Gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (CA5610)
Defnyddiwch y ffurflen bost i wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 neu gwnewch gais ar-lein.
Dogfennau
Manylion
Er mwyn gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4, gallwch wneud y canlynol:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
- llenwi’r ffurflen bost ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF
I wneud cais ar-lein, bydd angen i chi fewngofnodi. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.
Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost
Os ydych yn defnyddio hen borwr, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen bost yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu a’i phostio. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech gasglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
An online service is now available.
-
Added translation