Ffurflen

TWE: Dewis ar gyfer llenwi Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P350)

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein os ydych yn gyflogwr ac rydych am weithredu mwy nag un cynllun TWE.

Dogfennau

Gwnewch gais ar-lein

TWE: Dewis ar gyfer llenwi Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P350)

Manylion

Os ydych yn gyflogwr, ac rydych am weithredu mwy nag un cynllun TWE, bydd yn rhaid i chi wneud dewis ffurfiol. I wneud hyn, gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF

I wneud cais ar-lein, bydd angen i chi fewngofnodi. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost

Gwnewch yn siŵr bod eich porwr wedi’i ddiweddaru (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhoi gwybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Awst 2022 show all updates
  1. Added translation

  2. The guidance on how to complete an election has been updated to reflect changes that have been made to the P350 form.

  3. Form P350 updated for 2019 to 2020 tax year and to allow employer returns for both student and postgraduate loans to be made.

  4. Welsh translation added.

  5. An online service is now available.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon