i’w benodi, a’r enw ar y dirprwy yma yw ‘dirprwy panel’.
Pan fyddwch yn darganfod bod dirprwy gan eich cwsmer
Senario: aros am orchymyn llys
Mae Bessie yn ffonio cwmni cyflenwi dŵr ei chwaer Jayne ac yn gofyn i gael derbyn copïau o filiau Jayne ac unrhyw ohebiaeth arall o hyn ymlaen.
Mae Bessie yn dweud nad yw Jayne yn gallu rheoli ei materion ei hun bellach. Mae Bessie yn y broses o wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael gorchymyn dirprwyaeth.
Mae Bessie eisiau derbyn biliau dŵr Jayne fel ei bod hi’n gallu gwneud taliadau ar ei rhan am ei bod hi’n pryderu y gallai biliau fynd heb eu talu Mae Bessie eisiau gwybod pryd mae taliadau’n ddyledus a faint o arian sydd ar Jayne iddynt.
Mae’r asiant sy’n ymdrin â’r alwad yn sylweddoli nad oes gan Bessie awdurdod cyfreithiol eto i wneud penderfyniadau am eiddo ac arian ar ran Jayne am nad oes EPA, LPA na gorchymyn dirprwyaeth yn ei le. Mae’r asiant yn trosglwyddo Bessie at dîm arbenigol yn y cwmni dŵr, fel ei bod yn gallu siarad â rhywun sydd wedi’i hyfforddi i gefnogi cwsmeriaid sy’n agored i niwed.
Unwaith y mae’r gorchymyn dirprwyaeth gan Bessie, mae hi’n ei anfon at y cwmni cyflenwi dŵr. Maen nhw’n ei wirio ac yn ychwanegu enw Bessie at gyfrif Jayne.
Gallai un o’ch cwsmeriaid presennol neu rywun sy’n trosglwyddo i’ch gwasanaeth gyflwyno gorchymyn dirprwyaeth i chi.
Os bydd dirprwy’n cysylltu i roi gwybod i chi am orchymyn dirprwyaeth, gallwch wneud hyn:
- gofyn iddyn nhw ddarparu rhyw fath o dystiolaeth i ddangos pwy ydyn nhw – dilynwch eich polisi arferol ar gyfer siarad â thrydydd parti
- gofyn i gael gweld y gorchymyn dirprwyaeth wedi’i selio
- deimlo’n fodlon nad oes gan eich cwsmer y galluedd meddyliol i ymdrin â’u materion ariannol eu hunain (neu nad oedd ganddynt pan wnaed y gorchymyn), oherwydd bydd bannwr wedi gwirio hyn cyn rhoi’r gorchymyn llys
- gwirio bod y gorchymyn llys yn penodi’r dirprwy i ymdrin â phenderfyniadau ariannol eich cwsmer
- addasu eich cofnodion fel eich bod yn cyfathrebu gyda’r dirprwy yn y dyfodol, yn lle eich cwsmer
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
Efallai y byddwch eisiau gofyn i’r dirprwyon roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau yn eu manylion personol neu eu hamgylchiadau nhw eu hunain neu eich cwsmer. Dylent hefyd roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’r ddirprwyaeth.
Gallwch hefyd ofyn i weld y gorchymyn dirprwyaeth eto yn ddiweddarach os byddwch chi angen ei weld.
Gwirio bod gorchymyn dirprwyaeth yn ddilys
Unwaith y byddwch yn gwybod bod gan gwsmer ddirprwy yn gweithredu drostyn nhw, dylech chi ofyn i weld y gorchymyn llys. Bydd hyn yn caniatáu i chi wirio’r ddogfen a chadw copi yn ffeil eich cwsmer, os oes angen.
Pan fyddwch yn gofyn am ddogfen, gallwch dderbyn un o’r canlynol:
- llungopi neu ddelwedd wedi’i sganio – ond efallai y bydd hi’n anoddach gwirio bod copi neu sgan yn ddilys
- y ddogfen wreiddiol
Mae gorchmynion llys yn defnyddio iaith gyfreithiol ac mae angen eu darllen yn ofalus. Efallai fod llawer o’r geiriau neu ymadroddion yn anghyfarwydd, ond bydd gorchmynion llys yn nodi’n glir beth yw penderfyniad y barnwr.
Bydd gorchymyn dirprwyaeth yn dweud hyn wrthych:
- enw’r barnwr a benododd y dirprwy
- dyddiad y gorchymyn – dyma’r dyddiad pan glywodd y barnwr yr achos
- enw P
- enw’r dirprwyon. Os ydyn nhw’n gyfreithiwr neu’n ddirprwy panel, gallai hefyd nodi enw’r cwmni y maen nhw’n gweithio iddo
- am faint o amser y gall y dirprwy weithredu. Nid oes gan bob gorchymyn ddyddiad dod i ben, ond mae gan rai
- pa fath o benderfyniadau y gall y dirprwyon eu gwneud ac a oes unrhyw gyfyngiadau
- os oes mwy nag un dirprwy, pa benderfyniadau y mae’n rhaid iddynt
eu gwneud ar y cyd a pha rai cânt eu gwneud ar wahân
Marciau a ddefnyddir ar orchmynion dirprwyaeth wedi’u selio
Mae gorchymyn llys wedi’i selio os oes ganddo stamp dyddiad boglynnog gyda’r geiriau ‘Llys Gwarchod/Court of Protection’ arno.

Penderfyniadau barnwyr
Mae penderfyniad y llys yn yr adran sy’n dechrau gyda’r geiriau ‘GORCHMYNNIR:’
Yn y fan yma byddwch yn gweld gwybodaeth am unrhyw gyfyngiadau y mae’r barnwr wedi eu rhoi ar y dirprwy, neu unrhyw bwerau y mae wedi eu caniatáu.
Dylech ddarllen y ddogfen gyfan i ddeall penderfyniad y llys yn llawn, yn ogystal â gwirio a oes dyddiad dod i ben ar y gorchymyn dirprwyaeth.
Os nad yw’n cyfeirio at fath penodol o weithgaredd ariannol, e.e. gwerthu eiddo, dylech dybio nad oes gan y dirprwy yr awdurdod i wneud hyn.
Yn wahanol i LPAs ac EPAs – y gellir eu canslo neu eu dirymu, ond sy’n cael eu gwneud am oes fel arfer – rhoddir gorchymyn dirprwyaeth ar waith weithiau am gyfnod cyfyngedig o amser. Un rheswm posibl am hyn yw bod rhywun arall yn cymryd drosodd yn y dyfodol, neu am fod dirprwy eisiau gweithredu am gyfnod byr yn unig (enw arall ar ddirprwy fel hyn yw dirprwy interim).
Pan fydd gorchymyn dirprwyaeth yn dod i ben
Gall dirprwy wneud cais i’r Llys Gwarchod i ddod â’u dirprwyaeth i ben os:
- nad ydyn nhw eisiau gweithredu bellach
- yw P wedi adfer eu galluedd meddyliol
Mae angen i ddirprwy hefyd ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r llys os bydd P yn marw. Nid oes awdurdod gan ddirprwy i reoli ystâd person marw, heblaw eu bod yn ysgutor hefyd.
Pan roddir gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am newid yn amgylchiadau P, naill ai drwy’r dirprwy neu’r llys, byddwn yn diweddaru ein cofrestr gorchymyn dirprwyaeth.
Bydd y Llys Gwarchod yn cyhoeddi gorchymyn dirymu wedi’i selio pan fydd dirprwyaeth yn dod i ben. Dylech wirio bod hwn yn ddilys yn yr un ffordd ag y byddwch yn gwirio gorchymyn dirprwyaeth (gwelwch dudalen 42). Dylai’r dirprwy ddangos hwn i chi er mwyn caniatáu i’ch cofnodion gael eu diweddaru.
Mae gorchymyn dirymu wedi ei selio os oes ganddo stamp dyddiad boglynnog gyda’r geiriau ‘Court of Protection’ arno.
Gwirio statws gorchymyn dirprwyaeth
Os nad ydych yn sicr a yw gorchymyn dirprwyaeth yn ddilys neu os ydych eisiau gwirio rhai o’r manylion, gallwch ofyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus chwilio’r gofrestr gorchmynion dirprwyaeth.
Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim a byddwch yn derbyn ateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Nid ydym yn datgelu’r holl wybodaeth a ddaliwn, ond gallwn ddweud wrthych:
- os cyhoeddwyd gorchymyn dirprwyaeth
- beth yw’r dyddiad cyhoeddi
- enw’r person y mae’r gorchymyn dirprwyaeth ar eu cyfer (P)
- dyddiad geni P
- enw dirprwyon
- a oes unrhyw gyfyngiadau ar y ffordd y gall dirprwyon weithredu
- sut mae dirprwyon yn cael eu penodi – yn unigol, ar y cyd neu ar y cyd ac ar wahân
- a yw’r gorchymyn dirprwyaeth yn weithredol, wedi dod i ben neu wedi’i ganslo
- dyddiad dod i ben y gorchymyn dirprwyaeth, lle bo’n berthnasol
Mae ein cofrestr gorchmynion dirprwyaeth yn cael ei diweddaru pryd bynnag y rhoddir gwybod i ni am newid i fanylion rhoddwr neu atwrnai. Pan fydd unrhyw un yn gofyn am chwiliad o’n cofrestri, rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym.
I ofyn am chwiliad cofrestru, llenwch ffurflen OPG100 – gallwch ei chwblhau’n electronig a’i e-bostio i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Gwarcheidiaethau
Trosolwg: gorchmynion llys gwarcheidiaeth
Mae gorchmynion gwarcheidiaeth yn ddogfennau cyfreithiol sy’n penodi rhywun (o’r enw ‘gwarcheidwad’) i reoli eiddo a materion ariannol rhywun sydd ar goll (y ‘person’).
Mae person ‘ar goll’ os nad ydyn nhw gartref ac yn cymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol. Mae’n rhaid i un o’r pethau canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- nid yw’r ymgeisydd yn gwybod lle maen nhw
- ni allant gysylltu â’r ymgeisydd i roi gwybod iddynt beth yw eu penderfyniadau
Fel arfer, bydd yr Uchel Lys ond yn rhoi gorchymyn gwarcheidiaeth pan fydd person wedi bod ar goll am 90 diwrnod yn olynol, os yw’r person sydd ar goll neu’r ymgeisydd yn byw yng Nghymru neu Loegr ac os yw penodi gwarcheidwad er budd gorau’r person hwnnw.
Gallai’r gorchymyn ymwneud â holl eiddo a materion ariannol y person coll, neu gallai fod wedi’i deilwra i asedau penodol a phwerau penodol. Gallai’r rhain gynnwys:
- gwerthu eiddo, rhoi eiddo ar rhent neu forgeisio eiddo
- gwneud buddsoddiadau
- cyflawni gweithred
- ymdrin â dyledion (naill ai rywbeth sy’n ddyledus i’r person neu ddyled sydd gan y person)
- rhoi’r gorau i ymddiriedolaeth
- gweithredu achosion cyfreithiol ar eu rhan
- gwneud rhoddion ar eu rhan
Ni all gwarcheidwad weithredu ewyllys ar gyfer y person. Ni allant chwaith arfer grym a roddir i’r person gan ymddiriedolaeth mewn eiddo.
Mae gorchymyn gwarcheidiaeth yn ddilys am hyd at 4 mlynedd, ac unwaith y mae gwarcheidwad wedi’u penodi maen nhw’n cael eu goruchwylio gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Pwy all fod yn warcheidwad?
Mae gwarcheidwaid fel arfer yn oedolion sy’n berthnasau neu ffrindiau i’r person sydd ar goll. Rhaid iddyn nhw fod dros 18 oed neu’n gorfforaeth ymddiriedolaeth (gwelwch dudalen 19). Mae angen i warcheidwad fod yn addas i wneud penderfyniadau ariannol i rywun arall. Mae hyn yn golygu eu bod wedi rhoi gwybod am unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu, ansolfedd neu faterion ariannol eraill a allai effeithio ar y warcheidiaeth. Mae’n rhaid iddynt fod yn ddibynadwy i wneud y penderfyniadau hynny pan fo’r gofyn.
Os nad yw unrhyw un arall ar gael neu’n addas, gall y Llys ei hun ddewis gwarcheidwad arbenigol i’w penodi, o’r enw ‘gwarcheidwad panel’.
Penodi mwy nag un gwarcheidwad
Gall dau neu fwy o warcheidwaid gael eu penodi i un person. Gallai fod yn benodiad ar y cyd lle mae’n rhaid iddyn nhw wneud a chytuno ar bob penderfyniad neu gallent roi rhai cyfrifoldebau ar wahân iddynt. Yn yr achosion hyn, gallai gwarcheidwaid gael eu penodi ar gyfer meintiau gwahanol o amser.
Unlike LPAs, multiple guardians will never be appointed on a ‘joint ac ar wahân’.
Dylech bob amser wirio manylion y gorchymyn i gadarnhau cyfarwyddiadau’r llys. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am benodiad gwarcheidwaid yn Adran 5 y Cod Ymarfer.
Pan fyddwch yn darganfod bod gwarcheidwad gan gwsmer
Senario: trefniant morgais yn dod i ben
Mae Anne yn warcheidwad i’w merch, Lisa, sydd wedi bod ar goll ers 15 mis. Mae trefniant morgais cyfradd sefydlog Lisa yn dod i ben mewn deufis. Roedd gan Lisa gwpwl o lojars ar y pryd pan aeth ar goll ac mae Anne wedi eu cadw nhw yno, ac mae eu taliadau rhent yn talu’r morgais.
Mae gan Anne reswm i gredu y gallai Lisa ddychwelyd ac mae hi’n teimlo mai’r peth gorau i Lisa yw gadael pethau fel y maent fel bod yr eiddo’n ddiogel ac y telir amdano am ychydig tra bo Lisa i ffwrdd.
Mae Anne yn penderfynu cyfarfod â’r banc i drafod a oes modd negodi cyfradd newydd o dan yr amgylchiadau. Bydd angen i’r drafodaeth gynnwys ystyried a fydd modd talu’r taliadau morgais yn y dyfodol gyda’r incwm sy’n dod o’r rhent, beth yw polisi masnachol y banc ac i beth y byddant yn cytuno fel bod modd i Anne wneud penderfyniad gwrthrychol sy’n parhau i ystyried buddiannau gorau Lisa.
Gallai gorchymyn gwarcheidiaeth fod am gwsmer sydd gennych yn barod neu rywun sy’n trosglwyddo i’ch gwasanaeth.
Fel arfer byddwch yn darganfod bod gorchymyn gwarcheidiaeth yn bodoli’n barod ar gyfer un o’ch cwsmeriaid pan fydd y gwarcheidwad yn ffonio, yn e-bostio neu’n ysgrifennu atoch chi.
Os bydd rhywun yn dweud wrthych chi eu bod yn warcheidwad wedi’i benodi gan y llys ar gyfer person sydd ar goll, dylech:
- ofyn iddyn nhw roi rhyw fath o dystiolaeth i chi i ddangos pwy ydyn nhw – dilynwch eich polisi cwmni arferol ar gyfer siarad â thrydydd parti
- esboniwch bod angen i chi weld y gorchymyn gwarcheidiaeth cyn i chi drafod y cyfrif(on) gyda nhw
- gwiriwch y gorchymyn yn drwyadl i weld beth mae’r llys wedi caniatáu i’r gwarcheidwad ei wneud. Efallai y bydd cyfyngiadau penodol yn berthnasol
- addaswch eich cofnodion i ddangos bod gan y cwsmer warcheidwad wedi’i benodi gan y llys i weithredu ar eu rhan, sy’n gallu bod ar waith am hyd at 4 blynedd
Cofiwch, yn wahanol i LPAs, dirprwyaethau ac EPAs, nid yw’r cwsmer wedi colli galluedd meddyliol. Mae’r gwarcheidwad yn gweithredu drostyn nhw am eu bod ar goll neu am eu bod wedi cael eu cymryd/carcharu dramor ac nad oes modd cysylltu â nhw.
Gwiriwch bod gorchymyn llys y gwarcheidiaeth yn ddilys
Unwaith y byddwch yn gwybod bod gan gwsmer warcheidwad yn gweithredu ar eu rhan, dylech ofyn i weld y gorchymyn llys. Bydd hyn yn caniatáu i chi wirio’r ddogfen a chadw copi yn ffeil eich cwsmer, os oes angen.
Pan fyddwch yn gofyn am ddogfen, gallwch dderbyn un o’r canlynol:
- llungopi neu ddelwedd wedi’i sganio – ond efallai y bydd hi’n anoddach gwirio bod copi neu sgan yn ddilys
- y ddogfen wreiddiol neu gopi ardystiedig
Nid oes unrhyw beth yn y gyfraith sy’n dweud bod yn rhaid i chi weld y gorchymyn llys gwreiddiol. Yn debyg i atwrneiaethau a dirprwyaethau bydd angen i chi asesu’r lefel o risg sy’n gysylltiedig â derbyn copïau.
Bydd gorchymyn llys gwarcheidiaeth yn dweud hyn wrthych:
- enw’r ‘hawliwr’ - y gwarcheidwad. A ydyn nhw’n gyfreithiwr neu’n warcheidwad panel, gallai hyn gynnwys enw’r cwmni y maen nhw’n gweithio iddo
- enw’r ‘diffynnydd’ - y person sydd ar goll
- y dyddiad y cychwynnodd y gorchymyn
- am faint o amser y gall y gwarcheidwad weithredu. Mae hyn yn uchafswm o 4 blynedd
- pa fath o benderfyniadau y gall y gwarcheidwad eu gwneud ac a oes unrhyw gyfyngiadau
Rhaid darllen y gorchymyn llys yn ofalus. Mae gorchmynion yn defnyddio iaith gyfreithiol a allai fod yn anghyfarwydd i’r darllenydd. Hefyd gallai amodau’r gorchymyn newid tra bydd yn ei le. Mae’n rhaid i’r gwarcheidwad roi gwybod i chi pan fydd hyn yn digwydd.
Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017 yn rhoi arweiniad i’r ddeddf a sut y mae’n cael ei gweithredu.
Marciau a ddefnyddir ar orchmynion llys gwarcheidiaeth
Yr Uchel Lys sy’n gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth, felly nid yw wedi ei stampio na’i farcio gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn lle hynny, bydd ganddo rif cyfeirio achos unigryw gan yr Uchel Lys. Adran o’r Uchel Lys sy’n gwneud y gorchymyn, naill ai adran y Teulu neu adran y Siawnsri.
Gellir gwirhau gorchymyn drwy gysylltu â naill ai’r llys a’i gyhoeddodd neu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rhowch rif cyfeirio’r archeb er mwyn cael ymateb yn gyflymach.

Gwiriwch statws gorchymyn llys gwarcheidiaeth
Os nad ydych yn sicr a yw gorchymyn gwarcheidiaeth yn ddilys neu os ydych eisiau gwirio rhai o’r manylion, gallwch ofyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus chwilio’rgofrestr gorchmynion gwarcheidiaeth
Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim a byddwch yn derbyn ateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Nid ydym yn datgelu’r holl wybodaeth a ddaliwn, ond gallwn ddweud wrthych:
- pryd y daeth gorchymyn gwarcheidiaeth yn weithredol
- enw’r person y mae gorchymyn amdanyn nhw
- dyddiad geni’r person y mae gorchymyn amdanyn nhw
- a oes unrhyw gyfyngiadau mewn gorchymyn llys (ond nid beth ydyn nhw)
- p’un a yw gorchymyn llys yn weithredol, wedi canslo, wedi’i ddirymu neu wedi dod i ben
- cyfeirnod gorchymyn llys a rhif cyfeirio achos Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- dyddiad dod i ben gorchymyn llys gwarcheidiaeth
Ni allwn ddweud wrthych beth yw enw’r gwarcheidwad neu warcheidwaid, na rhoi gwybodaeth
i chi am geisiadau sy’n dal i gael eu prosesu.
Mae ein cofrestr gorchymyn gwarcheidiaeth yn cael ei diweddaru pryd bynnag y dywedir wrthym am newid i fanylion person coll neu warcheidwad. Pan fydd unrhyw un yn gofyn am chwiliad o’n cofrestri, rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym.
I ofyn am chwiliad cofrestri, llenwch ffurflen GS4 a’i ebostio i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Os bydd person coll yn dychwelyd
Os bydd person coll yn dychwelyd, mae’n rhaid gwneud cais i’r llys i’r gorchymyn gael ei ddirymu. Dylid dweud am y newid hwn mewn amgylchiadau wrth unrhyw sefydliad y mae’r gwarcheidwad wedi ymwneud ag o.
Os penderfynir bod y person sy’n dychwelyd wedi colli galluedd meddyliol ac nid oes ganddynt LPA neu EPA ar hyn o bryd, gallai rhywun wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael gorchymyn dirprwyaeth.
Mae rhagor o wybodaeth yn y Cod Ymarfer am yr hyn sy’n digwydd os bydd person coll yn dychwelyd.
Termau a ddefnyddiwn
Atwrnai: person sydd wedi’u penodi gan rywun i’w helpu nhw i wneud penderfyniadau, neu i wneud penderfyniadau ar eu rhan.
Copi ardystiedig: copi o LPA neu EPA y mae rhywun wedi’i lofnodi i ddweud eu bod yn gopi gwir o’r gwreiddiol, a’u bod wedi gweld y gwreiddiol. Gellir eu defnyddio yn lle dogfen wreiddiol
Llys gwarchod: yn gyfrifol yng Nghymru a Lloegr am benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar gyfer y rhai sydd wedi colli galluedd meddyliol.
Gorchymyn llys: penderfyniad y llys wedi’i osod allan mewn dogfen. Mae barnwyr sy’n penodi dirprwyon yn gwneud hynny mewn gorchymyn dirprwyaeth
Dirprwy: person a benodir gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun sy’n brin o alluedd meddyliol
Rhoddwr: y person sy’n gwneud atwrneiaeth arhosol neu barhaus
Atwrniaeth barhaus (EPA): hyd Hydref 2007, gallai rhywun gyda galluedd meddyliol wneud EPA i roi’r awdurdod i bobl eraill wneud penderfyniadau eiddo ac ariannol ar eu rhan
Gwarcheidwad: yr unigolyn a benodir gan yr Uchel Lys i ymdrin ag eiddo a materion ariannol y person
Gorchymyn gwarcheidiaeth: y penderfyniad a wneir gan yr Uchel Lys sy’n penodi gwarcheidwad
Atwrneiaeth arhosol (LPA): ers mis Hydref 2007 dogfen gyfreithiol sy’n gadael i oedolyn benodi un atwrnai neu fwy i’w helpu nhw i wneud penderfyniadau, neu i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Gall LPAs fod naill ai ar gyfer penderfyniadau am eiddo a materion ariannol neu iechyd a lles.
Galluedd meddyliol: mae bod â’r galluedd meddyliol yn golygu gallu gwneud penderfyniad penodol ar yr amser y mae angen ei wneud
Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA): mae’r ddeddf hon yn effeithio ar unrhyw un sy’n methu gwneud rhai penderfyniadau, neu unrhyw benderfyniadau, drostynt eu hunain. Mae’n amlinellu 5 egwyddor y mae’n rhaid eu dilyn i amddiffyn buddiannau gorau rhywun sydd heb alluedd meddwl
Copi swyddfa: delwedd wedi’i sganio o’r LPA neu’r EPA gwreiddiol a gedwir ar ffeil gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gellir ei ddefnyddio yn lle dogfen wreiddiol sydd wedi mynd ar goll yn barhaol neu dros dro.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):un o swyddfeydd gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cofrestru LPAs, EPAs, a gorchmynion dirprwyaeth Mae’n goruchwylio dirprwyon a gwarcheidwaid sydd wedi eu penodi gan y llys
**P: ** y disgrifiad swyddogol o’r unigolyn sy’n bwnc gorchymyn llys (talfyrriad ‘person’)
Person: y disgrifiad swyddogol o’r unigolyn sy’n bwnc gorchymyn llys, sy’n cael ei dalfyrru i ‘P’ weithiau
Dolenni defnyddiol
Gwybodaeth gyfreithiol
Cod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol
Deddf Atwrneiaeth Barhaus 1985
Atwrneiaethau arhosol
Atwrneiaethau parhaus
Rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai EPA
Dirprwyaethau
Dirprwyon ‘proffesiynol’ cymeradwy
Gwarcheidiaethau
Gwarcheidiaid ‘proffesiynol’ cymeradwy
Chwilio’r cofrestri
Y gofrestr atwrneiaid a dirprwyon
Y gofrestr methdaliad ac ansolfedd
Dolenni defnyddiol eraill
Sut i wneud penderfyniadau i rywun arall