Adroddiad corfforaethol

Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau

Diweddarwyd 26 Chwefror 2026

Sut y gallwn ni gymryd arian o’ch cyfrifon

Er mwyn adennill y swm sydd arnoch, gallwn gyfarwyddo banciau a chymdeithasau adeiladu i roi gwybod i ni beth yw cyfanswm yr arian sydd gennych yn eich cyfrifon unigolyn, a chyfrifon ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys cyfrifon ISA arian parod. Yna, gallwn ddal arian ar eich cyfrif, hyd at y swm sydd arnoch. Gallwn, wedyn, gymryd y swm sy’n cael ei ddal tuag at dalu’r swm sydd arnoch.

Fodd bynnag, gallwn ond dal arian ar eich cyfrifon os oes digon o arian ar draws eich holl gyfrifon i adael y balans sydd ar gael yn o leiaf £5,000.

Cyfrifon ar y cyd

Ar gyfer cyfrifon ar y cyd, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod pob deiliad y cyfrif yn meddu ar gyfran gyfartal o’r gronfa. Er enghraifft, os oes gennych gyfrif ar y cyd â un person arall, wrth gysidro dal arian ar y cyfrif, byddwn yn cymryd yn ganiataol mai dim ond 50% o falans y cyfrif sy’n eiddo i chi.

Ni fyddwn yn rhannu manylion y ddyled gyda deiliaid eraill y cyfrif. Er hynny, mae’n rhaid i ni roi gwybod iddynt fod arian wedi cael ei ddal ar gyfran o’r cyfrif. Y rheswm am hyn yw gan ei bod hi’n bosibl y gallant wrthwynebu dal arian ar y cyfrif mewn achosion penodol.

Gwrthwynebu

Mae gennych 30 diwrnod i wrthwynebu i ddal arian ar eich cyfrifon

Byddwn yn ysgrifennu atoch yn amgáu copi o’n ‘hysbysiad o ddal arian’ (ein llythyr i’r banc neu i’r gymdeithas adeiladu), sy’n rhoi manylion ynghylch y swm sy’n cael ei ddal. Cyn y gallwn gymryd y swm hwn er mwyn talu yr hyn sydd arnoch, mae gennych 30 diwrnod i wrthwynebu os ydych o’r farn bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych eisoes wedi talu’r ddyled yn llawn, neu ran ohoni
  • ar yr adeg rhoddwyd yr hysbysiad o ddal arian i chi, nid oedd swm perthnasol yn ddyledus gennych, fel y diffinnir ym mharagraff 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 2015
  • ar yr adeg rhoddwyd yr hysbysiad o ddal arian i chi, nid oeddech yn meddu ar y cyfrif dan sylw
  • bydd yr hysbysiad o ddal arian yn achosi cryn galedi i chi neu i berson arall
  • mae gan drydydd parti fuddiant llesiannol yn y cyfrif

Dyma’r unig amodau y byddwn yn gallu ystyried gwrthwynebiad i ddal arian ar eich cyfrifon. Bydd yn rhaid i chi gynnig eglurhad o’r rhesymau pam eich bod yn gwrthwynebu, a chynnwys unrhyw dystiolaeth ategol.

Mae’n rhaid i chi anfon eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig drwy Wasanaeth y Post Brenhinol sydd angen llofnod, gan ddefnyddio’r cyfeiriad canlynol:

DM – Direct Recovery of Debt
HM Revenue and Customs
BX9 2ED

Mae’n rhaid i’ch gwrthwynebiad ddod i law CThEF o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad o ddal arian.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os na fyddwn wedi cael unrhyw wrthwynebiad i’r hysbysiad o ddal arian o fewn 30 diwrnod, ac nad ydych wedi talu yn llawn na chytuno ar gynllun talu â ni, byddwn yn cyfarwyddo eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu i ddidynnu’r swm sydd wedi’i ddal o’ch cyfrifon. Yna, byddant yn anfon yr arian i ni fel taliad yn erbyn y swm sydd arnoch.

Os ydych wedi anfon gwrthwynebiad atom o fewn y cyfnod o 30 diwrnod, byddwn yn gwneud penderfyniad ar eich gwrthwynebiad o fewn 30 diwrnod o’i gael. Os ydym yn penderfynu peidio cynnal eich gwrthwynebiad, gallwch apelio ar Lys Sirol.

Os nad ydych yn cytuno â’n penderfyniad 

Cymru a Lloegr

Gallwch apelio ar Lys Sirol. Bydd angen i chi gyflwyno eich apêl yn ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad yr ydych yn cael y llythyr sy’n rhoi gwybod i chi o benderfyniad CThEF am eich gwrthwynebiad. Er mwyn gwneud hyn, llenwch y ffurflen apêl N161 a’i anfon at Lys Sirol. Er mwyn cael arweiniad a ffurflenni: Rhowch fanylion eich apêl i’r llys: Ffurflen N161 - GOV.UK

Chwilio am y llys neu’r tribiwnlys perthnasol ar GOV.UK

Yn ogystal, bydd angen i chi anfon copi o’ch ffurflen apêl i ni erbyn ‘Dyddiad A’. 

Anfonwch y copi hwn drwy’r post at y cyfeiriad canlynol:

HMRC Legal Group 
14 Westfield Avenue 
Stratford 
LONDON 
E20 1HZ 

Neu newproceedings@hmrc.gov.uk.

Unwaith y bydd wedi dod i law, gallwn oedi unrhyw gamau pellach hyd nes bydd y Llys Sirol wedi ystyried eich apêl.

Gogledd Iwerddon

Er mwyn apelio ar y Llys Sirol, dilynwch y camau canlynol:

  • cwblhewch yr Hysbysiad o Apêl sydd yn Atodiad A
  • cyflwyno’r Hysbysiad cyflawn i’ch Is-adran Llys Sirol lleol, wedi’i gyfeirio at y Prif Glerc – dod o hyd i leoliadau ar GOV.UK
  • ffeiliwch y llythyr gwrthod gwreiddiol gan CThEF, a thystiolaeth o wasanaeth gyda’r Prif Glerc o leiaf 28 diwrnod cyn y gwrandawiad
  • talu’r ffi angenrheidiol (gweler y wefan am fanylion)
  • rhoi copi o’ch Hysbysiad o Apêl i CThEF ac unrhyw barti perthnasol arall