Ffurflen

Cais am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer gwiriad hunaniaeth ar gyfer person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Cyflwyno cais am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer PRhA i gwrdd â gofynion gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau os ydych wedi derbyn 2 estyniad eisoes.

Dogfennau

Gwneud cais am estyniad i'r dyddiad cau o ran gwiriad hunaniaeth ar gyfer PRhA

Manylion

Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych eisoes wedi cael 2 estyniad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA).

Gwneud cais am estyniad trwy’r gwasanaeth Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer PRhA.

Ni allwch wneud cais am estyniad ar ôl i’ch dyddiad cau ar gyfer cwblhau gwiriad fynd heibio.

Os oes angen i chi ofyn am estyniad ychwanegol, defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno’ch cais cyn i’ch dyddiad cau’r gwiriad cyfredol y PRhA fynd heibio. Bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth ategol.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, bydd arholwr yn ystyried y wybodaeth a’r dystiolaeth rydych chi’n eu darparu.

Os derbynnir eich cais, bydd eich dyddiad cau yn cael estyniad o 14 diwrnod. Rhaid i chi gydymffurfio â gofynion gwiriad hunaniaeth erbyn eich dyddiad cau newydd. Os gwrthodir y cais, rhaid i chi gydymffurfio â’ch dyddiad cau presennol.

Os nad ydych yn cydymffurfio ar amser, byddwch yn torri’r gyfraith a byddwn yn anfon llythyr diofyn atoch yn nodi’r troseddau sy’n ymwneud â gwiriad hunaniaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Mawrth 2026 show all updates
  1. A Welsh language version of the form has been added to the Welsh page.

  2. Added more information about when you can and when you cannot request to extend the identity verification deadline for a person with significant control.

  3. Guidance added to clarify that you should only use this form if you have already been given 2 extensions using the 'Provide identity verification details for a person with significant control' service.

  4. Added Welsh translation.

  5. Corrected length of PSC identity verification due date extension from 14 days to up to 14 days.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon