Ffurflen

Gwneud achos dros beidio â ffeilio datganiad gwiriad hunaniaeth

Rhowch wybod i ni am amgylchiadau eithriadol yr hoffech i ni eu hystyried cyn i ni gymryd camau gorfodi am ffeilio hwyr.

Dogfennau

Gwneud achos dros beidio â ffeilio datganiad gwiriad hunaniaeth

Manylion

Dylech ond wneud achos os ydych wedi cael llythyr yn dweud bod eich ffeilio yn hwyr (a elwir hefyd yn ‘llythyr diofyn’). Byddwn yn gwrthod eich achos os byddwch yn ei gyflwyno cyn hyn.

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais dros beidio â ffeilio:

  • datganiad cadarnhau a datganiadau gwiriad hunaniaeth cyfarwyddwyr
  • datganiad gwiriad hunaniaeth ar gyfer person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)

Rhaid i chi gyflwyno’ch cais o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr diofyn a dderbynoch. Ar ôl i’r ffrâm amser ddod i ben, efallai y byddwn yn mynd ar drywydd camau gorfodi heb rybudd pellach.

Byddwn yn ystyried cais a dderbynnir o fewn y ffrâm amser mewn modd teg, cadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Ni fyddwn yn ystyried cais a dderbynnir y tu allan i’r ffrâm amser.

Mae’n debygol y byddwn yn derbyn cais lle mae tystiolaeth bod:

  • amgylchiadau eithriadol yn gysylltiedig â’r dyddiad dyledus
  • byddai’n anghymesur i ni fynd ar drywydd camau gorfodi ar y pryd

Er enghraifft: cwmni sy’n profi methiant TG difrifol pan fo’r datganiad gwiriad hunaniaeth yn ddyledus, heb unrhyw ffordd arall o gwblhau’r dasg.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod a ydym yn derbyn eich cais ai peidio. Bydd y penderfyniad hwn yn derfynol.

Os byddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn oedi camau gorfodi, fel arfer am hyd at 2 fis, i roi amser i chi ffeilio’r datganiad.

Rhaid i chi gwblhau gwiriad hunaniaeth er mwyn gweithredu fel cyfarwyddwr neu swydd gyfatebol ac aros yn gyfreithlon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Mawrth 2026 show all updates
  1. A Welsh language version of the form has been added to the Welsh page.

  2. Added more information about when to make a representation.

  3. Added Welsh translation.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon