Yswiriant Gwladol: Hawlio ad-daliad o gyfraniadau a dalwyd i'r DU tra'n gweithio dramor (CA307)
Llenwch ffurflen CA307 i hawlio ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd i'r DU tra'r oeddech yn gweithio dramor.
Dogfennau
Manylion
Er mwyn hawlio ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU a dalwyd tra oeddech yn gweithio dramor, gallwch naill ai:
- defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
- llenwi’r ffurflen ar-lein, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF
Bydd angen i chi fewngofnodi i wneud hawliad ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn gwneud cais, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- gwybodaeth ynglŷn â’ch cyflogaeth dramor
- y dyddiad y gwnaethoch adael y DU
- y wlad yr oeddech ynddi
- enw a chyfeiriad eich cyflogwr (dramor)
- dyddiadau dechrau a dod i ben y gyflogaeth (dramor)
- gyda phwy oedd gennych eich contract (darllenwch yr adran am breswyliaeth gyffredin ar dudalennau 6 a 7 o daflen NI38 cyn i chi ateb y cwestiwn hwn, byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth os bydd angen i ni wirio hyn)
Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni am y canlynol:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad rhyngwladol
- ynglŷn â’ch statws cyflogaeth yn y DU cyn i chi adael y DU, gan gynnwys enw a chyfeiriad eich cyflogwr
Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen argraffu ac anfon yn ei chyfanrwydd cyn y gallwch ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Updates to this page
-
An online form service is now available.
-
New Welsh addition of the CA307 available
-
Welsh translation added to the page.
-
First published.