Amserlen rhoddiad patent
Diweddarwyd 1 Ebrill 2026
1. Cyn i chi wneud cais
Dylech wneud cais dim ond os:
- Rydych chi’n hyderus nad yw eich dyfais yn bodoli eisoes ac yn ddyfeisgar
- Mae gennych yr amser a’r arian ar gyfer y broses ymgeisio
2. Paratowch eich cais
Rhaid i’ch cais gynnwys:
- disgrifiad o’ch dyfais
- nodweddion technegol eich dyfais sydd i’w diogelu (a elwir yn ‘hawliadau’)
- crynhoad o holl agweddau technegol pwysig eich dyfais (a elwir yn ‘grynodeb’)
3. Cyflwynwch eich cais cychwynnol
Rhaid i chi anfon o leiaf eich disgrifiad ac unrhyw luniadau gyda’ch cais cychwynnol.Gallwch gyflwyno’ch hawliadau a’ch crynodeb yn ddiweddarach, ond gall anfon popeth gyda’i gilydd osgoi oedi a chamgymeriadau.
Fel rhan o’r broses, mae’n rhaid i chi dalu:
- £75 am gyflwyno cais (os ydych chi’n talu wrth wneud cais) neu £95 os ydych chi’n talu’n ddiweddarach
- £200 (ynghyd â £27 am bob hawliad dros 25 hawliad) i’r IPO gynnal ‘chwiliad’ o fewn 12 mis i gyflwyno’ch cais cychwynnol.
- £130 (ynghyd â £13 am bob tudalen o ddisgrifiad dros 35 tudalen) i’r IPO gynnal archwiliad sylweddol.
4. Ar ôl i chi wneud cais
Bydd yr IPO yn:
- anfon derbynneb atoch gyda rhif eich cais a’ch dyddiadau cyflwyno
- cynnal gwiriad sylfaenol bod eich cais yn gyflawn a bod eich dogfennau yn y fformat cywir
5. Chwilio, cyhoeddi a gwneud ‘archwiliad sylweddol’
Cyn y gellir rhoi eich patent rhaid i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO):
- cynnal chwiliad i gadarnhau bod eich dyfais yn newydd ac yn ddyfeisgar (o fewn 6 mis i chi ei gofyn)
- cyhoeddi eich cais – (fel arfer 18 mis ar ôl eich dyddiad ffeilio).Nid yw cyhoeddi yn golygu bod eich patent wedi’i roi.
- cynnal ‘archwiliad sylweddol’ o’ch cais (o fewn 6 mis i’ch cais os gofynnwch amdano pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais cychwynnol).Fel arall, gallai ddigwydd sawl blwyddyn ar ôl i chi ofyn amdano.
6. Pan roddir patent
Os rhoddir eich patent:
- bydd eich cais yn cael ei gyhoeddi yn ei ffurf derfynol
- anfonir tystysgrif atoch
Rhaid i chi adnewyddu eich patent ar bedwerydd pen-blwydd y dyddiad y gwnaethoch chi ei gyflwyno.Yna bydd angen i chi ei adnewyddu bob blwyddyn, hyd at 20 mly.