Agwedd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus tuag at daliadau gofal teulu (fersiwn y we)
Diweddarwyd 8 Ebrill 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Crynodeb
Mae’r canllawiau hyn yn nodi safbwynt y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar daliadau gofal y mae dirprwyon ac atwrneiod yn eu gwneud i aelodau o’r teulu sy’n darparu gofal i rywun sydd heb alluedd meddyliol (y cyfeirir ato fel ‘P’).
Pwrpas a chwmpas
Mae’r canllawiau hyn yn diffinio ystyr taliad gofal teulu, sydd weithiau’n cael ei alw’n daliad ‘gofal am ddim’. Mae’n nodi’r fframwaith cyfreithiol, yr awdurdod i wneud taliadau, a barn y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar bethau i’w hystyried wrth gytuno ar y taliadau hyn a’u cyfrifo. Mae’n esbonio pryd y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i ddirprwyon ac atwrneiod geisio cymeradwyaeth i daliadau gan y Llys Gwarchod (‘y llys’) a phryd y bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried gwneud cais i’r llys ynglŷn â thaliadau heb eu hawdurdodi.
Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddiwygio’r canllawiau hyn ar unrhyw adeg ac yn benodol er mwyn cysoni â dyfarniadau newydd y Llys Gwarchod.
Mae’r canllawiau’n berthnasol i ddirprwyon a benodir gan y llys o dan orchymyn cyllid ac eiddo, ac atwrneiod a benodir o dan atwrneiaeth arhosol cyllid ac eiddo neu atwrneiaeth barhaus.
Drwy gydol y canllawiau hyn, defnyddir y term ‘P’ i gyfeirio at berson sy’n destun gorchymyn dirprwyaeth neu sy’n rhoddwr atwrneiaeth arhosol neu barhaus.
Beth yw gofal teulu?
Mae aelodau’r teulu a ffrindiau yn aml yn darparu rhywfaint o ofal anffurfiol i P – prydau coginio, helpu gyda hylendid, goruchwylio neu fod yn gwmni, er enghraifft. Gall hyn amrywio o fod yn achlysurol ac yn cyd-fynd â’r hyn y byddai’r aelod o’r teulu yn ei ystyried yn rhan o fod yn berthynas i P, i ofal rheolaidd amser llawn sy’n cynnwys sgiliau nyrsio a ffisiotherapi. Mewn llawer o achosion, mae’n well i aelod o’r teulu ofalu am P (yn achos plant, gan eu rhieni) ac mae llawer o berthnasau’n gwneud hynny heb ddisgwyl unrhyw daliad. Mewn achosion eraill, gall taliad leddfu sefyllfa ariannol y gofalwr ei hun a’i alluogi i barhau yn ei rôl gofalu.
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn y gall taliadau i alluogi gofal o’r fath fod er lles gorau P, ar yr amod bod y ffactorau a amlinellir yn y canllawiau hyn yn cael eu hystyried. Pan gaiff ei reoli’n iawn, mae’n aml yn well i bawb os yw P yn cael cyfuniad o ofal proffesiynol a gofal gan aelod o’r teulu, gan wella ansawdd bywyd y teulu ar yr un pryd â darparu seibiant i’r aelod o’r teulu.
Mae’r mathau o drefniadau gofal a allai gyfiawnhau taliad gofal teulu yn cynnwys:
- pan fydd yr aelod o’r teulu yn darparu’r gofal oherwydd eu cariad a’u hoffter naturiol o P
- pan fydd y gofal yn anffurfiol ei natur ac nid drwy ddisgrifiad swydd
- pan nad oes gan yr aelod(au) o’r teulu oriau, egwyliau na gwyliau y cytunwyd arnynt yn ffurfiol
- pan nad oes fawr ddim diffiniad o’r gwaith rhwng aelodau o’r teulu, neu ddim o gwbl, ac nid oes unrhyw un yn gyfrifol am sicrhau telerau cytundebol neu ddarparu gwasanaeth*
*Er enghraifft rheolwr achos (ni waeth am unrhyw drefniadau ffurfiol sydd ar waith ar gyfer gofal proffesiynol neu ofal wedi’i reoleiddio).
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd gan ddirprwy neu atwrnai awdurdod i gytuno i gyflogi aelod o’r teulu i ddarparu gofal i P o dan drefniant cytundebol ffurfiol. Bydd angen caniatâd gan y Llys Gwarchod mewn unrhyw achos lle mae’r dirprwy neu’r atwrnai’n cael ei dalu i ddarparu gofal dan drefniant cytundebol, gan fod hyn yn cyfateb i wrthdaro posib rhwng buddiannau y gellir ei gadarnhau gan y llys yn unig.
Fframwaith cyfreithiol
Mae’r rhan fwyaf o orchmynion sy’n penodi dirprwy ar gyfer eiddo a materion ariannol yn rhoi awdurdod cyffredinol i reoli materion ariannol P. Fel arfer, bydd gan atwrnai sy’n gweithredu dan bŵer eiddo a materion ariannol awdurdod i wneud taliadau i drydydd parti sy’n darparu gofal i’r rhoddwr. Fodd bynnag, os mai’r atwrnai hefyd yw’r sawl sy’n darparu gofal, mae gwrthdaro rhwng buddiannau’n codi gan nad yw atwrneiod yn cael manteisio ar eu safle. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd yn ofynnol i’r atwrnai wneud cais i’r Llys Gwarchod am awdurdodiad. Cyn gwneud unrhyw daliadau gofal teulu, rhaid i’r atwrnai neu’r dirprwy ystyried:
- a yw’r taliad sy’n cael ei awgrymu er lles gorau P
- a yw’r penderfyniad i wneud taliad yn gwrthdaro â dyletswydd yr atwrnai neu’r dirprwy i beidio â manteisio ar ei safle
Mae Adrannau 1 i 4 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi mai’r sefyllfa pan nad yw person yn meddu ar alluedd i wneud penderfyniad penodol ar adeg benodol, yw bod yn rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad y mae rhywun arall yn ei wneud ar ran y person hwnnw gael ei wneud er ei les gorau.
Ceir rhestr wirio yn adran 4 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol sy’n ei gwneud yn ofynnol i atwrnai neu ddirprwy ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol wrth benderfynu beth sydd er lles gorau P a rhaid iddo gymryd y camau y mae’r adran honno’n cyfeirio atynt. Mae’r rhain yn cynnwys ystyried a oes gan y person alluedd i wneud neu gymryd rhan yn y penderfyniad; peidio â gwneud y penderfyniad ar sail oedran neu ymddangosiad y person yn unig; ystyried dymuniadau, teimladau a chredoau’r person yn y gorffennol a’r presennol; ac ymgynghori ag eraill lle bo hynny’n briodol, er enghraifft y rhai sy’n ymwneud â gofalu am y person neu sydd â diddordeb yn ei les.
Mae adran 19(6) o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn datgan bod dirprwy i’w drin fel ‘asiant’ P pan fydd yn gweithredu ar ran P. Mae bod yn asiant yn golygu bod gan y dirprwy ddyletswyddau cyfreithiol i’r sawl y mae’n ei gynrychioli. Mae’r ddyletswydd hon yn golygu na chaiff y dirprwy fanteisio ar ei safle na rhoi ei hun mewn sefyllfa lle gallai ei fuddiannau personol wrthdaro â’i gyfrifoldebau.
Gelwir hyn yn ‘ddyletswydd ymddiriedol’. Efallai y bydd dirprwy sy’n gwneud taliadau gofal teulu iddo’i hun yn torri’r ddyletswydd hon os nad oes ganddo awdurdod penodol gan y Llys Gwarchod i wneud taliadau o’r fath.
Mae paragraff 7.60 Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn datgan bod gan atwrneiod ddyletswydd ymddiriedol i sicrhau eu bod yn osgoi manteisio ar eu safle ac na ddylent elwa na chael unrhyw fudd personol o’u safle, a fyddai’n cynnwys cael eu talu am ofal. Mae’r llys wedi cyhoeddi dyfarniadau sy’n rhoi syniad o’i ddull gweithredu ar gyfer taliadau gofal teulu, ond mae’n bwysig cydnabod bod pob dyfarniad yn dibynnu ar ei amgylchiadau ei hun ac efallai na fydd yn briodol ar gyfer pob amgylchiad lle mae taliadau gofal teulu’n cael eu talu. Dyma’r dyfarniadau:
HC, Re [2015] EWCOP 29 (23 Ebrill 2015)
Yn y penderfyniad hwn, ymdriniodd uwch farnwr y Llys Gwarchod â thaliadau am ofal yn yr un ffordd ag y byddai llys yn ei wneud wrth wrando hawliad anaf personol – drwy ganiatáu cyfradd fasnachol, gyda disgownt o 20% gan nad yw’r taliad yn drethadwy. Darparodd hefyd ar gyfer codiadau blynyddol yn unol â’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 6145 – gofalwyr a gofalwyr cartref.
A, Re [2015] EWCOP 46 (7 Gorffennaf 2015)
Yn y penderfyniad hwn, roedd yr uwch farnwr wedi ystyried barn dirprwy proffesiynol ac wedi canfod bod y dirprwy wedi mynd drwy’r rhestr wirio o faterion i’w hystyried yn ofalus wrth wneud penderfyniad er lles gorau.
HNL, Re [2015] EWCOP 77 (19 Tachwedd 2015)
Yn y penderfyniad hwn, gorchmynnodd yr uwch farnwr fod adroddiad arbenigol yn cael ei ddarparu gan reolwr achos proffesiynol ar gyfer anafiadau i’r ymennydd er mwyn gwerthuso a mesur y gofal a’r gwasanaethau rheoli achos yr oedd y dirprwy yn eu darparu i’w chwaer. Nododd hefyd nad oedd angen adolygu taliadau ymhellach tan 2022 neu tan y cyfryw amser ag y bydd newid mewn amgylchiadau. Roedd hynny oherwydd y gwahaniaeth rhwng gwerth masnachol y gwasanaethau a ddarparwyd gan y dirprwy a’r taliad gwirioneddol a gafodd y dirprwy.
Gellir darllen y dyfarniadau llawn ar gronfa ddata Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon yn:
www.bailii.org/ew/cases/EWCOP/
A oes angen awdurdod y
Llys Gwarchod ai peidio
Dirprwyon proffesiynol (y telir ffi iddynt)
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn bod dirprwyon proffesiynol, y telir ffi iddynt am eu gwasanaethau, yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau ynghylch taliadau gofal teulu o dan eu gorchymyn llys. Disgwylir iddynt ddilyn yr egwyddorion a’r canllawiau yn y canllawiau hyn.
Cyhyd â bod y dirprwy proffesiynol yn gallu darparu tystiolaeth o wneud penderfyniadau er lles gorau, ni fydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn mynnu ei fod yn gwneud cais i’r llys am gymeradwyo taliadau. Fodd bynnag, mewn achosion lle na ellir dod i gytundeb ynghylch swm y taliad, neu lle mae posibilrwydd o herio gan aelodau eraill o’r teulu, efallai y bydd y dirprwy proffesiynol yn dymuno gwneud cais i’r llys ei hun am gymeradwyaeth benodol i’r taliadau.
Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud cais i’r llys am gyfarwyddiadau os yw o’r farn nad yw’r taliadau’n dilyn y canllawiau hyn ac nad ydynt er lles gorau P. Mewn achosion eithafol, gall wneud cais i’r llys am ddiswyddo’r dirprwy.
Dirprwyon ac atwrneiod lleyg
Pan fydd atwrnai neu ddirprwy lleyg yn darparu gofal ac yn derbyn taliad, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn mynnu bod y dirprwy yn ceisio cymeradwyaeth y llys i osgoi torri ei ddyletswydd ymddiriedol.
Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd fynnu bod atwrnai neu ddirprwy lleyg yn ceisio cymeradwyaeth y llys os yw’n talu rhywun y mae ganddo gysylltiad agos ag ef – er enghraifft priod neu blentyn – lle gallai’r berthynas agos ddylanwadu ar y penderfyniad i dalu yn hytrach na’i fod yn cael ei wneud yn wrthrychol er lles gorau P.
Ffactorau i’w hystyried
Wrth benderfynu a yw taliadau gofal teulu er lles gorau P, dylai atwrneiod a dirprwyon ystyried y ffactorau canlynol:
Rhaid i’r gofal fod yn rhesymol ofynnol i fodloni anghenion P a chyrraedd safon dda. Os nad yw’n siŵr, efallai y bydd angen i’r atwrnai neu’r dirprwy geisio asesiad gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol. Os bu unrhyw hawliad ymgyfreitha am iawndal, dylai’r atwrnai neu’r dirprwy ystyried lefel y gofal a argymhellir gan arbenigwyr yn ystod yr hawliad ymgyfreitha.
Rhaid i’r taliadau fod yn fforddiadwy o ystyried adnoddau, oed a disgwyliad oes P. Os na ellir talu’r taliadau o incwm P, rhaid i atwrneiod a dirprwyon ystyried yr effaith ar gyfalaf, gan ystyried anghenion gofal P yn y dyfodol. Rhaid i daliadau adlewyrchu’n briodol gyfraniad y teulu/gofalwr. Dylid cael tystiolaeth o sut mae’r taliad gofal wedi cael ei gyfrifo mewn perthynas â faint o ofal sy’n cael ei ddarparu. Os yw P yn blentyn ifanc iawn, dylai dirprwyon ystyried a yw’r gofal yn ychwanegol at yr hyn y byddai rhiant fel arfer yn ei roi.
Rhaid darparu’r gofal mewn gwirionedd. Os nad oes angen darparu gofal dros dro, er enghraifft os yw P yn yr ysbyty, nid yw hynny’n golygu bod angen atal y taliadau, ond rhaid ystyried newidiadau tymor hir i drefniadau byw P sy’n effeithio ar faint o ofal sy’n cael ei ddarparu – er enghraifft, symud yn barhaol i gartref gofal neu drefniant byw â chymorth.
Dylai atwrneiod a dirprwyon ystyried taliadau ochr yn ochr â lefel y gofal proffesiynol sydd ar waith, h.y. dylent fod yn angenrheidiol i ychwanegu at y gofal proffesiynol. Dylai taliadau gynrychioli arbediad o’u cymharu â chost gofal proffesiynol.
Dylai taliadau ystyried unrhyw gyfraniadau eraill y mae P yn eu gwneud tuag at redeg yr aelwyd neu dalu biliau. Efallai y bydd angen addasu’r taliadau i lawr os yw’r gofalwr yn byw yn eiddo P yn ddi-rent neu os yw’n cael incwm arall. Dylai taliadau ystyried sefyllfa gyffredinol y teulu, er enghraifft a oes unrhyw un mewn gwaith cyflogedig. Os oes dau riant yn darparu gofal, beth yw cyfraniad y naill a’r llall? Os oes angen dau berson ar P ar unrhyw adeg i reoli ei anghenion, efallai y bydd angen cynyddu’r taliadau i adlewyrchu hyn.
Dylid cytuno ar y taliadau drwy ymgynghori â’r gofalwr ac aelodau eraill o’r teulu, lle bo hynny’n bosib. Mae’n arfer da ymgynghori ag eraill sydd â buddiant ym materion P er mwyn osgoi sefyllfaoedd o wrthdaro.
Cyfrifo lefel y taliad
Os yw ystad P yn ddigonol a bod y teulu’n darparu’r rhan fwyaf o ofal, gall yr atwrnai neu’r dirprwy ystyried pa lwfans fyddai ei angen. Os yw’r swm yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn rhesymol o ystyried faint o ofal a ddarperir, yna gellir talu.
Os yw ystad P yn ddigonol a bod cryn lawer o ofal proffesiynol yn cael ei ddarparu, yna efallai y bydd yr atwrnai neu’r dirprwy’n dymuno cyfrifo’r lwfans gan gyfeirio at y dull gweithredu a argymhellwyd gan yr Uwch Farnwr Lush yn achos Re HC [2015] EWCOP 29. Mae hynny’n golygu cyfrifo gofal teulu drwy gymryd cost fasnachol gofal a’i leihau 20%. Mae hyn, yn ei dro, yn dilyn y dull a fabwysiadwyd gan Adran Mainc y Brenin yn yr Uchel Lys i fesur penawdau iawndal mewn achosion ymgyfreitha yn ymwneud ag anafiadau personol.
Yn gyffredinol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfeirio at y cyflog fesul awr cymedrig (llai 20%) ar gyfer gofalwyr yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) (Tabl 26.5a) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel meincnod ar gyfer cost fasnachol gofal.
Os yw’r Uchel Lys wedi dyfarnu bod y gyfradd uwch o’r 80ain canradd o’r cyfraddau fesul awr fel y nodir yn y tabl ASHE yn adlewyrchu’r sefyllfa fasnachol mewn cysylltiad â gofalu am P, ac wedi rhoi cymeradwyaeth i wneud Gorchymyn Taliad Cyfnodol (PPO) ar y raddfa uwch, yna byddai’r 80ain canradd yn bwynt cychwyn addas fel meincnod ar gyfer taliadau gofal. Efallai y bydd taliadau gofal teulu a PPOs yn cael eu cysylltu â’r mynegai. Os felly, ni fydd angen cynnal asesiad blynyddol yn erbyn y tablau ASHE.
Pan fo ystad P yn gyfyngedig, yna ni ddylai’r taliad ond adlewyrchu’r hyn y gall P ei fforddio’n rhesymol.
Wrth ystyried fforddiadwyedd, os oes taliad cyfnodol blynyddol y mae P yn ei gael fel rhan o hawliad ymgyfreitha, yna mae taliad o’r fath ar gyfer gofal a rheoli’r achos fel arfer. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol cyfeirio at gyngor cwnsler ynghylch setlo hawliad am iawndal. Mae hyn yn helpu i gael gafael ar gyllideb gyffredinol ar gyfer gofal teulu pan fydd unrhyw gostau gofal proffesiynol a chostau rheoli’r achos yn cael eu dileu o’r hafaliad.
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai fod y gofalwr wedi rhoi’r gorau i swydd sy’n talu’n dda i ofalu am P. Ym mhob achos heblaw’r amgylchiadau mwyaf eithriadol, barn y Gwarcheidwad Cyhoeddus yw na fwriedir i daliadau gofal teulu gymryd lle cyflogau.
Cynnydd mewn taliadau
Yn achos re HC, a grybwyllwyd uchod, awgrymodd yr uwch farnwr fod taliadau’n cael eu cysylltu â’r mynegai, er mwyn osgoi’r angen i wneud cais dro ar ôl tro i’r llys i ail-gyfrifo lwfans gofal. Pan ystyrir bod angen cynyddu lwfans, gellir cysylltu taliadau â gwir gost gofal, fel y nodir yn ASHE. Mae tabl 26.5a ASHE yn cynnwys y cyfraddau fesul awr ar gyfer yr holl weithwyr gofal.
Rhaid i atwrneiod a dirprwyon gofio, wrth gymhwyso’r gwahanol ffactorau yn y canllawiau hyn, ac yn enwedig wrth ystyried fforddiadwyedd, y gall taliadau amrywio’n fawr. Mae’n bosib, er enghraifft, y gallai dau ofalwr sy’n darparu’r un faint o ofal gael taliadau gofal teulu gwahanol. Ar yr olwg gyntaf, mae hyn yn ymddangos yn annheg, ond mae’n adlewyrchu’r ffaith bod yn rhaid ystyried sefyllfaoedd gofalwyr yn gyffredinol yn hytrach na defnyddio dull fformiwla syml.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd o dan ASHE wedi bod yn fach, ac mewn rhai achosion mae wedi gostwng. Efallai y bydd angen i ofalwyr fod yn ymwybodol felly nad ydynt yn debygol o weld cynnydd blynyddol mawr mewn taliadau am ofal o ganlyniad i’r mynegeio hwn.
Pa mor aml y gwneir taliad
Nid oes unrhyw reolau pendant ynghylch amlder taliadau; dylai atwrneiod a dirprwyon gytuno arnynt gyda’r gofalwr ac ni ddylid eu cyfrifo ar lefel enillion blaenorol y gofalwr.
Gall gofalwyr gael eu talu’n fisol, yn wythnosol neu fel un taliad blynyddol.
Cadw cofnodion ac adolygiadau
Er mwyn dangos bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er lles gorau, mae’n arfer da i atwrneiod a dirprwyon gadw cofnod o’r ffactorau y maent wedi’u hystyried wrth wneud penderfyniad am daliadau gofal teulu. Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl i bob dirprwy ddarparu tystiolaeth o’r broses a ddilynwyd wrth benderfynu ar swm y taliad. Dylai dirprwyon hefyd gofnodi’r taliadau yn eu hadroddiad blynyddol a darparu dadansoddiad o bwy sy’n darparu’r gofal, faint o oriau o ofal a ddarparwyd, ac ar ba gyfradd. Dylent hefyd nodi a yw’r Uchel Lys wedi cymeradwyo gorchymyn taliadau cyfnodol o’r blaen, ac ar ba gyfradd.
Dylai atwrneiod a dirprwyon adolygu taliadau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal yn briodol ac yn fforddiadwy. Bydd pa mor aml y cynhelir adolygiadau’n dibynnu ar yr achos, ond dylid eu cynnal o leiaf pan fydd amgylchiadau’n newid, er enghraifft oherwydd bod trefniadau byw P yn newid neu oherwydd bod yr anghenion gofal yn cynyddu neu’n lleihau.
Dyma amgylchiadau eraill a allai ysgogi newid neu ddirwyn taliadau i ben:
- hawl i gyllid gofal iechyd parhaus,
- amgylchiadau’r gofalwr yn newid
- unrhyw newidiadau yn sefyllfa ariannol y cleient
Atebolrwydd Treth ar daliadau gofal teulu
Mae Cyllid a Thollau EF yn ystyried bod taliadau i aelodau teulu yn daliadau gwirfoddol sydd wedi’u heithrio o dreth ac yswiriant gwladol (Llawlyfr Statws Cyflogaeth – ESM 4016) ac am y rheswm hwn maent yn aml yn cael eu galw’n daliadau ‘teulu’.
Bydd Cyllid a Thollau EF yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu a yw taliadau wedi’u heithrio rhag treth.
Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus roi cyngor ar faterion treth a bydd angen i ddirprwyon ddatrys unrhyw faterion sy’n ymwneud â thrin taliadau’n uniongyrchol gyda Chyllid a Thollau EF.
Os na ellir cael caniatâd Cyllid a Thollau EF, efallai y bydd angen i aelodau’r teulu gael eu cyflogi’n uniongyrchol fel gofalwyr ochr yn ochr â gofalwyr proffesiynol a thalu treth ac yswiriant gwladol ar eu taliadau.