Canllawiau

Cyfrifon cleientiaid cyfreithwyr

Diweddarwyd 24 Chwefror 2026

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Crynodeb

Mae’r canllawiau hyn yn nodi safbwynt Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch y ffordd y dylai dirprwyon cyfreithwyr reoli cyfrifon cleientiaid ar gyfer pobl sy’n destun gorchymyn dirprwyaeth.

Cyd-destun

Mae Rheol 3.3 rheolau cyfrifyddu’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) yn darparu fel a ganlyn:

“Chewch chi ddim defnyddio cyfrif cleient i ddarparu cyfleusterau bancio i gleientiaid neu drydydd partïon. Rhaid i daliad i gyfrif cleient, a throsglwyddiadau neu ddidyniadau o gyfrif cleient, fod mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoledig a ddarperir gennych chi.”

Bwriad y rheoliad uchod yw atal cyfrifon cleientiaid rhag cael eu defnyddio at ddibenion amhriodol neu droseddol, gan gynnwys twyll a gwyngalchu arian. Nid yw’n cyfyngu’r defnydd o gyfrifon cleientiaid ble ceir cyswllt rhesymol â thrafodion cyfreithiol sylfaenol neu ddyletswyddau proffesiynol cydnabyddedig cyfreithiwr fel rydych chi’n ei ddarparu. (Gellir cael rhagor o arweiniad ar hyn gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr).

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn awgrymu na ddylid ‘cymysgu’ cyllid gyda chyllid pobl eraill. Byddai hyn yn cynnwys peidio â’u cymysgu gyda chyllid cleientiaid eraill oni bai fod rhesymau da’n cael eu cyflwyno.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn nad yw cadw arian mewn cyfrif cleient cyffredinol yn rheswm da, hyd yn oed pan ystyrir y diogelwch y mae dal  arian yng nghyfrif cleient cyfreithiwr yn ei darparu, er enghraifft, y gofyniad i’r rhan fwyaf o gwmnïau gael adroddiad cyfrifydd annibynnol. Byddai’r un warchodaeth yn cael ei rhoi i gyfrif cleient ar wahân neu benodol sydd wedi’i wahanu oddi wrth y cyfrif cyffredinol.

Safbwynt yr OPG

Nid oes gan yr OPG wrthwynebiad mewn egwyddor i ddefnyddio cyfrifon cleientiaid cyffredinol fel sefyllfa dros dro neu i ddal cyn i ddirprwyon sefydlu cyfrifon cleientiaid ar wahân neu gyfrifon banc ar wahân yn ôl y disgwyl, i reoli trafodion parhaus.

Atgoffir dirprwyon cyfreithwyr bod ffactorau ar wahân i rai yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr y dylent efallai eu hystyried. 

Y cyntaf yw y bydd rhaid i’r OPG, yn ychwanegol at ofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr gael ei bodloni bod gan ddirprwyon fesurau diogelu priodol yn eu lle i warchod cyllid dirprwyaeth. Mae dirprwyon yn gweithredu o dan awdurdod y llys ar ran pobl agored i niwed ac efallai y bydd angen gofal ychwanegol o ran pwy all awdurdodi taliadau o’r cronfeydd dirprwyaeth.

Gall sefydlu cyfrif banc ar wahân ar gyfer dirprwyaeth, gyda llofnodwyr wedi’u henwi, fod yn symlach yn ymarferol.

Yn ail, mae gan ddirprwy ddyletswydd gyffredinol i weithredu gan roi ystyriaeth i les gorau’r person sydd wedi colli ei allu i weithredu, ac mae hynny’n gallu cynnwys rheoli ei gyllid i sicrhau’r elw gorau. Bydd achosion lle na fydd balans mawr yng nghyfrif cleient yn cynrychioli’r strategaeth fuddsoddi orau i gleient.

Yn yr achosion hyn, bydd yr OPG yn cwestiynu pa mor briodol yw cadw swm gormodol o arian fel hyn.

Atgoffir dirprwyon proffesiynol am safonau’r OPG ar gyfer dirprwyon proffesiynol, a’r canllawiau cysylltiedig.

Mae safon 4b yn datgan:

“‘Rhaid i ddirprwyon wneud yn siŵr bod arian P yn cael ei gadw ar wahân a bod y broses o reoli cyfrifon yn gwbl dryloyw.”

Mae’r canllaw ychwanegol ar gyfer safon 4b yn nodi:

“Pan gewch chi’ch penodi’n ddirprwy, rhaid i chi agor cyfrif dirprwyaeth yn enw P. Rhaid i gyfreithwyr sy’n rheoli arian ar ran P lynu wrth Reolau Cyfrifon yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).”

Atgoffir dirprwyon cyfreithwyr y dylai eu rheolaeth ar gyllid gael ei drefnu gan feddwl am les gorau’r cleient.

Mae’r OPG yn parhau i weithio gyda dirprwyon proffesiynol i sicrhau bod ein goruchwyliaeth yn gymesur ac yn briodol, ac os oes gennych chi unrhyw sylwadau i’w nodi neu unrhyw faterion eraill, cysylltwch â ni.

I gael rhagor o wybodaeth

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 
PO Box 16185 
Birmingham B2 2WH

Ffôn: 0300 456 0300 (+44 (0)203 518 9639 y tu allan i’r DU) 

Relay UK (os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn): 

18001 0300 123 1300 

Mae’r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (Dydd Mercher 10am i 5pm) 

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk

Ar-lein: www.gov.uk/atwrneiaeth