Canllawiau

Canllawiau Grant Gwarant Swyddi

Diweddarwyd 17 Chwefror 2026

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Gwarant Swyddi – Cam Un

Canllawiau Grant

Ionawr 2026

Rhagair Gweinidogol

Mae pob person ifanc yn haeddu cyfle teg i lwyddo. Pan roddir y gefnogaeth a’r cyfleoedd cywir, byddant yn eu gafael ynddynt. Ond, ers gormod o amser, nid yw pobl ifanc wedi cael mynediad at y cyfleoedd a’r gefnogaeth maent yn eu haeddu. Nid yw bron i filiwn o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant – gan eu cloi allan o waith ystyrlon, gan amddifadu cyflogwyr o weithlu y dyfodol ac atal twf economaidd.

Mae hwn yn achos cenedlaethol sy’n gofyn am weithredu radical, gan na allwn fforddio colli’r genhedlaeth hon. Dyna pam ymrwymodd y Llywodraeth hon i gyflwyno Gwarant Ieuenctid i chwalu rhwystrau i gyfleoedd a sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael mynediad at y cymorth maent ei angen i ennill neu ddysgu.

Mae’r Gwarant Swyddi yn ganolog i hyn, gan ddarparu swyddi gwarantedig i 55,000 o bobl ifanc di-waith hirdymor dros y tair blynedd nesaf, drwy eu helpu i gymryd y cam cyntaf hanfodol i gyflogaeth gynaliadwy lle nad yw cymorth a chyfleoedd cynharach wedi gweithio.

Mae’r canllaw yn amlinellu ein hagwedd at gam cyntaf y cynllun hwn.

Byddwn yn dechrau darparu Gwarant Swyddi mewn 6 ardal o wanwyn 2026, gan ddarparu swyddi i fwy na 1,000 o bobl ifanc ar draws Birmingham a Solihull, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Manceinion, Swydd Hertford ac Essex, Canolbarth a Dwyrain yr Alban, De-orllewin a De-ddwyrain Cymru. Bydd y cynllun yn cynnig swydd gwarantedig â thâl gyda chymhorthdal llawn am 6 mis i bob person 18 i 21 oed cymwys sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol ac yn chwilio am waith am 18 mis. Bydd y llywodraeth yn talu 100% o gostau cyflogaeth am 25 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog perthnasol, ochr yn ochr â chymorth ychwanegol i helpu Cyfranogwyr i lwyddo yn eu swydd a throsglwyddo i gyflogaeth gynaliadwy.

Nod y cynllun yw mynd i’r afael â’r nifer cynyddol o bobl ifanc sy’n profi diweithdra hirdymor, yr effaith ddrwg y gall hyn ei gael gydol oes, gyda thystiolaeth yn dangos y gall pobl ifanc sy’n profi diweithdra hirdymor golli hyd at £1m mewn enillion oes o’i gymharu â’u cyfoedion.

Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan gyflwyno’r Gwarant Swyddi ledled Prydain Fawr, yn ddiweddarach yn 2026.

Mae’r Gwarant Swyddi yn fuddsoddiad ar ddyfodol pobl ifanc a dyfodol y wlad, gan greu llwybrau go iawn i swyddi da a darparu profiad gwaith, hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth gwarantedig.

Y Gwir Anrhydeddus Farwnes Smith o Malvern – Y Gweinidog Sgiliau

1. Cyflwyniad

Byddwn yn dechrau darparu Gwarant Swyddi mewn 6 ardal o wanwyn 2026, gan ddarparu swyddi i fwy na 1,000 o bobl ifanc ar draws Birmingham a Solihull, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Manceinion, Swydd Hertford ac Essex, Canolbarth a Dwyrain yr Alban, De-orllewin a De-ddwyrain Cymru.

Yng Ngham Un, bydd y cynllun yn darparu swydd gwarantedig â thâl gyda chymhorthdal llawn am 6 mis i bobl ifanc 18–21 oed cymwys sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol ac yn chwilio am waith am 18 mis. Trwy’r Cynllun, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cyllido 100% o gostau cyflogaeth cymhwys am 25 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog perthnasol, ochr yn ochr â chymorth i helpu cyfranogwyr i lwyddo yn eu swydd a throsglwyddo i gyflogaeth gynaliadwy.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer sefydliadau sy’n gwneud cais i ddarparu Gwarant Swyddi mewn un neu fwy o’r chwe ardal Cam Un o wanwyn 2026. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio pwrpas y cynllun, yn amlinellu meini prawf cymhwysedd y grant, amlinellu y gofynion o dan y grant i osod disgwyliadau ar gyfer Sefydliadau Cyflenwi, ac yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar sut y gall sefydliadau wneud cais am gyllid grant i gyflenwi’r Cynllun. Mae manylion y grant a ddarperir isod yn ymwneud â chyflenwi Cam Un Gwarant Swyddi yn unig.

Dylid darllen y canllaw hwn ochr yn ochr â’r ffurflen gais am grant ar ‘Find a Grant’ (ar canllawiau gwneud cais pellach sydd ynddi), y cytundeb cyllid grant drafft ac unrhyw ddogfennau neu ddeunydd eraill a ddarperir gan y DWP i gefnogi’r broses o wneud cais am grant. Nid oes unrhyw beth yn y ddogfen hon yn cael blaenoriaeth dros yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn y cytundeb cyllid grant ddrafft, sy’n amlinellu’r cytundeb a wneir rhwng DWP ac unrhyw sefydliad sy’n llwyddiannus yn dilyn y broses gwneud cais am grant.

2. Gwarant Swyddi

Cefndir Gwarant Swyddi

Mae adeiladu marchnad lafur ffyniannus a chynhwysol a chynyddu nifer y bobl mewn gwaith yn ganolog i gyflenwi prif genhadaeth y llywodraeth i dyfu’r economi.

Nid yw bron i filiwn o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant – gan eu cloi allan o gyfleoedd, amddifadu busnesau o weithwyr ifanc talentog, ac atal twf economaidd. Fel yr amlinellodd papur gwyn y llywodraeth ‘Cael Prydain i Weithio’, mae hyn yn cael effeithiau niweidiol ar bobl ifanc ac mae’n gyfle a gollwyd i’n heconomi.

Fel rhan o’r camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn, mae’r llywodraeth wedi cyflwyno’r Gwarant Ieuenctid i sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael mynediad at y cymorth maent ei angen i ennill neu ddysgu. Mae’r Gwarant Swyddi yn rhan allweddol o hyn.

Ar ôl ei gyflwyno’n llawn, bydd Gwarant Swyddi yn gwarantu 6 mis o waith â thâl, gyda chymorth, ar gyfer pob person 18-21 oed cymwys sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol, ac yn chwilio am waith, am 18 mis neu fwy.

Bydd Gwarant Swyddi yn helpu pobl ifanc i gymryd cam hanfodol tuag at gyflogaeth barhaus. Bydd yr amser a dreulir mewn gwaith ystyrlon ynghyd â chymorth a hyfforddiant a ddarperir, yn helpu cyfranogwyr y cynllun i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol maent eu hangen i symud i gyflogaeth barhaus. Yn y lle cyntaf bydd Gwarant Swyddi yn cefnogi dros 1,000 o bobl ifanc i swyddi o dan y cynllun mewn chwe ardal ledled Prydain Fawr (GB). Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan gyflwyniad cenedlaethol o’r cynllun ledled y GB, gan ddarparu cyfanswm o 55,000 o swyddi yn ddiweddarach dros y 3 blynedd nesaf.

Bydd Cam Un Gwarant Swyddi yn rhedeg o wanwyn 2026. Bydd y cyflwyniad cenedlaethol yn dechrau yn ddiweddarach yn 2026.

Nodau ac Amcanion Gwarant Swyddi

Nod Gwarant Swyddi yw darparu gwaith cyflogedig ystyrlon i gyfranogwyr a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r profiad maent eu hangen i gymryd cam hanfodol tuag at gyflogaeth barhaus.

Amcanion Gwarant Swyddi yw:

  • sicrhau bod pob person ifanc cymwys yn cael gwarant o swydd addas – gyda’r nifer cywir o swyddi a’r math cywir o swyddi yn cael eu darparu yn y lleoedd cywir ar yr adeg cywir

  • sicrhau bod unigolion cymwys ar y cynllun yn cael y cymorth maent ei angen i fynd i’r afael â’u rhwystrau i gyflogaeth, fel eu bod yn gallu ennill sgiliau a phrofiad o 6 mis o gyflogaeth barhaus a fydd yn eu helpu i wneud y trawsnewidiad i gyflogaeth barhaus

Cam Un Gwarant Swyddi

Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi ymgeiswyr ar gyfer Cam Un Gwarant Swyddi.

Cyn cyflwyno ledled GB yn ddiweddarach eleni, bydd y Gwarant Swyddi yn lansio gyntaf mewn 6 ardal ledled Prydain, gan ddarparu dros 1,000 o swyddi dros y chwe mis cyntaf.

Disgwylir i Gam Un ddechrau ym mis Ebrill 2026 unwaith y bydd cytundebau cyllid grant wedi’u llofnodi gydag ymgeiswyr llwyddiannus. Yna disgwylir i bobl ddechrau mewn swyddi o dan Cam Un rhwng mis Mai 2026 a mis Hydref 2026, gyda’r swydd chwe mis olaf yn gorffen erbyn 30 Ebrill 2027. Bydd taliadau terfynol yn cael eu gwneud erbyn diwedd Gorffennaf 2027 cyn i Gam Un gau ym mis Awst 2027.

Bydd Cam Un yn helpu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cynllun cyn ei gyflwyno ledled GB, yn ogystal â galluogi’r cynllun i ddechrau cyflenwi ar gyfer pobl ifanc cyn gynted â phosibl, yn rhai o’r ardaloedd sydd fwyaf ei angen.

Yng Ngham Un bydd DWP yn dyfarnu grantiau i dderbynwyr grantiau (“Sefydliadau Cyflenwi”) a ddewiswyd ym mhob ardal a fydd yn gweithio gyda’r DWP i ddarparu Gwarant Swyddi yn eu hardal.

Mae’r ardaloedd ar gyfer Cam Un wedi’u cysylltu ag ardaloedd Canolfan Byd Gwaith a ffiniau Gweinyddiaeth Leol neu faerol presennol. Bydd un Sefydliad Cyflenwi arweiniol yn gael eu dyfarnu’r grant fesul ardal, er y gall sefydliadau weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, fel darparwyr gwasanaethau arbenigol, i ddarparu Gwarant Swyddi yn eu hardal. O dan y cynllun, bydd pobl ifanc cymwys yn y 6 ardal Cam Un yn cael eu cyfeirio o’r DWP i’r Sefydliad Cyflenwi perthnasol. Ar gyfer pob ardal, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus dderbyn nifer o atgyfeiriadau y cytunwyd arnynt gan DWP rhwng mis Ebrill 2026 a mis Hydref 2026 wedi’u cynnwys. Y chwe ardal a’r nifer disgwyliedig o atgyfeiriadau ym mhob un, yw:

  • Birmingham a Solihull – 275 o atgyfeiriadau

    • Cyngor Dinas Birmingham

    • Cyngor Bwrdeistref Solihull

  • Dwyrain Canolbarth Lloegr - 200 o atgyfeiriadau

    • Awdurdod Cyfun Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Manceinion - 275 o atgyfeiriadau

    • Awdurdod Cyfun Manceinion
  • Swydd Hertford ac Essex - 150 o atgyfeiriadau  

    • Cyngor Sir Essex

    • Cyngor Sir Hertford

    • Cyngor Bwrdeistref Southend-on-Sea

    • Cyngor Thurrock

  • Canolbarth a Dwyrain yr Alban - 150 o atgyfeiriadau

    • Cyngor Dwyrain Renfrewshire

    • Cyngor Renfrewshire

    • Cyngor Gorllewin Swydd Dunbarton

    • Cyngor Dwyrain Swydd Dunbarton

  • Cyngor Dinas Glasgow

  • Cyngor Gororau’r Alban

  • Cyngor Gogledd Swydd Lanark

  • Cyngor Falkirk

  • Cyngor Dwyrain Lothian

  • Cyngor Dinas Caeredin

  • Cyngor Midlothian

  • Cyngor Gorllewin Lothian

  • De-orllewin a De-ddwyrain Cymru – 150 o atgyfeiriadau

  • Cyngor Sir Ceredigion

  • Cyngor Sir Caerfyrddin

  • Cyngor Abertawe

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot

  • Cyngor Sir Penfro

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

  • Cyngor Bro Morgannwg

  • Cyngor Sir Fynwy

  • Cyngor Caerdydd

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

  • Cyngor Dinas Casnewydd

Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm o 1,200 o Atgyfeiriadau yn ystod Cam Un.

Ar ôl cael eu cyfeirio, bydd unigolion yn dod yn gyfranogwyr yn y cynllun. Bydd Sefydliadau Cyflenwi yn cael eu hariannu i gefnogi’r cyfranogwyr hyn, a bydd costau cyflogaeth yn cael eu hariannu lle bydd cyfranogwyr yn cael eu paru â swyddi addas.

Yn amodol ar gapasiti’r DWP a’r Sefydliadau Cyflenwi, efallai y bydd lle i gynyddu’r niferoedd o atgyfeiriadau yn unol â thelerau’r cytundeb cyllid grant. Yn ystod Cam Un, bydd DWP yn gweithio gyda Sefydliadau Cyflenwi llwyddiannus i ehangu nifer yr atgyfeiriadau lle mae capasiti DWP a Sefydliadau Cyflenwi yn caniatáu, a lle mae’r Sefydliadau Cyflenwi yn cwrdd â’r canlyniadau y cytunwyd arnynt. Trwy gytundeb ar y cyd, darperir cyllid grant ychwanegol i’r Sefydliadau Cyflenwi yn unol ag unrhyw gynnydd mewn atgyfeiriadau.

Mae Cam Un Gwarant Swyddi yn darparu cyllid grant i gyflogwyr ar gyfer gwaith â thâl am chwe mis o dan y cynllun (diffinir fel “cyflogaeth a ariennir”) a chostau ymuno. Mae hefyd yn darparu cyllid i Sefydliadau Cyflenwi i ddarparu cymorth cynhwysol i bobl ifanc cymwys sy’n cymryd rhan yn y cynllun ac i gwmpasu costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r cynllun.

Bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gyfrifol am ddefnyddio’r grant i gyflenwi gweithgareddau a ariennir. Bydd hyn yn cynnwys nodi a sicrhau swyddi addas (sy’n bodloni gofynion cyflogaeth dderbyniol yn y cytundeb cyllid grant), paru’r person ifanc â swydd addas a darparu cymorth a hyfforddiant parhaus i’r person ifanc trwy gydol eu hamser ar y cynllun.

Bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gweithio gyda’r cyfranogwr i’w paru â swydd addas. Disgwylir i gyfranogwyr gael eu paru gyda swydd addas yn ystod eu hamser ar y cynllun. Tra bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gyfrifol am gyrchu swyddi addas, rhaid i Sefydliadau Cyflenwi weithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod swyddi yn cyd-fynd gyda’r gofynion sydd wedi eu gosod allan yn y cytundeb cyllid grant.

Bydd Sefydliadau Cyflenwi hefyd angen sicrhau bod y cyfranogwr yn derbyn cymorth a hyfforddiant priodol cyn paru â’r swydd a thra bod y person ifanc yn y swydd o dan y cynllun. Bydd y Sefydliad Cyflenwi yn gyfrifol am ddylunio’r cynnig cymorth a hyfforddiant, gan sicrhau ei fod wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion y cyfranogwr a’r swydd. Wrth wneud hynny, rhaid iddynt sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion a nodir yn Adran 3 o’r canllaw hon a’r cytundeb cyllid grant drafft.

Cyfranogwyr o fewn Gwarant Swyddi

Bydd Gwarant Swyddi yn darparu gwaith â thâl i bobl ifanc 18-21 oed sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am 18 mis yn y gyfundrefn Chwilio Dwys am Waith. Bydd angen i Bobl Ifanc fodloni’r meini prawf hyn ar adeg atgyfeirio i’r cynllun, ac felly gallant fod yn 22 oed erbyn iddynt gwblhau’r cynllun. Mae’r gyfundrefn Chwilio Dwys am Waith yn golygu nad ydynt wedi cael eu hasesu fel bod â Gallu Cyfyngedig i Weithio. Bydd y bobl ifanc sy’n gymwys ar gyfer y cynllun naill ai wedi bod allan o waith ac addysg am yr 18 mis diwethaf, neu fod ganddynt hanes gwaith bychan (wedi cwblhau llai na 50 awr o waith â thâl) dros y 18 mis diwethaf.

Fel y manylir yn y cytundeb cyllid grant, lle mae capasiti sbâr, gall DWP amrywio’r meini prawf cymhwysedd atgyfeirio i gyfeirio mwy o unigolion a fydd yn elwa o’r cynllun. Yng Ngham Un mae hyn yn fwyaf tebygol o fod y rhai rhwng 22 a 24 oed a fyddai fel arall yn gymwys.

Bydd y bobl ifanc a fydd yn gymwys am y cynllun yn grŵp amrywiol a disgwylir y bydd ganddynt anghenion mwy cymhleth ar gyfartaledd nag ar gyfer cynlluniau cymhorthdal cyflog eraill, fel Kickstart. Yn benodol, disgwylir i’r garfan gael lefelau is o gymwysterau addysgol o ystyried meini prawf cymhwysedd ar gyfer atgyfeiriadau o dan y cynllun.

O ystyried y cyfraddau uwch disgwyliedig o anghenion cymhleth neu rwystrau lluosog i gyflogaeth barhaus, bydd pecyn cymorth wedi’i deilwra a ddarperir i gyfranogwyr yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. Bydd angen i Sefydliadau Cyflenwi nodi’r cynnig cymorth arfaethedig y byddant yn ei ddarparu, a sut y byddant yn diwallu anghenion amrywiol cyfranogwyr.

Ystyrir bod person ifanc wedi cwblhau Gwarant Swyddi unwaith maent wedi cwblhau eu 6 mis o gyflogaeth a ariennir neu wedi symud i gyflogaeth â thâl y tu allan i’r cynllun os bydd hyn yn digwydd cyn cwblhau 6 mis o gyflogaeth a ariennir.

Crynodeb o’r cyllid grant o dan Gam Un Gwarant Swyddi

Rhaid defnyddio’r holl arian grant i ddarparu’r gweithgareddau a ariennir o dan Gwarant Swyddi a chefnogi pobl ifanc a gyfeirwyd o’r DWP at y Sefydliadau Cyflenwi o dan y cynllun. Mae manylion am wariant cymwys a’r hyn a gynhwysir fel ‘gweithgaredd a ariennir’ wedi’u nodi yn y cytundeb cyllid grant ddrafft.

Rhaid i Sefydliadau Cyflenwi beidio â cheisio uno’r grant Gwarant Swyddi â chyllid presennol sy’n targedu carfan wahanol. Mae Sefydliadau Cyflenwi hefyd wedi’u gwahardd rhag cael neu wneud cais am unrhyw gyllid tyblyg ar gyfer cyflenwi’r gweithgareddau o dan Gwarant Swyddi sydd wedi’i dalu’n llawn gan ddefnyddio’r grant.

Ceir rhagor o fanylion am ofynion sy’n ymwneud â chyllid grant o dan Cam Un Gwarant Swyddi yn Adran 3(#adran3) o’r canllaw hwn a darperir manylion y cyllid grant ei hun a’r amserlen dalu yn Adran 4(#adran4) o’r canllaw hwn.

Mae crynodeb o’r cyllid grant o dan Gam Un fel a ganlyn.

Costau cyflog cyflogwr

Bydd DWP yn ad-dalu 100% o gostau cyflog cymwys i’r rhai sy’n cwblhau cyflogaeth a ariennir o dan Gwarant Swyddi. Bydd y cyflogwr yn talu’r costau cyflog hyn a byddant yn cael eu had-dalu trwy’r Sefydliad Cyflenwi ar ôl iddynt gael eu dilysu gan DWP. Bydd y grant yn ad-dalu costau cyflog gwirioneddol hyd at 25 awr yr wythnos am 6 mis ar yr isafswm cyflog sy’n berthnasol i’r oedran, yn ogystal â Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) cyflogwr ac isafswm cyfraniadau pensiwn cyflogwr lle bo hynny’n berthnasol. Gall cyflogwyr ddewis talu cyfranogwyr ar gyfradd uwch yr awr neu am fwy o oriau yr wythnos, ond bydd angen iddynt ariannu hyn ac ni fydd hyn yn cael ei ad-dalu.

Costau ymuno i’r cyflogwyr

Mae hyd at £250 fesul cyfranogwr ar gael i ad-dalu’r costau a wynebir gan gyflogwyr sy’n gysylltiedig â chyfranogwr sy’n dechrau swydd o dan y cynllun. Gellir defnyddio’r cyllid hwn ar gyfer costau gwirioneddol sy’n gysylltiedig â’r cyfranogwr sy’n dechrau mewn swydd o dan y cynllun. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: wisg gwaith, Offer Diogelwch Personol neu offer diogelwch arall, offer sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer y swydd ac addasiadau yn y gweithle sy’n ofynnol yn uniongyrchol ar gyfer y cyfranogwr nad ydynt wedi’u cwmpasu gan ddyletswyddau cyflogwr statudol neu gyllid cyhoeddus arall (gan gynnwys Mynediad at Waith). Bydd angen i gyflogwyr gyflwyno ffurflenni cais i’r Sefydliad Cyflenwi a fydd yn gallu prosesu’r rhain gyda DWP unwaith y mis. Bydd DWP yn ad-dalu costau cymhwys drwy’r Sefydliad Cyflenwi.

Costau cymorth a gweinyddu cymorth y Sefydliad Cyflenwi

Cyfrifir cyllid ar gyfer costau cymorth a chyflenwi ar sail fesul cyfranogwr. Fel rhan o’u cais am grant, rhaid i ymgeiswyr nodi’r lefel o gyllid y bydd ei angen i gyflenwi’r cynllun ar gyfer y nifer disgwyliedig o gyfranogwyr yn yr ardal y maent yn gwneud cynnig amdano, o fewn yr uchafswm yr ariannu sydd ar gael. Bydd angen i geisiadau nodi sut y bydd y cyllid gofynnol yn cael ei ddefnyddio, sut mae’n cyd-fynd â’r canllawiau ar wariant cymwys, a sut y bydd yn darparu gwerth am arian. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu Model Ariannol sy’n amlinellu’r costau disgwyliedig y byddant yn eu hwynebu wrth gyflenwi’r cynllun dros y cyfnod ariannu, dylai hyn fod yn seiliedig ar eu cynllun cyflenwi.

Mae hyd at £2,250 fesul cyfranogwr ar gael i ad-dalu Sefydliadau Cyflenwi ar gyfer costau cymorth a hyfforddiant. Bwriad y cyllid hwn yw talu’r gost sy’n gysylltiedig â darparu cymorth a hyfforddiant wedi’i deilwra i bob cyfranogwr i’w cefnogi i ddechrau yn y swydd, mynd ymlaen yn y swydd a symud ymlaen i gyflogaeth barhaus. Mae manylion am wariant cymwys a’r mathau o gymorth rydym yn disgwyl i Sefydliadau Cyflenwi ei ddarparu (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) wedi’u nodi yn yr adrannau perthnasol o’r ddogfen hon ac yn y cytundeb cyllid grant. Byddwn yn disgwyl i fanylion y cynnig cymorth arfaethedig gael eu cynnwys mewn ceisiadau am grant.

Mae hyd at £400 fesul cyfranogwr ar gael i ad-dalu costau gweinyddol a wynebir gan Sefydliadau Cyflenwi. Disgwylir i’r cyllid hwn gael ei ddefnyddio i dalu am gostau gweinyddu a chyflenwi’r cynllun. Mae rhestr o enghreifftiau nad ydynt yn gynhwysfawr yn cynnwys:

  • Costau sy’n gysylltiedig â dod o hyd i swyddi; a pharu cyfranogwyr i swyddi, er enghraifft, costau sy’n gysylltiedig â’r amser staff i ddod o hyd i’r swyddi a chynhyrchu deunydd hyrwyddo ac amser staff i baru person ifanc i swydd addas. Ni all Sefydliadau Cyflenwi ddarparu cymhellion ariannol i gyflogwyr neu unigolion sy’n gweithio i gyflogwr fel modd o sicrhau swyddi.

  • Costau sy’n gysylltiedig â rheoli grantiau; costau sy’n gysylltiedig â darparu gwybodaeth rheoli ac adrodd; gan gynnwys paratoi ceisiadau am gyllid grant, paratoi archwiliad a systemau rheoli achos a thrwyddedau.

Er y bydd y cyllid yn cael ei gyfrifo fesul cyfranogwr, disgwylir y bydd rhywfaint o amrywiad ar y symiau gwirioneddol a wariwyd ar bob cyfranogwr. Bydd disgwyl i Sefydliadau Cyflenwi addasu’r swm a wariwyd i adlewyrchu anghenion pob cyfranogwr, tra’n aros o fewn lefelau cyllido y cytunwyd arnynt.

Ar ddiwedd cyfnod ariannu, bydd angen i Sefydliadau Cyflenwi ymgysylltu â phroses talu a chysoni terfynol sy’n cael ei rhedeg gan DWP. Gall hyn arwain at adennill unrhyw danwariant yn ôl lle bo hynny’n briodol.

Manylion gwneud cais ar gyfer Cam Un o’r Gwarant Swyddi

Er mwyn nodi’r Sefydliadau Cyflenwi ar gyfer pob un o’r 6 ardal, ac i ddyfarnu cyllid grant, bydd DWP yn cynnal proses gwneud cais am grant cystadleuol. Rhaid i ymgeiswyr ddarllen yr adran hon ochr yn ochr â’r ffurflen gais am grant a’r canllawiau cais sydd ynddi, sy’n darparu manylion pellach ar y broses gwneud cais am grant.

Er mwyn cyflenwi Cam Un o Gwarant Swyddi ar draws y 6 ardal hyn, rydym yn chwilio am sefydliadau sydd â phrofiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc di-waith hirdymor a phobl ifanc sydd dan anfantais. Rhaid i’r sefydliadau hyn hefyd fod â dealltwriaeth o amodau’r farchnad lafur leol. Gall Sefydliadau Cyflenwi bartneru â sefydliadau eraill - neu is-gontractio i – sefydliadau eraill i gyflenwi agweddau o’r Gwarant Swyddi. Er enghraifft, efallai y byddai’n briodol is-gontractio’r ddarpariaeth o gymorth arbenigol na all y Sefydliad Cyflenwi ei ddarparu eu hunain.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos gallu i gyflenwi ar y raddfa ofynnol yn yr ardal ddaearyddol berthnasol. Felly, wrth ddarparu ateb i’r adran ‘Cynllun Cyflenwi’ ar y ffurflen gais, rhaid i ymgeiswyr gynnwys cynllun ar gyfer y cyfnod ariannu llawn o fis Ebrill 2026 (neu ddyddiad cychwyn) i fis Gorffenaf 2027. Rhaid i hwn nodi amserlen o fis Ebrill 2026 i fis Ebrill 2027 o faint o gyfranogwyr y maent yn disgwyl gallu eu derbyn ar atgyfeiriad, eu lleoli mewn swydd yn fisol a’u cefnogi yn eu hamser ar y cynllun. Yn y Cynllun Cyflenwi hwn rhaid dechrau swyddi rhwng mis Ebrill 2026 a mis Hydref 2026 wedi’u cynnwys. Dylai’r Cynllun Cyflenwi hefyd gynnwys eu cynlluniau ar gyfer unrhyw werthuso a dirwyn i ben y cynllun o fewn y cyfnod ariannu. Yn olaf, rhaid i ymgeiswyr ddarparu model ariannol sy’n amlinellu’r costau disgwyliedig y byddant yn eu hwynebu wrth gyflenwi’r cynllun dros y cyfnod ariannu, dylai hyn fod yn seiliedig ar eu Cynllun Cyflenwi.

Wrth baratoi ceisiadau am grant, rydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi ystyried ystod ac addasrwydd cyfleoedd cyflogaeth yn y rhanbarth y maent yn gwneud cais i gyflenwi ar ei gyfer. Ni fydd y galw am y cynllun yn gyson dros bob ardal ac felly bydd disgwyl i ymgeiswyr nodi sut y bydd Cynlluniau Cyflenwi yn rheoli unrhyw amrywiad lleol o fewn yr ardal maent yn ceisio i gyflenwi ynddo. Bwriad y cynllun yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad maent eu hangen i drosglwyddo i gyflogaeth barhaus, ac felly rydym yn chwilio am geisiadau am grant gan sefydliadau a all ddangos eu gwybodaeth bresennol o’r farchnad lafur leol a/neu fanylion am sut y bydd ymgeiswyr yn gweithio gyda phartneriaid lleol i adeiladu eu gwybodaeth am anghenion a chyfleoedd y farchnad lafur leol.

Bydd y cyfnod gwneud cais ar gyfer ceisiadau am grant yn agor am 11.00am ar 29 Ionawr a bydd ar agor am bedair wythnos tan 23:59 ar 28 Chwefror 2026. Byddwn yn anelu at roi gwybod i’r ymgeiswyr llwyddiannus ar ddechrau mis Ebrill 2026.

Pwy all wneud cais am Cam Un Gwarant Swyddi

Mae DWP yn croesawu ceisiadau am grant gan ystod eang o sefydliadau sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau cymorth cyflogaeth, sgiliau, ieuenctid neu wasanaethau cymorth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • sefydliadau cymorth cyflogaeth arbenigol

  • elusennau, sefydliadau dielw, a mentrau cymdeithasol

  • awdurdodau lleol

  • awdurdodau Strategol Maer (MSAs).

Rydym yn croesawu ceisiadau am grant a wneir mewn partneriaeth ar draws sefydliadau. Dylai ceisiadau sy’n gwneud hynny nodi’n glir y sefydliad arweiniol a fydd yn cynnal y berthynas â’r DWP a chyfrifoldeb am y grant, ac amlinellu sut y byddant yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gyflenwi amcanion y grant.

Gall sefydliadau gynnig am bob un o’r 6 ardal ond dim ond mewn uchafswm o ddau o’r ardaloedd cyflenwi Cam Un ar gyfer y Gwarant Swyddi y byddant yn derbyn y grant fel y prif Sefydliad Cyflenwi. Fodd bynnag, os hoffech drafod cyflenwi trwy bartneriaid eraill mewn mwy na 2 ardal, cysylltwch â ni i drafod eich cynlluniau. Bydd angen cais am grant ar wahân ar gyfer pob ardal.

3. Gofynion grant o dan Gwarant Swyddi

Cyflwyniad i’r gofynion grant o dan Gwarant Swyddi

Bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gyfrifol am gyflenwi Gwarant Swyddi ar ôl atgyfeiriad o pobl ifanc gymwys o’r DWP.

Mae amrywiaeth o ofynion y mae’n rhaid iddynt eu bodloni o dan y cytundeb cyllid grant, mae’r rhain yn cynnwys: - gweithio gyda chyflogwyr i fodloni gofynion swyddi o dan y cynllun – fel sicrhau swyddi addas, paru’r cyfranogwr â swydd addas, a darparu cymorth a hyfforddiant i’r person ifanc

  • bodloni’r gofynion sy’n ymwneud â chostau cyflogwr – mae hyn yn cynnwys hysbysu’r DWP pan fydd pobl ifanc yn dechrau ac yn gadael swyddi o dan y cynllun i gefnogi taliadau amserol a darparu manylion costau ymuno’r cyflogwr

  • bodloni’r gofynion ar gyfer costau Sefydliad Cyflenwi – mae hyn yn cynnwys darparu cymorth a rhoi tystiolaeth o gostau perthnasol

  • bodloni’r gofynion pan fydd pobl ifanc yn methu ag ymgysylltu – gan gynnwys hysbysu am beidio ag ymgysylltu

  • bodloni’r gofynion adrodd ac adolygu – gan gynnwys darparu adroddiadau misol ac ymgysylltu ag adolygiadau chwarterol i ddangos bod y cyllid grant yn cael ei ddefnyddio i gyflawni’r amcanion grant, bydd hyn yn gofyn am gasglu data gan gyflogwyr

  • bodloni’r amodau talu grant – fel y nodir yn y cytundeb cyllido grant er mwyn galluogi talu cyllid grant.

Mae manylion pellach am y gofynion hyn wedi’u nodi isod.

Gofynion ar gyfer swyddi o dan Gwarant Swyddi

Disgwylir i bobl ifanc sy’n ymgymryd â chyflogaeth a ariennir o dan y cynllun gael eu trin fel gweithwyr eraill y busnes a byddant yn gyfreithiol yn gyflogai i’r busnes.

Tra ar Gwarant Swyddi disgwylir i bobl ifanc cymwys gymryd rhan mewn gwaith ystyrlon sy’n rhoi pwrpas iddynt ac sy’n caniatáu iddynt wneud cyfraniad ystyrlon. Er mwyn i waith fod yn ystyrlon, rhaid i’r gyflogaeth a ariennir fod yn gyfwerth â swydd nad yw’n cael ei ariannu gan Gwarant Swyddi ac ni ddylai gynnwys hyfforddiant sylweddol yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein y tu hwnt i’r hyn a ddarperir i weithwyr rheolaidd. Dylai’r gwaith hwn roi cyfleoedd i’r person ifanc ddysgu a datblygu, gan ennill sgiliau a phrofiad newydd a fydd yn eu cefnogi i gyflogaeth barhaus.

Dylai Sefydliadau Cyflenwi gefnogi cyflogwyr i sicrhau bod swyddi’n ystyrlon ac yn addas ar gyfer pobl ifanc ag ystod o anghenion cymhleth. Dylid ystyried addasrwydd cyflogwyr hefyd, gan gynnwys maint presennol y cwmni hwnnw, a’u gallu i ddarparu gwaith ystyrlon. Disgwylir y bydd pobl ifanc yn cael eu lleoli gyda chyflogwyr ag enw da yn yr ardal leol.

Wrth ystyried y gofynion ar gyfer swyddi o dan y cynllun, bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gyfrifol am:

  • Weithio gyda chyflogwyr i greu neu ddod o hyd i swyddi addas o ansawdd digonol. Gall y swyddi hyn fod yn rolau newydd neu swyddi gwag presennol. Er mwyn cefnogi Sefydliadau Cyflenwi, bydd DWP yn defnyddio ei berthynas sefydledig â chyflogwyr mawr (y rhai sydd â 250 a mwy o weithwyr) i gefnogi Sefydliadau Cyflenwi i nodi swyddi addas gyda’r cyflogwyr hyn a pharu cyfranogwyr i swyddi yn unol â hynny.

  • Ymgysylltu ag ystod o gyflogwyr i sicrhau amrywiaeth ddigonol o rolau i ddiwallu anghenion cyfranogwyr.

  • Paru cyfranogwyr â swyddi priodol (gan ystyried y farchnad lafur leol ac unrhyw rwystrau y gall y person ifanc eu hwynebu), o ran eu profiad blaenorol a lle bo’n bosibl y diwydiannau neu fath o rôl a ffefrir. Mae hyn yn cynnwys cefnogi paru’r person ifanc â rôl newydd lle daeth y rôl flaenorol i ben cyn diwedd y 6 mis.

  • Gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod y gyflogaeth a ariennir yn darparu gwaith ystyrlon a fydd yn helpu pobl ifanc cymwys i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i symud i gyflogaeth hirdymor barhaus.

  • Cadw cysylltiad rheolaidd â chyflogwyr yn ystod y cyfnod cyflogaeth a ariennir o 6 mis i nodi unrhyw broblemau a helpu i’w datrys.

  • Sicrhau bod swyddi’n bodloni safonau sylfaenol addasrwydd, cyfreithlondeb a diogelwch.

Disgwylir y bydd swyddi a ariennir o dan y cynllun am o leiaf 25 awr yr wythnos. Fodd bynnag, bydd achosion lle na fyddai DWP yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyfranogwr weithio 25 awr yr wythnos oherwydd hawddfraint a gymhwysir i’w achos. Yn yr achosion hyn, caniateir i’r gyflogaeth a ariennir fod am lai na 25 awr, yn unol â’r disgwyliad o dan hawddfraint DWP, er y gall y cyfranogwr weithio mwy o oriau os dewisant.

Fel y nodir yn y cytundeb cyllid grant, mae’n ofyniad o’r cynllun bod swyddi a grëwyd neu a ddarganfuwyd ddim yn achosi i weithiwr neu gontractwr presennol gael eu dadleoli, eu diswyddo, neu leihau eu horiau.

Gan fod cyllid ar gyfer y cynllun yn cael ei ddarparu o dan yr eithriad Cymorth Ariannol Lleiaf yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, rhaid i gyflogwyr sicrhau na fydd unrhyw gyllid disgwyliedig y byddent yn ei dderbyn o dan y Cynllun hwn ac unrhyw gynllun cymhorthdal perthnasol arall yn arwain atynt i fynd dros y trothwy o £315,000 ar gyfer yr holl gyllid a dderbynnir o dan yr eithriad hwn. Bydd angen i’r Sefydliad Cyflenwi sicrhau’r cadarnhad hwn gan gyflogwyr a’i ddarparu i DWP. Mae rhagor o fanylion am y ddarpariaeth hon wedi’u cynnwys yn y cytundeb cyllid grant a gellir dod o hyd i’r canllaw i gyflogwyr yn y Subsidy Control Act: Guidance of Beneficiaries Rhaid i Sefydliadau Cyflenwi sicrhau bod cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn deall y gofynion uchod a’r ystod o anghenion y gallai pobl ifanc sy’n cymryd rhan eu cael.

Gofynion ar gyfer costau cyflogwr

Bydd angen i ymgeiswyr grant ddangos bod ganddynt y gallu i fodloni’r gofynion isod ar gyfer costau cyflogwr o dan y grant.

Er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn cael eu had-dalu am gostau cyflog, rhaid i Sefydliadau Cyflenwi hysbysu DWP am ddechrau swydd cyfranogwr cyn gynted â phosibl ar ôl i’r Cyfranogwr ddechrau, yn unol ag Adran 5 o’r cytundeb cyllid grant.

Ynghyd â’r cadarnhad hwn o ddechrau’r swydd, rhaid i’r Sefydliad Cyflenwi gadarnhau bod y cyfranogwr mewn Cyflogaeth Dderbyniol (fel y’i diffinnir yn y cytundeb cyllid grant) ac Ystyrlon, a darparu unrhyw fanylion am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr a/neu gyfraniadau pensiwn lle bo’n berthnasol.

Bydd DWP yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddilysu costau cyflog a darparu ad-daliad am gostau cyflog cymwys, y mae’n rhaid i Sefydliadau Cyflenwi eu trosglwyddo i gyflogwyr o fewn 5 diwrnod gwaith i’w derbyn.

Er mwyn sicrhau nad yw cyflogwyr yn cael eu gordalu, rhaid i Sefydliadau Cyflenwi hysbysu DWP cyn gynted â phosibl pan fo Cyflogai a Ariennir wedi gadael swydd neu’r cynllun.

Pan fo costau ymuno cyflogwr cymwys a lle mae’r cyflogwr eisiau cael iawndal am y rhain, rhaid i’r cyflogwr gyflwyno ffurflen gais ddilys i’r Sefydliad Cyflenwi. Yna bydd y Sefydliad Cyflenwi yn darparu ffurflen fisol o gostau ymuno â chyflogwyr a fydd yn cael ei ad-dalu gan DWP yn unol â’r broses yn Adran 5 o’r cytundeb cyllid grant.

Gofynion ar gyfer costau Sefydliad Cyflenwi

Bydd angen i ymgeiswyr grant ddarparu amcangyfrif o’u costau cyflenwi disgwyliedig dros y cyfnod ariannu – dylai hyn fod yn gyfrifiad o swm y costau cymorth fesul Cyfranogwr a’r costau gweinyddu fesul cyfranogwr, wedi’u lluosi â’r nifer amcangyfrifedig o atgyfeiriadau, gweler adran 4 o’r canllawiau hyn am fanylion y cyfrifiadau hyn. Dyma fydd cyfanswm dyraniad y Sefydliad Cyflenwi ar gyfer y cyfnod ariannu.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth sut y bydd cyllid grant i dalu’r costau hyn yn cael ei ddefnyddio yn eu Cynllun Cyflenwi. Er mwyn cefnogi ymgeiswyr Grant, mae’r canllawiau a ddarperir isod yn amlinellu sut y bydd angen defnyddio’r cyllid grant hwn.

Costau cymorth

Mae pobl ifanc cymwys sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn debygol o fod â rhwystrau lluosog ac anghenion cymhleth a allai fod wedi eu hatal rhag sicrhau cyflogaeth. Mae DWP yn disgwyl i’r Sefydliad Cyflenwi ddarparu cymorth wedi’i deilwra i’r cyfranogwyr i’w helpu i oresgyn y rhwystrau hyn, llwyddo yn eu swydd ac i roi’r cyfle gorau iddynt symud i gyflogaeth barhaus ar ôl cwblhau’r cynllun. Bydd angen i geiswyr am grant roi manylion am sut y bydd cyfranogwyr yn gwneud hynny. Rhaid i gefnogaeth gael ei deilwra i anghenion unigol a bydd angen i sefydliadau ystyried sut gallant gefnogi cyfranogwyr cyn, yn ystod y swydd, gan gynnwys eu paratoi hwy am amser ac ar ôl y swydd.

Dylai Sefydliadau Cyflenwi ystyried y ffordd orau o gefnogi unigolion gan ddefnyddio gwahanol fesurau cymorth a phenderfynu ar y gefnogaeth briodol sydd ei hangen ar gyfer pob person ifanc yn seiliedig ar eu hanghenion. Gall hyn gynnwys ystyriaethau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, lle mae DWP yn disgwyl i Gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle fel arfer. Pan fydd gofynion yn mynd ymhellach nag addasiad rhesymol, gall Sefydliad Cyflenwi ystyried a ellir darparu ar gyfer y cymorth trwy gyllid cymorth.

Er y bydd y cymorth priodol yn wahanol rhwng pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun, dylid defnyddio cyfran o’r cyllid ar gyfer cymorth ar gyfer y gweithgaredd canlynol gyda phob cyfranogwr:

  • Cymorth paratoi cyn dechrau’r swydd: cymorth i bobl ifanc ymgymryd â swydd o dan y Gwarant Swyddi, a all fod yn hyfforddiant cyn cyflogaeth, mentora i fagu hyder neu sesiynau ar beth i’w ddisgwyl ar eu diwrnod cyntaf. Gall Sefydliadau Cyflenwi ddefnyddio cyllid ar gyfer hyd at 2 wythnos o hyfforddiant cyn-gyflogaeth perthnasol a phriodol i sicrhau bod cyfranogwyr yn barod am waith.

  • Cymorth a hyfforddiant tra yn y swydd: Dylai hyn gynnwys cymorth i aros yn y swydd a chefnogaeth i ddatblygu yn y swydd. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant yn y swydd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant neu’r rôl benodol neu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau meddal e.e. rheoli amser, hyder i siarad mewn cyfarfodydd. Gall hyn hefyd gynnwys mentora 1-i-1, sesiynau grŵp neu fentora cyfoedion i fagu hyder a’u cefnogi i aros yn y rôl. Pan fo’r plenty ifanc yn bwriadu aros yn y swydd ar ôl diwedd y cynllun, dylai hyn hefyd gynnwys cymorth i’w helpu i drosglwyddo i’r rôl yn y dyfodol heb y gefnogaeth wedi’i ariannu. Rhaid i hyn gynnwys cefnogaeth i unigolion sydd mewn perygl o adael y swydd i’w cefnogi i aros yn y rôl, a chefnogaeth i ail-ymgysylltu lle mae’r person ifanc naill ai’n gadael y swydd yn gynnar neu’n datgysylltu.

  • Cymorth chwilio am waith a throsglwyddo: er mwyn cefnogi’r person ifanc i mewn i gyflogaeth barhaus wrth iddynt baratoi i adael y cynllun. Byddem yn disgwyl i Sefydliadau Cyflenwi ddarparu cymorth i helpu’r person ifanc i sicrhau cyflogaeth barhaus. Gall hyn gynnwys cymorth i ddatblygu eu CV i adlewyrchu eu profiad o’r cynllun a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn wynebu rhwystrau sylweddol i’r gwaith ac felly bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gallu darparu cymorth y tu hwnt i’r hyn a nodir uchod i gyfrif am hyn. Gall hyn gynnwys:

  • Cymorth mynediad ac aros yn y gweithle: cymorth i fynd i’r afael â rhwystrau ymarferol i gynnal y swydd â chymhorthdal. Gall hyn ystyried pethau fel teithio neu offer, lle nad ydynt wedi’u cwmpasu gan gyllid arall ar gyfer addasiadau yn y gweithle.

  • Cymorth arall wedi’i deilwra – cymorth i fynd i’r afael â rhwystrau personol i gyflogaeth, er enghraifft iechyd meddwl neu gymorth i gael mynediad at ofal plant.

Pan fydd person ifanc yn gadael swydd yn gynnar (cyn diwedd y swydd chwe mis) bydd disgwyl i’r Sefydliadau Cyflenwi weithio gyda’r person ifanc i’w annog i ailymgysylltu. Gall hyn naill ai fod yn ailgychwyn y swydd flaenorol (yn amodol ar gytundeb y Cyflogwr) neu’n eu paru i swydd arall lle maent wedi cwblhau llai na 4 mis (oni bai eu bod yn gadael y cynllun i ymgymryd â chyflogaeth â thâl arall).

Os nad yw’r Sefydliad Cyflenwi yn gallu eu cefnogi i ailymgysylltu, bydd yn ofynnol iddynt hysbysu DWP bod y person ifanc wedi gadael y cynllun. Bydd yn ofynnol i’r Sefydliad Cyflenwi roi manylion i’r DWP am y camau a gymerwyd i gefnogi’r person ifanc i ailymgysylltu a gwybodaeth am pam y gadawodd y person ifanc y swydd.

Costau gweinyddol

Mae cyllid grant ar gael i Sefydliadau Cyflenwi i dalu’r costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â chyflawni’r cynllun. Dylid defnyddio’r cyllid hwn i dalu costau gweithgaredd gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: brosesu atgyfeiriadau, nodi rolau swyddi addas a pharu cyfranogwyr â chyflogwyr, gwirio cydymffurfiaeth, a bodloni gofynion adrodd. Bydd angen i ymgeiswyr grant fanylu ar sut y byddent yn bwriadu defnyddio’r cyllid hwn.

Cyllid ymlaen llaw i gefnogi sefydlu

Cydnabyddir y gallai fod rhai costau ymlaen llaw yn gysylltiedig â darparu cymorth neu roi gweithgareddau gweinyddol ar waith i gyflenwi’r cynllun. Er mwyn cefnogi gyda chostau sefydlu sy’n gysylltiedig â chyflawni’r cynllun, bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gallu gwneud cais i DWP i dderbyn hyd at 20% o gyfanswm eu hamcangyfrif o gost y Sefydliad Cyflenwi ymlaen llaw. Bydd angen i ymgeiswyr grant ddangos tystiolaeth pam y bydd angen hyn i gefnogi cyflenwi’r cynllun yn llwyddiannus. Bydd cyfanswm y dyraniad sy’n weddill wedyn yn cael ei rannu rhwng y pedwar chwarter, gyda’r cyllid ar gyfer y chwarter cyntaf yn cynnwys y dyraniad ymlaen llaw ar gyfer costau sefydlu ynghyd â chyllid y chwarter. Bydd y pedwar taliad yn cael eu talu dros gyfnod yr atgyfeiriadau disgwyliedig a’r swyddi a ariennir: Chwarter 1 Ebrill 2026, Chwarter 2 Gorffennaf 2026, Chwarter 3 Hydref 2026, Chwarter 4 Ionawr 2027.

Ceir rhagor o fanylion am hyn a chyfrifo Taliadau Ymlaen Llaw yn Adran 4(adran4) o’r canllaw hwn.

Gofynion os yw unigolion yn methu ag ymgysylltu

Bydd yn ofynnol i Sefydliadau Cyflenwi hysbysu DWP cyn gynted â phosibl ar ôl nodi bod person ifanc wedi cael eu hatgyfeirio (cyn ar ar ôl dechrau’r cyflogaeth a ariennir) yn methu ag ymgysylltu â’r cynllun.

Mae hyn yn cynnwys methiant i fynychu’r cyfarfod atgyfeirio cyntaf, methiant i ymgysylltu yn ystod y broses paru swydd, methiant i dderbyn swydd resymol (derbynnir y gall y person ifanc gael dewis o swyddi i ddechrau), methiant i ymgysylltu â’r cymorth a ddarperir, neu adael y swydd yn wirfoddol (oni bai ei fod oherwydd iddynt sicrhau cael gwaith â thâl amgen) neu golli’r swydd trwy gamymddygiad.

Bydd yn ofynnol i Sefydliadau Cyflenwi ddarparu gwybodaeth angenrheidiol i’r DWP sy’n ymwneud â’r cymorth a ddarperir a’r rhesymau dros beidio ag ymgysylltu i gefnogi’r DWP i wneud unrhyw benderfyniadau priodol sy’n ymwneud â sancsiynau. Bydd unrhyw amodolrwydd a gymhwysir i’r person ifanc yn cael ei weinyddu gan y DWP yn unig yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau.

Gofynion sy’n ymwneud ag adrodd ac adolygiadau

Bydd disgwyl i Sefydliadau Cyflenwi fonitro cyflenwi’r gweithgareddau a ariennir yn agos yn erbyn amcanion y grant a’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

Adolygiadau grant chwarterol

Bydd DWP yn cwrdd â Sefydliadau Cyflenwi o leiaf unwaith bob 3 mis (unwaith y chwarter) ar gyfer cyfarfod adolygu rheoli grant chwarterol ffurfiol i asesu’r cyflenwi yn erbyn y Cynlluniau Cyflenwi a gyflwynwyd a’r allbynnau y cytunwyd arnynt fel yr amlinellir yn y cytundeb cyllid grant. Bydd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i asesu’r cyflenwi, trafod unrhyw faterion posibl sydd gan y naill barti neu’r llall a chytuno ar gyllid ar gyfer y chwarter nesaf yn unol â modelau cyllido y cytunwyd arnynt.

Disgwylir y bydd y rheolwr grant o fewn y Sefydliad Cyflenwi a rheolwr grant y DWP yn cwrdd yn fwy rheolaidd na hyn i drafod cyflenwi, ac o leiaf bob mis. Bydd hyn yn galluogi unrhyw faterion y gall fod yn rhaid i’r naill barti neu’r llall gael eu datrys yn gynnar i gefnogi datrysiad. Os oes materion neu bryderon perthnasol, dylai’r parti perthnasol godi’r rhain cyn gynted â phosibl, ac ni ddylid gohirio hysbysiad tan gyfarfod adolygu grant sydd wedi’i drefnu.

Adrodd misol

Er mwyn cefnogi’r cyfarfodydd hyn a galluogi talu cyllid grant, bydd yn ofynnol i Sefydliadau Cyflenwi gyflwyno adroddiadau misol. Er mwyn galluogi hyn, bydd DWP yn darparu templedi adrodd safonol i Sefydliadau Cyflenwi. Bydd hyn yn cwmpasu’r gofyniad a amlinellir yn y canllawiau hyn ac yn adran 5 o’r cytundeb cyllid grant i alluogi taliadau grant.

Fel rhan o hyn bydd yn ofynnol i Sefydliadau Cyflenwi ddarparu’r wybodaeth yn manylu gwariant gwirioneddol ar weithgaredd Sefydliad Cyflenwi a ariennir (costau misol gweinyddol a chefnogaeth) er mwyn cefnogi adolygiadau chwarterol a ddefnyddir i gytuno rhyddhau cyllid pellach.

Hefyd, er mwyn cefnogi’r asesiad o gyflenwi yn erbyn cerrig milltir a chynlluniau cyflenwi y cytunwyd arnynt, bydd yn ofynnol i’r adroddiadau misol hefyd gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • faint o gyfranogwyr sydd wedi’u paru i swydd

  • faint o gyfranogwyr sy’n dechrau swydd

  • y cyfnod o amser (mewn dyddiau) rhwng atgyfeiriad a pherson ifanc yn dechrau swydd, fesul cyfranogwr

  • nifer y cyfranogwyr sydd heb gael eu paru’n llwyddiannus i swydd, gan gynnwys y rhesymau pam

  • manylion am gymorth a hyfforddiant a ddarperir bob mis fesul person ifanc, yn cynnwys y math ac oriau

  • faint o wythnosau y mae pobl ifanc yn ei dreulio mewn swydd, fesul cyfranogwr

  • nifer y bobl ifanc sy’n aros yn y swydd ar ôl diwedd y 6 mis, neu’n trosglwyddo i gyflogaeth â thâl arall

  • nifer y bobl ifanc sy’n gadael y swydd yn gynnar, gan gynnwys y rheswm dros adael yn gynnar, ac a oeddent yn gallu cael eu hail-ymgysylltu

  • nifer y bobl ifanc mewn swyddi yn ôl sector a maint y cyflogwr

Dylai ymgeiswyr am grant fod yn ymwybodol y gall DWP ofyn am ddata ychwanegol yn ôl yr angen. Gall hyn gynnwys data ar ddemograffeg pobl ifanc, gweithgareddau cymorth, nodweddion swyddi, canlyniadau swyddi ac adborth cyflogwyr.

Os cânt eu dewis, rhaid i Sefydliadau Cyflenwi gydymffurfio bob amser â’u rhwymedigaethau o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Gofynion i gwblhau amodau talu grant

Rhaid bodloni’r amodau fel y’u hamlinellir yn y cytundeb cyllid grant i dderbyn taliad perthnasol drwy’r grant hwn, mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • Sefydliadau Cyflenwi yn cadarnhau bod cyflogwyr sydd i dderbyn cyllid grant wedi darparu cadarnhad ysgrifenedig (y cyfeirir ato fel tystysgrif yn y cytundeb cyllid grant) eu bod o fewn trothwy yr Isafswm Cymorth Ariannol (MFA) fel y’i diffinnir yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022

  • Sefydliadau Cyflenwi yn darparu model cyflenwi a model ariannol llawn o gostau’r partner cyflenwi disgwyliedig (sy’n ofynnol gyda cheisiadau) y cytunir arno gyda’r DWP

  • Sefydliadau Cyflenwi yn darparu tystiolaeth berthnasol, lle bo angen, bod holl ofynion y cytundeb cyllid grant wedi’u bodloni

  • Sefydliadau Cyflenwi yn cadarnhau nad oes unrhyw ddigwyddiad o ddiffyg wedi digwydd neu’n parhau neu y byddai hyn yn deillio o dalu’r grant

Rhaid i ymgeiswyr am grant ddangos eu bod yn gallu bodloni’r amodau hyn a/neu fod ganddynt y gallu sefydliadol i’w cyflenwi.

4. Cyllid ac amserlenni talu

Cyllid sydd ar gael i gyflenwi’r cynllun

Mae’r adran hon yn manylu ar y cyllid sydd ar gael i gyflenwi’r cynllun. Fel rhan o’u cais am grant, rhaid i ymgeiswyr nodi lefel y cyllid sydd ei angen i ddarparu’r gwarant ar gyfer y nifer disgwyliedig o gyfranogwyr yn yr ardal y maent yn cynnig amdano, o fewn yr uchafswm amlen ariannu sydd ar gael.

Mae cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer cyflenwi’r cynllun yn cael ei ffurfio gan:

Costau cyflogwr:

  • ad-dalu gwariant gwirioneddol ar gyfer cyflogau a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n gysylltiedig â chyflogwr, ac isafswm cyfraniadau pensiwn cyflogwr ble mae’n berthnasol. Mae’r rhain yn cael eu had-dalu hyd at 25 awr yr wythnos ar yr isafswm cyflog perthnasol yn dibynnu ar oedran y cyfranogwr

  • hyd at £250 y cyfranogwr ar gyfer costau ymuno cymwys

Costau Sefydliad Cyflenwi:

  • hyd at £2,250 fesul cyfranogwr ar gyfer costau cymorth a hyfforddiant

  • hyd at £400 fesul cyfranogwr ar gyfer costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r cynllun

Bydd cyllid wedyn yn cael ei dalu yn unol â’r amserlenni isod, yn amodol ar Sefydliadau Cyflenwi yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i fodloni amodau talu ar gyfer taliadau perthnasol ac yn bodloni cerrig milltir ac amcanion cyflenwi y cytunwyd arnynt fel yr amlinellir yn adran 3 o’r canllaw hwn.

Amserlenni talu a chostau’r cyflogwr

Costau cyflog - cyflogau, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr ac isafswm cyfraniadau pensiwn cyflogwr

Bydd cyllid ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â chyflog yn ad-dalu gwariant gwirioneddol a wynebir gan gyflogwyr ar gyfer y cyflogau, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwr, ac isafswm cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer y rhai a gyflogir fel rhan o’r Cynllun. Bydd hyn yn cael ei dalu am hyd at 25 awr yr wythnos, am 6 mis fesul cyfranogwr, ar yr isafswm cyflog sy’n berthnasol i’r oedran.

Mae’r amserlen yn dangos pryd y bydd y cyllid yn cael ei anfon i’r Sefydliad Cyflenwi. Ar ôl derbyn y cyllid, bydd angen i Sefydliadau Cyflenwi drosglwyddo’r cyllid grant ar gyfer costau cyflog i’r Cyflogwr (neu ei ddyrannu yn briodol os mai’r Sefydliad Cyflenwi sy’n cyflwyno yw’r Cyflogwr) o fewn 5 diwrnod gwaith.

Math o gyllid Pryd bydd DWP fel arfer yn prosesu’r taliad Pryd y bydd Sefydliadau Cyflenwi fel arfer yn derbyn y cyllid
Taliad cyflog cyntaf Chwe wythnos ar ôl i gyfranogwr ddechrau swydd, yn dilyn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen gan y Sefydliad Cyflenwi Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl i’r taliad gael ei brosesu gan DWP
Pob taliad cyflog arall Pedair wythnos ar ôl y taliad cyflog blaenorol Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl i’r taliad gael ei brosesu

Costau ymuno i gyflogwyr

Bydd cyllid cymwys ar gyfer costau ymuno cyflogwyr yn ad-dalu’r costau a wynebir gan gyflogwyr i gefnogi pobl ifanc i ddechrau cyflogaeth dderbyniol o dan Gwarant Swyddi (cyflogaeth a ariennir). Gall hyn gynnwys eitemau rôl-benodol (gwisg gwaith neu Offer Diogelwch Personol), costau sefydlu ar gyfer offer TG a thrwyddedau meddalwedd neu addasiadau gweithle ar gyfer y cyfranogwr nad ydynt wedi’u cwmpasu gan ddyletswyddau statudol cyflogwr neu gyllid cyhoeddus arall (gan gynnwys Mynediad at Waith).

Yn ystod wythnos gyntaf bob mis, bydd Sefydliadau Cyflenwi yn gallu gwneud ceisiadau am gostau ymuno i gyflogwyr a wynebwyd yn y mis blaenorol. Rhaid i Sefydliadau Cyflenwi gyflwyno ffurflenni cais a ddarparwyd gan gyflogwyr i DWP. Bydd ffurflen gais yn cael ei ddarparu gan DWP.

Math o gyllid Pryd bydd DWP fel arfer yn prosesu’r taliad Pryd y bydd Sefydliadau Cyflenwi fel arfer yn derbyn y cyllid
Cost ymuno i gyflogwr Ar ôl cyflwyno cais dilys (gellir cyflwyno ceisiadau bob mis, ar gyfer costau a wynebwyd yn y mis blaenorol). Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl i’r taliad gael ei brosesu gan DWP.

Costau’r Sefydliad Cyflenwi ac amserlenni talu

Bydd costau’r Sefydliad Cyflenwi yn talu’r gost o ddarparu cymorth a hyfforddiant i bobl ifanc a chost costau gweinyddol sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r cynllun.

Bydd costau’r Sefydliad Cyflenwi yn cael eu talu bob chwarter, dros 4 chwarter, ac ar ddechrau bob chwarter.

Rhaid i gyfanswm cost y Sefydliad Cyflenwi fod yn hafal i gyfanswm nifer y cyfranogwyr a gefnogir gan y Sefydliad Cyflenwi wedi’i luosi â’r gost y cytunwyd arno fesul cyfranogwr ar gyfer gweithgareddau Sefydliad Cyflenwi a ariennir.

Mae hyn yn golygu, mae’n rhaid i gostau’r Sefydliad Cyflenwi gael eu cyfrifo gan yr ymgeisydd am grant fel swm eu cymorth disgwyliedig fesul cyfranogwr (hyd at uchafswm o £2,250) a’u cost gweinyddu disgwyliedig fesul cyfranogwr (hyd at uchafswm o £400), wedi’i luosi â chyfanswm nifer amcangyfrifedig yr atgyfeiriadau y mae’r Sefydliad Cyflenwi yn bwriadu eu derbyn. Mae’r cyfrifiad hwn fel a ganlyn:

Cyfanswm cyllid Sefydliad Cyflenwi = (Cost cymorth i bob cyfranogwr, plws, cost gweinyddu fesul cyfranogwr) wedi’i luosi gan y nifer amcangyfrifedig o atgyfeiriadau

Bydd y cyllid hwn wedyn yn cael ei dosrannu dros bob chwarter. Bydd y cytundeb cyllid grant yn gweld y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu’n gyfartal ar draws pob chwarter, oni bai bod y Cynllun Cyflenwi a ddarperir gan yr ymgeisydd am grant yn cyfiawnhau dyraniad gwahanol. Felly, y dyraniad cyllid chwarterol diofyn fydd:

Cyllid chwarterol Sefydliad Cyflenwi = Cyfanswm cyllid Sefydliad Cyflenwi wedi’i rannu gyda 4 Os yw’r ymgeisydd am grant yn darparu Cynllun Cyflenwi sy’n gofyn am ddyraniad chwarterol nad yw’n unffurf, bydd hyn yn cael ei ystyried a bydd y dyraniad chwarterol terfynol yn cael ei gytuno drwy’r cytundeb cyllid grant gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.

Gall Sefydliadau Cyflenwi ofyn am dderbyn hyd at 20% o gyfanswm cyllid y Sefydliad Cyflenwi ymlaen llaw (gyda dyraniad Chwarter 1) i gefnogi’r costau sefydlu sy’n gysylltiedig â’r cynllun. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

Cyllid ymlaen llaw y Sefydliad Cyflenwi = Cyfanswm cyllid y Sefydliad Cyflenwi wedi’i luosi gyda, canran y gofynnwyd iddo gael ei dalu ymlaen llaw

Pan mae taliad ymlaen llaw yn cael ei gytuno a’i dalu, bydd y dyraniad chwarterol yn cael ei addasu fel a ganlyn i adlewyrchu’r taliad ymlaen llaw:

Cyllid chwarterol y Sefydliad Cyflenwi minws taliad ymlaen llaw = (Cyfanswm cyllid y Sefydliad Cyflenwi, minws, cyllid ymlaen llaw y Sefydliad Cyflenwi) wedi’i rannu gyda 4

Amlinellir yr amserlen dalu isod

Taliad Amseru Talu Swm y Taliad (oni bai y cytunir fel arall)
Chwarter 1 (Neu dyraniad Chwarter 1 + Taliad Ymlaen Llaw ble yn berthnasol) Ar ddechrau Chwarter 1 o’r cyfnod ariannu (neu yr un fath ag ar lofnodi’r cytundeb grant) 25% o gyfanswm cyllid y Sefydliad Cyflenwi (minws 25% o’r taliad ymlaen llaw, os yw’n berthnasol) plws, hyd at 20% o gyfanswm cyllid y Sefydliad Cyflenwi ble y cytunwyd ar daliad ymlaen llaw.
Chwarter 2 Ar ddechrau Chwarter 2 y cyfnod ariannu. 25% o gyfanswm cyllid y Sefydliadau Cyflenwi (minws 25% o’r taliad ymlaen llaw, os yw’n berthnasol).
Chwarter 3 Ar ddechrau Chwarter 3 y cyfnod ariannu. 25% o gyfanswm cyllid y Sefydliadau Cyflenwi (minws 25% o’r taliad ymlaen llaw, os yw’n berthnasol)
Chwarter 4 Ar ddechrau Chwarter 4 y cyfnod ariannu. 25% o gyfanswm cyllid y Sefydliadau Cyflenwi (minws 25% o’r taliad ymlaen llaw, os yw’n berthnasol)

5. Cydymffurfiaeth ac Atal Twyll

Rhaid i’r Sefydliad Cyflenwi gadw tystiolaeth ddilysadwy o’r costau a gafwyd, fel y nodir yn y cytundeb cyllid grant, a darparu sicrwydd annibynnol bod y grant wedi’i ddefnyddio ar gyfer cyflenwi’r gweithgareddau a ariennir.

Rhaid i Sefydliadau Cyflenwi gymryd rhan mewn gwiriadau ac archwiliadau cydymffurfiaeth y DWP, a sicrhau prosesau gwrth-dwyll cryf, gan gynnwys gwirio cyflogwr a gwiriadau diwydrwydd. Dylid hysbysu DWP ar unwaith am unrhyw dwyll gwirioneddol neu amheuaeth, lladrad neu afreoleidd-dra ariannol. Rhaid i ymgeiswyr am grant gydweithredu’n llawn â’r DWP a gweithgarwch sicrwydd eraill y llywodraeth lle bo angen a dangos eu gallu i wneud hynny yn eu cais am grant.

6. Gwerthuso

Er mwyn darparu atebolrwydd am y gwariant a ymrwymwyd yn y Gwarant Swyddi, nod y DWP yw sefydlu tystiolaeth ar effaith, gwerth am arian a chyflenwi’r cynllun. Felly, mae DWP yn bwriadu cynnal gwerthusiad o’r cynllun a gall gomisiynu elfennau ohono i drydydd parti. Bydd yn ofynnol i Sefydliadau Cyflenwi gefnogi’r gwerthusiad hwn drwy gymryd rhan weithredol a helpu i alluogi ymchwil [arolygon a gwerthuso] gyda Chyfranogwyr a Chyflogwyr. Er mwyn galluogi hyn, yn ogystal â’r gofynion data isod, gofynnir i Sefydliadau Cyflenwi gasglu adborth ansoddol gan bobl ifanc a chyflogwyr ar faterion fel y profiad maent wedi’i ennill o’r cynllun, ble oeddent yn gweithio, y sgiliau a ddatblygwyd, a’u cyflogadwyedd i’r dyfodol.

Bydd angen i ymgeiswyr am grant ddangos sut y byddant yn cefnogi unrhyw werthusiad yn eu cais am grant.

Bydd angen i Sefydliadau Cyflenwi ddarparu data personol yn ddiogel er mwyn galluogi DWP ac unrhyw sefydliad gwerthuso Trydydd Parti a benodwyd gan y DWP i gynnal ymchwil a dadansoddi. Mae hyn yn cynnwys drwy gydymffurfio â gofynion adrodd a gwybodaeth rheoli yn adran 3 o’r ddogfen hon a thrwy gymryd camau ychwanegol pan ofynnir amdanynt i gasglu a storio manylion sampl (megis dynodwyr a manylion cyswllt). Rhaid i Sefydliadau Cyflenwi sicrhau bod y data a gofnodwyd ac a ddarperir o safon uchel o gywirdeb, cyflawnrwydd a phrydlondeb yn gyson.

Dylai Sefydliadau Cyflenwi drafod gyda’r DWP yr amseroedd a’r goblygiadau cyn dechrau gwaith arolwg maes gyda’r grŵp hwn fel rhan o unrhyw weithgareddau ymchwil neu werthuso lleol y gallant eu cynnal. Gall Sefydliadau Cyflenwi dderbyn canllawiau pellach ar osgoi dyblygu ymdrech gyda’r gwerthusiad a lleihau’r baich ar gyfranogwyr ymchwil fel rhan o unrhyw weithgareddau ymchwil neu werthuso lleol y gallant eu cynnal.

Efallai y bydd DWP angen gwybodaeth ychwanegol (yn ychwanegol at ofynion gwybodaeth rheoli) i werthuso Cam Un. Dylai Sefydliadau Cyflenwi osod allan gynllun gwerthuso gyda data y gallant ei ddarparu i gefnogi hyn.

Gall hyn gynnwys:

  • data ar gyrchfannau ymlaen cyfranogwyr

  • cymorth a ddarperir gan Sefydliad Cyflenwi

  • adborth ar broses atgyfeirio’r Ganolfan Byd Gwaith

  • arolygon cyfranogwyr ar eu profiad, a all gynnwys sgiliau a ddatblygwyd a hyder wrth wneud cais am swyddi yn y dyfodol

  • arolygon cyflogwyr, a all gynnwys perfformiad, sgiliau a phresenoldeb

Bydd DWP yn darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi Sefydliadau Cyflenwi gyda’u hymrwymiadau i gymryd rhan weithredol yn y gwerthusiad, gan gynnwys darparu data at ddibenion gwerthuso.

7. Gweinyddu’r broses gwneud cais am grant

Bydd DWP yn cyhoeddi rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus ar ôl i’r grantiau gael eu dyfarnu. Bydd DWP yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth a chanllawiau yn ôl yr angen.

Bydd pob Ymgeisydd Grant yn atebol am yr holl gostau a wynebir wrth baratoi a chyflwyno eu cais am grant. Ni fydd DWP yn atebol am y costau hyn ac ni all y Sefydliadau Cyflenwi ddefnyddio eu cyllid grant Gwarant Swyddi i dalu costau a wynebir wrth baratoi a chyflwyno eu cais am grant.

Mae DWP yn cadw’r hawl i:

  • newid sail neu’r gweithdrefnau ar gyfer y broses dyfarniad grant Gwarant Swyddi ar unrhyw adeg

  • diwygio, egluro, ychwanegu at neu dynnu’n ôl y cyfan neu unrhyw ran o’r cyfarwyddiadau cais am grant a’r meini prawf asesu, y canllawiau grant, y cytundeb cyllid grant, ac unrhyw ddogfennau sydd ynghlwm neu wedi’u atodi, ar unrhyw adeg yn ystod y broses gwneud cais am grant, gan gynnwys amrywio unrhyw amserlen neu ddyddiadau cau a nodir yn y ddogfen Cyfarwyddiadau ceisiadau am grant a’r Meini Prawf Asesu hyn

  • canslo’r cyfan neu ran o’r broses gwneud cais/dyfarnu am Grant Gwarant Swyddi ar unrhyw gam ar unrhyw adeg

Mae ymgeiswyr grant yn derbyn ac yn cydnabod nad yw’r DWP yn rhwym i dderbyn unrhyw gais am grant na gyda rhwymedigaeth i ddyfarnu grant Gwarant Swyddi i unrhyw ymgeisydd grant o gwbl.

Byddwch yn ymwybodol o wybodaeth sensitif efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich Cais Grant. Defnyddiwch wybodaeth ddienw os ydych yn cyfeirio at enghraifft benodol. Sylwer, mae’r holl broses o wneud cais am grant Gwarant Swyddi a chyhoeddi a defnyddio grant(iau) Gwarant Swyddi yn ddarostyngedig i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth safonol.

8. Geirfa

Term Diffiniad
Cyflogaeth dderbyniol Fel y’i diffinnir yn y cytundeb cyllid grant.
Sefydliad Cyflenwi Y sefydliad arweiniol sy’n derbyn y grant o dan y cynllun. Cyfeirir ato fel y derbynnydd grant yn y cytundeb cyllid grant
Cost y Sefydliad Cyflenwi Swm y costau cymorth a’r costau gweinyddol a wynebir gan y Sefydliad Cyflenwi o dan y cynllun.
Gweithgareddau a ariennir y Sefydliad Cyflenwi Gweithgareddau cymwys y gall y Sefydliad Cyflenwi ddefnyddio’r cyllid grant ar eu cyfer.
Cyflogwyr At ddibenion y canllaw hwn, mae cyflogwyr yn cyfeirio at y rhai sydd â’r gallu i ddarparu neu sy’n darparu cyflogaeth dderbyniol a ariennir o dan y cynllun
Costau cyflogwr Costau cyflog (a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr cysylltiedig a chyfraniad pensiwn cyflogwr) a chostau ymgysylltu a wynebir gan gyflogwr o dan y Cynllun.
Gweithgareddau a ariennir gan gyflogwyr Gweithgareddau Cymwys y gall y cyflogwr ddefnyddio’r cyllid grant ar eu cyfer.
Gweithiwr a ariennir Person ifanc cymwys sydd mewn swydd o dan y cynllun.
Cyflogaeth a ariennir Swydd sy’n bodloni’r gofynion yn y cytundeb cyllid grant, ac sy’n cael ei hariannu gan y cynllun.
Model ariannol Dogfen sy’n manylu ar gyfanswm cost disgwyliedig y Sefydliad Cyflenwi, a’r dadansoddiad misol cysylltiedig, ar gyfer Sefydliadau Cyflenwi i gyflenwi’r cynllun yn seiliedig ar y Cynllun Cyflenwi.
Cyfnod ariannu Y cyfnod y bydd y grant yn cael ei dalu fel yr amlinellir yn y cytundeb cyllid grant, disgwylir iddo fod; mis Ebrill 2026 i fis Gorffennaf 2027.
Ymgeisydd am grant Sefydliad sydd wedi gwneud cais am gyllid grant i gyflawni’r cynllun fel Sefydliad Cyflenwi (neu’r arweinydd).
Cais am grant Cyflwyniad ymgeisydd drwy’r ffurflen gais berthnasol ar ‘Find a Grant’.
Grŵp Chwilio Dwys am Waith Y rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol mae’r DWP yn ei gwneud yn ofynnol i gymryd camau sylweddol i ddod o hyd i waith neu gynyddu oriau gwaith. Yn berthnasol i’r rhai sy’n ddi-waith neu’n gweithio islaw’r AET (fel y’i diffinnir yn y cytundeb cyllid Grant), yn cynnwys rhai sydd â gofynion cyfyngedig;
Gwaith ystyrlon Er mwyn i waith fod yn ystyrlon, rhaid i’r swydd fod yn gyfwerth â swydd nad yw’n cael ei ariannu gan Gwarant Swyddi ac ni ddylai gynnwys hyfforddiant sylweddol (dim mwy na 20% o’r oriau dan gontract) yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein y tu hwnt i’r hyn a ddarperir i weithwyr rheolaidd.
Cyfranogwr Person ifanc cymwys sydd wedi’i atgyfeirio at Sefydliad Cyflenwi o dan y cynllun.
Cam Un Cyflwyno Gwarant Swyddi i ddechrau mewn 6 ardal penodedig.
Atgyfeirio Trosglwyddo person ifanc cymwys i Sefydliad Cyflenwi o dan y cynllun.
Y cynllun Cam Un o Gwarant Swyddi.