Cynllun gweithredol PecynUK: 2026 i 2027
Diweddarwyd 2 Mawrth 2026
Crynodeb gweithredol
Mae cynllun gweithredol PecynUK 2026 i 2027 yn nodi sut y bydd PecynUK, fel gweinyddwr cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) y Deyrnas Unedig dros becynwaith, yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn ei ail flwyddyn weithredol.
Mae’r cynllun yn darparu tryloywder yn unol â Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 ynghylch:
- blaenoriaethau
- rhagolygon ariannol
- methodolegau
- mesurau perfformiad
Y flwyddyn asesu gyntaf
Yn ystod y flwyddyn asesu gyntaf (2025 i 2026), dyroddodd PecynUK hysbysiadau atebolrwydd cyntaf y cynllun a darogan £1.44 biliwn mewn taliadau i’r awdurdodau lleol. Ategwyd hyn gan £27 miliwn ychwanegol ar gyfer gweinyddu a gwybodaeth gyhoeddus, a thâl amhariad o 4%.
Mae ailgyflwyniadau dilynol gan gynhyrchwyr a newidiadau sylweddol yn y tunelleddau dan rwymedigaeth wedi amlygu risgiau ariannol a’r angen cynyddol am ddata cywir a phrosesau ailgyfrifo cadarn.
Blaenoriaethau blwyddyn 2
Ar gyfer 2026 i 2027, mae blaenoriaethau gweithredol allweddol PecynUK yn cynnwys:
- cyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yng nghyd-ddatganiad polisi y Deyrnas Unedig ar yr EPR
- gosod a chasglu ffioedd gydag eco-fodiwleiddio
- defnyddio’r fethodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM)
- cyflawni taliadau Blwyddyn 2 i’r awdurdodau lleol
- rhoi fframwaith llywodraethu pedair gwlad cryfach ar waith
- cwblhau penodi sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr (PRO)
- rhagor o ddatblygu ar ei gyfeiriad strategol pum mlynedd
Bydd PecynUK yn gwella sefydlogrwydd yn y system drwy gyfyngu ar y data newydd a dderbynnir oddi wrth yr awdurdodau lleol ar ôl 1 Mai 2026 a chyflwyno amserlen strwythuredig ar gyfer ailgyfrifiadau cynhyrchwyr, gan gynnwys cynlluniau talu amgen, pan fydd y rhwymedigaethau’n newid yn sylweddol.
I ategu ansawdd y data, bydd PecynUK yn parhau i weithio’n agos gyda’r rheoleiddwyr i ddilysu cyflwyniadau’r cynhyrchwyr a chymhwyso data RAM yn gyson ar draws y system.
Bydd blwyddyn 2 hefyd yn gweld datblygiad parhaus o’r gwasanaeth digidol, sef y seilwaith craidd ar gyfer cyflwyno data, dilysu, cyfrifo ffioedd, a thaliadau.
Bydd PecynUK yn cydlynu â’r rheoleiddwyr, partneriaid cyflenwi, a’r PRO newydd ei benodi i sicrhau gweithrediadau gwydn, rheolaeth effeithiol ar ddigwyddiadau, a chyfathrebu cenedlaethol cydlynol, gan gynnwys buddsoddi yn y Lleolydd Recycle Now er mwyn gwella ymddygiadau ailgylchu.
Mae PecynUK yn parhau i fod yn ymrwymedig i lywodraethiant tryloyw, gwelliannau parhaus, a chynnal uniondeb y system. Bydd y perfformiad yn cael ei fesur trwy ddangosyddion sy’n cynnwys gwasanaeth i gwsmeriaid, rheoli ariannol, dibynadwyedd y gwasanaeth, ac effeithlonrwydd gweithredol.
Bydd y sefydliad yn diweddaru’r cynllun yn ôl yr angen i adlewyrchu newidiadau yn y rheoliadau a newidiadau yn anghenion y system.
Rhagolygon ariannol
Mae’r rhagolygon ariannol ar gyfer y flwyddyn yn cynnwys:
- £1.47 biliwn mewn costau gwaredu taladwy ar gyfer awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig
- costau gweinyddu a gwybodaeth gyhoeddus sydd wedi’u haddasu ar gyfer chwyddiant
- cyfanswm adennill ffioedd a ragwelir o ryw £1.56 biliwn
Mae cyfrifiadau ffioedd yn dal i gael eu seilio ar fethodoleg costau a pherfformiad awdurdodau lleol (LAPCAP), gyda Chymru’n defnyddio model dosbarthu pwrpasol y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru.
Cyflwyniad i’r cynllun gweithredol
Mae’r cynllun gweithredol yma yn nodi sut mae PecynUK, yn ei rôl fel gweinyddwr cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) y Deyrnas Unedig dros becynwaith, yn bwriadu cyflawni ei swyddogaethau statudol yn ystod blwyddyn ariannol 2026 i 2027 (y flwyddyn weithredol).
Mae’r cynllun yn darparu tryloywder ar flaenoriaethau, costau a ffioedd disgwyliedig, dulliau gweithredol, a rheoli perfformiad, yn unol â gofynion y rheoliadau.
Cyhoeddir y cynllun gweithredol yma yn unol â pharagraff 12 o Atodlen 7 i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024. O dan y darpariaethau yma, mae’n ofynnol i weinyddwr y cynllun gyhoeddi cynllun gweithredol blynyddol, sy’n nodi:
- blaenoriaethau
- rhagolygon
- methodolegau
- gweithgareddau wedi’u cynllunio
- dangosyddion perfformiad
Blwyddyn asesu 2025 i 2026
O fewn blwyddyn gyntaf y cynllun EPR dros becynwaith (blwyddyn asesu 2025 i 26), dyroddodd PecynUK yr hysbysiadau atebolrwydd cyntaf ym mis Hydref 2025. Ar y pryd, roedd yr hysbysiadau atebolrwydd wedi’u seilio ar y bwriad i dalu ffioedd i’r awdurdodau lleol gyda’r ffioedd fesul tunnell wedi’u gosod ar y lefel a gyfrifwyd ym mis Mehefin 2025.
Roedd PecynUK wedi rhag-weld y byddai’n talu £1.44 biliwn i awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig. Amcangyfrifodd PecynUK hefyd nifer y cynhyrchwyr a fyddai’n dod o fewn y cynllun trwy ymdrechion ein partneriaid rheoleiddio ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Wedi ychwanegu costau gweinyddol a gwybodaeth gyhoeddus PecynUK o £27 miliwn, a thâl amhariad o 4%, anfonebodd PecynUK gyfanswm o £1.46 biliwn oddi wrth gynhyrchwyr pecynwaith. Mae hyn yn is na’r cyfanswm sy’n ofynnol (£1.523 biliwn), i adlewyrchu data gan y rhai oedd yn hwyr yn cofrestru ac yn dechrau cydymffurfio â’r gofynion. Mae’r cyfanswm yma yn cynnwys yr holl gostau perthnasol, megis costau gweinyddol PecynUK, costau gwybodaeth gyhoeddus a’r tâl amhariad.
Mae PecynUK wedi parhau i ymgysylltu’n egnïol â’r cynhyrchwyr atebol er mwyn sicrhau eu bod yn talu’r hyn sy’n ddyledus o dan y cynllun. Roedd hyn yn cynnwys anfon nifer o lythyrau rhybuddio a dechrau’r broses o fynd ar drywydd dyledion drwy ddefnyddio pwerau gorfodi PecynUK.
Adeg cyhoeddi, roedd PecynUK wedi dosbarthu dau daliad i bob awdurdod lleol, yn cwmpasu tri chwarter o’r flwyddyn ariannol. Roedd y taliad cyntaf yn cynnwys chwarter 1 a chwarter 2, ond bydd y taliadau yn symud i fod yn daliadau chwarterol yn y dyfodol.
Cyhyd ag y ceir digon o incwm oddi wrth y cynhyrchwyr, mae PecynUK yn bwriadu gwneud pedwerydd taliad, sef y taliad terfynol, erbyn 31 Mawrth 2026. Os na fydd digon o incwm oddi wrth y cynhyrchwyr, bydd taliadau ychwanegol yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod â’r awdurdodau lleol i’r swm a nodwyd gan PecynUK.
Blaenoriaethau blwyddyn weithredol 2026 i 2027
Y blaenoriaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027 yw:
- cyflawni’r canlyniadau allweddol yng nghyd-ddatganiad polisi’r DU ar yr EPR dros becynwaith
- gosod a chasglu ffioedd sylfaenol y cynhyrchwyr gyda modiwleiddio a rheolaeth effeithlon ac effeithiol dros wastraff pecynwaith gan yr awdurdodau lleol
- penodi sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr (PRO) i gyflawni sawl swyddogaeth allweddol ar ran PecynUK
- datblygu strategaeth pum mlynedd PecynUK mewn cydweithrediad â strategaethau llywodraethau’r pedair gwlad
- cyflwyno methodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM) wedi’i diweddaru mewn cydweithrediad â’r diwydiant a’r Pwyllgor Cynghori Technegol RAM
-
cynhyrchu’r adroddiad blynyddol a’r holl ddogfennau adrodd eraill sydd heb eu crybwyll yn y cynllun yma
-
cyflwyno, profi a sicrhau ansawdd y gwasanaeth EPR o’r naill ben i’r llall trwy gydweithio â’r meysydd busnes amlddisgyblaeth, y timau cyflenwi a’r rhanddeiliaid, gan sicrhau bod y prosesau busnes angenrheidiol yn cael eu datblygu a’u dilyn a chymryd rhan yn llywodraethiant y gwasanaeth
- rhoi fframwaith llywodraethiant pedair gwlad ar waith ar gyfer PecynUK i oruchwylio gweithrediadau holl weithgareddau PecynUK, gan gynnwys Bwrdd Llywio Gweinidogion y Pedair Gwlad, Pwyllgor Gwaith Gweinyddwr y Cynllun a Phwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Gweinyddwr y Cynllun (SA ARAC)
Mae’r cyrff yma yn sicrhau rôl gyfartal i bob un o’r pedair gwlad ym mhenderfyniadau PecynUK. Sefydlwyd pedwar corff cynghori i gefnogi Pwyllgor Gwaith PecynUK wrth wneud penderfyniadau, sef:
- Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun (SASG)
- Pwyllgor Cynghori Technegol Methodoleg Asesu Ailgylchu (RAM TAC)
- Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd (E&E TAC)
- Grŵp Cynghori Cyfathrebu a Newid Ymddygiad (CBCAG)
Rhagolygon ariannol
Mae’r adran yma yn nodi rhagolygon PecynUK ar gyfer y prif gategorïau o gostau a ffioedd sy’n gysylltiedig â gweithredu’r cynllun EPR dros becynwaith yn ystod blwyddyn weithredol 2026 i 2027.
Darogan costau gwaredu taladwy
Mae PecynUK wedi dyroddi hysbysiadau asesu blwyddyn 2 at bob awdurdod lleol ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r hysbysiadau asesu yma yn nodi’r swm o arian y mae PecynUK yn disgwyl ei dalu i bob awdurdod lleol yn ail flwyddyn y cynllun, ynghyd â manylion sut y cyfrifwyd y ffigur. Mae canllawiau ar sut y cyfrifwyd y ffigurau yma ar gael ar GOV.UK.
Ar sail y ffigurau yma, ac ailgyfrifiadau pellach, roedd PecynUK wedi darogan cyfanswm lefel y costau gwaredu taladwy. Mae’r rhain i’w gweld yn nhabl 1.
Tabl 1: cyfanswm y costau gwaredu taladwy a ragwelir
| Gwlad | Cyfanswm y costau gwaredu (wedi’u talgrynnu i fyny) |
|---|---|
| Lloegr | £1.169 biliwn |
| Gogledd Iwerddon | £52 miliwn |
| Yr Alban | £158 miliwn |
| Cymru | £91 miliwn |
| Cyfanswm | £1.47 biliwn |
Rhagolwg o gostau gwybodaeth gyhoeddus, gweinyddu a chostau amharu
Mae PecynUK yn ysgwyddo costau sy’n gysylltiedig â gweinyddu’r cynllun a helpu i ddarparu’r EPR dros becynwaith yn effeithiol, gan gynnwys:
- costau gwybodaeth gyhoeddus am waredu, sy’n ymwneud â chyfathrebu a gwybodaeth a ddarperir i helpu deiliaid tai i waredu gwastraff pecynwaith yn gywir
- costau gweinyddu, sy’n ymwneud â gweithredwyr, dadansoddwyr, cyfreithwyr, rheolwyr, llywodraethiant, a sicrhau’r cynllun
Mae’r dasg o osod cyllideb 2026 i 2027 wedi dechrau a bydd yn cael ei chwblhau yn gynnar yn y gwanwyn, nes bod ffioedd y cynhyrchwyr wedi’u cyfrifo’n derfynol, a bod cadarnhad terfynol o gyfraniadau’r PRO a’r system ddigidol ar gael.
Mae’r cynnydd chwyddiant a ddefnyddir ar gyfer y costau a ragwelir ar gyfer blwyddyn weithredol 2026 i 2027 fel a ganlyn:
- £0.4 miliwn ar gyfer costau gwybodaeth gyhoeddus am waredu
- £28 miliwn ar gyfer costau gweinyddol
Darogan y ffioedd sydd i’w hadennill
Mae PecynUK yn dyroddi hysbysiadau atebolrwydd i dalu’r holl gostau uchod. Mae Tabl 2 yn nodi cyfanswm y costau disgwyliedig a’r ffioedd a ragwelir y mae PecynUK yn disgwyl eu hadennill yn ystod blwyddyn weithredol 2026 i 2027.
Tabl 2: cyfanswm y ffioedd a ragwelir
| Math o ffi | Y swm a ragwelir (wedi’i dalgrynnu i fyny) |
|---|---|
| Ffioedd gwaredu | £1.47 biliwn |
| Ffioedd gweinyddol | £28 miliwn |
| Amhariadau | £60 miliwn |
| Cyfanswm | £1.558 biliwn |
Cyfrifo ffioedd a thaliadau
Mae’r adran yma yn disgrifio’r dull y mae PecynUK yn bwriadu ei ddefnyddio yn ystod blwyddyn weithredol 2026 i 2027 i gyfrifo:
- ffioedd gwaredu sy’n daladwy gan y cynhyrchwyr atebol
- costau gwaredu taladwy yr awdurdodau perthnasol, fel y’u nodir yn Rhan 5 o Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024
Costau gwaredu taladwy a thaliadau
Mae prif fethodoleg PecynUK wrth gyfrifo costau gwaredu taladwy yn defnyddio model perfformiad dyrannu costau pecynwaith awdurdodau lleol (LAPCAP). Mae’r fethodoleg LAPCAP yn dyrannu costau rheoli gwastraff awdurdodau lleol i ddeunyddiau pecynwaith yn seiliedig ar gyfansoddiad y deunyddiau, dyluniad y gwasanaeth, a rhagdybiaethau eraill sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Ar gyfer blwyddyn weithredol 2026 i 2027, bydd PecynUK yn defnyddio methodoleg LAPCAP fel sail i gyfrifo’r ffioedd gwaredu sy’n daladwy i’r awdurdodau lleol ac felly’n daladwy gan y cynhyrchwyr atebol.
Ar gyfer blwyddyn weithredol 2026 i 2027 (blwyddyn 2), mae PecynUK:
- wedi cymhwyso cynnydd chwyddiant at fethodoleg LAPCAP a ddatblygwyd ar gyfer blwyddyn un (blwyddyn weithredol 2025 i 2026)
- wedi gwneud rhai addasiadau lleol ar gyfer awdurdodau lleol unigol
- wedi dileu addasiad bach ar gyfer gwastraff hunanreoledig nad oes ei angen mwyach oherwydd newid yn y ddeddfwriaeth
Mae’r dull yma wedi sicrhau sefydlogrwydd ym mlynyddoedd cynnar y cynllun EPR dros becynwaith ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth i fethodoleg LAPCAP ddatblygu ymhellach.
Costau gwaredu taladwy a thaliadau ar gyfer Cymru
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ddull amgen gael ei roi ar waith ar gyfer awdurdodau lleol Cymru ym mlwyddyn 2. Mae’r dull yma yn cydnabod targedau ailgylchu statudol Cymru ac yn trosoli mewnbynnau data gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Er bod amlen gost gyffredinol Cymru wedi’i gosod drwy ddefnyddio’r un fethodoleg LAPCAP, gweithiodd PecynUK gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu dosbarthiad amgen o daliadau i awdurdodau lleol Cymru. Mae hon yn ffordd o ailddosbarthu cyfanswm yr amlen a ddyrennir i Gymru drwy gyfrwng methodoleg LAPCAP.
Cyfrifiadau ffioedd gwaredu
Ar ôl sefydlu cyfanswm y gost sy’n daladwy i’r awdurdodau lleol ym mlwyddyn asesu 2026 i 2027, cyhoeddodd PecynUK ffioedd cynhyrchwyr darluniadol ym mis Rhagfyr 2025. Cyhoeddwyd hyn i helpu’r cynhyrchwyr i rag-weld eu rhwymedigaethau tebygol yn ail flwyddyn y cynllun.
Am y tro cyntaf, roedd y ffioedd darluniadol yma yn adlewyrchu eco-fodiwleiddio o dan reoliad 64 ac fe’u cyflwynwyd fel cyfraddau ffioedd gwyrdd, melyn a choch. Roedd y ffigurau yma yn ddangosol yn unig ac wedi’u seilio ar y data dros dro oedd ar gael ar y pryd.
Mae PecynUK yn dal yn methu cyfrifo ffioedd gwaredu blwyddyn 2 wedi’u cadarnhau nes bod yr holl ddata wedi dod i law oddi wrth y cynhyrchwyr ac wedi’i wirio gan y pedwar rheoleiddiwr amgylcheddol.
Er bod data sy’n cwmpasu’r cyfnod Ionawr i Fehefin 2025 (a elwir yn H1) wedi’i gyflwyno gan y cynhyrchwyr a’u cynrychiolwyr erbyn 1 Hydref 2025, does dim angen cyflwyno’r data sy’n cwmpasu’r cyfnod Gorffennaf i Ragfyr 2025 (a elwir yn H2) tan 1 Ebrill 2026.
Unwaith y bydd yr holl ddata wedi dod i law, bydd PecynUK yn gweithio gyda’r rheoleiddwyr amgylcheddol wrth iddyn nhw graffu ar y data cyn iddo gael ei ddefnyddio i gyfrifo ffioedd gwaredu blwyddyn 2 yn haf 2026.
Cyflwyno data yn erbyn y fethodoleg asesu ailgylchadwyedd
I helpu’r cynhyrchwyr, cyhoeddodd y pedwar rheoleiddiwr amgylcheddol ddatganiadau safbwynt rheoleiddiol neu ddatganiadau rheoleiddiol ynghylch rhwymedigaeth y cynhyrchwyr i gyflwyno data yn erbyn y fethodoleg asesu ailgylchadwyedd cyhoeddedig (RAM).
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r cynhyrchwyr gasglu a chyflwyno data yn unol â’r RAM o ddechrau 2025 ymlaen. Ond, o dan delerau’r datganiadau rheoleiddiol yma, ni fyddai camau gorfodi fel arfer yn cael eu cymryd lle na chynhwysodd y cynhyrchwyr ddata RAM yn eu cyflwyniad ar gyfer cyfnod H1. Mae’r rhwymedigaeth i gynnwys data RAM yn y cyflwyniad sy’n cwmpasu H2 yn dal mewn grym.
Pan nad yw cynhyrchydd wedi cynnwys RAM yn ei ddata H1, bydd PecynUK yn cymhwyso’r cymarebau ar lefel deunydd o’u data H2 at y tunelleddau yn eu data H1. Blwyddyn 2:
- y tunelledd gwyrdd yw’r cyfanswm tunelledd a adroddwyd ar gyfer cyfnod H1 2025 wedi’i luosi â’r ganran werdd a adroddwyd ar gyfer cyfnod H2 2025, ynghyd â’r tunelledd gwyrdd a adroddwyd ar gyfer cyfnod H2 2025
- y tunelledd melyn yw cyfanswm y tunelledd a adroddwyd ar gyfer cyfnod H1 2025 wedi’i luosi â’r ganran felyn a adroddwyd ar gyfer cyfnod H2 2025, ynghyd â’r tunelledd melyn a adroddwyd ar gyfer cyfnod H2 2025
- y tunelledd coch yw’r cyfanswm tunelledd a adroddwyd ar gyfer cyfnod H1 2025 wedi’i luosi â’r ganran goch a adroddwyd ar gyfer cyfnod H2 2025, ynghyd â’r dunelledd goch a adroddwyd ar gyfer cyfnod H2 2025
Pan fydd cynhyrchydd yn ailgyflwyno data ar gyfer cyfnod H1 2025 yn ddiweddarach yn unol â’r RAM, bydd PecynUK yn disodli’r tunelleddau a gyfrifwyd gyda’r data wedi’i wirio a gyflwynwyd gan y cynhyrchydd.
Addasiad enghreifftiol ar gyfer cynhyrchydd A a gyflwynodd ddata RAM H2 yn unig
Mae cynhyrchydd A yn adrodd 10,000 tunnell o wydr a 2,000 tunnell o blastig yn ei ddata H1. Nid yw’n cynnwys data RAM.
Yna mae cynhyrchydd A yn adrodd 12,000 tunnell o wydr a 3,000 tunnell o blastig yn ei ddata H2. Adroddir bod y cyfan o’r 12,000 tunnell o’u gwydr yn wyrdd o dan yr RAM, tra bo 1,500 tunnell o’u plastig yn cael ei adrodd fel melyn, a 750 tunnell yr un yn y categorïau gwyrdd a choch. Mae Tabl 3 yn dangos rhaniad canrannau cynhyrchydd A.
Tabl 3: rhaniad canrannau RAM y cynhyrchydd
| Deunydd | Gwyrdd | Melyn | Coch |
|---|---|---|---|
| Gwydr | 100% | 0% | 0% |
| Plastig | 25% | 50% | 25% |
Yna bydd PecynUK yn cymhwyso’r cymarebau yma at ddata H1, yn ei adio at ddata H2 ac yn cyrraedd cyfanswm ar gyfer eu tunelledd o dan rwymedigaeth rhwng 2026 a 2027, gan ddefnyddio’r fformiwlâu canlynol: y tunelledd gwyrdd yw tunelledd H1 wedi’i luosi â’r ganran werdd, adio tunelledd gwyrdd H2, yna mae’r tunelledd melyn yn hafal i dunelledd H1 wedi’i luosi â’r ganran melyn, adio’r tunelledd melyn H2 ac yn olaf, mae’r tunelledd coch yn hafal i dunelledd H1 wedi’i luosi â’r ganran goch, adio tunelledd coch H2.
Cyfrifiad tunelledd gwyrdd gwydr yw:
- tunelledd H1 wedi’i luosi â’r ganran werdd adio tunelledd werdd H2
- 10,000 wedi’i luosi â 100% adio 12,000 yn hafal i 22,000 tunnell o wydr gwyrdd
Cyfrifiadau tunelledd gwyrdd plastig yw:
- tunelledd H1 wedi’i luosi â’r ganran werdd adio tunelledd werdd H2
- 2,000 wedi’i luosi â 25% adio 750 yn hafal i 1,250 tunnell o blastig gwyrdd
Cyfrifiadau tunelledd melyn plastig yw:
- tunelledd H1 wedi’i luosi â’r ganran melyn adio tunelledd melyn H2
- 2,000 wedi’i luosi â 50% adio 1,500 yn hafal i 2,500 tunnell o blastig melyn
Cyfrifiadau tunelledd coch plastig yw:
- tunelledd H1 wedi’i luosi â’r ganran goch adio tunelledd coch H2
- 2,000 wedi’i luosi â 25% adio 750 yn hafal i 1,250 tunnell o blastig coch
Dangosir cyfanswm tunelledd blwyddyn 2 ar gyfer cynhyrchydd A yn nhabl 4.
Tabl 4: cyfanswm tunelledd blwyddyn 2 Cynhyrchydd A
| Deunydd | Gwyrdd | Melyn | Coch | Cyfanswm |
|---|---|---|---|---|
| Gwydr | 22,000 tunnell | 0 tunnell | 0 tunnell | 22,000 tunnell |
| Plastig | 1,250 tunnell | 2,500 tunnell | 1,250 tunnell | 5,000 tunnell |
Ailgyfrifo hysbysiadau
Mae PecynUK yn dyroddi hysbysiadau asesu i’ryr awdurdodau lleol o dan reoliad 74 a hysbysiadau atebolrwydd i’r cynhyrchwyr atebol o dan reoliad 67.
Mae rheoliadau 78 i 83 yn nodi’r amgylchiadau lle gall PecynUK ddyroddi hysbysiad asesu neu hysbysiad atebolrwydd wedi’i ailgyfrifo.
Awdurdodau lleol: derbyn data newydd ar ôl i hysbysiad asesu gael ei anfon
Mae hysbysiadau asesu’r awdurdodau lleol wedi’u seilio ar ddata a ddarperir gan yr awdurdodau lleol i amryw o ffynonellau, er enghraifft, y Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ymatebion uniongyrchol i gais am wybodaeth (RFI) gan PecynUK.
Ar ôl i’r hysbysiadau asesu gael eu dyrioddi, caiff awdurdodau lleol wneud cwyn yn erbyn y swm, er enghraifft, os ydyn nhw’n credu nad yw’r data neu’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo’u costau yn dilyn gofynion y ddeddfwriaeth.
Pan fydd awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth newydd, ddilysadwy fel rhan o’i gŵyn, bydd PecynUK yn ystyried yr wybodaeth o fewn cwmpas gwybodaeth LAPCAP. Os gellir gwirio’r wybodaeth fel un ddilys ac os yw’n effeithio ar y swm a gâi’r awdurdod o dan y cynllun, bydd PecynUK wedyn yn ceisio ailgyfrifo’r swm sy’n daladwy i’r awdurdod lleol ac yn dyroddi hysbysiad asesu newydd. Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y system gyffredinol, ni fydd PecynUK yn hwyluso’r broses yma am gyfnod amhenodol. Gan fod ffioedd cynhyrchwyr yn cael eu defnyddio i ariannu costau gwaredu’r awdurdodau lleol, gall unrhyw ailgyfrifiad ar daliadau’r awdurdodau lleol arwain at newidiadau cyfatebol yn ffioedd y cynhyrchwyr.
Ar ôl 1 Mai 2026, ni fydd PecynUK at ei gyilydd yn ystyried unrhyw ddata newydd a gyflwynir ar gyfer y flwyddyn asesu 2026 i 2027. Bydd unrhyw ddata a gyflwynir ar ôl y dyddiad yma yn cael ei gynnwys ym mlwyddyn asesu 2027 i 2028, a hynny o dan gynllun gweithredol ar wahân.
Bwriad PecynUK yw mynd ati’n araf i symud y dyddiad yma yn gynharach yn y flwyddyn wrth i’r system setlo, gan gydbwyso’r angen i roi sicrwydd i’r cynhyrchwyr â’r angen i roi tegwch i’r awdurdodau lleol.
Nid yw hyn yn effeithio ar allu awdurdod lleol i ddwyn apêl o dan reoliad 105.
Awdurdodau lleol: defnyddio arian
Mae PecynUK yn glir y dylid gwario’r arian a ddarperir i’r awdurdodau lleol ar reoli gwasanaethau gwastraff pecynwaith.
Yn Lloegr, mae Ysgrifennydd Gwladol Defra wedi cyfarwyddo PecynUK yn ffurfiol i sicrhau bod awdurdodau lleol Lloegr yn gwario’r arian ar reoli gwastraff pecynwaith. Pan nad yw awdurdodau lleol yn gwario’r arian ar wasanaethau gwastraff pecynwaith, mae PecynUK yn cadw’r hawl i ailgyfrifo’u rhwymedigaeth fel y nodir yn y rheoliad.
Mae PecynUK wedi datgan ei fwriad i weithio gyda’r awdurdodau lleol yn y senario yma i bwysleisio’r angen i ddefnyddio’r arian at ei ddibenion arfaethedig, gan ddisgwyl bod ailgyfrifiadau’n ddewis olaf lle mae’r awdurdod lleol yn glir nad yw’n bwriadu defnyddio’i incwm o’r EPR dros becynwaith yn briodol.
Cynhyrchwyr: derbyn data newydd ar ôl i hysbysiad atebolrwydd gael ei ddyroddi
Caiff cynhyrchwyr pecynwaith ailgyflwyno data pecynwaith gydol y flwyddyn, pryd y bydd ailgyflwyniad yn cael ei wneud ac yn cael ei wirio gan y rheoleiddiwr perthnasol. Gall hyn newid rhwymedigaeth ffioedd gwaredu’r cynhyrchydd o dan yr EPR. Oherwydd natur yr EPR dros becynwaith, gallai hyn hefyd effeithio ar hysbysiadau atebolrwydd pob cynhyrchydd atebol arall.
Er mwyn atal gorfod ailgyfrifo’r hysbysiad atebolrwydd ar gyfer pob cynhyrchydd yn rhy aml, mae PecynUK wedi cymryd safbwynt lle byddwn yn dyroddi hysbysiad atebolrwydd wedi’i ddiweddaru ar adegau penodol trwy gydol y flwyddyn yn unig.
Mae PecynUK yn bwriadu:
- dyroddi’r hysbysiadau atebolrwydd cyntaf ar gyfer blwyddyn asesu 2026 i 2027 erbyn mis Gorffennaf 2026
- cynnal ailgyfrifiad ffurfiol erbyn mis Tachwedd 2026
- creu ailgyfrifiad diwedd blwyddyn ddiwedd mis Mawrth i ddechrau Ebrill 2027
- cadw opsiwn wrth gefn o ailgyfrifiad ffurfiol arall ym mis Chwefror 2027
Cynhyrchwyr: cynlluniau talu amgen ar gyfer newidiadau arwyddocaol mewn hysbysiad atebolrwydd
Cydnabyddir bod rhai ailgyflwyniadau gan y cynhyrchwyr yn newid eu data’n arwyddocaol ac y gallen nhw arwain at or-dalu neu dandalu’n sylweddol os ydyn nhw’n parhau i wneud taliad yn erbyn eu hysbysiad atebolrwydd gwreiddiol.
I atal hyn, mae PecynUK hefyd yn defnyddio proses o gynlluniau talu amgen. Pan fydd cynhyrchwyr pecynwaith yn ailgyflwyno’u data pecynwaith, bydd PecynUK yn asesu’r newid yn eu rhwymedigaeth yn erbyn trothwy perthnasedd. Mae hyn yn cwmpasu newid canrannol a newid gros yn y swm sy’n ddyledus. Os bydd y rhwymedigaeth yn newid mwy na £1 miliwn neu 10% o’r cyfanswm gwreiddiol, bydd PecynUK yn ceisio dyroddi cynllun talu amgen. Ni fydd y trothwyon yma yn gymwys os yw’r newid cyffredinol yn llai na £500.
O dan y cynllun yma, bydd PecynUK:
- yn cysylltu â’r cynhyrchydd perthnasol a’u hysbysu’n ysgrifenedig o’u rhwymedigaeth newydd, ar sail yr hyn y gallen nhw ddisgwyl iddo fod pe bai eu hysbysiad atebolrwydd yn cael ei ailgyfrifo yr adeg honno
- yn adolygu hysbysiad atebolrwydd y cynhyrchydd yn yr ailgyfrifiad ffurfiol nesaf
- yn dyroddi hysbysiad atebolrwydd diwygiedig (os yw’n briodol), yn nodi’r cynllun talu newydd
Cynhyrchwyr: newid ffioedd fesul tunnell ac effaith hynny ar yr hysbysiad atebolrwydd
Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, bu nifer sylweddol o gynhyrchwyr yn ailgyflwyno’u data pecynwaith yn hwyr yn y flwyddyn. Mae hyn yn dal yn her wrth osod ffioedd pecynwaith, gan eu bod wedi’u seilio ar adennill costau net i fodloni gofynion y rheoliadau. Wrth i’r tunelleddau sydd o dan rwymedigaeth newid, bydd y ffioedd fesul tunnell yn newid ychydig.
Ym mhob ailgyfrifiad ffurfiol, bydd PecynUK yn adolygu a oes angen newid ffioedd fesul tunnell i sicrhau bod PecynUK yn codi tâl cywir ar y cynhyrchwyr, heb greu gwarged neu ddiffyg. Gwneir yr adolygiad drwy ymgynghori â llywodraethau’r pedair gwlad.
Mae PecynUK hefyd yn cydnabod y gall newid ffioedd drwy gydol y flwyddyn greu ansicrwydd i’r cynhyrchwyr. Mae hyn yn arbennig o wir am gynhyrchwyr sy’n cyflwyno’u data’n gywir heb yr angen am ailgyflwyniadau sylweddol, ac sy’n wynebu ansicrwydd oherwydd ailgyflwyniadau cynhyrchwyr eraill.
Ar ôl 1 Hydref 2026, ni fydd PecynUK bellach yn ailgyfrifo hysbysiad atebolrwydd cynhyrchwyr sydd wedi ailgyflwyno data pecynwaith yn ôl rhwymedigaeth is, a hynny er mwyn hwyluso mwy o sefydlogrwydd yn rhwymedigaethau’r cynhyrchwyr.
Pan fydd cynhyrchydd yn ailgyflwyno’i ddata pecynwaith ac y byddai ei rwymedigaeth gyffredinol yn cynyddu, bydd PecynUK yn ceisio ailgyfrifo i sicrhau nad yw’r cynhyrchwyr yn gallu osgoi rhwymedigaeth trwy ailgyflwyno data yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau y dylai rhwymedigaethau’r cynhyrchwyr gynyddu ar ôl ailgyfrifiad mis Hydref dim ond os byddan nhw’n ailgyflwyno’u data eu hunain i achosi cynnydd o’r fath. Os nad yw eu data yn newid, a bod y tunelledd cyffredinol a ddefnyddir yn y cyfrifiadau yn cynyddu oherwydd y dull yma, bydd PecynUK yn adolygu’r broses o ddyroddi hysbysiadau atebolrwydd is.
I ategu’r sefydlogrwydd yma ymhellach, mae PecynUK yn gweithio gyda’r pedair gwlad i ystyried pa ddiwygiadau yn y rheoliadau y gall fod eu hangen. Bydd hyn yn sicrhau bod sefydlogrwydd data wedi’i ymgorffori’n llawn yn y cynllun i helpu’r cynhyrchwyr ymhellach i allu rhag-weld eu rhwymedigaethau yn gywir.
Gwybodaeth gyhoeddus a chyfathrebu
Ar gyfer blwyddyn weithredol 2026 i 2027, bydd PecynUK yn gweithio gyda’r Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad a’r PRO i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau gwybodaeth gyhoeddus a chyfathrebu i ategu amcanion yr EPR dros becynwaith. Bydd angen cydlynu agos yn hyn o beth ar draws y pedair llywodraeth genedlaethol a bydd yn dechrau drwy ddiagnosio’r ymdrechion cyfathrebu a newid ymddygiad presennol, sydd ar hyn o bryd yn dameidiog ar draws lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Cyfrifoldeb dros ymgyrchoedd cyfathrebu a gwybodaeth gyhoeddus yw un o’r swyddogaethau cyntaf sydd wedi’u cynnig i’w dirprwyo i’r PRO ym mlwyddyn un.
Bydd angen i unrhyw strategaeth a ddatblygir ystyried ble y gall ymgyrchoedd a gefnogir ag arian yr EPR dros becynwaith greu’r effaith fwyaf, a darparu gwerth am arian yr un pryd.
Un prosiect a gadarnhawyd ar gyfer 2026 i 2027 yw gweithio gyda’r Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) ar leolydd Recycle Now. Bydd hyn yn arwyddocaol o ran:
- gwella gwelededd y lleolydd ar gyfer pecynwaith
- sbarduno mwy o ddefnydd
- hybu ymddygiadau ailgylchu cywir ar gyfer pecynwaith
Defnyddir buddsoddiad wedi’i dargedu i adeiladu cynnwys gwerthfawr sy’n gysylltiedig â phecynwaith, i sbarduno traffig i’r lleolydd ac i wella’r chwiliadau arno. Bydd hyn yn helpu mwy o bobl i ailgylchu mwy o ddeunyddiau pecynwaith yn gywir.
Gwasanaeth digidol
Mae gwasanaeth digidol pwrpasol wedi’i ddatblygu i ategu anghenion penodol PecynUK a’i randdeiliaid. Mae’n disodli systemau hŷn sy’n methu prosesu’r data y mae’r EPR dros becynwaith yn dibynnu arno. Mae’r system hefyd yn lleihau’r siawns o gamgymeriadau trwy greu gwasanaeth canolog sydd â dull safonol o ddilysu a chasglu data.
Beth fydd y gwasanaeth digidol yn ei wneud?
Mae’r gwasanaeth digidol:
- yn darparu gwell proses ddilysu a gwiriadau awtomataidd, gan greu effeithlonrwydd mewn adnoddau rheoleiddiol cyn cyflwyno’r data i’r rheoleiddwyr i gael ei dderbyn
- yn cyfrifo’r costau gwaredu i gynhyrchwyr ar sail y data sy’n dod i law oddi wrth y rheoleiddwyr – mae hyn yn caniatáu i PecynUK gynhyrchu hysbysiadau atebolrwydd cywir sy’n cael eu cyflwyno i’r cynhyrchwyr drwy’r gwasanaeth
- yn cael ei ddatblygu ymhellach i ganiatáu i’r awdurdodau lleol gofrestru a chyflwyno manylion ariannol er mwyn cael taliadau a chyflwyno data am wastraff i ategu dyraniadau taliadau
Bydd PecynUK yn parhau i adeiladu’r system ddigidol wrth i ofynion y ddeddfwriaeth esblygu, er y bydd gwelliannau yn y dyfodol yn cael eu cyfyngu gan gyllid.
Beth gall y cynhyrchwyr a’r cynlluniau cydymffurfio ei wneud trwy’r gwasanaeth digidol yma?
Trwy’r gwasanaeth digidol yma, gall y cynhyrchwyr a’r cynlluniau cydymffurfio:
- gofrestru a thalu eu ffi gofrestru yn uniongyrchol i’r rheoleiddiwr perthnasol
- cyflwyno’u data pecynwaith gan ddefnyddio’r fethodoleg asesu ailgylchadwyedd i asesu eu gwastraff pecynwaith er mwyn cydymffurfio â rheoliadau’r EPR dros becynwaith
- gweld a thalu eu hysbysiad atebolrwydd ar sail eu cyflwyniad data pecynwaith unwaith y bydd y data wedi’i asesu ac wedi’i dderbyn gan y rheoleiddiwr
Darperir canllawiau helaeth a thempledi cyflwyno ar GOV.UK i helpu’r cynhyrchwyr gyda’r gweithgareddau yma.
Fframwaith llywodraethu
Mae fframwaith llywodraethu PecynUK wedi’i ddatblygu i oruchwylio sut mae holl weithgareddau PecynUK yn gweithio. Mae’r strwythur llywodraethu yma yn cynnwys:
- Bwrdd Llywio Gweinidogion o’r pedair gwlad
- Pwyllgor Gwaith Gweinyddwr y Cynllun (SA ExCo)
- y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ymgynghorol
Bydd SA ExCo hefyd yn cael ei gefnogi wrth wneud penderfyniadau gan gyrff cynghori o arbenigwyr sy’n cynrychioli’r gadwyn werth pecynwaith, gan gynnwys:
- Grŵp Llywio Gweinyddwr y Cynllun
- Pwyllgor Cynghori Technegol Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd
- Pwyllgor Cynghori Technegol Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd
- Grŵp Cynghori Cyfathrebu a Newid Ymddygiad
Mae’r cyrff yma yn darparu cyngor, canllawiau ac argymhellion arbenigol i SA ExCo, ond nid cyrff penderfynu mohonyn nhw. Bydd argymhellion y grwpiau yma yn chwarae rhan ganolog wrth lywio PecynUK wrth iddo dyfu a datblygu. Bydd rolau a chyfrifoldebau’r grwpiau yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd.
Cydweithio â’r rheoleiddwyr
Y cytundeb gweithredol (OA) yw’r fframwaith diffiniol ar gyfer cydweithio rhwng PecynUK a phedwar rheoleiddiwr amgylcheddol y Deyrnas Unedig:
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban
- Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon
Gan weithredu fel llawlyfr ymarferol, mae’r OA yn diffinio sut mae’r cyrff yma yn rhyngweithio o fewn yr EPR ar gyfer cyfundrefnau cyfleusterau pecynwaith a deunyddiau (MF). Mae wedi’i gynllunio i sicrhau cysondeb strategol, symleiddio cynlluniau hirdymor, a darparu disgwyliadau clir ar gyfer adnoddau a phrosesau traws-sefydliadol. Mae’n rhoi mewnwelediad i’r oruchwyliaeth reoleiddiol dros y canlynol:
- MF – safoni’r gofynion samplu ac adrodd ar gyfer cyfleusterau didoli
- hysbysrwydd a gorfodi – cysoni ymyriadau a seilir gan ddata i sicrhau cae chwarae cyfartal
- twyll a gwallau – sefydlu protocolau i ganfod a lliniaru gollyngiadau neu adrodd ffug
Mae’r OA hefyd yn darparu data a gwybodaeth llif digidol ar y canlynol:
- rhannu data – diffinio’r protocolau diogel ar gyfer trosglwyddo data cynhyrchwyr rhwng asiantaethau
- ansawdd a chywirdeb data – gosod y ‘safon aur’ ar gyfer gwirio a dilysu data
- pecynwaith defnydd deuol – egluro diffiniadau ar gyfer deunydd pecynwaith a ddefnyddir yng nghyd-destun busnes ac aelwydydd
Mae’r OA yn darparu polisi strategol ar gyfer:
- RAM a modiwleiddio ffioedd – rheoli’r fframwaith modiwleiddio ffioedd yn seiliedig ar ailgylchadwyedd y pecynwaith
- deunyddiau sy’n cael eu rhoi yn y bin a’u casglu’n gyffredin – cynnal rhestrau deinamig o eitemau sy’n cael eu binio’n gyffredin, a’r hyn sy’n dechnegol ailgylchadwy o’i gymharu â’r hyn sy’n cael ei ailgylchu mewn gwirionedd
- y sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr (PRO) – amlinellu dyletswyddau penodol y PRO
Ac yn olaf, mae’r OA yn darparu fframwaith ar gyfer llywodraethu’r canlynol:
- cyfathrebu allanol – sicrhau dull ‘un llais’ wrth gynghori rhanddeiliaid y diwydiant
- ymholiadau ac apelau – symleiddio’r broses ddatrys ar gyfer anghydfodau cynhyrchwyr neu gwestiynau technegol
- Grŵp Cynghori PecynUK – hwyluso dolenni adborthi ffurfiol rhwng PecynUK fel Gweinyddwr y Cynllun, a’r rheoleiddwyr
Ymateb i ddigwyddiadau yn PecynUK
Mae PecynUK wedi ymrwymo i gadw’r cynllun EPR dros becynwaith yn rhedeg yn effeithiol ac yn wydn ac i ymateb yn briodol i unrhyw ddigwyddiadau mawr a allai effeithio ar gyflawni ei swyddogaethau statudol.
Pan fydd PecynUK, yn ystod ei weithgareddau, yn ymateb i ddigwyddiad mawr, bydd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o fewn Defra fel yr adran sy’n ei gynnal, a chyda llywodraethau’r pedair gwlad.
Bydd PecynUK yn dilyn trefniadau rheoli a llywodraethu digwyddiadau sydd wedi ennill eu plwyf i asesu effeithiau, cydlynu gwaith ymateb a chefnogi’r gwaith o adfer gweithrediadau arferol yn brydlon. Mae hyn yn cynnwys:
- llwybrau uwchgyfeirio mewnol clir
- cydlynu gyda’r partneriaid gweithredol, cyflenwyr, rheoleiddwyr a chyrff sicrwydd perthnasol
Mae PecynUK wedi ymrwymo i ymgysylltu’n dryloyw â chwsmeriaid a rhanddeiliaid yr effeithir arnynt trwy gydol cylch bywyd y digwyddiad. Bydd y cyfathrebu yn amserol, yn gywir ac yn gymesur, gan adlewyrchu natur ac arwyddocâd y mater. Lle bo’n briodol, bydd PecynUK yn rhoi diweddariadau ar effeithiau a’r gwaith datrys.
Ar ôl datrys y digwyddiad, bydd PecynUK yn cynnal gweithgareddau dysgu gwersi i fwydo’r cynlluniau gweithredol, y rheolaethau a’r prosesau yn y dyfodol, fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i weinyddu’r cynllun yn effeithiol a gwella’n barhaus.
Penodi sefydliad cyfrifoldeb cynhyrchwyr (PRO)
Mae PecynUK yn gweithio i benodi PRO, a fydd yn gorff annibynnol dan arweiniad y cynhyrchwyr, i weithio ochr yn ochr â PecynUK wrth ddarparu’r EPR dros becynwaith.
Bydd PecynUK yn penodi’r PRO i gyflawni swyddogaethau penodol o dan y rheoliadau ar ei ran ac i roi cyngor, argymhellion neu gefnogaeth i PecynUK wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny.
Agorodd y broses ymgeisio i fod yn PRO ar 3 Tachwedd 2025 a pharhaodd am 6 wythnos, gan gau ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025. Nod PecynUK yw penodi’r PRO yn ffurfiol ym mis Mawrth 2026 gan ddefnyddio pwerau yn Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 fel y’u diwygiwyd.
Unwaith y bydd y PRO wedi’i benodi, bydd PecynUK yn dechrau dirprwyo swyddogaethau y cytunir arnynt i’r PRO yn raddol dros gyfnod o sawl blwyddyn.
Bydd PecynUK, yn rhinwedd ei swydd fel yr awdurdod penodi, yn cadw goruchwyliaeth gymesur dros y PRO i sicrhau ei fod yn cyflawni pethau yn unol â’r angen ac yn dal yn atebol i lywodraethau’r pedair gwlad. Bydd amodau penodi yn cael eu gosod ar y PRO a benodir i sicrhau trylwyredd a bod fframwaith clir yn cael ei sefydlu ar gyfer rheoli’r berthynas barhaus rhwng PecynUK a’r PRO.
Mae’r swyddogaethau a ddirprwyir yn dibynnu ar gytundeb gan Bwyllgor Gweithredol Gweinyddwr y Cynllun. Bydd hyn yn cynnwys swyddogaethau sy’n gysylltiedig â’r canlynol:
- datblygu methodolegau asesu modiwleiddio ac ailgylchadwyedd
- arwain ar gyfathrebu a rhannu gwybodaeth gyhoeddus
Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau sofran, gan gynnwys cymeradwyo a pherchnogi data, gosod ffioedd a gweinyddu taliadau, i’r PRO a bydd y rhain yn cael eu cadw gan PecynUK.
Sut y byddwn ni’n mesur ein perfformiad a’n llwyddiant
Mae PecynUK wedi gosod targedau ar gyfer blwyddyn weithredol 2026 i 2027 mewn meysydd allweddol fel:
- perfformiad gwasanaeth digidol
- gwasanaethau ariannol
- gwelliannau parhaus yn y gwasanaeth
- cymorth i gwsmeriaid
- gwasanaethau EPR
- dadansoddi, a ffioedd a thaliadau
- RAM
Perfformiad y gwasanaeth digidol
Nod PecynUK yw sicrhau bod system y rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) ar gael am 99.5% o bob mis.
Gwasanaethau ariannol
O fewn amserlenni y cytunwyd arnynt a tharged o 100%, mae PecynUK yn anelu at:
- Gyflwyno’r holl hysbysiadau atebolrwydd i’r cynhyrchwyr
- casglu’r holl daliadau gan y cynhyrchwyr
- dyroddi’r holl hysbysiadau asesu i’r awdurdodau lleol
- dyroddi’r holl lythyrau grant i’r awdurdodau lleol
- derbyn holl daliadau’r awdurdodau lleol
- anfon yr holl hysbysiadau talu at yr awdurdodau lleol
- anfon yr holl nodiadau atgoffa am dalu a ddyroddir i’r cynhyrchwyr perthnasol
- ffonio’r holl gynhyrchwyr sydd mewn dyled
Gwella’r gwasanaeth yn barhaus
Hoffai PecynUK:
- gwblhau 90% o’r gwelliannau yn y prosesau a’r cynlluniau gweithredu o fewn amserlenni y cytunir arnynt
- nodi o leiaf 5% o enillion ar welliannau
Cymorth i gwsmeriaid
Mae yna feysydd allweddol o fewn cymorth i gwsmeriaid yr hoffai PecynUK wella arnynt ar gyfer blwyddyn weithredol 2026 i 2027. Bydd PecynUK:
- yn cynyddu nifer y galwadau sy’n gysylltiedig â thalu (datrys pethau drwy’r cysylltiad cyntaf) rydyn ni’n eu datrys o flwyddyn un (80%) i 90%
- ateb 85% o’r galwadau o fewn 20 eiliad
- lleihau galwadau sy’n cael eu gadael gan y galwr am eu bod nhw heb gael eu hateb i lai na 5%
- lleihau nifer y tocynnau sydd heb eu gweithredu neu eu diweddaru ar ôl cael eu cofnodi i ddechrau (hyd at 5 diwrnod) i lai nag 20%
- cynyddu boddhad cyffredinol y defnyddwyr ar y cymorth i 90%
- ateb pob ymholiad arall o fewn 20 diwrnod
Gwasanaethau EPR
Mae ar PecynUK eisiau cyflawni gwelliannau ar draws effeithlonrwydd cost, ansawdd y gwasanaeth, a cherrig milltir cyflenwi, gan sicrhau bod gwasanaethau EPR wedi’u hadeiladu ar brosesau cadarn, yn rhoi gwerth am arian, ac yn bodloni’r amserlenni y cytunir arnynt.
Dadansoddi, ffioedd a thaliadau
Bydd PecynUK yn cryfhau’r gallu dadansoddol er mwyn asesu sut mae cyllid EPR yn dylanwadu ar berfformiad yr awdurdodau lleol, megis cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu, wrth wella cywirdeb y gwaith gosod ffioedd a sicrhau bod taliadau’n brydlon, yn deg ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
RAM
Byddwn yn cyhoeddi fersiwn nesaf y RAM (RAM 2027) erbyn 1 Gorffennaf 2026.
Ymgynghori â’r pedair llywodraeth genedlaethol
Wrth ddatblygu’r cynllun gweithredol yma, ymgynghorodd PecynUK â’r pedair gwlad (Cymru Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon), yn unol ag Atodlen 7 o’r rheoliadau.
Rhannwyd fersiynau drafft o’r cynllun gweithredol gyda phob gwlad, a rhoddwyd cyfnod o fis o leiaf ar gyfer cyflwyno sylwadau. Ar ôl cael adborth gan bob un o’r pedair gwlad, fe adolygwyd eu sylwadau a’u hymgorffori yn y cynllun gweithredol yma. Mae’r newidiadau yma yn cynnwys:
- pwysleisio’r dull sy’n benodol i Gymru o ymdrin â thaliadau i’r awdurdodau lleol, a bod y rheoliadau’n berthnasol ledled y Deyrnas Unedig
-
adolygiad rheolaidd o’r grwpiau cynghori a’r fframwaith llywodraethu
- manylion clir am yr hyn y mae’r costau i PecynUK yn ei gynnwys – nodwyd bod angen cyfathrebiadau clir i’r cynhyrchwyr ynghylch ailgyfrifiadau
- ychwanegu Lleolydd Recycle Now WRAP i wefan pob awdurdod lleol